Diddorol a difyr iawn oedd ysgrif diweddar (yn rhifyn 63 -gwanwyn 1999) o gylchgrawn Llafar Gwlad, yn yr hon y mae’n son am y ‘defaid’ – sef y math a geir ar ddwylo.
Ar ei diwedd y mae’n gwahodd ymateb ‘os oes un o’r meddyginiaethau' y mae yn son amdanynt yng nghorff ei hygrif ‘wedi gweithio i chi'.
Ymhlith y gwahanol ffyrdd a oedd o gael gwared a’r ‘defaid’, y mae un ynglŷn â phren ysgawen. Meddai:
‘Ffordd arall oedd torri brigyn o’r ysgawen a chrafu nod arno am bob dafad. Yna rhaid oedd rhwbio’r defaid â’r pren a’i losgi neu ei gladdu a byddai hynny’n cael gwared a’r defaid.’Daeth darllen yr ysgrif yma a digwyddiad yn fy hanes i fy hun yn fyw iawn i’m cof. Y tridegau cynnar ydoedd hi, a minnau yn rybelwr bach ar Bonc Dŵr Oer yn Chwarel y Graig Ddu yn Ffestiniog. Dyna fyddai prentis o chwarelwr yn cael ei alw – a chyda llaw, mae ‘rybelwr bach’ yn derm neu ymadrodd sydd wedi peidio a bod ac wedi darfod amdano erbyn hyn.
Llun Eric Jones, Comin Wikimedia |
Roedd gennyf ‘ddefaid’ ar fy nhwylo yn yr ysgol a chyn dechrau gweithio yn y chwarel, rhai ohonynt ar gefnau fy mysedd ac ar eu cymalau. Oherwydd bod rhai ohonynt ar gymalau fy mysedd, byddai’r rhain yn agor ac yn gwaedu wrth ddefnyddio’r dwylo. Digwyddai hyn yn arbennig ar dywydd oer a rhewllyd.
Y gaeaf cyntaf imi ddechrau gweithio yn y chwarel, a hwnnw’n un eithaf caled, yr oeddent yn gwaedu’n aml. Un o swyddi y rybelwr bach oedd golchi’r llif gron a ddefnyddid i lifio y darnau o lechfaen i hydau mwy hwylus ar gyfer eu trin. Bob yn hyn a hyn, oherwydd bod ei dannedd yn gwisgo, rhaid oedd ei newid am un a oedd wedi’i minio o’r newydd. Pan fyddai’r llechfaen yn galed rhaid oedd newid y llif gron yn o aml.
Wedi ei thynnu, eid a hi i’r cwt hogi, fel y’i gelwid, ac i’r hogwr i roi min newydd arni a chael un yn ei lle i’w rhoi yn y bwrdd llifio i’r gwaith fedru mynd yn ei flaen. Ond ar fôn ei fywyd yr ai yr un rybelwr bach, na neb arall chwaith o ran hynny, a llif gron i’r cwt hogi heb ei golchi’n lan. Pe byddai i rywun fentro gwneud y fath beth, fe fyddai’r llif gron yn drybowndian wrth ei sodlau cyn ei fod wedi cymryd mwy na rhyw ddau gam y tu allan i’r cwt hogi.
Y gaeaf arbennig yma, bu’n rhewi am gyfnod go hir. Rhewodd y dŵr yn y gasgen lle’r arferid golchi’r llif a doedd dim i’w wneud ond mynd at lan Llyn Dŵr Oer, torri twll yn y rhew ar ei wyneb, a golchi’r llif hefo rhyw hen recsyn yn hwnnw.
O dan y driniaeth yma, gwaedai’r defaid a oedd ar fy nwylo bron yn ddyddiol. Efallai fod bai arnaf innau na fuaswn yn gofalu am sychu fy nwylo yn ddigon sych ar ôl golchi’r llif. Prun bynnag am hynny, daeth yn ‘ddydd Gwener diwedd mis’, fel y galwem y diwrnod olaf o’r mis gweithio, a finnau fel eraill o’r rybelwyr bach ar y bonc, yn mynd o gwmpas y ‘bargeinwyr’ i ofyn am ‘glwt-diwadd-mis’. Roedd hyn yn hen arferiad ar bonciau’r gwahanol chwareli. Gan mai dysgwr oedd y rybelwr bach, ymarfer yr oedd o ar ddarnau bychain o lechfaen – darnau a oedd yn rhy fychain i’r ‘bargeinwyr’ drafferthu eu gweithio. Gair y chwarel ar ddarnau o lechfaen addas i wneud llechi ohonynt oedd ‘clytiau’ – ‘clwt’ am un.
Oherwydd mai gweithio’r clytiau bychain yma a wnai y rybelwr bach, llechi bychain y byddai yn eu cynhyrchu’n bennaf, ac ar y rheini yr oedd y prisiau isaf. Felly, wedi pedair wythnos o weithio, ni fyddai ei fil-cerrig yn uchel. Dull oedd y mynd o gwmpas y ‘bargeinwyr’ ar ddiwrnod olaf y mis gwaith fel hyn i ofyn am ‘glwt-diwadd-mis’ i roi hwb ar i fyny i fil-cerrig y rybelwr bach, fel y bo ei dâl rhywfaint yn uwch.
Yr hyn a olygid wrth ‘glwt-diwadd-mis’ oedd un digon o faint i wneud llechi yn mesur 20 modfedd wrth 10 modfedd; ‘clwt-am-gowntan’ yn iaith y chwarel. Roedd yna uwch bris ar y rhain.
Felly, yn ôl hen arfer y ponciau, a chyda fy llygaid am dipyn o elw, yr oeddwn wrth y gwaith yma yn hel clytiau-diwadd-mis pan ddois i at John Williams, ‘Yr Aber’, fel y byddia pawb yn ei alw.
Fel wrth bob bargeiniwr arall dywedais fy neges wrtho:
‘Oes yna siawns am glwt-diwadd-mis, os gwelwch chi’n dda, John Williams?’
Hollti oedd o ar y pryd, a thaflodd y sach a oedd dros ei lin o’r neilltu.
‘Ty’d hefo fi i’r cei’ meddai.
Aeth a fi at beil hir o gowntis, a chyfri ohoni bum mwrw – pymtheg llechen – a’r rheini wedi eu gwneud yn barod! Gwell o lawer na chael ‘clwt’ imi geisio’i hollti, a methu gyda rhan ohono. Yna rhoddodd fwrw arall ymhen y pump.
‘Fedri di gario cymaint a hyn?’ gofynnodd.
Roeddwn i’n barod i gario’r bonc petai raid.
‘Diolch yn fawr iawn,’ meddwn, a phlygu ymlaen a fy mhen ar fol John Williams er mwyn iddo roi’r baich deunaw llechen yma ar fy nghefn.
Ac wrth imi afael yn y baich y gwelodd John Williams y defaid gwaedlyd ar gefnau fy nwylo.
‘Rargian,’ meddai. ‘Ma gin ti amryw o’r hen ddefaid na ar dy ddwylo a’r rheini’n gwaedu. Wyt ti isio cael gwared a nhw?’ gofynnodd, cyn imi ei ateb: ‘Oes!’
‘Ty’d a tamad o bren sgawan i mi, ac mi symuda’ i nhw iti.’
Ddywedodd o ddim mwy na hyn’na, a doedd gin i ddim syniad beth oedd o’n fwriadu ei wneud hefo’r pren sgawan.
Ysgawen. Llun- Paul W |
Erbyn dechrau’r wythnos ddilynol roeddwn i wedi cael brigyn bychan oddi ar goeden ysgawen o rywle yng Nghoed Cwm Bowydd ac eis a fo i John Williams. Y cwbl a wnaeth o oedd cyffwrdd pob un o’r defaid ar fy nwylo a phen y pren ysgawen lle’i torrwyd yn lân a chyllell.
‘Dyna chdi,’ meddai, gan roi’r brigyn yma’n ôl imi. ‘Dos i ochor y Manod Bach a chladda fo yn rwla yno'. Gwnes innau fel y dywedodd wrthyf, ac yn fuan iawn diflannodd y ‘defaid’ yn llwyr. Ac welais i’r un fyth wedyn, chwaith.
Un o Abergynolwyn oedd John Williams, a meddwl mawr ganddo o’r ardal honno. Dyna oedd y tu ôl iddo gael ei alw – ‘Yr Abar’.
Wnaeth o ddim ‘crafu nod’ ar y brigyn o bren ysgawen fel mae Eirlys Gruffydd yn ei grybwyll yn ei hysgrif, dim ond cyffwrdd y defaid bob yn un a’r pen a oedd wedi’i dorri.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon