27.2.19

Defaid Rybelwr Bach

Erthygl o'r archif gan Emrys Evans

Diddorol a difyr iawn oedd ysgrif diweddar (yn rhifyn 63) o gylchgrawn Llafar Gwlad, yn yr hon y mae’n son am y ‘defaid’ – sef y math a geir ar ddwylo.
Ar ei diwedd y mae’n gwahodd ymateb ‘os oes un o’r meddyginiaethau'  y mae yn son amdanynt yng nghorff ei hygrif ‘wedi gweithio i chi'.

Ymhlith y gwahanol ffyrdd a oedd o gael gwared a’r ‘defaid’, y mae un ynglŷn â phren ysgawen. Meddai:
‘Ffordd arall oedd torri brigyn o’r ysgawen a chrafu nod arno am bob dafad. Yna rhaid oedd rhwbio’r defaid â’r pren a’i losgi neu ei gladdu a byddai hynny’n cael gwared a’r defaid.’
Daeth darllen yr ysgrif yma a digwyddiad yn fy hanes i fy hun yn fyw iawn i’m cof. Y tridegau cynnar ydoedd hi, a minnau yn rybelwr bach ar Bonc Dŵr Oer yn Chwarel y Graig Ddu yn Ffestiniog. Dyna fyddai prentis o chwarelwr yn cael ei alw – a chyda llaw, mae ‘rybelwr bach’ yn derm neu ymadrodd sydd wedi peidio a bod ac wedi darfod amdano erbyn hyn.

Llun Eric Jones, Comin Wikimedia

Roedd gennyf ‘ddefaid’ ar fy nhwylo yn yr ysgol a chyn dechrau gweithio yn y chwarel, rhai ohonynt ar gefnau fy mysedd ac ar eu cymalau. Oherwydd bod rhai ohonynt ar gymalau fy mysedd, byddai’r rhain yn agor ac yn gwaedu wrth ddefnyddio’r dwylo. Digwyddai hyn yn arbennig ar dywydd oer a rhewllyd.

Y gaeaf cyntaf imi ddechrau gweithio yn y chwarel, a hwnnw’n un eithaf caled, yr oeddent yn gwaedu’n aml. Un o swyddi y rybelwr bach oedd golchi’r llif gron a ddefnyddid i lifio y darnau o lechfaen i hydau mwy hwylus ar gyfer eu trin. Bob yn hyn a hyn, oherwydd bod ei dannedd yn gwisgo, rhaid oedd ei newid am un a oedd wedi’i minio o’r newydd. Pan fyddai’r llechfaen yn galed rhaid oedd newid y llif gron yn o aml.

Wedi ei thynnu, eid a hi i’r cwt hogi, fel y’i gelwid, ac i’r hogwr i roi min newydd arni a chael un yn ei lle i’w rhoi yn y bwrdd llifio i’r gwaith fedru mynd yn ei flaen. Ond ar fôn ei fywyd yr ai yr un rybelwr bach, na neb arall chwaith o ran hynny, a llif gron i’r cwt hogi heb ei golchi’n lan. Pe byddai i rywun fentro gwneud y fath beth, fe fyddai’r llif gron yn drybowndian wrth ei sodlau cyn ei fod wedi cymryd mwy na rhyw ddau gam y tu allan i’r cwt hogi.

Y gaeaf arbennig yma, bu’n rhewi am gyfnod go hir. Rhewodd y dŵr yn y gasgen lle’r arferid golchi’r llif a doedd dim i’w wneud ond mynd at lan Llyn Dŵr Oer, torri twll yn y rhew ar ei wyneb, a golchi’r llif hefo rhyw hen recsyn yn hwnnw.

O dan y driniaeth yma, gwaedai’r defaid a oedd ar fy nwylo bron yn ddyddiol. Efallai fod bai arnaf innau na fuaswn yn gofalu am sychu fy nwylo yn ddigon sych ar ôl golchi’r llif. Prun bynnag am hynny, daeth yn ‘ddydd Gwener diwedd mis’, fel y galwem y diwrnod olaf o’r mis gweithio, a finnau fel eraill o’r rybelwyr bach ar y bonc, yn mynd o gwmpas y ‘bargeinwyr’ i ofyn am ‘glwt-diwadd-mis’. Roedd hyn yn hen arferiad ar bonciau’r gwahanol chwareli. Gan mai dysgwr oedd y rybelwr bach, ymarfer yr oedd o ar ddarnau bychain o lechfaen – darnau a oedd yn rhy fychain i’r ‘bargeinwyr’ drafferthu eu gweithio. Gair y chwarel ar ddarnau o lechfaen addas i wneud llechi ohonynt oedd ‘clytiau’ – ‘clwt’ am un.

Oherwydd mai gweithio’r clytiau bychain yma a wnai y rybelwr bach, llechi bychain y byddai yn eu cynhyrchu’n bennaf, ac ar y rheini yr oedd y prisiau isaf. Felly, wedi pedair wythnos o weithio, ni fyddai ei fil-cerrig yn uchel. Dull oedd y mynd o gwmpas y ‘bargeinwyr’ ar ddiwrnod olaf y mis gwaith fel hyn i ofyn am ‘glwt-diwadd-mis’ i roi hwb ar i fyny i fil-cerrig y rybelwr bach, fel y bo ei dâl rhywfaint yn uwch.

Yr hyn a olygid wrth ‘glwt-diwadd-mis’ oedd un digon o faint i wneud llechi yn mesur 20 modfedd wrth 10 modfedd; ‘clwt-am-gowntan’ yn iaith y chwarel. Roedd yna uwch bris ar y rhain.
Felly, yn ôl hen arfer y ponciau, a chyda fy llygaid am dipyn o elw, yr oeddwn wrth y gwaith yma yn hel clytiau-diwadd-mis pan ddois i at John Williams, ‘Yr Aber’, fel y byddia pawb yn ei alw.

Fel wrth bob bargeiniwr arall dywedais fy neges wrtho:   
Oes yna siawns am glwt-diwadd-mis, os gwelwch chi’n dda, John Williams?
Hollti oedd o ar y pryd, a thaflodd y sach a oedd dros ei lin o’r neilltu.
Ty’d hefo fi i’r cei’ meddai.

Aeth a fi at beil hir o gowntis, a chyfri ohoni bum mwrw – pymtheg llechen – a’r rheini wedi eu gwneud yn barod! Gwell o lawer na chael ‘clwt’ imi geisio’i hollti, a methu gyda rhan ohono. Yna rhoddodd fwrw arall ymhen y pump.

Fedri di gario cymaint a hyn?’ gofynnodd.
Roeddwn i’n barod i gario’r bonc petai raid.
Diolch yn fawr iawn,’ meddwn, a phlygu ymlaen a fy mhen ar fol John Williams er mwyn iddo roi’r baich deunaw llechen yma ar fy nghefn.
Ac wrth imi afael yn y baich y gwelodd John Williams y defaid gwaedlyd ar gefnau fy nwylo.
Rargian,’ meddai. ‘Ma gin ti amryw o’r hen ddefaid na ar dy ddwylo a’r rheini’n gwaedu. Wyt ti isio cael gwared a nhw?’ gofynnodd, cyn imi ei ateb: ‘Oes!’
Ty’d a tamad o bren sgawan i mi, ac mi symuda’ i nhw iti.
Ddywedodd o ddim mwy na hyn’na, a doedd gin i ddim syniad beth oedd o’n fwriadu ei wneud hefo’r pren sgawan.
Ysgawen. Llun- Paul W

Erbyn dechrau’r wythnos ddilynol roeddwn i wedi cael brigyn bychan oddi ar goeden ysgawen o rywle yng Nghoed Cwm Bowydd ac eis a fo i John Williams. Y cwbl a wnaeth o oedd cyffwrdd pob un o’r defaid ar fy nwylo a phen y pren ysgawen lle’i torrwyd yn lân a chyllell.

Dyna chdi,’ meddai, gan roi’r brigyn yma’n ôl imi. ‘Dos i ochor y Manod Bach a chladda fo yn rwla yno'. Gwnes innau fel y dywedodd wrthyf, ac yn fuan iawn diflannodd y ‘defaid’ yn llwyr. Ac welais i’r un fyth wedyn, chwaith.

Un o Abergynolwyn oedd John Williams, a meddwl mawr ganddo o’r ardal honno. Dyna oedd y tu ôl iddo gael ei alw – ‘Yr Abar’.

Wnaeth o ddim ‘crafu nod’ ar y brigyn o bren ysgawen fel mae Eirlys Gruffydd yn ei grybwyll yn ei hysgrif, dim ond cyffwrdd y defaid bob yn un a’r pen a oedd wedi’i dorri.

10.2.19

Stolpia -Yr Hen Dynnwr Lluniau

Pennod arall o gyfres Steffan ab Owain, y tro hwn o rifyn Ionawr 2005.

Os cofiwch, crybwyllais yn [rhifyn Rhagfyr 2004] ychydig o hanes  John Thomas, y ffotograffydd enwog  o’r Cambrian Gallery, Lerpwl, yn galw heibio ein bro i dynnu lluniau grwpiau o chwarelwyr, adeiladau pwysig a.y.y.b. Yn ffodus iawn i ni, cofnododd JT ei hanes yn yr ardal hon, a sawl ardal arall o ran hynny, mewn dyddlyfr sy’n dyddio o’r 1860au  ymlaen. Fel ei luniau, mae ei nodiadau yn rhai tra diddorol ac yn rhoi darlun gwych a gwedd wahanol inni o’i anturiaethau gyda’i gamera. Credaf eu bod yn werth eu dyfynnu yma.

Casgliad John Thomas, Llyfgrell Genedlaethol Cymru. "Gan edrych o'r Graig Ddu"
Dyma ran o’i gofnodion o’r flwyddyn 1868:

"Ar wahoddiad taer fy nghyfaill Mr. J.N. Edwards o Gynwyd (yr oedd wedi gwerthu lliaws o’m darluniau cyn hyn) aethum i Ffestiniog. Yr oedd wedi cymryd room yno i wneud fframiau a gwerthu’r darluniau a phethau eraill.Wedi cyrraedd yno, aeth yn gytundeb rhyngom i fynd trwy liaws o’r chwarelau i gymryd grŵps o’r gweithwyr yn yr awr ginio.Yr oeddwn i gael tâl am y darlun ac yntau am y ffram. Yr oeddwn i’n meddwl mai ef oedd yn cael y fantais orau, yntau yn meddwl fel arall, ond ni bu dim ymrafael.
 

Yr wyf yn cofio mynd i chwarel y Diffwys ryw foregwaith, ac wedi cael caniatâd yr awdurdodau, ac ar ôl mynd trwy’r gwaith i wahodd y gweithwyr i fan penodol, ac wedi gosod y grŵp mewn safle priodol, eis i’r offis a gofynais a welent hwy i fod yn dda ddod i eistedd yn eu plith, ac ufuddasant ar unwaith, ac yr oedd yno foneddiges, a boneddwr mewn tipyn o oed a gwallt gwyn llaes, heblaw gwŷr arferol yr offis , -a chymerwyd y grŵp; ac erbyn holi, Mr. Hugh Owen a’i briod, wedi hynny Syr Hugh Owen o Lundain oedd y dieithriaid.
 

Rhyw dro wedi hyn yr oeddwn yn yr un chwarel, yn cymryd darlun arall ganol dydd, aeth yn llongddrylliad, neu o leiaf yn gamera-ddrylliad arnaf; fel hyn y bu- wedi gosod y gweithwyr ar waelod yr inclên, ac erbyn mynd yn fy ôl i gael golwg deg arnynt, teimlwn fod y safle yr oeddwn ynddo yn rhy isel, a chan fod yn ymyl wagenni llawn o lechi, anturiais i fynd i osod y stand a’r camera ar un o’r rhai hyn er cael bod yn uwch, a phan yn mynd i’r lle tywyll, i gyrchu’r plât, clywn waedd a chwerthin,ac ar ol mynd allan gwelwn fod y camera yn deilchion ar lawr, awel o wynt ddaeth heibio heb ofyn caniatâd. Ar ôl munud o edrych arno, gwaeddais nad oedd yn fawr gwaeth, ac os byddent hwy yn yr un fan erbyn chwech o’r gloch y cymerwn hwynt wedyn, ac wedi cael gwasanaeth asiedydd, glud a hoelion, yr oeddwn yno mewn pryd a thynnwyd y grŵp.
 

Mae Mr J.N.Edwards wedi aros yn yr ardal hyd heddiw, ac wedi llwyddo o ddechreuad bychan fel y soniwyd, i fod yn un o’r masnachwyr mwyaf cyfrifol yn y lle –sy’n brawf amlwg o ddiwydrwydd a gonestrwydd wrth drin y byd. Mae hefyd wedi dwyn mab i fyny’n arlunydd, wedi rhoi pob manteision iddo yn ei anturiaeth ac y mae J.Kelt Edwards yn un o’r young artists mwyaf  addawol, ac yn cymryd diddordeb neilltuol mewn pethau Cymreig, rhwydd hynt iddo."

Fel y gŵyr rhai ohonoch, cedwid masnachdy Berlin House gan J.N.Edwards a’i deulu am flynyddoedd lawer a cheir tipyn o’i hanes ef a Kelt ei fab yn ogystal â rhai arluniau yng nghyfrol Goleuo’r Sêr (1994) gan y diweddar gyfaill Ted Breeze Jones. Gresyn na chofnodwyd nifer yr archebion a dderbyniodd oddi wrth chwarelwyr y Diffwys, ynte? Pa fodd bynnag, os cofiaf yn iawn y mae’r llun a dynnodd o’r chwarelwyr ar waelod yr inclên yng nghasgliad J.W.Jones yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru.

Casgliad John Thomas, Llyfrgell Genedlaethol Cymru. "Pont y Rhiw, 1875"
Gyda llaw, bu John Thomas yn ein bro ar sawl achlysur arall hefyd ac fel y dywedais o’r blaen tynnodd luniau o’r chwarelwyr yn teithio adref ar drên bach y Llan un tro. Yn  ogystal, tynnodd ychydig luniau o bontydd y plwyf , y ddwy reilffordd bach, capeli a gweinidogion, eglwysi ac ysgolion, tref y Blaenau a sgwâr y Llan, pobl yr ardal, a sawl peth arall.

Yn ôl ei nodiadau am 1879, ac ar ôl sawl ymweliad  â’n bro dywed:

"Yr oedd y Llan yn bentre go fawr cyn bod ond rhyw ychydig o dai gwasgaredig yn y Blaenau, ac yma byddai’r farchnad yn cael ei chynnal a phobol y Blaenau yn dod iddi, ond erbyn hyn y mae’r ferch wedi mynd yn fwy na’r fam, a gwŷr a gwragedd y Llan yn gorfod mynd i’r Blaenau i ymofyn llawer o’u angenrheidiau…
 

Ond rhaid dychwelyd i’r Llan os ydych am fwynhau ychydig seibiant i weld natur  yn ei phrydferthwch... Nid oedd angen am arweinydd i fynd [at Bulpud Huw Llwyd] os byddech wedi galw yng ngwesty’r Pengwern Arms i geisio bwyd neu ddiod. Yr oedd yno ar y pryd fath o gi defaid wedi cael ei ddysgu i’ch tywys ar hyd y llwybr at y ceunant o’ch blaen, a dychwelai’n ôl heb i neb yngan gair wrtho. Ond os nad oeddech wedi bod yn y gwesty ni wnai yr un sylw ohonoch. Yr oedd yno gi arall, gwerth sôn amdano, yn y ffermdy o dan y fynwent, a fedrai droi olwyn, a’r olwyn honno’n troi’r fuddai gorddi yn y llaethdy. Gwelais ef wrth y gwaith, ac ni welais y fath beth cynt na chwedyn. Yr wyf yn deall fod yr awdurdodau gwladol wedi ymyrryd am eu bod yn ei ystyried yn greulonder â’r anifail."

Dau sylw bach cyn cloi. Os nad wyf yn cyfeiliorni, cedwid ci neu gŵn ar gyfer corddi ar fferm Bwlch Iocyn ar un adeg o’i hanes. Yn ail, byddai’r Abbey Arms yn cadw ci ar gyfer tywys pobl ddiarth  ogylch y lle, hefyd. Onid oes llun cerdyn post ohono yn eistedd y tu allan i’r dafarn,’dwch?