Apêl y Tabernacl
Y Tabernacl (MC), Blaenau Ffestiniog, oedd un o’r capeli mwyaf oedd yn perthyn i Henaduriaeth Gorllewin Meirionnydd, ac ynddo y cyfarfu'r gynulleidfa fwyaf a’r eglwys luosocaf rhwng blynyddoedd 1870 ac 1890. Agorwyd y capel a ffurfiwyd yr achos Chwefror 14, 1864. Yr oedd yn mesur 63 troedfedd wrth 51 troedfedd oddi mewn. Cynlluniwyd gan Ellis Williams, Porthmadog. Costiodd y tir, y capel a’r tai, dros £3,700. Ychwanegwyd oriel yn 1869 yn costio £550. Codwyd tŷ ar gyfer y gweinidog yn 1894 ac ail-adeiladwyd y capel yn 1902 ar draul o £1,200. Cafodd y capel ei ddymchwel cyn 1987 ond y mae'r tŷ capel a’r ysgoldy oedd y tu ôl i’r adeilad yn aros fel tŷ annedd.
Llun o dudalen FB Blaenau Ffestiniog, diolch i Evans Ycart |
Yn ‘Y Drych’ -papur mwyaf llwyddiannus Cymry America- yn 1916, daeth yna apêl gan John Morris Edwards (1876-1963), 1114 Park Avenue, Utica, ac R. Morris Williams (1884-1950), Wall Street, Utica, yn gofyn am gyfraniadau ariannol ymysg dynion a merched oedd a chysylltiad â Ffestiniog, oedd erbyn hynny wedi gosod eu gwreiddiau yn y Taleithiau, tuag at glirio dyled drom oedd yn llethu Capel Tabernacl yn y flwyddyn honno.
Brodor o Faenofferen oedd J.M. Edwards, yn fab i Morris R. a Mary Edwards. Chwarelwr oedd ei dad, ac yntau hefyd, cyn iddo ymfudo i’r America yn 1907. Ar ôl hynny gwasanaethodd fel clerc stoc mewn banc, yn borthor yng Nghapel Cymraeg Moriah, Utica, ac yna yn argraffydd. Yr oedd yn briod ac Annie (1876-1940), merch i Thomas a Laura Edwards, Dolawel, Ffestiniog. Graddiodd Annie yn athrawes yng Ngholeg Bangor cyn priodi. Yr oeddynt yn rieni i Nesta M. Powell (1908-2002).
Un o Ffestiniog oedd R. Morris Williams hefyd. Bu yn un o olygyddion ‘Y Drych’ o 1912 i 1918. Cyn hynny bu’n ohebydd i’r ‘Scranton Republic’ ar ôl iddo ymfudo i Scranton, Pennsylfania, o Danygrisiau yn 1908. Gadawodd ‘Y Drych’ i ffurfio cwmni argraffu ei hun yn Utica, Efrog Newydd. Yr oedd yn briod a Sarah J. (g.1883) ac yn dad i John P. William (g.1913).
Yr oedd dirwasgiad masnachol y cyfnod wedi dal y Taberncal pan oedd baich trwm o ddyled arni, ac er gwneuthur ymdrechion rhagorol i’w glirio yn 1913, aed i gyfyngder mawr. Felly, yn y sefyllfa, anfonwyd cais am gymorth at David Davies (1818-1890), aelod seneddol Llandinam, ac ymatebodd gydag addewid odidog o £1,000 os casglai'r capel fil arall atynt o fewn tair blynedd.
Ond daeth y Rhyfel Mawr a’i ofynion a’i wasgfeuon, a galwyd y gwŷr ifanc i’r gad, fel mai gorchwyl anodd ydoedd codi £1,000 er yr holl ymdrechion. Yr oedd yn y Taleithiau lu o garedigion y Tabernacl a’i gweinidog, y Parch. R.R. Morris (1852-1935) a mawr disgwyliwyd y byddai ymateb brwd ganddynt i’w cynorthwyo.
Bu Richard Robert Morris yn weinidog gyda’r Methodistiaid yn Seilo, Caernarfon (1881-93) a Tabernacl, Ffestiniog (1893-1924). Yr oedd yn briod â Catherine Morris ers 1882, ganwyd iddynt bedwar o blant. Daeth i amlygrwydd fel bardd ac emynydd, ei emyn mwyaf poblogaidd oedd ‘Ysbryd byw y deffroadau’. Bu farw ym Metws Garmon, Awst 24, 1935. (Ymysg y 74 o eitemau amrywiol sydd ar gadw yn Archifdy Prifysgol Bangor, y mae ei lyfr casglu at glirio'r ddyled yn y Tabernacl).
Am bob doler a gyfrannwyd tuag at yr apel yr oedd addewid David Davies, Llandinam, yn golygu y byddai yn chwyddo cymaint ddwywaith. Er enghraifft, pe byddai'r Cymry yn America yn anfon $100 o’r America buasai $100 yn dod o Landinam. Meddai dau ohebydd ‘Y Drych’ o Ffestiniog:
“Blant Ffestiniog mae yr achos yn deilwng. Mae’r amser yn brin. Nid oes ond rhyw fis neu ddau hyd nes y bydd tymor yr addewid i ben. Rhaid gweithredu ar unwaith.”
-----------------------------------
I'w barhau...
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon