15.10.16

Breuddwyd Bordeaux -cyn y gêm

Y cyntaf o dri darn gan Dewi Prysor am ddyddiau cyntaf antur fawr Ewro 2016, ac effaith amlygrwydd y Gymraeg ar sut mae’r byd, a ninnau, yn gweld Cymru a Chymreictod. 
Rhan o gyfres o erthyglau gan awduron gwadd ar thema Ewropeaidd.

Pêl-droed, Cymru a'r Gymraeg
Byw Breuddwyd yn Bordeaux.

Wedi aros dwy noson yn Nantes mi gafodd fy nhrên i Bordeaux ei ganslo oherwydd streic, ond mi gês i drên arall awr a hannar yn hwyrach, oedd yn cyrraedd Bordeaux am tua hannar awr wedi saith ar fin nos. Erbyn i mi gael goriada’r apartment, setlo i mewn, piciad i’r siop i stocio fyny ar ‘hanfodions,’ a disgyn i gysgu wrth watsiad Ffrainc v Rwmania ar y bocs, doedd hi’m yn bell o hannar nos (amsar nhw) erbyn i fi’i throi hi am allan.

Mi oedd y dafarn gynta gyrhaeddis i reit dros ffordd i’r Fan Zone (yr agosa fuas i unrhyw un o’r rheiny), ac yn llawn o grysau cochion oedd yn gorlifo i’r stryd tu allan, lle’r oedd bar bach ar olwynion yn gwerthu peintia Heineken ar y pafin. Wedi codi peint, mi darrais fewn i ffrind o ochrau Port. Roedd yna hogia o Gaerdydd efo fo, ac un ohonyn nhw bellach wedi byw yn Denmarc ers blynyddoedd lawer. Mi oedd hwnnw dan deimlad oherwydd yr achlysur (a’r cwrw), ac yn emosiynol iawn. Mi fyddai ’na gryn dipyn o gefnogwyr selog Cymru’n cael un o’r munudau hynny dros y dyddiau nesaf, ond roedd mwy na’r achlysur wedi cyffwrdd y cyfaill o Ddenmarc.

Dewi a rhai o griw Stiniog yn mwynhau'r 'ambience' Ffrengig

Yn Gymro balch a gwladgarol (fel mae dilynwyr tîm pêl-droed Cymru), roedd o’n torri ei galon wrth egluro i mi fod ei blant, oedd wedi eu magu yn Denmarc, yn ddwyieithog – ond nad oedd y Gymraeg yn un o’r ddwy iaith. Roedd o’n teimlo i’r byw ynghylch hynny, ac roedd ganddo gywilydd nad oedd o’n gallu siarad Cymraeg ei hun, ac o’r herwydd, heb allu pasio’r iaith ymlaen i’w blant. Doedd o ddim y dyn dros ei chwe troedfadd o hyd a lled cynta imi’i weld yn crio i mewn i’w beint, a fyddai o mo’r Cymro olaf i mi ei weld yn crio dagrau o falchder dros yr wythnosau nesaf. A fyddai o ddim yr unig Gymro di-Gymraeg fyddai’n chwalu i ddagrau wrth fynegi ei falchder yn yr iaith, a’r sylweddoliad o ba mor amlwg ydi ei lle yn ein hunaniaeth genedlaethol.

Cymeriad arall fuas i’n siarad efo tu allan y bar cynta hwn oedd yr hen gradur ’na fuodd ar y newyddion adra (ac yn Ffrainc, am wn i) – y boi oedd yn dilyn tîm Cymru ar draws Ffrainc dan gysgu’n ryff mewn parciau ac ar strydoedd. Dwi’n meddwl mai Cymraeg oedd o’n siarad efo fi, ond fedra i ddim bod gant y cant yn siwr, achos ro’n i’n cael traffarth ei ddallt o. Roedd o wedi cael un neu ddau yn ormod, ac oni bai am y ‘wheelie bin’ yr oedd o’n bwyso arno fo wrth siarad efo fi, fysa fo wedi disgyn. Roedd o’n gwisgo jaced a trwsus oedd yn batrwm o faneri draig coch, a het ddraig goch, steil cap stabal, ar ei ben. Roedd ganddo wallt gwyllt a locsan lwyd, flêr, a sbectol (os dwi’n cofio’n iawn), ac roedd hoel haul ac awyr iach yn dew ar groen ei wyneb. Dyn difyr iawn i weld, er na ches i fawr o synnwyr ganddo, ac er ei fod o’n trio’i orau i fod yn synhwyrol. Ar y pryd, doedd genai’m syniad ei fod o’n cysgu’n ryff ar ei daith. Mi welis i o lawar gwaith yn y gemau, ac yn stesion drên Lille un diwrnod, hefyd, ond ges i mo’r cyfla i gael sgwrs iawn efo fo. Biti.

Tu allan y bar yma, hefyd, welis i’r faner ‘Many Tribes One Nation’ am y tro cyntaf. Baner Cymru anferth oedd hi, wedi ei gosod ar ddarn o darpŵli gwyn. Ar y tarpŵli, uwchben y faner, roedd y geiriau ‘Together Stronger’ ac o dan y faner, ‘Many Tribes, One Nation’. Arni, hefyd, oedd bathodynau’r pedwar prif dîm pêl-droed yng Nghymru – Abertawe, Caerdydd, Wrecsam a Casnewydd. Y syniad oedd atgyfnerthu’r teimlad diweddar o undod rhwng cefnogwyr y pedwar tîm – a phob tîm arall yng Nghymru – ac anghofio am yr hen elyniaethau unwaith ac am byth. Roedd gan berchenog y faner feiro a ffelt pen i bobl arwyddo’r faner i fynegi’u cefnogaeth – ond erbyn i fi fynd i roi fy enw arni, roedd o wedi colli’r feiro a’r ffelt pen. Mi welis i’r faner eto yn Bordeaux, ond ches i’m cyfle i’w harwyddo tan gêm Toulouse. Erbyn hynny mi oedd ’na gannoedd o enwau arni.

Mae gen i lawar o atgofion hynod – rhai melys a rhai gwallgo a swreal – o’r pum noson yr arhosis i yn Bordeaux. Ond mi wna i ganolbwyntio ar y pêl-droed a phrydferthwch perffaith yr achlysur arbennig hwn – dyddiau cyntaf yr antur fawr, pan hudodd ffans Cymru Ffrainc gyfan, ac y disgynnodd yr holl wlad mewn cariad efo ni, ac efo Cymru. Dyma pryd y gwthiwyd ein gwlad fach, ei hiaith a’i chefnogwyr hwyliog, meddw, gwallgo a chyfeillgar i amlygrwydd rhyngwladol. Y dyddiau a nosweithiau pan gofleidiodd y Ffrancwyr ni a’n cymryd i’w calonnau – a ninnau hwythau hefyd. Dyma pryd oedd y Cymry ar y newyddion (am y rhesymau iawn) bob nos, y tafarnwyr yn ein canmol i’r cymylau, a hyd yn oed yr heddlu yn mynd ar y teledu yn un swydd i ddatgan pa mor “ffantastig” oeddan ni!

Roedd hyn i gyd yn wrthgyferbyniad llwyr i’r clipiau newyddion o Marseille, lle’r oedd elfennau mwyaf afiach cefnogwyr Lloegr yn rhedeg reiat ac yn cwffio efo’r trigolion lleol (cyn cael chwip dîn iawn gan y Rwsiaid!). Yn syth, mi welodd Ffrainc a’r byd pa mor wahanol oeddan ni i’r Saeson. Ac wedi i ni guro Slofacia, pryd y gwyliodd miliynau o bobl y môr o gefnogwyr a’u cannoedd o faneri, yn bloeddio canu Hen Wlad fy Nhadau ar y teledu, roedd lle anrhydeddus Cymru (a ninnau’r cefnogwyr) yn Neuadd Fawr chwedloniaeth pêl-droed rhyngwladol wedi ei gadw hyd dragwyddoldeb.

Mwya sydyn, Cymru oedd tîm y niwtrals, ac ail dîm pawb, bron – yn enwedig y Ffrancwyr, oedd wir isio i ni gyrraedd y ffeinal i chwarae yn eu herbyn. Roedd baneri Cymru yn ymddangos yn ffenest siopau, bariau a tecawês kebabs ar draws pob dinas lle’r oeddan ni’n chwarae gêm. Roedd unrhyw un mewn crys coch Cymru yn cael croeso wrth gerdded ar fws, neu mewn i unrhyw far neu gaffi.
Goleuwyd Tŵr Eiffel yn lliwiau Cymru am y tro cyntaf wedi’r fuddugoliaeth hon yn Bordeaux, ac o fewn wythnos neu ddwy roedd hi’n bosib gweld plant bach Ffrengig yn gwisgo crysau Cymru ag enw Gareth Bale ar y cefn.
 *  *  *   *

Mae ail bennod hanesion Prysor yn rhifyn Hydref: “...mi wawriodd bore’r gêm yn Bordeaux. Cymru v Slofacia...Cofiwch y dyddiad am byth!
-----------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016. Dilynwch y gyfres Ewropeaidd efo'r ddolen 'Ewrop' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

Mae Dewi wrthi’n gweithio ar lyfr newydd fydd yn rhoi mwy o hanes ei deithiau yn dilyn Cymru. Cyrhaeddodd ei nofel ddiweddaraf Rifiera Reu (Y Lolfa, £9.99), restr fer Llyfr y Flwyddyn eleni, ac mae dal ar werth.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon