Fydd neb yn synnu, bellach, bod Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr wedi rhoi’r hen ganolfan iechyd ar werth, yn ogystal â’r cyn clinig ffisiotherapi ar Ffordd Tywyn, y naill ar bris o £80,000 a’r llall am £60,000, a hynny er gwaethaf gwadu eu bwriad fwy nag unwaith yn y gorffennol.
Cyn belled ag y mae’r ganolfan iechyd yn y cwestiwn, yna efallai y bydd rhai ohonoch yn cofio erthygl yn rhifyn Tachwedd 2013 yn adrodd:
‘Y cynllun fydd datblygu adeilad yr ysbyty ac adeilad y Ganolfan Iechyd, gan gynnwys darn y feddygfa. Un gwasanaeth o dan ddau do. Does yna ddim bwriad yn y byd i’w werthu’.
Lluniau GVJ
Ond dŵr o dan y bont ydi peth felly erbyn hyn, wrth gwrs. Pwysicach rŵan ydi dyfodol y clinig ar Ffordd Tywyn, o gofio bod hwn hefyd, fel yr Ysbyty gynt, yn Adeilad Coffa a gafodd ei adeiladu ‘i gadw mewn cof a pharch bob bachgen o’n bro a gollodd ei fywyd yn Rhyfel 1939-45’.
Mae’n ymddangos mai £60,000 ydi gwerth y ‘cof a’r parch’ hwnnw erbyn heddiw, gyfeillion.
Bydd yn ddiddorol gweld a fydd y Lleng Brydeinig a’r Ffiwsilwyr Cymreig yn datgan mwy o ddiddordeb y tro yma nag a wnaethon nhw ynglŷn â dyfodol yr Ysbyty Coffa gynt. Siawns bod ‘Cofio’r Hogiau’ yn golygu llawer mwy na saliwtio a gosod torch o’r pabi coch unwaith y flwyddyn?
Ond dyma gwestiwn i bawb ohonom feddwl yn ei gylch:
O ystyried mai pobol Stiniog a gasglodd yr arian i godi’r adeilad yn y lle cyntaf, yna onid y peth lleiaf y dylai’r Betsi, neu’r llywodraeth Lafur yng Nghaerdydd ei wneud rŵan ydi’r cyflwyno’r adeilad yn ôl i’r gymuned, yn rhad ac am ddim, at ddefnydd y gymdeithas? Byddai’n ddelfrydol fel amgueddfa neu Ystafell Gyfarfod.Os ydych yn cytuno, yna lleisiwch eich barn cyn iddi fynd yn rhy hwyr. Waeth heb â chodi pais pan fydd hi’n rhy hwyr.
GVJ
-----------------------
Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Chwefror 2019. Erbyn hyn, mae'r Pwyllgor Amddiffyn a Chyngor Tref Ffestiniog wedi bod wrthi'n trafod dyfodol yr adeilad efo'r bwrdd iechyd ac wedi llythyru efo cymdeithasau a grwpiau lleol. Meddai llythyr gan y cyngor tref:
"Mae pryder mawr yn y gymuned bod Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr yn bwriadu gwerthu’r hen glinig ffisiotherapi ar Heol Towyn. Adeiladwyd yr adeilad hwn er cof am y 54 o ddynion ifanc o'r ardal a gollodd eu bywydau yn yr Ail Ryfel Byd trwy gasglu arian gan drigolion lleol, y mwyafrif ohonynt yn chwarelwyr ar gyflogau isel iawn.
Mae'r Pwyllgor Amddiffyn a'r Cyngor Tref bellach wedi ysgrifennu at Fwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr ynghylch dyfodol yr adeilad ac wedi cael gwybod bod y Bwrdd Iechyd yn barod i roi tri mis i ni ddod i fyny gyda defnydd arall ar gyfer yr adeilad er budd y gymuned. Yna byddent yn trafod y syniad gan y gymuned ac yn penderfynu a fyddant yn rhoi chwe mis arall i ni baratoi cynllun ar gyfer dyfodol yr adeilad.
Mae'r Cyngor Tref, mewn cydweithrediad â'r Pwyllgor Amddiffyn, yn awyddus i gwrdd â chymdeithasau a grwpiau lleol i drafod dyfodol yr adeilad ac i geisio cael syniadau ar gyfer defnydd arall o’r adeilad."
------------------------------------
Cafwyd ambell i ymateb diddorol wrth i Llafar Bro holi ar y stryd, er enghraifft:
* Dwi ddim yn ymddiried o gwbwl yn y bwrdd iechyd i gadw eu gair, o ystyried hanes yr Ysbyty;
* Mae angen gofal cyn cymryd cyfrifoldeb o'r adeilad gan fod nifer o adeiladau eraill yn brwydro am arian a defnydd yn y dref, fel y Ganolfan Gymdeithasol;
* Byswn i'n licio gweld amgueddfa fach yno;
* Bysa fo'n well gwerthu'r lle er mwyn prynu a datblygu hen siop Lewis neu Neuadd y Farchnad...
Be ydych chi'n feddwl? Gyrrwch air!
Pam ddim troir hen syrgeri i mewn i 12 patient, inpatient facility mae'r NHS o hyd yn cwynno bo ganddon nhw ddim digon o wlau ac yn gyrry cleifion i ardaloedd eraill.
ReplyDeleteLlawer iawn yn sicr o gytuno efo hynny..
Delete