Derbyniodd Brian Roberts, (Brei Bach), Blaenau Ffestiniog, dlws ‘Gyrrwr y Flwyddyn’ wedi tymor llwyddiannus yn cystadlu yn y ‘Classic VW Cup’, y llynedd. Aeth Brei draw i Westy’r Hilton yn Watford ar Ragfyr y 3ydd i dderbyn y gwpan ar y Noson Wobrwyo, diwedd tymor.
Dechrau digon cymysglyd a gafodd wrth iddo fethu’r ras gyntaf ac felly wastad yn trio dal i fyny. Er hyn, llwyddodd i wneud argraff yn gyson. Gorffennodd yn 10fed yn Brands Hatch ar ôl gorfod cychwyn yng nghefn y grid. Methodd rhagbrofion weithiau am resymau technegol gyda’r car, ond dal i lwyddo i gael ei enwi fel ‘Gyrrwr Gorau’r Dydd’.
Y gallu i gael canlyniadau da, wrth orffen yn gyson yn y chwech uchaf, a alluogodd Brei i guro’r gwpan. Y gobaith am y gorffennol iddo yw cystadlu eto yn y gystadleuaeth hon a hefyd ym Mhencampwriaeth Cymru. Gobeithia’i hefyd rasio mewn un neu ddau o rasus ‘endurance’ o 3 neu 6 awr fel rhan o dîm.
Mae’r car ym Mryste ar hyn o bryd yn cael ei drwsio yn dilyn damwain yn Caldwell Park ond disgwylir iddo fod yn barod erbyn y tymor newydd. Cofiwch brynu Llafar Bro i gael y canlyniadau!
Cyn hynny, mae amser cyffrous iawn o flaen Brei wedi iddo dderbyn gwahoddiad i fynd i Norwy i gystadlu fel gyrrwr bobsled tîm Prydain yn y 2019 IBSF Para Bobsleigh World Cup.
BREI'N EI BOBSLED
Llwyddod Brei ymuno â thîm para-bobsled Prydain ym mhencampwriaeth Cwpan y Byd eleni, cystadlu mewn dwy ras. Er nad oedd erioed wedi eistedd mewn bobsled o’r blaen, mae’n llwyddo i wneud argraff ar y llwyfan fwyaf.
Rydym oll yn yr ardal yn ymwybodol fod Brei wedi colli defnydd ei goesau ers blynyddoedd bellach yn dilyn damwain beic modur dychrynllyd ond gan ei fod rŵan yn rasio ceir, mae ei gorff wedi hen arfer gyda’r straen mae bobsled yn ei greu ar y corff.
Brei a'r Ddraig Goch ar ei helmed. (Hawlfraint llun IBSF) |
Nid aeth popeth fel y gobeithiwyd chwaith gan fod ei helmed wedi bod yn stemio’i fyny wrth rasio. “Roedd hyn yn niwsans”, meddai, “mae’r corneli’n cyrraedd mewn fflach ac mae angen llygaid barcud arnoch”. Doedd hyn heb ddigwydd iddo ynghynt ond roedd hi’n oerach yma na ble buon yn ymarfer yn flaenorol. Er hyn, gorffennodd yn 15fed ar ôl y rhediad cyntaf. Ni chafwyd gymaint o drafferth gyda’r stemio ar yr ail rediad a llwyddodd i orffen yn 11eg. Roedd cyfuniad ei amseroedd yn golygu ei fod wedi gorffen yn 13eg allan o 22, ymdrech dda iawn ar ei ddiwrnod cyntaf.
“Roeddwn yn amau bysa’r sled yn gallu mynd ynghynt felly bu’m yn gweithio’n galed yn sandio’r llafnau at y dydd Sul yn dilyn namau a gafwyd arnynt ar rew caled y Sadwrn”.
Gwnaeth hyn wahaniaeth pendant wrth iddo fod y 7fed cyflymaf ar rediad cyntaf y Sul. Yn anffodus bu ei helmed yn stemio’i fyny eto erbyn corneli gwaelod ei ail rediad a gorffennodd yn 14eg. Cyfuniad yr amseroedd yn ei osod yn y 12fed safle. Ymdrech dda iawn wir ac roedd Brei wedi ei blesio gyda hyn.
Ymlaen wedyn i’r ras nesaf yn Oberhof yn yr Almaen. Cwrs anodd iawn meddai Brei ac roedd y gyrwyr eraill i gyd wedi cystadlu arno o’r blaen.
“Siomedig iawn oedd y cyntaf ond llwyddais i orffen yn 11eg ar yr ail”. Cyfuniad amseroedd yn ei roi yn yr 15fed safle. “Dwi’n hapus iawn efo’n natblygiad hyd yma”, meddai, “roedd y cwrs yn un anodd a llwyddodd i ddal allan ambell ddreifar mwy profiadol na mi. Dwi ‘di dysgu lot fawr yma”.
Daeth tymor cyntaf pencampwriaeth Cwpan y Byd i ben yn St. Moritz-Celerina yn y Swistir ganol Chwefror. Bu perfformiad cadarn arall ganddo wrth iddo orffen yn 12fed wedi rhediad y Sadwrn a 13eg ar y Sul.
Nid yw’r tîm yn cael ei ariannu felly mae’n rhaid i Brei dalu costau ei hun. Llwyddodd i dderbyn ychydig o gymorth noddedig tuag at St. Moritz ond mae’r costau yn aruthrol ac yn anffodus nid oedd yn bosib cystadlu yn Lake Placid yn yr Unol Daleithiau
Y gobaith rwan ydi parhau i gynilo fel y gallai rasio eto'r tymor nesa.
Dymunai'r Llafar bob llwyddiant iddo. Cofiwch fynd i'w dudalen gweplyfr/facebook i gael yr hanes i gyd a sut gallwch wneud cyfraniad.
----------------------------------------
Addaswyd yr uchod o erthyglau a ymddangosodd yn rhifynnau Ionawr, Chwefror, a Mawrth 2019.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon