31.10.16

Symud Tŷ

Gohebydd Llafar Bro yn holi a gollwyd cyfle yn y nawdegau wrth symud tai Fron Haul i Lanbêr.

Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd i dai teras Fron Haul yn Nhanygrisiau.  Wrth gerdded heibio mi sylwch bod rhifau wedi ymddangos ar bob carreg, bob llechen bob ffenest a drws.  Y gwir yw, y bydd y gwaith yn dechrau yn fuan iawn, i symud pob darn o rifau 1-4 o’r teras o’u safle yn Nhanygrisiau a’u codi garreg wrth garreg yn eu cartref newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.


Mae tai Fron Haul yn enghreifftiau gwych o dai chwarelwyr yng nghymunedau llechi Gwynedd ar anterth y diwydiant tua 1860.  Codwyd y tai tua’r adeg honno, ac mae llawer o nodweddion tai teras o’r fath yn dal i berthyn iddyn nhw.  Yr oedd rhifau 1-4 ar fin cael eu dymchwel gan Gyngor Gwynedd a symudwyd y trigolion olaf i gartrefi mwy clyd a chyfoes.  Bellach fe’u cyflwynwyd i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i’w sicrhau fel rhan o dreftadaeth y fro.

“Mae gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gryn brofiad erbyn hyn o ddiogelu tai ac adeiladau hanesyddol yn arbennig yn Sain Ffagan,” meddai Gerallt Nash, Curadur Adeiladau Hanesyddol a Masnach (gw. llun), sydd yn gyfrifol am y gwaith o nodi pob elfen ar dai Fron Haul, ac unrhyw nodweddion arbennig.

Gwaith paratoi ar rif 2

“Rydym wedi darganfod dull anghyffredin lleol o doi yma, gan blastro oddi tan y llechi.  Pwy a wyr beth arall a ddaw i’r golwg wrth inni dynnu’r waliau a’r lloriau.”

Mae Mared Sutherland, Swyddog Ymchwil yn Sain Ffagan, wedi dod o hyd i enwau pob unigolyn a theulu a fu’n byw yn y tai ers eu codi y ganrif ddiwethaf, a’r bwriad yw eu haddasu yn Llanberis i gynrychioli cyfnodau pwysig yn hanes y diwydiant llechi.

“Bydd un o’r tai yn cael ei ddodrefnu fel y byddai tŷ chwarelwr a’i deulu ym 1860,” meddai Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, “Mi fydd yr ail yn union fel tŷ ym Methesda ar adeg y streic fawr ym 1901, ac fe fydd y trydydd fel tŷ ym 1969.  Mi fydd y pedwerydd yn llawn o weithgareddau i alluogi plant a’u rhieni i werthfawrogi’n well fywydau y chwarelwyr, eu gwragedd a’u plant.

Tydi o’n drueni na fyddai rhywun efo gweledigaeth wedi cynnig hyn yn brosiect treftadaeth yn y Blaenau (yn arbennig rwan fod y Gloddfa wedi cau fel atyniad, efo bythynod y chwarelwyr yno bron yn union yr un syniad a chynlluniau Fron Haul).  Oni fyddai safle’r Ring Newydd wedi bod yn ddelfrydo?

Beth am inni gyd ysgrifennu at yr amgueddfa i’w llongyfarch ar eu gwaith, ond erfyn arnynt i gadw elfen o Danygrisiau yn rhai 1 a 4; i gadw enw’r stryd; ac hefyd ei wneud yn amlwg o ble daeth y rhes ar eu hysbysfyrddau.
-------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.


29.10.16

Haf yr Ewros

Ifor Glyn yn cymharu dau ddigwyddiad gwahanol iawn dros yr haf.
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd, ar thema Ewropeaidd.


Pan fyddaf yn meddwl am yr haf, mae nifer o ddigwyddiadau yn dod i’r cof bob blwyddyn. Ar ddiwedd Mai bydd Eisteddfod yr Urdd yn cyhoeddi bod yr haf wedi cyrraedd ac yna yn cael ei dilyn gan sawl digwyddiad blynyddol sy’n siapio’r haf yng Nghymru … Steddfod Llangollen (er i mi ‘rioed fod yno); Sioe Fawr Llanelwedd; Glastonbury ar y teledu (rhy hen bellach i gael mynd); yr Eisteddfod Genedlaethol; ac yn fwy diweddar Gwyl Rhif 6 Portmeirion. Yna diwedd yr haf yn cael ei gyhoeddi gyda’r ysgolion yn ail ddechra.

Bob blwyddyn byddwn yn trafod yr un pethau… mae hi’n rhy boeth, yn rhy wlyb, gormod o ymwelwyr ar y ffyrdd, dim byd o werth ar y teledu -ac fel ‘leni trafod canlyniadau band neu gôr o Blaenau yn yr Eisteddfod. I fod yn onest does gen i ddim diddordeb mewn canu corawl na band pres – ond dros fy nigon clywed am lwyddiant unrhywun o Blaenau. Da iawn.

Tymor yr haf ydi fy ffefryn heb ddwywaith – crys t a shorts, hufen iâ, ffenestri ar agor, lan môr, barbiciw ac yn y blaen. Mae na batrwm reit gyfforddus i’r haf pob blwyddyn. Ond chydig iawn a glywais o drafod y rhain flwyddyn yma.

Dwi’n ystyried fy hun yn berson eitha positif, yn berson gobeithiol ac yn berson sy’n gweld ei wydr yn hanner llawn nid hanner gwag - ond leni ‘dwi wedi gweld y gwydriad yn hollol sych, ac yn gorlifo mewn mater o ychydig wythnosau.

Sioc fyddai’r gair cynta i ddisgrifio sut oeddwyn yn teimlo ar fore Mehefin 24ain o glywed canlyniad refferendwm Ewrop – ac yn bendant doeddwn i ddim ar fy mhen fy hun. Roeddwn wedi mynd i fy ngwely y noson gynt wedi i raglen newyddion gyhoeddi bydd y bleidlais i aros yn trechu – er yn agos.

Clywad manylion drannoeth am y llanast ar y radio ar y ffordd i’r gwaith; gallwn deimlo’n stumog (ac mae gen i stumog fawr!) yn suddo i fy sgidia ac anobaith yn llenwi’r car. Roedd gen i ffasiwn gywilydd bod Cymru wedi pleidleisio i adael, i ymbellhau ein hunain o wledydd eraill Ewrop; i wirioneddol neilltuo ein hunain …… ynysu go iawn.

Mae Cymru wedi bod yn un o’r gwledydd sydd wedi elwa fwya drwy Ewrop (a hynny’n haeddianol) a does ond rhaid i chi deithio o amgylch gorllewin Cymru a chymoedd y de i weld y fflagiau a’r placardiau sy’n dynodi cynlluniau wedi eu hariannu gan Ewrop. Bois bach, dwi’n gobeithio’n fawr nad ydi pobl yn credu bydd llywodraeth Llundain yn parhau hefo’r un lefel o fuddsoddi yn yr ardaloedd yma. Maent yn barod wedi tynnu ‘nôl addewidion yng nghylch y gwasanaeth iechyd a gwneith wynab newydd prif wenidog Llundain ddim gwahaniaeth.

Mi roedd hi’n ymgyrch fudur filain ac yn un a ganolbwyntiodd ar ofnau pobl, efo cam-arwain a ‘ffeithiau’ celwyddog ac yn anffodus dewis credu hynny wnaeth yr etholwyr. Ymgyrch eitha fflat gafwyd gan y rhai oedd am aros i mewn, ac er y diffyg arweiniad mae rhaid i ni gyd ofyn faint o ymdrech wnaethom NI i gymryd rhan. Mae gen i gywilydd mai poster yn y ffenast a thrafod ar Facebook oedd maint fy nghyfraniad i.  Gwers i’w dysgu.

Wel dyna’r gwydriad gwag i chi ond diolch i’r drefn bu’r gwydriad yn gorlifo heb fod yn rhy hir wedi’r refferendwm.   O un Euros i Euros arall oedd yn llawer mwy ysbroledig a wir anhygoel.

Pwy fydda’n credu y byddai tîm cenedlaethol pêl droed Cymru wedi creu y fath storm yn Ewro 2016, gyda’u sgiliau anisgwyl; chwaraewyr gyda chymeriad; chwaraewyr yn chwara fel un tîm; tîm hyfforddi prowd a brwdfrydig, ac yn bwysicach na dim i mi –eu balchder o chwarae a chynrychioli Cymru. Mi roedd yn brofiad emosiynol iawn, yn brofiad anhygoel cael teimo’n rhan o’r holl ŵyl o adra, yn arbennig o gael gweld cymaint o deulu a chefnogwyr o Blaenau allan yna yn mwynhau ac yn lysgenhadon bendigedig i’w bro. Cofio gweiddi gweld fy nai ar Match of the Day.


Mi gododd Euro 2016 galon Cymru gan greu cynhwrf a brwdfrydedd o'r de i’r gogledd a dangos ein balchder fel cenedl. Tra fod y chwarae wedi bod yn anhygoel ac yn llawer mwy na fydda r’un ohonom wedi ei obeithio amdano;  yn bwysicach mae wedi creu diddordeb yn y gêm, yn ein tîm cenedlaethol ac wedi creu balchder.

Do fe gafodd y chwaraewyr a’r tim hyfforddi groeso haeddianol ac arbenning yn ôl yng Nghaerdydd – a phetai i fyny i fi, mi fyddwn wedi rhoi y gadair, y goron a’r fedal lenyddiaeth iddynt yn y ‘steddfod hefyd!

‘Mlaen i gwpan y byd rwan.
---------------------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.



27.10.16

Y Dref Werdd -clymau chwithig


Brwydro yn erbyn y rhywogaethau ymledol 
Rydych wedi hen weld newyddion y Dref Werdd gyda’r gwaith rydan yn ei wneud gyda’r Rhododendron ponticum yn yr ardal dros y flwyddyn ddiwethaf. Yn y mis i ddau nesaf, bydd gwirfoddolwyr a staff Y Dref Werdd yn mynd ati i daclo rhywogaeth arall sydd yn bla yn yr ardal, sef clymlys Japan neu llysiau’r dial (Japanese knotweed).

Mae’r planhigyn yma yn hoff o ardal ‘Stiniog, yn enwedig ar lannau’r afonydd sydd gennym yma. Mae’n gallu achosi nifer o broblemau os yw’r planhigyn yn tyfu wrth ymyl eich eiddo gyda sawl unigolyn wedi cael trafferth fawr gyda gwerthiant eu tŷ, rheswm digon cryf i ni fynd ati i wneud rhywbeth yn ei gylch, er mor hir bydd y gwaith yn ei gymryd.

Buom yn cerdded glannau afon Barlwyd, Cwmorthin, Bowydd a Dubach yn ddiweddar ac wedi synnu cymaint ohono sy’n tagu’r llefydd pwysig yma. Rydan wedi bod wrthi dros y flwyddyn ddiwethaf, ac yn wir ers i’r Dref Werdd gychwyn ôl yn 2006, yn glanhau’r afonydd o sbwriel gyda’r gymuned, a'n bwriad yw diogelu ein cynefinoedd, felly mae’r afonydd yn holl bwysig.

Sut goblyn ydan am fynd ati i wneud y fath waith? Wel, mae hynny yn broses eithaf hir sydd yn golygu cerdded o dop yr afonydd ble mae’r llysiau’r dial yn cychwyn a chwistrellu pob coesyn y planhigyn gyda chwynladdwr. Bydd rhaid gwneud y gwaith yma ar hyd pob troedfedd o’r afonydd a mynd nôl am o leiaf dwy flynedd wedi’r driniaeth gyntaf!!

Rydan yn gobeithio gwneud hyn gyda gwirfoddolwyr ble fydd cyfle iddynt ddysgu sut i wneud y gwaith yn ogystal â pham rydan yn ei wneud. Felly, os oes diddordeb gennych chi i gymryd rhan yn y gwaith, cofiwch gysylltu.


Yn ogystal â’r llysiau’r dial, mae’r gwaith gyda’r Rhododendron yn parhau ar safle chwarel Llechwedd - joban digon mawr yn wir, ond mae Llechwedd wedi cynnig i bob gwirfoddolwr a fydd yn helpu gyda’r gwaith i gael cinio am ddim yn y caffi yno a hefyd taith yn eu hogofau os oes diddordeb ganddyn nhw! Felly, gwyliwch allan am y cyfleoedd yma hefyd yn y misoedd nesaf.

Os hoffech fwy o fanylion am y gwaith yma, cysylltwch gyda thîm Y Dref Werdd.

Clwb Cae Bryn Coed
Byrlymu ‘mlaen mae’r gwaith o greu dôl flodau gwylltion. Mae grŵp o wirfoddolwyr, sydd wedi bod yn gwneud gwaith cynnal a chadw ar y cae ar y Sul cyntaf o’r mis drwy’r haf, bellach wedi derbyn hyfforddiant pladurio gan Lee Oliver o Cadw’n Cymru’n Daclus. Bydd set o bladuriau yn cael eu harchebu ar gyfer y grŵp i barhau gyda’r gwaith gan roi cyfle i fwy o bobl cael tro’n profi’r grefft draddodiadol hon. Y cam nesaf yw crafu haen uchaf y tir a phlannu.

Gallwch wirfoddoli am ran o’r amser, yn eich amser chi eich hun neu dewch i ddweud helo! Mae Clwb Cae Bryn Coed yn cael ei drefnu gan y Dref Werdd, Cymdeithas Welliannau Llan Ffestiniog a Grŵp Cynefin, a hoffent glywed gennych gydag unrhyw syniadau neu argymhellion ynglŷn â’r datblygiadau . Ymunwch â’r grŵp ‘Clwb Cae Bryn Coed’ ar Facebook am y newyddion diweddaraf. Hyd yn hyn mae 179 awr wirfoddol wedi cael ei gofnodi - cyflawniad cymunedol gwych!

Am fwy o wybodaeth cysylltwch efo Dan o’r Dref Werdd: daniel@drefwerdd.cymru  (01766 830082) neu Caren o Grŵp Cynefin: caren.jones@grwpcynefin.org (01766 762511). Mae creu’r ddôl a’r hyfforddiant / offer cysylltiedig yn rhan o gynllun ‘Buzz Naturiol’ Cadw Cymru’n Daclus a ariennir gan Lywodraeth Cymru.-------------------------------------------

Ymddangosodd yn rhifyn Medi 2016. Dilynwch hynt Y Dref Werdd efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Lluniau Gwydion ap Wynn.

25.10.16

Rhod y Rhigymwr -Pwy sydd isio papur newydd?

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Medi 2016
 

Yng ngholofn Gorffennaf, nodais i Eisteddfod Genedlaethol y Fenni (1913) fod yn un ‘gartrefol’. Profwyd gwres croeso trigolion Sir Fynwy a’r Cyffiniau eto yn 2016, a do, fe gafwyd Eisteddfod gartrefol arall yn y fangre ddymunol hon.

Ar y Sadwrn cynta’, daeth llwyddiant am y trydydd tro o’r bron i Seindorf yr Oakeley dan arweiniad meistrolgar John Glyn. Yna, ar y Sadwrn olaf, profodd Côr y Brythoniaid y wefr o gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Meibion. Llongyfarchiadau iddyn’ hwythau hefyd a’u harweinydd gweithgar, John Eifion. Ar y dydd Llun, cafodd Elain Rhys Iorwerth, Tyddyn Sais, Trawsfynydd y drydedd wobr ar yr unawd cerdd dant i blant dan 12 oed – da iawn ti, Elain! Ac yn y maes llenyddol, cawsom glywed un arall o ardal ‘Llafar Bro’ yn traddodi’n huawdl ar gerddi cystadleuaeth y goron.  Llongyfarchiadau gwresog i Siân Northey.

Dwi'n mynd o steddfod i steddfod... Llun- Paul W

Tafoli cystadleuthau’r Adran Alawon Gwerin oedd fy nhasg i y tro hwn. Er i mi gael y fraint o feirniadu’n yr Adran Cerdd Dant deirgwaith o’r blaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma’r tro cyntaf i mi gael gwahoddiad i’r adran werin, a rhaid cyfaddef i mi gael yr un pleser yn gwrando ar y cyflwyniadau yma.

Yr un a roes y wefr fwyaf i mi oedd Emyr Lloyd Jones o’r Bontnewydd, enillydd y wobr i unawdwyr gwerin o 16 i 21 oed. Daeth dros ugain o fechgyn a merched ifanc i’r rhagbrawf ar y pnawn Llun. Y dasg i’r merched oedd cyflwyno’r gân hyfryd ‘Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn,’ ac i’r bechgyn, ‘Ym Mhontypridd mae nghariad.’

Mae’n debyg mai o ardal Llansannan y tarddodd y gân ‘Mil Harddach’, ac a gofnodwyd gan Jennie Williams o ganu Thomas Jones, Llannor, ger Pwllheli. Mae’r pennill cynta’n draddodiadol, ond un o wŷr y Blaenau piau’r tri phennill sy’n dilyn, sef, y diweddar Brifardd ac Archdderwydd R. Bryn Williams.

‘Mam’ a  geir yn y gân yn ‘canu i’w baban bach’, ac i’m cyd-feirniad, Jennifer Clarke a minnau, disgwyliem weld y datgeinwyr yn canu ‘i’r babi’ yn hytrach nag ‘am y babi’:

Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn,
Na’r rhosyn coch ar ael y bryn,
Na’r alarch balch yn nofio’r llyn,
Fy maban bach.


Mor swynol yw dy chwerthin mwyn
Na chân y fronfraith yn y llwyn,
Na murmur môr o ben y twyn,
Fy maban bach.


Mwy annwyl wyt na’r oenig gwyn,
Na’r blodau tlws ar ochrau’r bryn,
Na dawnsio heulwen ar y llyn,
Fy maban bach.


Mil gwell gen i nag aur y byd
Yw gweld dy wenau yn dy grud,
Fy ffortiwn wyt, a gwyn fy myd,
Fy maban bach.


Gofynnwyd i’r datgeiniaid gyflwyno ‘cân gyferbyniol’ i’r rhai a osodwyd. ‘Pwy sydd Isio Papur Newydd?’ oedd dewis Emyr, ac yn wir, fe dynnodd y lle i lawr efo’i gyflwyniad. Gwelir y gân yng nghyfrol deyrnged y traddodiad gwerin i Merêd a Phyllis – ‘Ffylantin-tw!’ (golygydd Robin Huw Bowen ... Gorffennaf 2012):

Pwy sydd isio papur newydd?
Dim ond ceiniog ydyw’r gost!
Y ‘Morning Mail’ a’r ‘Daily Courier’,
Y ‘London Times’ a’r ‘Daily Post!’
Papur heddiw, bore heddiw,
Sôn am ryfel wrth y ddôr!
A’r newyddion o’r Cyfandir
Gyda mellten dan y môr.
Newyddion gwlad, newyddion tre’ –
O Benmaenmawr i dir y De.


Y ‘Liverpool’, ‘Manchester’,
‘Birmingham’, ‘London’ Pepars!


Pwy sydd isio ‘Baner Cymru’,
O Gaergybi i Gaerdydd?
‘Llais y Wlad’ sydd yn cyhoeddi
Hedd a rhyddid Cymru fydd.
Yn ‘Yr Herald’ borau heddiw
Mae ‘na hanes ryfedd sôn
Am ryw helynt eisteddfodol,
O Sir Fynwy i Sir Fôn.
Y ‘Western Mail!’ Lle ceir eu gwell?
Newyddion da o Tseina bell.


Dyma’r ‘Courier’ olaf heddiw;
Gwerthaf hwnnw, doed a ddêl.
Mae’r newyddion diweddara’
Heddiw yn y ‘Morning Mail’.
Y ‘Morning Mail!’ Y ‘Morning Mail!’
Papur heddiw, bore heddiw
Cyn yr elo’r trên i ffwrdd,
A’r newyddion o’r Cyfandir
Cyn bod brecwast ar y bwrdd!
Newyddion gwlad, newyddion tre’ –
O Benmaenmawr i dir y De.


Y ‘Liverpool’, ‘Manchester’,
‘Birmingham’, ‘London’ Pepars!


Os ydych am glywed y gân anfarwol yma, mynnwch gopi fory nesa’ o ‘Ffylantin-tw!’ Cewch gryno-ddisg o’r holl ganeuon – llyfr cynhwysfawr a disg am ddim ond £20 namyn ceiniog – bargen! [Cyhoeddiadau SAIN, Llandwrog]

Pob hwyl!    -IM
--------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

23.10.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -dros y parapet, o dan y tir...

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Yn rhifyn 2il Medi 1916 o'r Rhedegydd cyhoeddwyd ail ran o lith y Capten Evan Jones, Rhosydd, am ei brofiadau yn y twnelau dan ffosydd yr Almaenwyr. Disgrifia'r gynnau mawrion yn cael eu tanio gan y ddwy ochr, a'r paratoadau oedd ar y gweill:
‘Gwelais amser na byddai wiw i neb ddangos ei big mewn unrhyw fan yn y trenches yma rhag cael profi plwm y German...Dilynwyd y tanbelennau ym mhell i'r dydd ar y 30ain (Mehefin), ac yr oedd ein tanbelennau ni yn arswydus erbyn hyn, dim ond mwg a llaid yn esgyn i'r awyr, a phawb yn holi, "Pa bryd yr eir dros y Parapet tybed?"  Ddeg o'r gloch y nos dyma'r gair i lawr y trenches "Advance tommorrow 7.30 a.m". Yr oedd y mines i gael ei chwythu i fyny dri munud yn flaenorol i hyny’.
Cafwyd adroddiad byr am rai o'r mwynwyr lleol yn dod adref am egwyl o'r ymladd, yn yr Herald Cymraeg ar 5 Medi.
'Ein mwynwyr sydd wedi cael dyfod adref am ychydig o orffwys o danddaearolion bethau Ffrainc, ac yn wir edrych yn dda iawn. Bum yn sgwrsio â dau ohonynt, sef Robert Morris, Plas Weunydd Lodge, a David Joseph Jones, Bryn Bowydd. Dymunwn iddynt hwythau bob nodded ac amddiffyniad ar eu dychweliad.'
Evan Jones. Gweler ddolen isod*
Yr wythnos ddilynol, dan bennawd 'Gwaith y Meinars yn Ffrainc', cafwyd mwy o hanes Evan Jones a'i uned o fwynwyr Stiniog. Wrth gychwyn gyda'r is-bennawd 'Y Noswaith Cyn y Frwydr', dyma ddywed y Capten:
'Noswaith i'w chofio oedd hon. Yr oedd y bechgyn yn canu am ddyfodiad y dydd; a'r ymddiddan a glywid yn mhobman oedd "Bore fory amdani. Mi gaiff yr Hun rywbeth i'w gofio amdano yfory..."'
Aiff ymlaen i ddisgrifio'r tensiwn a fodolai wrth aros am yr awr dyngedfennol honno, gan athronyddu yn ei fodd arferol ei hun am y rhesymau dros frwydro. Yna dan y geiriau 'Bore'r Frwydr' cafwyd yr wybodaeth fod pob dyn i 'fod yn ei le' cyn 6 o'r gloch y bore, y dydd cyntaf o Orffennaf.
‘Yr oedd pob gwn o'r eiddom gyda holl egni ein cyflegwyr ni a'r Ffrancod i arllwysu shells i rengoedd blaenaf y gelyn o 6 tan 7.30, Bendith i yspryd oedd gweled y bechgyn yn paratoi tan ganu yng nghanol rhyferthwy y shellio di-dor...Am 6.15, yr oedd cymaint o shells yn yr awyr fel yr oedd dyn yn gofyn iddo ei hun pa fodd y gallent basio eu gilydd. Erbyn hyn yr oedd ein hawyrennau yn ehedeg dros linellau y gelyn.’
Aethai Evan ymlaen i ddisgrifio saethu diddiwedd y gynnau mawrion, a'r dinistr a grëwyd ganddynt. Dywedodd sut y bu i garfan o'r Almaenwyr dorri drwodd i safle'r mwynwyr, ond iddynt gael eu herlid oddiyno gan fechgyn 'Stiniog yn chwifio'u coesau caib arnynt. Disgrifiodd sut y bu i ysgarmes ffyrnig ddigwydd am tua deng munud, gydag wyth o'r milwyr Almaeneg gael eu lladd, ac i un gael ei gymryd yn garcharor: Gadawn i Gapten Evan Jones ddweud gweddill y stori:
'Cafodd hwn gynnig ar un neu ddau beth, gydag eiliad o amser i benderfynu, sef ei wneyd yn analluog i wasanaethu y Kaiser neu ddod i ddangos eu mines. Dewisodd yr olaf,  fel y gwna llawer ohonynt, pan y daw yn fater personol. Yn yr ysgarmes hon y clwyfwyd dau o fy mechgyn, sef Sapper John Thomas a Corporal Thomas W. Owen, gan un o'r rhai oedd wedi eu gadael yn fyw yn y Dugouts... Rhoddwyd cyfle fwy nag unwaith i'r gelyn roi eu hunain i fyny, ond ni wnâi, ac o'r diwedd bu raid gyrru twll 10 modfedd i lawr i goed y Dugouts, yn yr hwn y rhoddwyd 50 pwys o bylor, a chwythwyd y lle i mewn... Ar doriad y dydd aethom a miloedd o bwysi o bylor yn barod i chwythu penau'r shafftydd, dwy o ba rai oedd yn 136 troedfedd o ddyfnder o wyneb y tir...
Y diwrnod canlynol, dilynais y cables yn ol ar hyd y 'communication trench' hyd y daethum o hyd i Petrol Engine, a Dynamo, ac yn ystod y bore cawsom dair ohonynt a 'Fitting Shop' mwy compact na dim a geir yn chwareli Ffestiniog...Cyrhaeddodd y bechgyn hyd Montaban dydd Sadwrn. Aethom yno brydnawn Sul ond yr oedd y bechgyn erbyn hyn mewn brwydr galed yn Bernafy Wood. Yr oedd yn 5 o'r gloch y prydnawn pan aethum allan o'r trench a dyna'r cyfle cyntaf a gefais i dynnu oddi am danaf er noson 21ain.

Ychwanegodd y golygydd y geiriau canlynol i gau llith Evan Jones am y tro:
'Dyna fel yr adroddodd Capt. Evan Jones hanes y dyddiau cofiadwy a roes gychwyniad i'r "push" mawr ymosodol sydd yn awr yn para i fynd ymlaen. Gwelir eu bod yn llawn o gyffro ac anturiaeth; a bod ein bechgyn yn haeddu edmygedd am eu dewrder a'u gwaith. Mae lle i ofid am fod rhai ohonynt wedi eu clwyfo; ond y mae llawer mwy o le i ryfeddu a diolch eu bod wedi dod trwyddi gystal ac ystyried mor enbyd oedd yr ymgyrch.'
------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Catrawd y Meinars
[Pabi gan Lleucu Gwenllian]

21.10.16

Bonjour Blaenau

Erthygl gan Sharon Jones, am fyw yn Ffrainc, a phwysigrwydd teimlo’n rhan o gymuned. 
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd yn trafod ein perthynas efo Ewrop.


Pan ddeffrais ar y 24ain o Fehefin a chlywed bod pobol Prydain wedi pleidleisio i fynd allan o’r Undeb Ewropeaidd mi wnes i grio. Yn wreiddiol o’r Blaenau,  mi wnes i symud i Ffrainc pan gafodd Rhodri, fy ngŵr, swydd yn CERN ger Genefa.

Antur dwy flynedd oedd hi i fod ond ugain mlynedd a phedair o genod yn ddiweddarach ac rydym yn dal yn byw yn Thoiry, pentref yng ngorllewin Ffrainc. Mae’r ardal fach yma o Ffrainc yn ryngwladol iawn gan ei fod yn agos i Genefa, ble mae pencadlys Ewropeaidd y Cenhedloedd Unedig, pencadlys Sefydliad Iechyd y Byd, CERN, y Groes Goch a sawl cwmni byd eang.

Un o’r pethau cyntaf wnes i ar ôl symud i Ffrainc oedd cael gwersi Ffrangeg. Yn tyfu fyny yn y Blaenau roedd gas gen i’r mewnfudwyr di-Gymraeg nad oedd yn gwneud unrhyw ymdrech i ddysgu’r iaith, nid oeddwn i am fod yn un o rheiny yn Ffrainc. Yn y flwyddyn gyntaf felly, un o fy amcanion oedd gallu cyfathrebu o ddydd i ddydd yn Ffrangeg. Erbyn hyn dwi eithaf rhugl fy Ffrangeg ond nid yw hyn yn golygu ‘mod i wedi colli fy Nghymraeg.

Cymraeg yw iaith y cartref, a’r iaith mae’r plant yn siarad rhyngddynt. Mae’r blynyddoedd o weiddi “Pa iaith yn y tŷ ferched?” wedi talu! Yn ogystal a’r Gymraeg mae’r merched yn rhugl yn Ffrangeg a Saesneg a’r ddwy hynaf yn dysgu Sbaeneg a Tseinïaidd yn yr ysgol. Yn Thoiry mae’n naturiol i gwrdd â theuluoedd ble mae sawl iaith yn cael ei siarad ar yr aelwyd, a clywyd cymysgedd eang o ieithoedd tra’n aros am y plant tu allan i’r ysgol.

Mae'n fraint i mi fod gennai erbyn hyn ffrindiau o nifer o wledydd ledled Ewrop. Trwyddyn nhw dwi’n cael golwg ar eu diwylliant a dysgu am wahanol arferion. Wyddoch chi, er enghraifft, taw traddodiad un rhan o’r Almaen yw rhoi torth o fara a phot o halen yn anrheg symyd tŷ? A’i bod yn draddodiad yn Denmarc i ddawnsio rownd y goeden Nadolig ar ôl bwyta Cinio Dolig? Ac mae’r Ffrancwyr yn ysgwyd dwylo neu roi cusan ar foch pawb pan fyddant yn cyrraedd a gadael y gwaith, gall hynny gymryd drwy’r bore os oes lot o gydweithwyr gyda chi!

Fel gallwch ddychmygu mae bwyd yn rhan bwysig o fywyd yma yn Ffrainc. Yn cantîn yr ysgol mae’r plant yn cael 4 cwrs – salad i ddechrau, prif gwrs, caws a phwdin. Ond mae digon o amser ganddynt i’w fwyta gan bod dwy awr o egwyl ganddynt i gael cinio. Dwi wedi cael y fraint o flasu danteithion o sawl gwlad yn Ewrop ac wedi cyflwyno danteithion Cymreig fel cacen gri a bara brith mam i’m ffrindiau. Mae’r “apero” (aperitif) cyn swper bron mor bwysig a’r swper ei hun. Yn wir mae ffrindiau i ni o’r Swisdir wedi cario potel o win a gwydrau i fyny i ben mynydd er mwyn cael yr apero sanctaidd yma cyn picnic! A dros y blynyddoedd mae rhai o’r arferion gwahanol hyn wedi dod yn arferion yn ein teulu bach ni hefyd.

Sharon, Fflur, Rhodri, Bethan, Rhian, ac Eiry (gydag ymddiheuriad i Eiry fod y wasg wedi gollwng ei henw o rifyn Medi)
Un peth sydd wedi bod yn bwysig iawn i mi yw dod yn rhan o’r gymuned yma yn Thoiry. Yn dod o Blaenau ble mae bywyd cymunedol mor gryf, roedd hyn yn rhywbeth yr oeddwn yn fethu yn fawr iawn ar y dechrau. Mi ddwedodd rhywun wrthyf bod y Ffrancwyr fel cneuen coco – tu allan bron yn anhreiddiadwy (h.y. anodd i ddod i adnabod), ond unwaith rydych chi drwy'r gragen galed, mae’r tu fewn yn felys a meddal. Dyna’n wir yw fy mhrofiad i.

I mi mae bod yn rhan o Ewrop yn golygu derbyn a chyd fyw. Os byw mewn gwlad arall yna mae rhaid cydnabod a derbyn y traddodiadau lleol tra’n ceisio cyfrannu i’r gymuned drwy ein cefndir gwahanol ein hunain. Mae gan bawb yr hawl i fod yn wahanol a ni ddylia’r gwahaniaeth hyn gael ei weld fel bygythiad. Yn hytrach fe ddylid ei weld fel rhywbeth sy’n medru cyfoethogi ein bywydau ein hunain.
---------------------------------------------

Ymddangososdd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


19.10.16

Bwrw Golwg -Utica

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl gan W. Arvon Roberts, am rai o ymsefydlwyr cynharaf Utica.

Adeiladwyd dinas Utica, Sir Oneida, yn un o fannau prydferthaf canolbarth Talaith Efrog Newydd, ar lan ddeheuol yr Afon Mohawk a 96 milltir o Albany, prifddinas y dalaith.  Roedd yn nodedig oherwydd ei bod yn iachusol a dymunol am nifer o resymau fel cartref i fyw ynddi.  

Mae’n siwr bod enw Utica yn fwy adnabyddus i’r Cymry Cymraeg yng Nghymru ac America nac unrhyw ddinas arall yr ymsefydlodd y Cymry ynddi yn yr Unol Daleithiau.  Enw’r gymdogaeth ar y dechrau oedd Fort Schuyler ar ôl y milwr Peter Schuyler (1657-1724), ac ystyr yr enw Utica ydi “o amgylch y bryn”.  Ychydig o Gymry oedd yn byw yno cyn y Chwyldro. 

Yr arferiad gan yr ymfudwyr cyntaf fyddai glanio yn Philadelphia cyn symud ymlaen i gymdogaethau Utica, ac nid rhyw daith fechan oedd honno y pryd hynny.  Roedd yr ychydig ffyrdd a oedd ar agor yn anodd iawn eu tramwyo, yn enwedig ar gychwyn a diwedd blwyddyn.  Teithient am wyth i ddeng niwrnod o Albany i Utica a phe dewisiai rhai o’r Cymry fynd i fryniau Steuben, byddai’n rhaid iddynt gysgu noson neu ddwy dan y coed cyn cyrraedd pen eu taith.  Yna, byddai’n rhaid dilyn y ffyrdd culion ac anwastad drwy’r coedwigoedd a’r anialwch, tra bo eraill yn dewis mynd gyda’r badau ar hyd Afon Mohawk. 

Roedd y wlad yn y cyfnod cynnar hwnnw yn newydd a gwyllt.  Ceid llawer o gorsydd gwlyb a dŵr llonydd mewn mannau yn nyffryn Mohawk, a dioddefai’r teithwyr dieithr yn aml o glefydau a gwahanol fathau o afiechydon.  Ymddengys mai gwlad iachus i fyw ynddi oedd yn bennaf mewn golwg gan yr hen sefydlwyr, yn hytrach na gwlad fras, ac un felly a gawsont.

Ymsefydlodd y Cymry cyntaf yno yn 1800 ac ambell un cyn hynny.  Yn Mawrth, 1795, hwyliodd deuddeng o deuluoedd o Gymru a chyrhaeddont Efrog Newydd ar ôl mordaith o bedair wythnos ar ddeg.  Wedi ychydig o seibiant yn Efrog Newydd gadawodd pump o’r teuluoedd hynny y ddinas ar eu taith i Utica.  Tŷ ffrâm ac wyth neu ddeg o dai cyffion oedd yn Utica bryd hynny.  Ar ôl teithio y fath bellter, a mynd trwy lawer o rwystrau ar eu taith ac yna cyrraedd Utica, byddai’r ychydig feddiant oedd ganddynt erbyn hynny wedi diflannu.  Y canlyniad oedd bod y meibion yn aml yn gorfod gadael eu gwragedd a’u plant i ofalu am y cabanau, tra’r aent hwy ymaith am dymor i weithio, er mwyn ennill i gynnal y teulu.  Pris y tiroedd yn 1860 oedd £20 i £25 yr erw.

Y llyfr Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yn Utica oedd ‘Pigion o Emynau, Perthynol i Addoliad Eglwysig a Theuluaidd’ (Mai, 1808) dan olygiaeth y Parch Daniel Morris.  O 1841 ymlaen hyd ddechrau yr ugeinfed ganrif daeth Utica yn brif canolfan cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. 

Llun o gasgliad yr awdur
Adeiladodd y Cymry bedwar capel yno:  Capel y Bedyddwyr (1801-99), Bethesda (A) (1802-1963), Moreia (M.C.) (1830-1988) a Capel Wesla (1850-1918).  Roedd Utica yn nodedig am ei heisteddfodau, beirdd, cerddorion a’i llenorion.

Ymysg rhai o sefydlwyr cynnar Utica oedd y rhai canlynol:

CHARLES, Robert (1820-1849) o Ffestiniog.  Ymfudodd yn 1849.

GRIFFITHS, Mrs. Laura (1814-1887) o Faentwrog.  Priod Daniel Griffiths ers 1838.

HUGHES, Mrs. Ann (1788-1862) o Drawsfynydd.  Merch Evan Griffiths a Margaret Williams; priod Robert Hughes, Llanuwchllyn.  Priodont yn 1810, ac ymfudont yn 1852.

JONES, Mrs. Ellen (1814-1897), o Buarthbrwynog, Trawsfynydd.  Merch i Evan a Gwen Roberts, a priod i David Lewis.  Ymfudont yn 1843.

OWENS, Miss Elizabeth (m) Gorffennaf 14, 1857.  Merch William a Margaret Owens, Tŷ Nant, Maentwrog.  Roedd yn 19 mlwydd oed.  Ymfudodd gyda’i brawd ym mis Ebrill 1857.

OWENS, Mrs Laura (1812 - Ionawr 4, 1872), merch i Lewis a Mary Cadwaladr, Brynteg, Trawsfynydd, a priod John Owens.  Ymfudodd o Ffestiniog tua 1860, ac ymsefydlodd yn Fairhaven, Vermont, ac ar ôl hynny yn Trenton, Bridgewater (lle bu ei phriod farw),  Symudodd ar ôl hynny i Utica, (lle bu ei mab, Owen J. Owens farw).

PARRY John  (1851-1864) o Ffestiniog, mab Robert a Laura Parry.

WILLIAMS, Mrs Margaret (1788-1866).  Priod Roland Williams, Treuliodd ei hoes boreuol yn Nhrawsfynydd, ac yna bu yn Llanuwchllyn am bedair blynedd, a 48 o flynyddoedd yn Utica.  Roedd yn fam i bump o blant.  Bu dau ohonynt farw o’i blaen.  Bu’n aelod yn Penystryd, Trawsfynydd.

WILLIAMS, William (1788-1867) gynt o Pandy Dwyryd, Maentwrog.  Mab i Rowland ac Anne.  Ymfudodd yn 1824.
------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


17.10.16

Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt

Llyfr Newydd Steffan ab Owain

Pwy well na Steffan i wneud y gymwynas o gyhoeddi cyfrol ar dermau, idiomau a dywediadau ein gwlad? Gyda’i brofiad helaeth o chwilio, a darganfod y cyfoeth o ymadroddion sy’n rhan ohonom fel cenedl, roedd yn hen bryd iddo osod y cyfan i lawr ar ddu a gwyn.

Canlyniad blynyddoedd o wrando, sylwi, a phori trwy dudalennau lu o hen gyhoeddiadau o’r dyddiau fu yw’r gyfrol. Mae nifer fawr o’r dyfyniadau yn hollol ddieithr i mi, ac yn agoriad llygaid. Chlywais i erioed am y geiriau tymogau, sgols cilciau, cŷn cena, nac am fath o fwyd o’r enw siencyn esmwyth.

Wyddoch chi beth yw ystyr oen llathen, bustach milltir, neu haldiwario? Beth am y dywediadau fel het a llewys arni, neu ffwl-ffala? Ymhle yn eu cartref fyddai’r hen Gymry’n gosod dic y daliwr a Siôn segur? Be ydi, neu oedd twca bach Trawsfynydd a timpan foresg?

Wedi ei osod ar ffurf penodau yn trafod o ‘Rhwydo geiriau’; ‘Amaeth, diwydiant a chrefft’; ‘Hen bethau anghofiedig’; i ‘Enwau lleoedd’, ymysg nifer o destunau difyr eraill, mae’r gwaith yn destament i ddyfalbarhad Steff dros y blynyddoedd.

Wrth drafod ystyron y geiriau ‘car gwyllt’ a ‘Heth Bob Roberts’ aiff yr awdur i fanylu’n ddifyr amdanynt. Yn ei ddull dihafal ei hun, aiff ati i esbonio i’r darllenwyr pam y dewisiwyd y geiriau disgrifiadol hynny. A hynny, yn ei dro, yn sicrhau bod ychydig mwy o hanesion ac ymadroddion ein bro wedi eu cofnodi am byth.

Wedi gafael yn y gyfrol, anodd oedd ei roi i lawr, mor ddiddorol ei gynnwys. Mae’n llyfr i gyfeirio ato’n aml, wrth geisio chwilio am air neu ddyfyniad anarferol; prawf eto o gyfraniad gwerthfawr Steffan i lên-gwerin ein cenedl.

Diolch am lyfr hynod ddifyr, Steff. Gyda llaw, ydych chi’n gwybod be’ mae pobl Penmachno’n galw moch coed (pine cones)?  Prynwch y gyfrol, a chwi a gewch yr ateb!

Adolygiad gan Vivian Parry Williams.

Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt.
Geiriau a Dywediadau Diddorol. Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad.
Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.
Steffan ab Owain

15.10.16

Breuddwyd Bordeaux -cyn y gêm

Y cyntaf o dri darn gan Dewi Prysor am ddyddiau cyntaf antur fawr Ewro 2016, ac effaith amlygrwydd y Gymraeg ar sut mae’r byd, a ninnau, yn gweld Cymru a Chymreictod. 
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd.

Pêl-droed, Cymru a'r Gymraeg
Byw Breuddwyd yn Bordeaux.

Wedi aros dwy noson yn Nantes mi gafodd fy nhrên i Bordeaux ei ganslo oherwydd streic, ond mi gês i drên arall awr a hannar yn hwyrach, oedd yn cyrraedd Bordeaux am tua hannar awr wedi saith ar fin nos. Erbyn i mi gael goriada’r apartment, setlo i mewn, piciad i’r siop i stocio fyny ar ‘hanfodions,’ a disgyn i gysgu wrth watsiad Ffrainc v Rwmania ar y bocs, doedd hi’m yn bell o hannar nos (amsar nhw) erbyn i fi’i throi hi am allan.

Mi oedd y dafarn gynta gyrhaeddis i reit dros ffordd i’r Fan Zone (yr agosa fuas i unrhyw un o’r rheiny), ac yn llawn o grysau cochion oedd yn gorlifo i’r stryd tu allan, lle’r oedd bar bach ar olwynion yn gwerthu peintia Heineken ar y pafin. Wedi codi peint, mi darrais fewn i ffrind o ochrau Port. Roedd yna hogia o Gaerdydd efo fo, ac un ohonyn nhw bellach wedi byw yn Denmarc ers blynyddoedd lawer. Mi oedd hwnnw dan deimlad oherwydd yr achlysur (a’r cwrw), ac yn emosiynol iawn. Mi fyddai ’na gryn dipyn o gefnogwyr selog Cymru’n cael un o’r munudau hynny dros y dyddiau nesaf, ond roedd mwy na’r achlysur wedi cyffwrdd y cyfaill o Ddenmarc.

Dewi a rhai o griw Stiniog yn mwynhau'r 'ambience' Ffrengig

Yn Gymro balch a gwladgarol (fel mae dilynwyr tîm pêl-droed Cymru), roedd o’n torri ei galon wrth egluro i mi fod ei blant, oedd wedi eu magu yn Denmarc, yn ddwyieithog – ond nad oedd y Gymraeg yn un o’r ddwy iaith. Roedd o’n teimlo i’r byw ynghylch hynny, ac roedd ganddo gywilydd nad oedd o’n gallu siarad Cymraeg ei hun, ac o’r herwydd, heb allu pasio’r iaith ymlaen i’w blant. Doedd o ddim y dyn dros ei chwe troedfadd o hyd a lled cynta imi’i weld yn crio i mewn i’w beint, a fyddai o mo’r Cymro olaf i mi ei weld yn crio dagrau o falchder dros yr wythnosau nesaf. A fyddai o ddim yr unig Gymro di-Gymraeg fyddai’n chwalu i ddagrau wrth fynegi ei falchder yn yr iaith, a’r sylweddoliad o ba mor amlwg ydi ei lle yn ein hunaniaeth genedlaethol.

Cymeriad arall fuas i’n siarad efo tu allan y bar cynta hwn oedd yr hen gradur ’na fuodd ar y newyddion adra (ac yn Ffrainc, am wn i) – y boi oedd yn dilyn tîm Cymru ar draws Ffrainc dan gysgu’n ryff mewn parciau ac ar strydoedd. Dwi’n meddwl mai Cymraeg oedd o’n siarad efo fi, ond fedra i ddim bod gant y cant yn siwr, achos ro’n i’n cael traffarth ei ddallt o. Roedd o wedi cael un neu ddau yn ormod, ac oni bai am y ‘wheelie bin’ yr oedd o’n bwyso arno fo wrth siarad efo fi, fysa fo wedi disgyn. Roedd o’n gwisgo jaced a trwsus oedd yn batrwm o faneri draig coch, a het ddraig goch, steil cap stabal, ar ei ben. Roedd ganddo wallt gwyllt a locsan lwyd, flêr, a sbectol (os dwi’n cofio’n iawn), ac roedd hoel haul ac awyr iach yn dew ar groen ei wyneb. Dyn difyr iawn i weld, er na ches i fawr o synnwyr ganddo, ac er ei fod o’n trio’i orau i fod yn synhwyrol. Ar y pryd, doedd genai’m syniad ei fod o’n cysgu’n ryff ar ei daith. Mi welis i o lawar gwaith yn y gemau, ac yn stesion drên Lille un diwrnod, hefyd, ond ges i mo’r cyfla i gael sgwrs iawn efo fo. Biti.

Tu allan y bar yma, hefyd, welis i’r faner ‘Many Tribes One Nation’ am y tro cyntaf. Baner Cymru anferth oedd hi, wedi ei gosod ar ddarn o darpŵli gwyn. Ar y tarpŵli, uwchben y faner, roedd y geiriau ‘Together Stronger’ ac o dan y faner, ‘Many Tribes, One Nation’. Arni, hefyd, oedd bathodynau’r pedwar prif dîm pêl-droed yng Nghymru – Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Casnewydd. Y syniad oedd atgyfnerthu’r teimlad diweddar o undod rhwng cefnogwyr y pedwar tîm – a phob tîm arall yng Nghymru – ac anghofio am yr hen elyniaethau unwaith ac am byth. Roedd gan berchenog y faner feiro a ffelt pen i bobl arwyddo’r faner i fynegi’u cefnogaeth – ond erbyn i fi fynd i roi fy enw arni, roedd o wedi colli’r feiro a’r ffelt pen. Mi welis i’r faner eto yn Bordeaux, ond ches i’m cyfle i’w harwyddo tan gêm Toulouse. Erbyn hynny mi oedd ’na gannoedd o enwau arni.

Mae gen i lawar o atgofion hynod – rhai melys a rhai gwallgo a swreal – o’r pum noson yr arhosis i yn Bordeaux. Ond mi wna i ganolbwyntio ar y pêl-droed a phrydferthwch perffaith yr achlysur arbennig hwn – dyddiau cyntaf yr antur fawr, pan hudodd ffans Cymru Ffrainc gyfan, ac y disgynnodd yr holl wlad mewn cariad efo ni, ac efo Cymru. Dyma pryd y gwthiwyd ein gwlad fach, ei hiaith a’i chefnogwyr hwyliog, meddw, gwallgo a chyfeillgar i amlygrwydd rhyngwladol. Y dyddiau a nosweithiau pan gofleidiodd y Ffrancwyr ni a’n cymryd i’w calonnau – a ninnau hwythau hefyd. Dyma pryd oedd y Cymry ar y newyddion (am y rhesymau iawn) bob nos, y tafarnwyr yn ein canmol i’r cymylau, a hyd yn oed yr heddlu yn mynd ar y teledu yn un swydd i ddatgan pa mor “ffantastig” oeddan ni!

Roedd hyn i gyd yn wrthgyferbyniad llwyr i’r clipiau newyddion o Marseille, lle’r oedd elfennau mwyaf afiach cefnogwyr Lloegr yn rhedeg reiat ac yn cwffio efo’r trigolion lleol (cyn cael chwip dîn iawn gan y Rwsiaid!). Yn syth, mi welodd Ffrainc a’r byd pa mor wahanol oeddan ni i’r Saeson. Ac wedi i ni guro Slofacia, pryd y gwyliodd miliynau o bobl y môr o gefnogwyr a’u cannoedd o faneri, yn bloeddio canu Hen Wlad fy Nhadau ar y teledu, roedd lle anrhydeddus Cymru (a ninnau’r cefnogwyr) yn Neuadd Fawr chwedloniaeth pêl-droed rhyngwladol wedi ei gadw hyd dragwyddoldeb.

Mwya sydyn, Cymru oedd tîm y niwtrals, ac ail dîm pawb, bron – yn enwedig y Ffrancwyr, oedd wir isio i ni gyrraedd y ffeinal i chwarae yn eu herbyn. Roedd baneri Cymru yn ymddangos yn ffenest siopau, bariau a tecawês kebabs ar draws pob dinas lle’r oeddan ni’n chwarae gêm. Roedd unrhyw un mewn crys coch Cymru yn cael croeso wrth gerdded ar fws, neu mewn i unrhyw far neu gaffi.
Goleuwyd Tŵr Eiffel yn lliwiau Cymru am y tro cyntaf wedi’r fuddugoliaeth hon yn Bordeaux, ac o fewn wythnos neu ddwy roedd hi’n bosib gweld plant bach Ffrengig yn gwisgo crysau Cymru ag enw Gareth Bale ar y cefn.
 *  *  *   *

Mae ail bennod hanesion Prysor yn rhifyn Hydref: “...mi wawriodd bore’r gêm yn Bordeaux. Cymru v Slofacia...Cofiwch y dyddiad am byth!
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016. Dilynwch y gyfres Ewropeaidd efo'r ddolen 'Ewrop' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Mae Dewi wrthi’n gweithio ar lyfr newydd fydd yn rhoi mwy o hanes ei deithiau yn dilyn Cymru. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf Rifiera Reu (Y Lolfa, £9.99), restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae dal ar werth.

13.10.16

Drama Ryngwladol

Erthygl arall yn y gyfres Ewropeaidd.

Llongyfarchiadau mawr i Arwel Gruffydd, Tanygrisiau gynt, ar ei benodiad yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru am y pum mlynedd nesaf. Mae Arwel eisoes wedi dal y swydd am bum mlynedd, gan arwain y cwmni trwy gyfnod o newidiadau pellgyrhaeddol o ran gweledigaeth artistig. Yma mae o’n rhannu ychydig o fanylion ei raglen am yr hydref a’r gaeaf.

Cymru a Llydaw
Fis Hydref eleni, roedd y Theatr Genedlaethol yn dychwelyd i’r llwyfan gyda chynhyrchiad amlieithog, Merch yr Eog / Merc’h an Eog. Mae’n gyd-gynhyrchiad efo Teatr Piba, Llydaw, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.

Lleuwen Steffan sydd yn chwarae’r brif ran, ac yn ymuno â hi mae Rhian Morgan a Dyfan Roberts, a thri actor o Lydaw yn cwblhau’r cast. 

Mae'r ddrama, sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges, yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gydweithio â chwmni o dramor ar gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac a fydd yn teithio tair gwlad.



Pan gaiff Mair ei galw adref i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd ynddi. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Llydaw, a’i pherthynas gyda’i chariad, Loeiza. ’Dyw ei bywyd yno erioed wedi teimlo mor bell o gefn gwlad Cymru.  A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog caredig ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd y mae hi wedi bod yn ei geisio?

Wrth gyhoeddi hyn ar y we, dau gyfle sydd ar ôl i weld y ddrama o fewn cyrraedd i Fro ‘Stiniog:
> yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli Nos Wener yma (14eg Hydref),
> ac yn y Galeri, Caernarfon ar Nos Lun y 17eg   (y ddwy noson am 7.30)

-ond mae pob croeso i chi ddod i Lydaw i’n gweld: yn Brieg, Guengamp, Brest, neu Montroulez!

Brenin yr Alban
Hefyd ar y gweill gan y Theatr Genedlaethol, mae cyfieithiad newydd gan y diweddar Gwyn Thomas o glasur Shakespeare, Macbeth, wedi’i gyfarwyddo gan Arwel yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror.

Bydd hyn hefyd yn golygu menter newydd i’r Theatr Genedlaethol, sef darlledu’r ddrama yn fyw ledled Cymru am y tro cynta’.

Byddai’n braf meddwl y gallwn wylio yn Sinema’r Cell
Gobeithio cawn fwy o wybodaeth a hanesion gan Arwel yn y dyfodol agos.
-------------------------------------

Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016. (PW)
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


11.10.16

Mil Harddach Wyt -ffarwel haf

Yn yr ardd
Cyngor amserol gan Eurwyn Roberts, Meithrinfa Blodau'r Felin. 


Yr Ardd Lysiau
Gellir hau letys, y math i sefyll allan yn y gaeaf, yn awr ond mae yn well rhoi rhyw gymaint o gysgod iddynt, fel cloche plastig.

Fel mae y llysiau yn cael eu clirio o'r ardd dechreuwch balu a rhoi hen dail neu gompost yno a'i droi i mewn i'r pridd. . .

Deilbridd -stwff mwya' gwerthfawr yr ardd. Allwch chi fyth gael gormod ohono yn yr hydref. Llun Paul W.

Yr Ardd Flodau
Fel gyda'r llysiau, clirio blodau blynyddol sydd wedi blodeuo yn yr haf. Fforchio dipyn ar y pridd ac ychwanegu gwrtaith fel growmore neu esgyrn, gwaed a physgod, a phlannu ar gyfer cael lliw yn y gwanwyn fel pansis a briallu, a gallwch hefyd blannu bylbiau rwan.

Os oes gennych blanhigion alpaidd bydd angen rhoi cysgod i rai o'r rhain rhag iddynt fynd yn rhy wlyb a defnyddio darn o wydr a'i osod uwchben y planhigion.
Mwcog rhosod yn cadw'r diddordeb yn yr hydref. Llun Paul W.

Os yw y rhosod wedi gorffen blodeuo, eu torri i lawr ychydig ond dim eu tocio. Dylid gwneud hynny yn y gwanwyn - pwrpas hyn yw eu hatal rhag cael eu malu gan wyntoedd yn ystod y gaeaf.

Cofio hefyd blanhigion sydd yn yr ardd ac sydd angen eu cadw mewn lle sydd ddim yn mynd i gael rhew: planhigion fel myniawyd y bugail (Pelargoniums) a choed drops (Fuchias) - eu torri i lawr ychydig a'u rhoi mewn potiau gyda phridd ffres a'u cadw ychydig yn wahanol. Cadw myniawyd y bugail yn sych a rhoi ychydig o ddŵr rwan ac yn y man i'r fuchias.
------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Hydref 2001. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Blog Ar Asgwrn y Graig -lliw a llun yr hydref


9.10.16

Calendr y Cymdeithasau- Hydref/Gaeaf 2016

Un o eitemau sefydlog a phoblogaidd rhifyn Medi bob blwyddyn ydi Calendr y Cymdeithasau, ac roedd yn braf medru ei gynnwys eto eleni, a rhyfeddu mor weithgar a phrysur ydi’r gymuned wych hon. 


Mae nifer o ddigwyddiadau wedi bod rhwng cyhoeddi'r rhifyn a rwan, ond mae digon o bethau ar ôl i edrych ymalen atynt!

Cyffredinol
Hydref 14eg- Cyngerdd yn Neuadd Llan, efo Côr Lliaws Cain a Geraint Roberts. 7.30
Hydref 15fed- Diwrnod Shwmae Sumae! Dechreuwch BOB sgwrs yn Gymraeg
27ain o Dachwedd- Plygain Dalgylch Llafar Bro ar Nos Sul Cynta'r Adfent -  am 7 o'r gloch yng Nghapel y Bowydd. Byddai'n braf cael eitemau o bob un o'r ardaloedd.

Merched y Wawr, Blaenau
Cyfarfod am 7.30 yn y Ganolfan Gymdeithasol.
Hydref: Bywyd Gwyllt Glaslyn.
Tachwedd: y Dref Werdd.
Rhagfyr: Cinio Nadolig.
Ionawr: Tri Lle.
Chwefror: Menna Medi.

Y Fainc Sglodion
Sylwer (newid amser):  Y cyfarfodydd i gychwyn am 7 o’r gloch.
Tachwedd 3ydd- John Dilwyn Williams. Llanystumdwy yn ystod plentyndod Lloyd George.
Rhagfyr 1af- Meg Ellis. Creu Academia – Dwy Ochr i’r Geiniog?
Chwefror 2il- Yr Athro Andrew Evans. Ail-gynnau fflamau Cenedlaetholdeb farwaidd? Ail-werthuso Mudiad Gweriniaethol Cymru c.1949-1959
Mawrth 2ail- Tecwyn Ifan. Y Stori tu ôl i’r Gân, (Noson ddathlu Gŵyl Dewi)
Ebrill 6ed- Yr Athro A. Deri Tomos. Dechrau a Datblygiad Bywyd ar y Ddaear
Tocyn aelodaeth £6 (mynediad i unrhyw ddarlith heb docyn £1.00)

Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog
Pob cyfarfod yn Neuadd y WI, am 7.15 Croeso i bawb!
Hydref 19- Byw ar y fferm (rhan 2). Rhian Williams
Tachwedd 16- Archaeoleg Cwmorthin. William Jones
Ionawr 18- Hanes cynnar Rheilffordd Ffestiniog. Steffan ab Owain

Cymdeithas Hanes Bro Cynfal
Cyfarfod nos Fercher gyntaf y mis am 7 o’r gloch.  Dowch atom!
Tachwedd yr 2il- Vivian Parry Williams, ‘Blaenau a’r wasg’.

Fforwm Plas Tanybwlch
Cyfarfodydd i gyd am 7.30 yn y Plas.
Hydref 18 – 'Eglwys Sant Gwyddelan a Daearyddiaeth Ganoloesol Dolwyddelan-
David Ellis Williams
Tachwedd 1 - Sgwrs ar Archaeoleg Diwydiannol Caernarfon –Rhys Mwyn
Tach 15 - Y Rhufeiniaid yn Eryri –John Roberts
Tachwedd 29 – Y Stori tu ȏl i’r Trysor - Vivian Parry Williams
Ionawr 17 – Noson 20 munud –Sgyrsiau amrywiol yng ngofal Harold, Martin a Gareth.
Ionawr 31- Hanes Gwaith Nwy Blaenau Ffestiniog- Iwan Evans
Chwefror 14- Daeareg a Diwydiant -Hywel Madog
Chwefror 28 - "Ces yno ddynion dewrion da - cipolwg ar ddiwydiannau ardal Traws"
-Keith O’Brien
Mawrth 14 - Adeiladu Llongau Porthmadog a’r Cyffiniau - J. Peredur Hughes
Mawrth 28 – Cyfarfod Blynyddol – Cwis gan Bill a Steff
Croeso i aelodau newydd.

Cymdeithas y Gorlan
7 Tachwedd- Calfaria. Steffan ab Owain - Hen Lwybrau'r Fro
5 Rhagfyr– Bowydd. Geraint a Nerys Roberts - Naws y Nadolig
18 Rhagfyr - 6 y.h  - Bowydd. Llith a Charol
25 Rhagfyr - 9 y.h – Bowydd. Cymun bore y Nadolig - Rhian Williams
6 Chwefror – Calfaria. Geraint Vaughan Jones
3 Mawrth - 6.30 y.h – Carmel. Dydd Weddi Byd Eang y Chwiorydd - Meinir Humphries
6 Mawrth – Bethesda. 6.30 y.h: Cyfarfod Blynyddol. 7y.h: Parch. Anita Ephraim
14 Ebrill - 9 y.h – Bethesda. Cymun Bore y Groglith - Rhian Williams

7.10.16

Pant Llwyd

Pennod un o atgofion Laura Davies,  am gymuned unigryw a ffordd o fyw ar gyrion ein bro.

Yn y flwyddyn 2041, os aiff rhywun i’r archifdy i chwilota am hanes trigolion Pant Llwyd ganrif ynghynt, ni chaiff siw na miw o gwbl yno. Y rheswm oedd na chymerwyd ddim cyfrifiad o’r boblogaeth yn 1941, oherwydd y rhyfel byd. O fy nghof felly dyma fi yn ceisio llenwi dipyn bach o’r bwlch am yr amser melys o’r tridegau o Bant Llwyd, gan obeithio fel y canodd T.H.Parry Williams:
Ac os bydd peth o’m defnydd yn y byd
Ar ôl yn rhywle heb ddiflannu’n llwyr
A’i gael gan gyfaill o gyffelyb fryd
Ar siawns wrth odre’r (Moelwyn), mrig yr hwyr
Ni welir arno lun na chynllun chwaith
Dim ond amlinell (lon o’r felys waith). 
Rhyw hanner milltir allan ar gyrion Llan Ffestiniog gwelwn y pentrefyn unigryw yma, ar ochr y ffordd i’r Bala ac Ysbyty Ifan. Tebyg i’r mwyafrif o dai chwarelwyr o gyfnod Fictoria.

Nid twll o le mohono, Pant Llwyd, ond nyth a chrud diwylliant ar lechwedd yn wynebu’r gogledd a holl ogoniant panoramig agored y Moelwyn a’r Manod o’i flaen. Mae yna tua 30 o dai annedd i gyd a’r cwbl bron mewn un rhes. Ar draws y ffordd i’r rhes o dai safai y Capel Bach Methodistaidd a adeiladwyd yn 1905, ond cauwyd o fel capel yn y 1960au. Mae’n dŷ annedd heddiw.

Dechreua Pant Llwyd ar yr allt, gyda Phen Rhiw ar y dde a Llys Owain ar y chwith – nid oedd y tai ar y chwith wrth fyned i fyny y rhiw ddim yn bod hyd yn ddiweddar (1980). Diwedda’r pentre yn Nhan y Bryn yn ymyl Llety Fadog.

Dyma fy amlinelliad i o Bant Llwyd a’i drigolion:

Cyn mynd i’r ysgol cychwynwn o Dŷ’n y Ffridd tua chwarter i wyth y bore, ar ein ‘rownd’ o werthu llaeth-efrith ym Mhant Llwyd. Dafydd a finnau yn cario dau dun dau-alwyn o laeth-efrith a’r hen fesur bach brass hanner peint yn hongian ar ochr y tun.

Mynd heibio Penrhiw ar y dde (ail-adeiladwyd yn y tri degau). Cofiaf fynd yno unwaith, efo dosbarth ysgol, i wrando ar y brenin George y V yn darlledu ar y weiarles, a galw yn Llys Owain (a adeiladwyd tua 1930 gan Owain Williams, Llety Gwilym – tad John James – felly yr enw Llys Owain). Cartref Mr a Mrs Basil Jones (syfewr y sir) a’r teulu, Colin, Jean a’r diweddar Gareth. Gwraig garedig iawn, ac acen y De ganddi, oedd Mrs Jones, “Sid ichi heddi Lore fech” oedd ei chyfarchiad bob bore.

Galw wedyn yn rhif 1 Llain Wen, Cartref Robat Wmffras a’i howscipar Margiad Lewis y Cwm. Un o hen dras Cwm Cynfal oedd yr hen Robat Wmffras (a mwstash mawr ganddo), ac heb ei ail, yn godwr canu yn y Babell am flynyddoedd. Mae gennyf lun o Robat Wmffras wedi ei dynnu yn 1905.

Yn rhif 2 Llain Wen cartrefai Mr a Mrs Owain Edwards, rhieni y diweddar Bobby Lymley, Maggie a Trefor. Mae Trefor yn cadw gwesty moethus yn Tel Aviv. Mi roedd Owain Edwards yn frawd i Miss Fanny Edwards, Penrhyndeudraeth (awdures straeon plant).

Yn rhif 3 arferai fyw Lily (Wilnow, Bryn Llech) a’i gŵr, Evan Edwards (Tŷ’r Cefn – perthynas i mi), ond yn fy amser i, Mrs a Mrs Robert Jones, rhieni Phylis a Dennis a drigai yno. Wedyn yn 1 Bryn Tirion, tŷ Mr a Mrs Walter Davies, mam a thad Kitty Williams, Stryd Dorfil rwan, Defi Wyn a Wali. Collodd Defi Wyn (21 oed) ei fywyd yn yr India 31.1.45, newydd iddo ymuno â’r fyddin, a bu farw Wali yn Awstralia yn 1991. Mr a Mrs Richard Evans (Dic Syl), eu plant, John Francis, Beryl, Jennie a Megan bach (boddodd Megan yn blentyn bach ym Mhont Newydd ger Caernarfon.  Sonia Sera Evans yn fynych am Megan fach gan fod y drychineb ar ei chof drwy ei bywyd).

William Ephraim a Goronwy yn hel gwair
Mr a Mrs William Ephraim* a oedd drws nesa, ni werthais rioed beint o laeth-efrith yno. Cadwent fuwch mewn cae tu ôl i’r tŷ.

Rhywle tu ôl i Fryn Tirion safai lle o’r enw Hofel y Moch er ni chofiwn i am hynny. Rhieni i Gwilym Gruffydd John, Emlyn, Ior (Tyddyn Merched), Goronwy a Nel, oedd Kitty a William Ephraim.

Er nad oeddent yn gwsmeriad i ni andabuem yr hen deulu i gyd. Yn ôl Emrys Evans (Llafar Gwlad rhif 18 tud.20), yma ym Mryn Tirion y ganwyd y cymeriad hynod Jac Llan, yn y flwyddyn 1854.

Y galwad nesa oedd siop ben, Jane Edwards, mam Annie Rosina Lewis (a nain Daniel Lewis), Mrs Catherine Roberts, Manod, a’r diweddar Gruffydd, Elen Arwel a gollodd ei bywyd trwy ddamwain yn yr Unol Daleithiau yn 22 oed yn 1929. Gwraig nobl ag urddasol oedd Jane Edwards a dysgais lawer oddi wrthi’n anuniongyrchol.

Mi roedd hi’n giamstar ar wneud bara ceirch. Byddiai’n pobi yn ddyddiol a gwerthai hwy o gwmpas siopau’r Llan, Manod a’r Blaenau. Arferai gael hanner peint o laeth-efrith yn ddyddiol a chwart ar ddydd Sadwrn. Cyfanswm ei bil hi am yr wythnos oedd swllt a thair, h.y. chwe hanner peint am geiniog a dima, a chwe cheiniog am chwart. Ni thalai byth am y llaeth-efrith gan i minnau gael nwyddau yn gyfnewid – dau bwys o siwgwr gwyn am bump a dima, grôt a dima am chwarter o de, a sebon a phowdwr golchi am bum ceiniog – swllt a thair y cwbwl. Hoffwn y ‘ginger wine’ a werthai.

Yn nhu ôl y siop safai casgen o oel lamp (paraffin) a chasgen fach o finag. Byddai yn gofyn i mi, yn gyfrinachol - ‘gefaist i bres gan hwn a hwn heddiw?’ Prin oedd pres adeg honno – ac mi oeddem yn dwy yn d’allt ein gilydd yn iawn! Rhif chwech Oakley View yw enw’r tŷ heddiw.

Drws nesaf (rhif 7 heddiw) oedd tŷ Mr a Mrs Arthur Ellis a’r teulu. Gweithiai Arthur Elis gyda nhad yn Chwarel y Groes a chynorthwyant ni gyda’r gwaith yn Sofl y Mynydd. Triga Sali’r ferch yno o hyd. Wil yn byw yn Nhrawsfynydd, Edith yn Bolton Cafe, bu farw Meirion a drigai y y Blaenau yn ddiweddar iawn, ac Eurwen yn byw yn Nhalsarnau. Bu farw Lizzie Elin trwy ddamwain a bu farw Catherine a Trevor yn ifanc. Llyfaf fy ngwefusau bob tro y meddyliaf am y gacen gyrins gawn gan Mary Elis!

Mr a Mrs Robert Owen, rhieni Gwynfor, Mair (diweddar), Kitty, Gwilym, a Robert Owen a drigai yn y tŷ nesaf (rhif 8). Mr a Mrs Charles Williams a fudodd drws nesaf (rhif 9), wedi i Owen Alfred fudo yn uwch i fyny; rhai o’i teulu hwy oedd Magi Lisi (bu i’n forwyn fach hefo ni yn Nhyn y Ffridd), Dafydd, Catherine. Mr a Mrs John Davies (Tŷ Isa – Tŷ Maes yn ddiweddarach) oedd drws nesaf. Fel yr hen arferiad, mi roedd llond tŷ o blant yno – rhai ohonynt oedd Nel, Robat Ifor, Idris, Dilys Annie a Maldwyn sydd yn byw yn y Blaenau.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Pennod dau i ddilyn y mis nesaf.

* Atgofion Bore Oes Ellen Ephraim.

5.10.16

Peldroed. 1980 i 1982

Ychydig o hanes y Bêl-droed yn y Blaenau.
Parhau'r gyfres, yng ngofal Vivian Parry Williams (allan o gofnodion y diweddar Ernest Jones).


1980-81

Graham Jones oedd yng ngofal y tîm ym 1980-81 ac fe gyrhaeddwyd ffeinal Cwpan Cookson a rownd derfynol Cwpan Gogledd Cymru, yngyd ag ennill Cwpan Barritt.  Atgyfnerthwyd rhywfaint ar y Gynghrair drwy ymdangosiad Porthaethwy, Fflint a Chaergybi er bod Dyffryn Nantlle wedi ymadael.

Daliai Porthmadog yn fwgan i Stiniog;  methwyd â'u curo yng ngemau'r Gynghrair.  Cysur cefnogwyr y Blaenau, fodd bynnag, oedd i'w tîm orchfygu Port yn mhob un o'r dair gêm cwpan rhwng y clybiau.

Yn y cwpannau mewn gwirionedd y mae edrych am gryfder y Blaenau yn ystadegau 1980-81.  Buont o fewn dwy gêm i chwarae cymaint o gemau cwpan ag a fuont yn chwarae o gemau Cynghrair.  Bae Colwyn â'u curodd yng Nghwpan Cookson, ac i Gei Connah yr aethant allan o Gwpan Cymru.  Yn y gemau Cynghrair collodd y Blaenau ormod o gemau cartref iddynt fod â gobaith am y bencampwriaeth.

Y prif sgoriwr oedd John Griffiths (26 gôl). Bu tri yn chwarae yn y gôl, sef Steve Moss, Mike Keen a Butler.  Record yn hanes y clwb yn 1980-81 oedd bod y tîm wedi chwarae naw gêm cwpan yn olynol drwy Chwefror a Mawrth.  Yn wir, ni bu dim gemau eraill rhwng Ionawr 24 ac Ebrill.

1981-82

O'r diwedd cafodd Stiniog dymor i'w gofio, pryd yr enillwyd y bencampwriaeth unwaith eto.  Roedd eu gorchestion oddi cartref cystal â dim yn hanes y clwb - colli un gêm, a honno ym Mhorthaethwy wedi ennill mewn lleoedd fel Porthmadog, Conwy, Pwllheli, Caernarfon, Caergybi, Rhyl a Bae Colwyn.  Y Fflint a Llandudno oedd y clybiau i ennill ar Gae Clyd.  Hyn oll, wrth gwrs, mewn gemau Cynghrair.

Roedd hi'n Ebrill 12 fed 1982 arnynt yn cael cweir am y tro cyntaf  y tymor hwnnw.  Ffaith nodedig yn eu hanes ym 1981-82 oedd iddynt chwarae gêm ar y Sul.  Rhoisant i mewn am yr un gêm hon yn Llandudno, ond ni fyddent ar unrhyw gyfrif yn caniatau gemau ar y Sul yn y Blaenau.  Gwnaed safiad ar hyn ar hyd y blynyddoedd gan Harry C.Wiliams, Glyn Roberts, Harry Parry a Lewis LL.Jones.  Ar yr un egwyddor gwrthwynebwyd pob ymgais a fu i'r clwb sefydlu clwb trwyddedig.

Cafodd Stiniog yrfa bur ddiddorol yn y cwpannau hefyd.  Mike McBurney (23) Alan William (23) Nick Hencher (16) Chris Marsden (13) oedd y prif sgorwyr, ac fe gafwyd dros gant o goliau am y tro cyntaf ers rhai blynyddoedd.  Chwaraeodd Tony Nantcurvis 40 o weithiau.
------------------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2007,
Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
-----------------------------------

1980 oedd y flwyddyn y sefydlwyd clwb newydd yn y dref. Oherwydd polisi CPD Blaenau Ffestiniog o gyflogi chwaraewyr o ochrau Wrecsam a Lerpwl, creuwyd clwb Amaturiaid y Blaenau, i roi cyfle i hogia' lleol, gan chwarae ar gae Dolawel. 
Parhaodd Ernest Jones i ganolbwyntio'i sylw ar glwb Cae Clyd.
PW

3.10.16

Stolpia -Oriau a Gwerthu Nwyddau

Pennod arall o gyfres reolaidd Steffan ab Owain.

Oriau Gwaith

Yn ystod blynyddoedd cynnar ein diwydiant llechi nid oedd cadw at oriau gwaith swyddogol mewn bodolaeth ac er fod y gwaith yn galetach, roedd gan y chwarelwr fwy o ryddid i fynd a dod o’i waith. Mae’n anodd i ni yn yr oes hon ddychmygu sut y byddai amodau gweithio yn ein chwareli yn oes ein hen deidiau, onid yw?

Pa fodd bynnag, efallai y gwelwn y darlun ychydig yn gliriach o ddarllen yr hyn sydd gan H. Menander Jones i’w ddweud yn ei atgofion am chwareli Nantlle lawer blwyddyn yn ôl, a ysgrifennwyd yn y Genedl Gymreig am 1914:
‘Yr oedd gweithio yr adeg yma a llawer o ryddid yn perthyn iddo, er ei fod yn hwy o ran oriau, ond amser rhydd ydoedd –a byddai neb yn rhedeg a cholli eu gwynt yn y bore, na dianc adref yr hwyr, yn wariog wrth bob cysgod cawnen …..Welais i ddim byd felly yn digwydd……Yr oeddynt yn cael amser i lafurio gartref ar eu tyddynnod o fewn terfynau, heb na choll na gwg stiwart. Mae rhyddid yn dwyn pleser i rwymedigaeth ac yn bywiogi anian dyn gonest yn ei waith. Dyweder a fyner amser difyr oedd hwn i’r rhai a oedd cydwybod gwaith a dyletswydd yn eu llywodraethu.’
Cawn gyfeiriadau at ryddid ein chwarelwyr ninnau yn ‘Stiniog hefyd mewn ambell nodyn yn nyddiadur Samuel Holland am yr 1820au. Dyma gyfieithu enghraifft neu ddwy am ei weithwyr yn Chwarel y Rhiw:
‘Mawrth 7, 1823 – nid oedd yr un dyn yn ei waith heddiw ac eithrio Mr.Griffith, saer. Mae hi’n Ffair Llan heddiw.’ (D.S. Byddai nifer o ffeiriau yn cael eu cynnal yn ystod y flwyddyn yn y Llan ar un adeg. SabO).
Ebrill 7,1824 –  Euthum  i fyny i’r chwarel; roedd y dynion wedi mynd i hela llwynogod’.

Llun -Lleucu G
Y Siop Wen

Ar ddiwedd y paragraff uchod yn erthygl H.M.Jones ychwanega:
‘Yn yr un cyfnod cai masnachwyr ... ryddid i fynd i’r chwareli i ‘Werthu eu Nwyddau’. Yr oedd hynny yn ddigon rhesymol mewn adeg pan yr oedd siopau mor anaml a’r nwyddau’n brin. Yr wyf yn cofio fel y byddai Daniel O’Brien  yn dod i’r chwarel gyda’i Siop Wen
Ystyr ‘siop wen’ yw  sach wen, neu waled wen yn llawn nwyddau,  neu lyfrau efallai a.y.b, ar gyfer eu gwerthu a cherid hi dros ysgwydd y gwerthwr neu ar ei gefn tra mae’n troedio o un man i’r llall.

Gwyddel oedd Daniel, a thaid y Parch. D.O’Brien Owen, Caernarfon (Credaf ei fod yn daid i O.J.Owen, Rhiwbryfdir a Siop Granville hefyd, sef perchennog y Felin Lechi Sgwennu ac awdur ‘Newfoundland yn 1900’). Daeth Daniel trosodd o Iwerddon yn ddyn gweddol ieuanc. Wynebodd y chwarel, a chafodd waith ym Mhenyrorsedd. Nid wyf yn gwybod pa sut weithiwr ydoedd- pa un a’i llac neu gofalus, ond fe adawodd i wagen, drwy ryw anffawd, gael ei thorri.

Gwageni o goed a  fyddai ym mhobman y pryd hynny a rhai hawdd eu torri oeddynt. Achosodd y ddamwain gryn helynt rhyngddo a’r stiwart, am y golled a wnaeth yng ngwerth y wagen. Terfynnodd yr helynt mewn ysbryd go chwerw ac fe roddodd Daniel ei waith i fyny, ac aeth i gario siop wen, gan deimlo y byddai yn ŵr rhydd felly ac yn feistr arno ei hun. Dysgodd Gymraeg yn lled fuan ac yn weddol gywir, heblaw ei lediaith. Daeth yn hoff o’r Cymry, ac yn ei gyfathrach â hwy, fe briododd Gymraes, ac aeth i fyw i Bryndu yn agos i’r Groeslon –os wyf yn gywir, cartref y wraig.

Dywed hefyd beth a fyddai Daniel yn ei werthu pan ddeuai heibio’r chwarel gyda’i siop wen:
‘Ai ar ei union i’r wal, neu y clwt-bras-hollti, a’r baich i lawr, a thaflu’r siop yn agored –“Chi eisio prynu genny fi heddi– a gwerthu rhad iawn i chi”. Byddai ganddo hetiau, capiau, barclotiau (h.y. ffedogau) a llieiniau byrddau, a phob ryw nwydd. Cedwid rhai o’r pethau hyd y dydd hwn, yn goffadwriaeth o’r drefn hon o faelu ar bonciau y chwareli yn gystal ac yn goffadwriaeth barchus am Daniel O’Brien y Gwyddel-Gymro.’
Y mae son am rai a ddeuai i chwareli’r cylch hwn i werthu ambell beth hefyd. Byddai Thomas Edwards, neu ‘Twm Ffeltiwr’fel y’i gelwid gan rai, yn dod heibio’r chwareli  yn ei dro i werthu hetiau a deunydd ffelt. Mewn blwch hir naw troedfedd o hyd wedi ei strapio ar ei gefn y byddai Thomas Edwards yn cario ei hetiau i’r gwahanol leoedd. Nid wyf yn hollol sicr,ond rwyf yn rhyw feddwl bod merched o Benrhyn-deudraeth yn galw yn ein chwareli o dro i dro i werthu cocos hefyd. Ceir hanes rhai yn cael damwain arw pan oeddynt ar eu ffordd adref ar y lein bach yn ‘Atgofion am Danygrisiau’ gan David Owen Hughes- er nad yw’n dweud mai yn y chwarel y buont  yn gwerthu chwaith.

Byddai un yn gwerthu baco yn chwareli Dyffryn Nantlle, sef Robert William, neu ‘Robin y Baco’. Cludai’r baco mewn basged, a baco siag yn unig a fyddai ganddo o hyd ar gyfer y gweithwyr. Cariai lwythi ohono i wahanol rai a hynny yn wythnosol, a byddai wedi ei bwyso yn barod i hanner owns, ownsus, dwy, tair a phedair owns fel byddai’r galw. Wrth gwrs, byddai llawer o’r gweithwyr yn cnoi baco y pryd hynny ond mae’r arferiad hwn wedi mynd heibio yn ardaloedd y chwareli ers blynyddoedd…onid yw?

Tybed, pwy sydd yn cofio rhai yn cnoi baco yn ein chwareli ni yn y Blaenau ‘ma? Os nad wyf yn cyfeiliorni, credaf i mi ddarllen, neu glywed rhywun yn dweud rhywdro, y byddai un gŵr yn dod heibio’n cloddfeydd i werthu ffyn, ffyn cerdded a ffyn ar gyfer stampio tyllau  ebillion ayb. Os digwyddwch chi haneswyr lleol a darllenwyr brwd hen newyddiaduron a chyfnodolion ddod ar draws cyfeiriad at hyn neu rywbeth tebyg iddo, buaswn yn ddiolchgar iawn i gael clywed oddi wrthych.
------------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn rhifyn Gorffennaf 2004.
Dilynwch gyfres Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


1.10.16

Trem yn Ôl -Gwaith Sets eto

Erthygl arall o lyfr 'Pigion Llafar 1975-1999'. Ail hanner erthygl y diweddar Betty Perring.

Gwaith Sets Pengwern, Y Manod
(Parhad)

Gwelsom babell Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chodi yn y cae lle mae ysgol y Manod nawr. Ar y pryd roedd y clwy coch (scarlet fever) o gwmpas a Moira a minnau yn edrych i lawr ar dŷ Leslie Darbyshire yn Nhyddyn Gwyn (roedd y clwy ar Leslie), a'r ddwy ohonom yn poeri deirgwaith i'r  awyr a dweud: 'Gobeithio na ddaw y clwy yn agos i mi na'm teulu'. Ofergoeliaeth? Nid dŵr o gafn gwartheg Tŷ Newydd Ffynnon a'm gwnaeth yn wael.

Wedi bod ar y 'Roman Road ' (meddem ni), llwybr sydd yn arwain o Ffordd Newydd ar draws ffrwd fechan at Lwyncrair, yn chwilio am genau goeg sych (lizard) oeddem. Ond cefais y syched mwyaf  dychrynllyd. Ow! R'on i'n sâl trannoeth; wedyn cur pen, dolur gwddf, brech –y clwy coch, wedyn y croen yn dod i ffwrdd. Twymyn y clwy oedd yn gyfrifol am y syched mae'n debyg.

                         Medal Eisteddfod yr Urdd, Stiniog 1936. Oes gennych chi luniau o'r Ŵyl?    Gyrrwch atom!                               (Llun Tecwyn Vaughan Jones)

Rhoddodd y ddamwain a gefais yng ngwaith sets Pengwern frêc arnaf am sbel. Chwech wythnos yn yr ysbyty, plât arian yn fy nghoes, baglau a graddio i ffon.

Byddai Moira (Rowlands) yn cael dimai gan ambell un am fynd i ddanfon menyn ffres (11 ceiniog neu swllt y pwys fyddai'r pris gan ei mam), a rhyngddom caem ddigon y fynd i Gonglywal i dŷ Nain Cynan Morris a Brenda Stone i gael potel o ddiod dail. Dimai y botel oedd hwnnw os oedd gennych botel a cheiniog os oedd hi'n rhoi potel i chi. Wedyn cychwyn am Lyn Manod trwy Gae Clyd ac yn ôl i lawr ar hyd yr inclêns i'r gwaith sets ac adref. Crwydrem fel hyn cyn bod yn ddeg oed.

Ychydig o hen fatiau wedi eu taflu dros wal fyddai'r ‘camp’ gennym ar yr ochr ar bwys y shŵt ac yna byddai'r criw yn rhoi tatws yn y tân, neu wneud chips (chips oeddynt yr adeg honno, rhyw bethau yn y chwarel oedd sglodion). Cofiaf fwyta rhai gan  bigo'r darnau allan, a coeliwch fi, roedd yna lawer  ohonynt, oblegid doedd dim coed go iawn yn tyfu'n agos i'r gwaith, felly ein tanwydd oedd bonion eithin ac ambell ddraenen ddu.

Er i mi fod yn byseddu'r col-tar, y seimiach, y dŵr carthion, y genau goeg yn y dŵr, cyrff anifeiliaid yn Llyn Top, yfed dŵr gwartheg Tŷ Newydd Ffynnon, rwyf yma o hyd! Efallai fy mod wedi caledu fy nghorff drwy hel germau bob yn dipyn.

Mae'n chwith meddwl fod y man cyfarfod plant y Manod wedi mynd. Mae arnaf hiraeth ar ôl yr hen 'Waith Sets'.
Betty (Lloyd) Perring  
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn Mawrth 1990, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Tachwedd 2013 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl. Darllenwch bennod 1 yr hanes. 


Dilynwch gyfres Trem yn Ôl efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.