23.10.16

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -dros y parapet, o dan y tir...

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Yn rhifyn 2il Medi 1916 o'r Rhedegydd cyhoeddwyd ail ran o lith y Capten Evan Jones, Rhosydd, am ei brofiadau yn y twnelau dan ffosydd yr Almaenwyr. Disgrifia'r gynnau mawrion yn cael eu tanio gan y ddwy ochr, a'r paratoadau oedd ar y gweill:
‘Gwelais amser na byddai wiw i neb ddangos ei big mewn unrhyw fan yn y trenches yma rhag cael profi plwm y German...Dilynwyd y tanbelennau ym mhell i'r dydd ar y 30ain (Mehefin), ac yr oedd ein tanbelennau ni yn arswydus erbyn hyn, dim ond mwg a llaid yn esgyn i'r awyr, a phawb yn holi, "Pa bryd yr eir dros y Parapet tybed?"  Ddeg o'r gloch y nos dyma'r gair i lawr y trenches "Advance tommorrow 7.30 a.m". Yr oedd y mines i gael ei chwythu i fyny dri munud yn flaenorol i hyny’.
Cafwyd adroddiad byr am rai o'r mwynwyr lleol yn dod adref am egwyl o'r ymladd, yn yr Herald Cymraeg ar 5 Medi.
'Ein mwynwyr sydd wedi cael dyfod adref am ychydig o orffwys o danddaearolion bethau Ffrainc, ac yn wir edrych yn dda iawn. Bum yn sgwrsio â dau ohonynt, sef Robert Morris, Plas Weunydd Lodge, a David Joseph Jones, Bryn Bowydd. Dymunwn iddynt hwythau bob nodded ac amddiffyniad ar eu dychweliad.'
Evan Jones. Gweler ddolen isod*
Yr wythnos ddilynol, dan bennawd 'Gwaith y Meinars yn Ffrainc', cafwyd mwy o hanes Evan Jones a'i uned o fwynwyr Stiniog. Wrth gychwyn gyda'r is-bennawd 'Y Noswaith Cyn y Frwydr', dyma ddywed y Capten:
'Noswaith i'w chofio oedd hon. Yr oedd y bechgyn yn canu am ddyfodiad y dydd; a'r ymddiddan a glywid yn mhobman oedd "Bore fory amdani. Mi gaiff yr Hun rywbeth i'w gofio amdano yfory..."'
Aiff ymlaen i ddisgrifio'r tensiwn a fodolai wrth aros am yr awr dyngedfennol honno, gan athronyddu yn ei fodd arferol ei hun am y rhesymau dros frwydro. Yna dan y geiriau 'Bore'r Frwydr' cafwyd yr wybodaeth fod pob dyn i 'fod yn ei le' cyn 6 o'r gloch y bore, y dydd cyntaf o Orffennaf.
‘Yr oedd pob gwn o'r eiddom gyda holl egni ein cyflegwyr ni a'r Ffrancod i arllwysu shells i rengoedd blaenaf y gelyn o 6 tan 7.30, Bendith i yspryd oedd gweled y bechgyn yn paratoi tan ganu yng nghanol rhyferthwy y shellio di-dor...Am 6.15, yr oedd cymaint o shells yn yr awyr fel yr oedd dyn yn gofyn iddo ei hun pa fodd y gallent basio eu gilydd. Erbyn hyn yr oedd ein hawyrennau yn ehedeg dros linellau y gelyn.’
Aethai Evan ymlaen i ddisgrifio saethu diddiwedd y gynnau mawrion, a'r dinistr a grëwyd ganddynt. Dywedodd sut y bu i garfan o'r Almaenwyr dorri drwodd i safle'r mwynwyr, ond iddynt gael eu herlid oddiyno gan fechgyn 'Stiniog yn chwifio'u coesau caib arnynt. Disgrifiodd sut y bu i ysgarmes ffyrnig ddigwydd am tua deng munud, gydag wyth o'r milwyr Almaeneg gael eu lladd, ac i un gael ei gymryd yn garcharor: Gadawn i Gapten Evan Jones ddweud gweddill y stori:
'Cafodd hwn gynnig ar un neu ddau beth, gydag eiliad o amser i benderfynu, sef ei wneyd yn analluog i wasanaethu y Kaiser neu ddod i ddangos eu mines. Dewisodd yr olaf,  fel y gwna llawer ohonynt, pan y daw yn fater personol. Yn yr ysgarmes hon y clwyfwyd dau o fy mechgyn, sef Sapper John Thomas a Corporal Thomas W. Owen, gan un o'r rhai oedd wedi eu gadael yn fyw yn y Dugouts... Rhoddwyd cyfle fwy nag unwaith i'r gelyn roi eu hunain i fyny, ond ni wnâi, ac o'r diwedd bu raid gyrru twll 10 modfedd i lawr i goed y Dugouts, yn yr hwn y rhoddwyd 50 pwys o bylor, a chwythwyd y lle i mewn... Ar doriad y dydd aethom a miloedd o bwysi o bylor yn barod i chwythu penau'r shafftydd, dwy o ba rai oedd yn 136 troedfedd o ddyfnder o wyneb y tir...
Y diwrnod canlynol, dilynais y cables yn ol ar hyd y 'communication trench' hyd y daethum o hyd i Petrol Engine, a Dynamo, ac yn ystod y bore cawsom dair ohonynt a 'Fitting Shop' mwy compact na dim a geir yn chwareli Ffestiniog...Cyrhaeddodd y bechgyn hyd Montaban dydd Sadwrn. Aethom yno brydnawn Sul ond yr oedd y bechgyn erbyn hyn mewn brwydr galed yn Bernafy Wood. Yr oedd yn 5 o'r gloch y prydnawn pan aethum allan o'r trench a dyna'r cyfle cyntaf a gefais i dynnu oddi am danaf er noson 21ain.

Ychwanegodd y golygydd y geiriau canlynol i gau llith Evan Jones am y tro:
'Dyna fel yr adroddodd Capt. Evan Jones hanes y dyddiau cofiadwy a roes gychwyniad i'r "push" mawr ymosodol sydd yn awr yn para i fynd ymlaen. Gwelir eu bod yn llawn o gyffro ac anturiaeth; a bod ein bechgyn yn haeddu edmygedd am eu dewrder a'u gwaith. Mae lle i ofid am fod rhai ohonynt wedi eu clwyfo; ond y mae llawer mwy o le i ryfeddu a diolch eu bod wedi dod trwyddi gystal ac ystyried mor enbyd oedd yr ymgyrch.'
------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Catrawd y Meinars
[Pabi gan Lleucu Gwenllian]

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon