28.3.19

Antur Stiniog: Llawer mwy ‘na llwybrau beics

Ychydig o hanes a gobeithion yr Antur at y dyfodol, wedi'i addasu erthygl yn rhifyn Chwefror 2019.

Mae Antur Stiniog wedi hen sefydlu ei hun yn ardal Blaenau Ffestiniog ers dros ddegawd bellach a priodol fyddai atgoffa’n hunain a’r ardal ychydig o’n hanes, rhai o’n cynlluniau a gwahodd syniadau i gyd-weithio wrth edrych ymlaen yn hyderus i’r dyfodol.

Llun Adrian Bradley

Sefydlwyd Antur Stiniog fel menter gymdeithasol yn 2007. Fe’i sefydlwyd i feithrin uchelgais, ysbrydoli a chreu cyfleoedd i bobl leol fentro a llwyddo yn yr ardal. Gweithgareddau Awyr Agored oedd y sbardun gwreiddiol. Ar noson Goleuo ‘Stiniog  yn ôl yn 2007 fe dderbyniodd y fenter 2000 o addunedau o gefnogaeth gan drigolion y Fro oedd yn rhannu’r un weledigaeth:
“Datblygu potensial y Sector Awyr Agored yn ardal Ffestiniog mewn ffordd gynaliadwy ac arloesol er budd y trigolion a’r economi leol”.
Ers hynny mae’r Antur wedi tyfu o fod yn llwyr ddibynnol ar grantiau oedd yn cytundebu gweithiwr hunan cyflogedig rhan amser, ac un Swyddog Datblygu rhan amser drwy gynllun Cymunedau’n Gyntaf Bowydd a Rhiw.

Erbyn heddiw mae 11 aelod o’r gymuned leol (Cyfarwyddwyr Gwirfoddol) yn llywio a goruchwylio’r gwaith, ac rydym yn cyflogi oddeutu 20 o drigolion efo trosiant yn agos at £400,000 yn flynyddol (2017) gyda 90% o’r incwm yma yn cael ei gynhyrchu o ganlyniad i weithgareddau economaidd ym Mlaenau Ffestiniog. Yn ôl adroddiad  a wnaed ar y cyd gyda rhwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog mae’r Antur yn llwyddo i gyfrannu 33% o’n trosiant i’r economi leol.

Yn ystod y 10 mlynedd diwethaf mae’r fenter wedi cyflawni nifer o amcanion oedd yn unol â’i weledigaeth wreiddiol. Ymhlith ein llwyddiannau mae agor llwybrau beicio mynydd ar lethrau'r Cribau ger Ceudyllau Llechwedd, ac yn dilyn cau Canolfan Ymwelwyr Y Parc Cenedlaethol yng nghanol y stryd fawr, bu i ni brynu a sicrhau perchnogaeth gymunedol o’r unedau gwag ac agor siop a chaffi yn gwerthu nwyddau a chrefftau lleol, offer awyr agored, yn ogystal â chynnig gwasanaeth canolfan wybodaeth i ymwelwyr a thrigolion lleol.

Y nod wrth symud ymlaen ydi cryfhau a datblygu'r cynnig yn ymestyn o ddatblygiadau pellach o ran llwybrau beicio mynydd, datblygu'r elfen hyfforddiant awyr agored, prentisiaethau i bobl leol a chyd- weithio efo chymdeithasau megis y Gymdeithas Hanes leol. Rydym am gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan fo cyfle gyda rhwydwaith o fusnesau preifat y Fro sydd wedi gwreiddio yn, ac yn gweithredu er mwyn ein cymuned.

Mae 2019 yn argoeli i fod yn flwyddyn gyffrous. Yn ystod mis Mawrth cychwynwyd y gwaith o adeiladau llwybrau beicio newydd fydd yn addas i ddechreuwyr a rhai sydd am fentro i hyfforddi, ynghyd a datblygiadau pellach yn y ganolfan feicio. Bydd y datblygiadau yn tanlinellu ein statws fel un o ganolfannau beicio lawr allt gorau’r wlad.

Rydym hefyd yn awyddus i gydweithio ac ail edrych ar botensial datblygu llwybr beicio a cherdded Llyn Tanygrisiau a datblygu'r hen reilffordd rhwng y Blaenau a Thrawsfynydd er lles y gymuned.

Y Cribau a chaffi'r ganolfan feicio. Llun- Paul W
Rydym am greu cyfleoedd a mentrau o’r newydd drwy gefnogi a chryfhau rhwydweithiau lleol drwy Gwmni Cymunedol Bro Ffestiniog a chydweithio pan’ fo cyfle efo asiantaethau a busnesau preifat y Fro sydd yn gweithredu ac wedi gwreiddio yn ein cymuned.

Yn ddiweddar mae’r Antur wedi derbyn trosglwyddiad eiddo gan Gwmni Cymunedol Adwy ac felly mae gwerth yr asedau y mae Antur ‘Stiniog wedi llwyddo trosglwyddo i berchnogaeth gymunedol oddeutu £1.4m. Rydym wedi cynhyrfu efo potensial i ddefnydd cymunedol o’r adeiladau yma ac yn awyddus i rannu syniadau ar ddatblygu'r eiddo er lles yr ardal. Sut y cawn ni eu gwarchod yn llwyddiannus ar gyfer y dyfodol tra ar yr un pryd cael y gwerth cymdeithasol gorau o’u defnyddio heddiw? Rydym am wrando ac ymateb i ddeheuad a gofynion ein cymuned.

Bellach mae’r sector cyhoeddus yn crebachu, buddsoddiad cyfalaf preifat allanol yn cilio a bydd datblygu diwydiant trwm a’r cryfder economaidd cymharol a ddaeth i’r Blaenau a’r fro yn ei sgil yn anodd yw ail-greu i’r dyfodol. Mae’n holl bwysig felly ein bod ni yn unigolion, yn fentrau a busnesau'r dref yn gweithredu ar y cyd. Beth am gefnogi ein gilydd wrth feithrin ysbryd o fentergarwch cymunedol a datblygu cynlluniau o fudd economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol?
Mae’n ddyletswydd arnom i sicrhau dyfodol ffyniannus i’n hieuenctid a’n bro.

Bellach mae sawl galwad o gyfeiriadau gwahanol am strategaeth datblygu economaidd ystyrlon ar gyfer gogledd orllewin Cymru. Bu ffocws y drefn sydd ohoni ar ddenu cwmnïau cyfalaf mawr i’r rhanbarth ond erbyn hyn mae cydnabyddiaeth yn tyfu fod angen cynllun newydd i sicrhau ffyniant ein cymunedau a datblygu ymateb lleol i’r heriau. Mae methiannau datblygu economaidd y gorffennol wedi gadael ein cymuned ymysg y tlotaf yn economaidd yn Ewrop a hynny er bod yr ardal wedi, ac yn dal i greu cyfoeth anferthol ym meysydd megis ynni a thwristiaeth.

Teg gofyn y cwestiwn; Lle mae’r holl gyfoeth yma’n mynd?

Rydym wedi hen arfer dechrau wrth ein traed yma, ac mae nifer yn edrych eto tuag at y fro i rannu gwersi ac am ysbrydoliaeth ym maes datblygu mentrau cymunedol. Rydym eisoes mewn trafodaethau efo cymunedau Nantlle ac Ogwen i ddysgu oddiwrth ein gilydd a rhannu syniadau ac ymarfer da.

Yng nghanol yr holl lymder, mae arwyddion calonogol wrth i rwydwaith Cwmni Bro Ffestiniog rhyddhau astudiaeth yn ddiweddar yn nodi bod mentrau a busnesau cymunedol y Fro bellach yn cyflogi dros 150 o drigolion lleol ac yn cyfrannu dros £1.5miliwn i’r economi leol. Credwn fod modd adeiladau ar y llwyddiant yma efo cyd-weithio a chefnogaeth briodol gan yr Awdurdod Lleol a’r Llywodraeth.

Wrth weithio efo’n gilydd mae atebion gwahanol yn bosib ac mae angen i ni gyd-weithio a rhoi mynegiant i hyn.
Mae’r atebion gennym ni bobl Bro Ffestiniog.
Rhaid chwalu’r ffiniau anweledig sy’n ein rhwystro ni rhag ymddiried yn llawn yn ein gilydd.

Dim ond un cynhwysyn ym mara brith Bro Ffestiniog ydi menter Antur Stiniog. Heddiw yn fwy nag erioed, mae’r cyfrifoldeb am ein dyfodol yn ein dwylo ni ac mae yma gyfle i gyd-greu dyfodol gwell. Credwn yn gryf mai dim ond drwy gyd-weithio a rhannu’r un weledigaeth, partneriaethau a chefnogi ein gilydd mi fyddwn i’n llwyddo.

Os am wybod fwy am ein gwaith, rhannu syniadau  yna dewch draw Siop am banad, ffoniwch 01766 832 214 neu e-bost elin@anturstiniog.com



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon