Gwaith Sets Pengwern, Y Manod
(Parhad)
Gwelsom babell Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd yn cael ei chodi yn y cae lle mae ysgol y Manod nawr. Ar y pryd roedd y clwy coch (scarlet fever) o gwmpas a Moira a minnau yn edrych i lawr ar dŷ Leslie Darbyshire yn Nhyddyn Gwyn (roedd y clwy ar Leslie), a'r ddwy ohonom yn poeri deirgwaith i'r awyr a dweud: 'Gobeithio na ddaw y clwy yn agos i mi na'm teulu'. Ofergoeliaeth? Nid dŵr o gafn gwartheg Tŷ Newydd Ffynnon a'm gwnaeth yn wael.
Wedi bod ar y 'Roman Road ' (meddem ni), llwybr sydd yn arwain o Ffordd Newydd ar draws ffrwd fechan at Lwyncrair, yn chwilio am genau goeg sych (lizard) oeddem. Ond cefais y syched mwyaf dychrynllyd. Ow! R'on i'n sâl trannoeth; wedyn cur pen, dolur gwddf, brech –y clwy coch, wedyn y croen yn dod i ffwrdd. Twymyn y clwy oedd yn gyfrifol am y syched mae'n debyg.
Medal Eisteddfod yr Urdd, Stiniog 1936. Oes gennych chi luniau o'r Ŵyl? Gyrrwch atom! (Llun Tecwyn Vaughan Jones) |
Rhoddodd y ddamwain a gefais yng ngwaith sets Pengwern frêc arnaf am sbel. Chwech wythnos yn yr ysbyty, plât arian yn fy nghoes, baglau a graddio i ffon.
Byddai Moira (Rowlands) yn cael dimai gan ambell un am fynd i ddanfon menyn ffres (11 ceiniog neu swllt y pwys fyddai'r pris gan ei mam), a rhyngddom caem ddigon y fynd i Gonglywal i dŷ Nain Cynan Morris a Brenda Stone i gael potel o ddiod dail. Dimai y botel oedd hwnnw os oedd gennych botel a cheiniog os oedd hi'n rhoi potel i chi. Wedyn cychwyn am Lyn Manod trwy Gae Clyd ac yn ôl i lawr ar hyd yr inclêns i'r gwaith sets ac adref. Crwydrem fel hyn cyn bod yn ddeg oed.
Ychydig o hen fatiau wedi eu taflu dros wal fyddai'r ‘camp’ gennym ar yr ochr ar bwys y shŵt ac yna byddai'r criw yn rhoi tatws yn y tân, neu wneud chips (chips oeddynt yr adeg honno, rhyw bethau yn y chwarel oedd sglodion). Cofiaf fwyta rhai gan bigo'r darnau allan, a coeliwch fi, roedd yna lawer ohonynt, oblegid doedd dim coed go iawn yn tyfu'n agos i'r gwaith, felly ein tanwydd oedd bonion eithin ac ambell ddraenen ddu.
Er i mi fod yn byseddu'r col-tar, y seimiach, y dŵr carthion, y genau goeg yn y dŵr, cyrff anifeiliaid yn Llyn Top, yfed dŵr gwartheg Tŷ Newydd Ffynnon, rwyf yma o hyd! Efallai fy mod wedi caledu fy nghorff drwy hel germau bob yn dipyn.
Mae'n chwith meddwl fod y man cyfarfod plant y Manod wedi mynd. Mae arnaf hiraeth ar ôl yr hen 'Waith Sets'.
Betty (Lloyd) Perring
---------------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn Mawrth 1990, ac yna yn llyfr Pigion Llafar a gyhoeddwyd i nodi'r milflwyddiant yn 2000.
Bu yn rhifyn Tachwedd 2013 hefyd, yn rhan o gyfres Trem yn ôl. Darllenwch bennod 1 yr hanes.
Dilynwch gyfres Trem yn Ôl efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon