24.3.19

Trafod Tictacs -Ceri Roberts

Colofn newydd yn holi rhai o sêr a hoelion wyth chwaraeon Bro Stiniog, gan gychwyn efo Ceri Roberts, rheolwr/hyfforddwr tîm pêl-droed Amaturiaid y Blaenau.

Llongyfarchiadau mawr ar eich llwyddiant hyd yn hyn y tymor yma. Er gwaetha’r enw, does ‘na ddim byd yn amaturaidd am drefniadau ac agwedd y tîm ar hyn o bryd: Be ydi’r gyfrinach?
Yn gynta’ diolch o galon i chi, Llafar Bro, am eich cefnogaeth ffyddlon ers y diwrnod cyntaf un. Dim cyfrinach rîli! Trefn, cysondeb a thrio gwneud pob dim mor broffesiynol ac sy’n bosib dwi’n credu sydd wedi bod yn allweddol. Ychwanegu gwaith caled at y 3 peth yna, a dwi’n credu gall llwyddiant ddilyn yn naturiol.

Ceri. Llun- Alwyn Jones
Pan ti ddim yn hyfforddi a chwarae, be ti’n wneud o ddydd i ddydd? Rho ychydig o dy hanes peldroedio hyd yma hefyd.
Er bod yna rhan o bob dydd yn mynd tuag at ddatblygu’r clwb mewn un ffordd neu’r llall, athro Addysg Gorfforol a Diffoddwr Tân rhan amser, yma ym Mlaenau ydw i’n gwneud am fywoliaeth o ddydd i ddydd. O ran yr ochr pêl-droed, rwyf yn dod o deulu pêl-droedio (Bolton Cafe), a dwi wedi llwyddo i ennill sawl tlws efo’r Amaturiaid fel chwaraewr yn y gorffennol, yn cynnwys curo’r ‘dwbwl’ ddwywaith. Mae cyn glybiau eraill yn cynnwys Wolverhampton Wanderers, Porthmadog, Llanrwst a’r Bermo.



Be ydi’r uchafbwyntiau’r tymor hyd yma; oes yna gêm neu gôl neu ddigwyddiad yn sefyll allan?
Mae hi’n anodd dewis un uchafbwynt neu ddigwyddiad - ond yr un sydd yn sefyll allan yw’r fuddugoliaeth oddi-cartref i dîm Mochdre Sports, nôl ym mis Awst. Roedd y sgôr yn 3-2 i Fochdre gyda munudau yn weddill, ond llwyddodd yr ‘ogia i ddod oddi ar y cae gyda’r tri phwynt. Dwi’n credu bod y fuddugoliaeth honno wedi rhoi hyder i gredu bod hi’n bosib curo unrhyw dîm y tymor hwn.

Ar ôl treulio llawer o’r tymor ar frig adran 2 Cynghrair Undebol y gogledd, sut mae cadw traed pawb ar y ddaear wrth baratoi at weddill y tymor?
Gêm ar y tro!! Dyna’r neges ers y gêm gyntaf un tymor yma! Trin pob gêm fel ffeinal, a chwarae teg i’r hogia’ maen nhw wedi gwneud hynny.

Roedd y record cartra’ wedi bod yn ddi-guro ers Ebrill y llynedd cyn colli adra yn erbyn Bae Cinmel ganol Ionawr, sut oedd yr ysbryd yn y ‘stafall newid wedyn?
Wrth gwrs roedd yr hogia’n siomedig, ond beth sydd yn dda tymor yma ydi pob tro rydym wedi colli gêm yn y gynghrair rydym wedi llwyddo i ymateb yn y ffordd gywir, a choelio yn ein gallu ein hunain pob tro.

Wythnos wedyn –mewn gêm gwpan yn erbyn Llangefni, arweinwyr adran 1-  roedd perfformiad y Blaenau yn arbennig.  Er colli (ar ôl amser ychwanegol a chiciau o’r smotyn),  oeddech chi’n rhannu barn y cefnogwyr  nad oes angen ofni neb yn adran 1 os caiff yr Amaturiaid ddyrchafiad tymor nesa’?
O safbwynt personol, roedd y teimlad o fynd a Llangefni’r holl ffordd i giciau o’r smotyn yn deimlad o falchder enfawr. Canlyniad a pherfformiad sy’n profi pa mor bell rydym wedi dod mewn cyfnod byr. Gallwn nawr 'mond datblygu’n bellach, sydd yn profi fod nad oes angen ofni unrhyw wrthwynebwyr, boed yn y gynghrair yma neu’n uwch!

Mae’r cae yn edrych yn ardderchog ar hyn o bryd, a Cae Clyd ymysg lleoliadau pêl-droed mwyaf trawiadol Cymru efo’r Moelwynion a Manod Bach yn gefndir, pa gaeau eraill ydych chi wrth eich boddau’n ymweld â nhw?
Does dim ond un dyn i ddiolch am safon y cae - a Bynsan ydi hwnnw! Mae’r oriau o lafur, ym mhob tywydd ar fwy neu lai budget o geiniogau yn anhygoel!! Mae o’n un o fil - ac fel clwb byddwn am byth mewn dyled iddo am ei holl lafur a’i garedigrwydd. O safbwynt personol, roeddwn wrth fy modd yn chwarae ar Y Traeth, yn enwedig pan roedd hi’n gêm rhwng yr Amaturiaid a Porthmadog.

Cae Clyd. Llun- Paul W
Mae wedi bod yn bleser gwylio’r gemau ar Gae Clyd, a’r dorf wedi cynyddu wrthi’r tîm fynd o nerth i nerth. Mae Blaenau’n denu mwy o gefnogwyr na phawb arall yn yr adran (a’r rhan fwya’ o’r timau yn adran 1 o ran hynny!) Sut beth ydi cael cefnogaeth dda, a faint o hwb ydi o i berfformiad yr hogia?
Mae’n deimlad braf iawn gweld pobl ‘Stiniog yn disgyn yn ôl mewn cariad gyda phêl-droed lleol. Mae hi wedi bod yn amser hir iawn ers i ni weld cefnogaeth o’r fath yma ym Mlaenau, ac nid yn unig yn ystod gemau cartref ond y nifer sydd yn teithio i gemau oddi-cartref hefyd. Y cefnogwyr yn aml sydd yn rhoi’r hwb sydd ei angen arnom i guro gêm, felly rydym yn werthfawrogol iawn o’ch cefnogaeth!

Dwi’n cofio dilyn tîm llwyddianus y Blaenau yn yr 80au, ond ychydig iawn o’r chwaraewyr oedd yn lleol. Mae gwylio criw o hogia lleol, Cymraeg,  yn brafiach o lawer. Pa mor bwysig ydi datblygu pêl-droed ar bob lefal yn y gymuned?
Mae datblygu a chodi safon pêl-droed yma yn y Blaenau yn holl bwysig i ddyfodol y clwb. Bellach mae yna gyfle i blant o’r oedran 6 oed i fyny at oedolion (ar wahân i grŵp oedran dan 14)  i chwarae a hyfforddi’n wythnosol yma. Rydym yn cael ein adnabod fel ardal sydd yn cynhyrchu pêl-droedwyr o’r safon uchaf yma yn ‘Stiniog, ond y nod nawr yw cadw’r talentau hyn  i gynhyrchiol ein clwb ni, yn hytrach nag arwyddo i glybiau ein cymdogion.

Dwi’n siwr bod timau eraill yn gwylio llond dwrn o chwaraewyr yr Amaturiaid ar hyn o bryd, ac mae’n amhosib gweld bai ar chwaraewyr talentog sydd isio mynd ymlaen i chwarae ar y lefal ucha’ posib,  ond sut mae cadw’r sêr ar y llyfrau?
Mynd yn ôl i’r cwestiwn diwethaf, mae cadw talent leol yn flaenoriaeth bellach. Y gobaith yw cael ddyrchafiad i Adran 1 tymor nesa, felly drwy chwarae ar safon uwch y gobaith yw bod y temtasiwn i chwaraewyr symud i glybiau yn lleihau, ond petai yna gyfle i un ohonynt chwarae ar safon uwch ac i ddatblygu eu gêm, ni fuaswn yn gwrthod y cyfle yna i unrhyw un ohonynt.

Pwy yn y byd pêl-droed –yn chwaraewyr neu’n hyfforddwyr- ydi dy arwyr di?
Alex Ferguson, Gwilym ‘Penial’ (Taid!)  a Ronaldo (Brasil!)

Mae ambell beth fel gwerthu Tocyn Tymor a chael cwmniau lleol a chefnogwyr i noddi chwaraewyr wedi llwyddo i godi pres yn tymhorau diweddar; oes yna gynlluniau eraill ar y gweill? Sut fedr bobl gyfrannu?
Rydym yn werthfawrogol iawn i’r holl bobl, cwmnïau a chefnogwyr sydd wedi cyfrannu hyd yma. Mae rhedeg clwb pêl-droed yn fusnes drud iawn, sydd efallai yn newyddion i rai. Un o flaenoriaethau'r clwb rwan i’r dyfodol agos yw datblygu cyfleusterau Cae Clyd, er mwyn sicrhau ein bod yn cyrraedd y safonau sydd angen i chwarae yn nhrydedd adran pêl-droed Cymru, erbyn diwedd tymor nesa’.  Felly, y cyfraniad orau gallwn ei ofyn amdano gan y cefnogwyr a’r cwmnïau lleol yw i plîs parhau i gefnogi ni a choelio yn ein prosiect yma ym Mlaenau, sef i ddatblygu’r clwb a’i symud ymlaen.

Diolch yn fawr a phob lwc am weddill y tymor. “Rhowch hél iddyn nhw!”
PW
--------------------------

Ymddangosodd fersiwn fyrrach o'r uchod yn rhifyn Chwefror 2012.



1 comment:

  1. Anonymous24/4/19 17:59

    Da iawn hogia, erthygl gwych... llongyfarchiada am y tymor

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon