27.4.20

GWARCHOD CYNEFIN TRWY GYNNAL CYMUNED

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2020, cyn cyfyngiadau’r Gofid.

Mae ein gwaith i amddiffyn cynefinoedd rhag rhywogaethau ymledol yn parhau: hyd yn hyn, rydym wedi trin llysiau’r dial ar afonydd Barlwyd, Bowydd a Dubach, yn ogystal â thrin a gwaredu sawl acer o rododendron. 

Fodd bynnag, dim ond un agwedd ar ein hymdrechion i amddiffyn ac adfer cynefinoedd yw hyn. 

Cawsom ddiwrnodau o blannu coed gyda gwirfoddolwyr a grŵp o blant ysgol leol; sbardunodd hyn drafodaeth ddiddorol ynghylch pam mae coed mor bwysig i ni, gydag un person ifanc yn mynegi diddordeb mewn sut y gallai fynd ati i gyfrifo ei ôl troed carbon, a faint o goed y byddai ‘n gorfod plannu i'w wrthbwyso! 
 
Meddai Meg Thorman, Gweithiwr Prosiect Amgylcheddol Y Dref Werdd
 “Gobeithiwn, trwy blannu mwy o goed, y gallwn wella bioamrywiaeth a brwydro yn erbyn newid yn yr hinsawdd, ond hefyd datblygu coedlannau a pherllannau sydd er budd a lles y gymuned.   Mae addysg a phrofiadau awyr agored yn hynod o bwysig i ni gyd - mae sawl un sydd wedi ymuno â ni ar ein diwrnodau plannu coed, garddio, gwaith Rhododendron ayyb, wedi mynegi eu bod yn teimlo cymaint yn well ar ôl gwneud, yn feddyliol ac yn gorfforol.  Os oes yna rhywle y credwch y gellid ei wella trwy blannu coed, neu greu gardd bywyd gwyllt, neu rywbeth i wella’r amgylchedd, yna rydym yn awyddus i gydweithio!” 


Mae ymwybyddiaeth o amddiffyn ein hamgylchedd yn amlwg yn cynyddu; un peth sy'n amlwg iawn yw'r ymateb i broblem sbwriel yn ein cymuned. Ers Gorffennaf 2019, mae dros 130 o wirfoddolwyr wedi cymryd rhan mewn dyddiau casglu sbwriel, o blant ysgol i unigolion ymroddedig yn clirio milltiroedd o strydoedd, ochrau ffyrdd a pharciau ar eu pennau eu hunain neu fel rhan o sesiynau cymunedol.

Mae grŵp o wirfoddolwyr wedi sefydlu 'Balchder Bro' - i rannu a hyrwyddo'r gwaith cynyddol a wneir gan wirfoddolwyr i waredu ein Bro o sbwriel.

Mae’r Dref Werdd bellach yn ganolfan ‘Cadwch Gymru’n Daclus’, a gall unrhyw un alw heibio i fenthyg teclyn codi sbwriel a bagiau ar unrhyw adeg.   Byddwn hefyd yn trefnu digwyddiadau cymunedol fel rhan o ddigwyddiad cenedlaethol gan Cadw Cymru’n Daclus –chwiliwch  am fanylion, ar ôl i’r cyfyngiadau gael eu codi, ac ymunwch â ni i gyfleu'r neges nad yw sbwriel yn dderbyniol.  

MENTER NEWYDD I STRYD FAWR Y BLAENAU!

Gyda prosiectau Y Dref Werdd yn byrlymu yn ei blaen drwy gefnogaeth Cronfa Cymunedol Y Loteri Fawr - prosiectau sydd yn cefnogi pobl o fewn ein cymuned a gwella a goruchwylio ein hamgylchfyd leol - mae’r Dref Werdd ar fin cychwyn menter gwbl newydd yn yr wythnosau nesaf, sef agor siop ar stryd fawr Blaenau!

Gyda chefnogaeth gan Arloesi Gwynedd Wledig, Tesco, y Co-op a chronfa Arian i Bawb Y Loteri Fawr, byddwn yn agor drysau ein siop ddiwastraff ar stryd fawr y dref. Siop fydd hon fydd nid yn unig yn defnyddio cyn lleied o blastigion a phosib, ond siop fydd yn gwerthu cynnyrch a nwyddau gallwch eu prynu yn ôl y pwysau, neu yn y cyfanswm sydd angen. Bydd hyn yn ei dro yn debyg o chwarae ei ran yn lleihau gwastraff sydd yn cael ei daflu allan gan deuluoedd ac unigolion.

Meddai Gwydion ap Wynn, Rheolwr Prosiect Y Dref Werdd,
“Mae’n debyg fod llawer iawn yn cofio'r Siop Werdd oedd ar y stryd fawr rai blynyddoedd yn ôl,  bydd ein siop ni yn debyg iawn i honno. Er enghraifft, os ydych yn byw ar ben eich hun a ddim angen cymaint â hynny o neges, gallwch brynu faint bynnag yr hoffech: digon o basta i un pryd o fwyd; digon o fagiau te am yr wythnos yn unig; neu hyd yn oed hanner torth o fara!”
Mae’r fenter yn un gwbl newydd i'r Dref Werdd a bydd sefydlu’r siop ar stryd fawr y Blaenau yn chwarae ei ran yn ein nod i sefydlu mentrau i sicrhau cynaladwyedd y gwaith at y dyfodol drwy gynhyrchu incwm i’r prosiect, ond hefyd drwy greu swyddi lleol a chwarae ei ran gyda’r economi leol ac adfywiad y stryd fawr.

Mwy o newyddion i ddilyn -eto, wrth i’r cyfyngiadau lacio...

Os hoffech wybod mwy am unrhyw un o’r uchod, mae croeso i chi gysylltu gyda’r Dref Werdd unrhyw dro drwy ffonio 01766 830 082, gyrru e-bost at ymholiadau@drefwerdd.cymru 

21.4.20

Cymru, Lloegr, a Cell Blaenau

Erthygl gan Rhydian Morgan

Pan oeddwn i yn fy arddegau, roedd prosiect Gwallgofiaid yn cael ei gydlynu gan Rhys Roberts, a arferai chwarae efo bandiau megis ‘Anweledig’ a ‘Sibrydion.’ Y syniad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc ‘Stiniog a thu hwnt i gael y profiad o ddechrau band, cael gofod i ymarfer ynddo a chwarae gigs gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yng Nghymru ar y pryd. Dwi’n cofio gweld artistiaid fel Euros Childs, Radio Luxembourg a Gruff Rhys yn rhannu llwyfan efo bandiau ifanc yr ardal. Ond, yn dilyn adnewyddu’r lle a dod â sinema yn ôl i’r Blaenau, fe ddiflannodd y syniad i ryw raddau.

Bellach mae Clwb Clinc wedi tyfu o wreiddiau’r Gwallgofiaid, ac mae cyfle i bobl ifanc yr ardal gymryd rhan mewn gweithdai roc, DJ, ffilmio a chynhyrchu ar nosweithiau Mawrth. Dau o arweinwyr y gweithdai yw Sion Roberts, un o’r Gwallgofiaid gwreiddiol [sydd bellach yn arbenigo yn y byd sain ac wedi graddio mewn “Recordio Stiwdio a Pherfformio Byw” o Brifysgol Glyndŵr], ac Owain Llyr, y cyflwynydd radio a’r cerddor, sydd hefyd yn rhedeg cwmni aml-gyfrwng Gweledigaeth yng Nghaernarfon.

Un o aelodau'r Clwb Clinc yn cynorthwyo Marc MR Roberts. Llun- Cell
Roedd Chwefror 29 yn noson fawr i griw Clwb Clinc, wrth i’r bobol ifanc gael y profiad o weithio ar gig MR a Kim Hon. Roedd y profiadau yn cynnwys rheoli llwyfan, bod yn roadies i’r bandiau a gweithio ar y system oleuo a’r sain yn ystod y setiau byw. Roedd hi’n hynod o braf gweld criw ifanc oedd mor frwdfrydig i ddysgu ac eisiau gofyn cwestiynau i’r arbenigwyr er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn ar y noson. Mae Kim Hon yn fand o ardal Dyffryn Nantlle. Cafodd ei greu allan o aelodau Y Reu a chaiff ei arwain gan y prif ganwr, Iwan Fôn (neu ‘Jason’ o’r opera sebon Rownd a Rownd).Yn ystod eu set, roedd un o’r criw wedi penderfynu arddangos ei sgiliau dawnsio ym mlaen y dorf, ac fe arweiniodd hynny at gyfle iddo gamu i’r llwyfan!

Kim Hon. Llun- Rhydian Morgan
Yn mis Hydref y llynedd, fe ryddhawyd Amen, ail albwm y band MR, sef prosiect unigol cyn aelod Y Cyrff a Catatonia, Mark Roberts. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant yr albwm cyntaf, Oesoedd. Dyma ddeunydd Cymraeg cyntaf i Mark ryddhau ers Oes, albwm Y Ffyrc yn 2006. [Sylwch ar glyfrwch teitlau’r 3 albwm yma ... OES, OESOEDD, AMEN].

Roedd hi’n teimlo bron fel gig lleol i Mark ac yntau’n hanu o Lanrwst. Roedd hi’n amlwg ei fod o’n mwynhau bod ar y llwyfan yn perfformio traciau oddi ar y ddwy albwm, yn ogystal ag ambell i glasur Y Cyrff megis Hwyl Fawr Heulwen, Llawenydd Heb Ddiwedd cyn cloi y noson efo’r anthem, Cymru, Lloegr a Llanrwst. Er nad oedd hi’n orlawn yno, roedd gwerthiant y tocynnau wedi bod yn hynod dda gyda’r dorf yn parhau i forio canu yr holl glasuron, efo Dewi Prysor ar flaen y gad.


MR. Llun- Paul W
Credaf ein bod yn mynd drwy gyfnod euraidd o fewn y sîn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae bandiau o bob arddull yn cael cyfle i serennu ar lwyfannau ar draws ein gwlad a thu hwnt, diolch i bartneriaethau rhwng gwyliau Cymru a rhai gwledydd eraill.

Yma yn Stiniog, rydym wastad wedi bod â thraddodiad cryf o sefydlu bandiau, gyda rhai yn cael cyfle i chwarae eto wedi ail-ddyfodiad Gŵyl Car Gwyllt. Mae Yws Gwynedd bellach yn rhedeg label ei hun - Recordiau Côsh, ac mae rhestr hir o fandiau ifanc mwyaf y sîn o fewn y stabl yma.

Yn bersonol, hoffwn i weld mwy o fandiau yn cael cyfle i ddod i Stiniog i berfformio. Tybed a gaiff hynny ei wireddu? Ydi ieuenctid heddiw yn ymwybodol o’r holl fandiau gwych sy’n canu yn ein mamiaith?
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020


16.4.20

Arddangosfa o waith yr arlunydd - GARETH PARRY

Pa un a ydan ni’n sylweddoli hynny ai peidio, ond mae gwaith un o hogia Stiniog yn adnabyddus ledled Prydain erbyn heddiw ac mae gynnon ni, fel ardal, le i ymfalchïo yn ei lwyddiant. Nid pawb yn lleol sy’n gwybod bod lluniau Gareth Parry – golygfeydd trawiadol o ogledd Cymru ac o’r ardal hon - wedi bod yn dal llygad arbenigwyr ers blynyddoedd, bellach, a hynny mewn arddangosfeydd o’i waith mewn galerïau adnabyddus, megis oriel Thackeray yn Kensington, Llundain, neu un Wykenham yn swydd Hampshire.

'Ffenest ar y môr'
Ond, o’r diwedd, mae ei waith wedi cael ei arddangos o fewn cyrraedd i ni yma. Ym mis Chwefror eleni daeth ugeiniau lawer, o bell ac agos, i’r agoriad swyddogol yn Ffin y Parc ger Llanrwst, i syllu’n  werthfawrogol ar gymaint â 55 o’i luniau diweddaraf, ac i brynu hefyd, wrth gwrs. Yn ôl a ddeallwn, gwerthwyd cymaint â 30 ohonynt o fewn ychydig oriau yn unig.

Yn ei olygfeydd, fe gawn gip ar arwedd tir a thywydd y rhan fechan hon o’r byd; sef yr ardal sydd mor agos at galon yr arlunydd. Ac fe gawn hefyd, yn ei bortreadau, gip ar erwinder byd y chwarelwyr gynt, yma yn Stiniog.

I’r rhai ohonom sy’n ei adnabod yn dda, mae Gareth yn berson onest a diymhongar iawn – swil hyd yn oed – o leiaf pan yn trafod ei waith ei hun ac yn edrych yn ôl ar ei fywyd. Ar adeg felly, mae o’n fwy na pharod i gydnabod ‘cyfnod gwyllt’ ei ieuenctid – y gwrthryfela yn erbyn disgyblaeth cartre ac ysgol, a hyd yn oed y bywyd coleg ym Manceinion. Ar ôl dod yn ôl i Stiniog, a mynd i weithio i’r chwarel, y cafodd o ei addysg fwyaf gwerthfawr, medda fo, a hynny trwy wrando ar lais profiad ei gydweithwyr hŷn, yn y felin ac yn y Caban. Yno hefyd y dechreuodd greu cartwnau o rai o’r cydweithwyr hynny. Erbyn heddiw, mae ei ddiwylliant yn un crwn iawn a gall fynegi barn wybodus, nid yn unig o fewn ei faes ei hun ond ar gerddoriaeth a llenyddiaeth fawr y byd yn ogystal.

'Wrth gwrs ei fod yn wir; mae o yn y papur'
Mae Gareth hefyd yn naturiaethwr wrth reddf. Mae’n adnabod bywyd gwyllt ei ardal yn dda - yr adar a’r anifeiliaid a’r planhigion wrth eu henwau - a does dim sy’n ei gynhyrfu’n fwy na’r modd y mae dyfodol y bywyd hwnnw’n cael ei fygwth gan ariangarwch a difaterwch yr oes sydd ohoni heddiw. Mae gwarchod bywyd gwyllt a thirwedd yr ardal yn agos iawn at ei galon.

Fe ddaw cyfle buan eto, gobeithio, i weld ei waith yn lleol.
GVJ
------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020


6.4.20

Rhifyn Digidol Ebrill 2020

MAE NEWID YN CHANGE MEDDAN NHW...

Ac mae pob un ohonom yn sicr yn gweld newid byd go iawn ar hyn o bryd.
Er i ni fedru darparu rhifynnau ar ffurf pdf i danysgrifwyr cyn hyn, dyma’r rhifyn cyntaf sy’n cael ei gyhoeddi’n ddigidol yn unig.

Lawr-lwythwch rifyn EBRILL o wefan Bro360.

Roedd rhywun yn darogan heddiw y cymer hi 6 mis cyfa’ crwn i fywydau pawb ddychwelyd i’r drefn arferol ar ôl gofid covid 19.

Ond tybed ydi hi’n ddoeth dychwelyd yn llwyr i’r hen drefn sy’n cael ei disgrifio gan rai fel bywyd materol, hunanol, a chyfalafol? Ai gwirion fyddai anwybyddu’r rhybudd clir yma mae’r ddaear wedi’i roi i ni, a dilyn yr un trywydd yn y dyfodol?


Dim ond un daear sydd gennym; ‘Nid oes Planed B’ fel dywed y slogan! Ond rydym wedi bod yn byw a gor-ddefnyddio adnoddau ein byd fel tae gennym ni ddau ddaear a hanner i’w sbario!
Calla dawo’r bregeth mae’n siwr gen i. Mae yna bobl yn galaru, ac eraill yn pryderu’n arw; mae hynny’n anochel.

Feiddiwn ni, trwy hyn i gyd, holi os oes yna ymylon arian i’r cymylau duon o gwbl? Oes yna fanteision i’r hunan-ynysu? Wel, oes. Yn fy achos i, mae’n gyfle i dreulio amser efo’r teulu; chwarae gêm a sgwrsio wrth y tân; darllen ambell lyfr sydd wedi aros yn hir am sylw; ail-edrych yn gyffredinol ar be’ sy’n bwysig mewn bywyd. Bu’r haul yn help garw wrth gwrs. Medru mynd i’r ardd a mwynhau gwylio rhyfeddod y gwanwyn yn deffro. Gwenyn a glöynod byw ymysg y blodau cynnar; telor yr helyg a’r siff-saff yn ôl o’r Affrig; a pharatoi at hau ychydig o hadau eto.

Mae’r gymuned arbennig hon wedi tynnu at ei gilydd fel bob tro, i drefnu gwirfoddolwyr i nôl neges ar ran y rhai sydd ddim yn medru piciad allan, ac i ofalu bod y banc bwyd yn parhau i roi cefnogaeth i’r rhai sydd fwya’i angen o.

Daeth grŵp Gweplyfr/Facebook Côr-ona yn llwyddiant ysgubol dros nos bron, a channoedd o ganeuon wedi eu gosod i godi calonnau 38 mil o wylwyr a dilynwyr! Mae nifer o’r cantorion yn rai lleol –ewch am sbec, ac mi fedrwch ymgolli am oriau o fwynhad a chwerthin bob yn ail. Mae ‘Cerddi Corona’ yn grŵp difyr arall os ydi’n well gennych farddoniaeth.


Difyr oedd gweld y lluniau o Fenis yn dangos y dŵr yn loyw glir yn y camlesi yn’de. Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau o gyfyngu symudiadau pobl a busnesau yng Nghymru, roedd Afon Bowydd i’w gweld yn glir fel grisial o waelod yr ardd acw. Welis i mohoni mor lân â hyn yn yr ugain mlynedd ers inni brynu’r tŷ. Ac efo’r hedfan masnachol bron a dod i ben yn llwyr, a llawer llai o geir ar ein ffyrdd, gallwch fentro bod yr aer yn lanach nag y bu, a llawer llai o garbon yn cael ei ryddhau i ddylanwadu ar ein hinsawdd. Hefyd, mae llawer yn gweld -o’r diwedd- be mae ‘austerity’ ac ideoleg gyfalafol gwleidyddion Prydain wedi’i wneud i’r gwasanaeth iechyd a’n gwasanaethau cyhoeddus eraill ni.
Rhesymau da dros beidio ‘mynd nôl i normal’ ar ôl i’r feirws ceroma fynd o’ma! Gawn ni weld os gymrwn ni’r cyfle...

Rhifyn yn llawn erthyglau sydd gennym y tro hwn. Mae nifer o’r colofnwyr rheolaidd wedi cyfrannu erthyglau fel bob tro, ac mae llawer o awduron gwadd wedi cyfrannu darnau difyr iawn hefyd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gobeithio y cewch chi ryw gysur a mwynhad yn y darllen.

Yn y cyfamser gyfeillion, daliwch i gredu.

Geiriau a lluniau: Paul W