6.4.20

Rhifyn Digidol Ebrill 2020

MAE NEWID YN CHANGE MEDDAN NHW...

Ac mae pob un ohonom yn sicr yn gweld newid byd go iawn ar hyn o bryd.
Er i ni fedru darparu rhifynnau ar ffurf pdf i danysgrifwyr cyn hyn, dyma’r rhifyn cyntaf sy’n cael ei gyhoeddi’n ddigidol yn unig.

Lawr-lwythwch rifyn EBRILL o wefan Bro360.

Roedd rhywun yn darogan heddiw y cymer hi 6 mis cyfa’ crwn i fywydau pawb ddychwelyd i’r drefn arferol ar ôl gofid covid 19.

Ond tybed ydi hi’n ddoeth dychwelyd yn llwyr i’r hen drefn sy’n cael ei disgrifio gan rai fel bywyd materol, hunanol, a chyfalafol? Ai gwirion fyddai anwybyddu’r rhybudd clir yma mae’r ddaear wedi’i roi i ni, a dilyn yr un trywydd yn y dyfodol?


Dim ond un daear sydd gennym; ‘Nid oes Planed B’ fel dywed y slogan! Ond rydym wedi bod yn byw a gor-ddefnyddio adnoddau ein byd fel tae gennym ni ddau ddaear a hanner i’w sbario!
Calla dawo’r bregeth mae’n siwr gen i. Mae yna bobl yn galaru, ac eraill yn pryderu’n arw; mae hynny’n anochel.

Feiddiwn ni, trwy hyn i gyd, holi os oes yna ymylon arian i’r cymylau duon o gwbl? Oes yna fanteision i’r hunan-ynysu? Wel, oes. Yn fy achos i, mae’n gyfle i dreulio amser efo’r teulu; chwarae gêm a sgwrsio wrth y tân; darllen ambell lyfr sydd wedi aros yn hir am sylw; ail-edrych yn gyffredinol ar be’ sy’n bwysig mewn bywyd. Bu’r haul yn help garw wrth gwrs. Medru mynd i’r ardd a mwynhau gwylio rhyfeddod y gwanwyn yn deffro. Gwenyn a glöynod byw ymysg y blodau cynnar; telor yr helyg a’r siff-saff yn ôl o’r Affrig; a pharatoi at hau ychydig o hadau eto.

Mae’r gymuned arbennig hon wedi tynnu at ei gilydd fel bob tro, i drefnu gwirfoddolwyr i nôl neges ar ran y rhai sydd ddim yn medru piciad allan, ac i ofalu bod y banc bwyd yn parhau i roi cefnogaeth i’r rhai sydd fwya’i angen o.

Daeth grŵp Gweplyfr/Facebook Côr-ona yn llwyddiant ysgubol dros nos bron, a channoedd o ganeuon wedi eu gosod i godi calonnau 38 mil o wylwyr a dilynwyr! Mae nifer o’r cantorion yn rai lleol –ewch am sbec, ac mi fedrwch ymgolli am oriau o fwynhad a chwerthin bob yn ail. Mae ‘Cerddi Corona’ yn grŵp difyr arall os ydi’n well gennych farddoniaeth.


Difyr oedd gweld y lluniau o Fenis yn dangos y dŵr yn loyw glir yn y camlesi yn’de. Ar ôl dim ond ychydig ddyddiau o gyfyngu symudiadau pobl a busnesau yng Nghymru, roedd Afon Bowydd i’w gweld yn glir fel grisial o waelod yr ardd acw. Welis i mohoni mor lân â hyn yn yr ugain mlynedd ers inni brynu’r tŷ. Ac efo’r hedfan masnachol bron a dod i ben yn llwyr, a llawer llai o geir ar ein ffyrdd, gallwch fentro bod yr aer yn lanach nag y bu, a llawer llai o garbon yn cael ei ryddhau i ddylanwadu ar ein hinsawdd. Hefyd, mae llawer yn gweld -o’r diwedd- be mae ‘austerity’ ac ideoleg gyfalafol gwleidyddion Prydain wedi’i wneud i’r gwasanaeth iechyd a’n gwasanaethau cyhoeddus eraill ni.
Rhesymau da dros beidio ‘mynd nôl i normal’ ar ôl i’r feirws ceroma fynd o’ma! Gawn ni weld os gymrwn ni’r cyfle...

Rhifyn yn llawn erthyglau sydd gennym y tro hwn. Mae nifer o’r colofnwyr rheolaidd wedi cyfrannu erthyglau fel bob tro, ac mae llawer o awduron gwadd wedi cyfrannu darnau difyr iawn hefyd. Diolch i bawb am eu cefnogaeth. Gobeithio y cewch chi ryw gysur a mwynhad yn y darllen.

Yn y cyfamser gyfeillion, daliwch i gredu.

Geiriau a lluniau: Paul W





No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon