21.4.20

Cymru, Lloegr, a Cell Blaenau

Erthygl gan Rhydian Morgan

Pan oeddwn i yn fy arddegau, roedd prosiect Gwallgofiaid yn cael ei gydlynu gan Rhys Roberts, a arferai chwarae efo bandiau megis ‘Anweledig’ a ‘Sibrydion.’ Y syniad oedd rhoi cyfle i bobl ifanc ‘Stiniog a thu hwnt i gael y profiad o ddechrau band, cael gofod i ymarfer ynddo a chwarae gigs gyda rhai o enwau mawr y sîn gerddorol yng Nghymru ar y pryd. Dwi’n cofio gweld artistiaid fel Euros Childs, Radio Luxembourg a Gruff Rhys yn rhannu llwyfan efo bandiau ifanc yr ardal. Ond, yn dilyn adnewyddu’r lle a dod â sinema yn ôl i’r Blaenau, fe ddiflannodd y syniad i ryw raddau.

Bellach mae Clwb Clinc wedi tyfu o wreiddiau’r Gwallgofiaid, ac mae cyfle i bobl ifanc yr ardal gymryd rhan mewn gweithdai roc, DJ, ffilmio a chynhyrchu ar nosweithiau Mawrth. Dau o arweinwyr y gweithdai yw Sion Roberts, un o’r Gwallgofiaid gwreiddiol [sydd bellach yn arbenigo yn y byd sain ac wedi graddio mewn “Recordio Stiwdio a Pherfformio Byw” o Brifysgol Glyndŵr], ac Owain Llyr, y cyflwynydd radio a’r cerddor, sydd hefyd yn rhedeg cwmni aml-gyfrwng Gweledigaeth yng Nghaernarfon.

Un o aelodau'r Clwb Clinc yn cynorthwyo Marc MR Roberts. Llun- Cell
Roedd Chwefror 29 yn noson fawr i griw Clwb Clinc, wrth i’r bobol ifanc gael y profiad o weithio ar gig MR a Kim Hon. Roedd y profiadau yn cynnwys rheoli llwyfan, bod yn roadies i’r bandiau a gweithio ar y system oleuo a’r sain yn ystod y setiau byw. Roedd hi’n hynod o braf gweld criw ifanc oedd mor frwdfrydig i ddysgu ac eisiau gofyn cwestiynau i’r arbenigwyr er mwyn sicrhau fod popeth yn mynd yn iawn ar y noson. Mae Kim Hon yn fand o ardal Dyffryn Nantlle. Cafodd ei greu allan o aelodau Y Reu a chaiff ei arwain gan y prif ganwr, Iwan Fôn (neu ‘Jason’ o’r opera sebon Rownd a Rownd).Yn ystod eu set, roedd un o’r criw wedi penderfynu arddangos ei sgiliau dawnsio ym mlaen y dorf, ac fe arweiniodd hynny at gyfle iddo gamu i’r llwyfan!

Kim Hon. Llun- Rhydian Morgan
Yn mis Hydref y llynedd, fe ryddhawyd Amen, ail albwm y band MR, sef prosiect unigol cyn aelod Y Cyrff a Catatonia, Mark Roberts. Roedd hyn yn dilyn llwyddiant yr albwm cyntaf, Oesoedd. Dyma ddeunydd Cymraeg cyntaf i Mark ryddhau ers Oes, albwm Y Ffyrc yn 2006. [Sylwch ar glyfrwch teitlau’r 3 albwm yma ... OES, OESOEDD, AMEN].

Roedd hi’n teimlo bron fel gig lleol i Mark ac yntau’n hanu o Lanrwst. Roedd hi’n amlwg ei fod o’n mwynhau bod ar y llwyfan yn perfformio traciau oddi ar y ddwy albwm, yn ogystal ag ambell i glasur Y Cyrff megis Hwyl Fawr Heulwen, Llawenydd Heb Ddiwedd cyn cloi y noson efo’r anthem, Cymru, Lloegr a Llanrwst. Er nad oedd hi’n orlawn yno, roedd gwerthiant y tocynnau wedi bod yn hynod dda gyda’r dorf yn parhau i forio canu yr holl glasuron, efo Dewi Prysor ar flaen y gad.


MR. Llun- Paul W
Credaf ein bod yn mynd drwy gyfnod euraidd o fewn y sîn gerddorol yng Nghymru ar hyn o bryd. Mae bandiau o bob arddull yn cael cyfle i serennu ar lwyfannau ar draws ein gwlad a thu hwnt, diolch i bartneriaethau rhwng gwyliau Cymru a rhai gwledydd eraill.

Yma yn Stiniog, rydym wastad wedi bod â thraddodiad cryf o sefydlu bandiau, gyda rhai yn cael cyfle i chwarae eto wedi ail-ddyfodiad Gŵyl Car Gwyllt. Mae Yws Gwynedd bellach yn rhedeg label ei hun - Recordiau Côsh, ac mae rhestr hir o fandiau ifanc mwyaf y sîn o fewn y stabl yma.

Yn bersonol, hoffwn i weld mwy o fandiau yn cael cyfle i ddod i Stiniog i berfformio. Tybed a gaiff hynny ei wireddu? Ydi ieuenctid heddiw yn ymwybodol o’r holl fandiau gwych sy’n canu yn ein mamiaith?
--------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2020


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon