19.10.16

Bwrw Golwg -Utica

Cyfres achlysurol yn edrych ‘nôl ar rai o gymeriadau a sefydliadau hanesyddol ein bro. Y tro hwn, erthygl gan W. Arvon Roberts, am rai o ymsefydlwyr cynharaf Utica.

Adeiladwyd dinas Utica, Sir Oneida, yn un o fannau prydferthaf canolbarth Talaith Efrog Newydd, ar lan ddeheuol yr Afon Mohawk a 96 milltir o Albany, prifddinas y dalaith.  Roedd yn nodedig oherwydd ei bod yn iachusol a dymunol am nifer o resymau fel cartref i fyw ynddi.  

Mae’n siwr bod enw Utica yn fwy adnabyddus i’r Cymry Cymraeg yng Nghymru ac America nac unrhyw ddinas arall yr ymsefydlodd y Cymry ynddi yn yr Unol Daleithiau.  Enw’r gymdogaeth ar y dechrau oedd Fort Schuyler ar ôl y milwr Peter Schuyler (1657-1724), ac ystyr yr enw Utica ydi “o amgylch y bryn”.  Ychydig o Gymry oedd yn byw yno cyn y Chwyldro. 

Yr arferiad gan yr ymfudwyr cyntaf fyddai glanio yn Philadelphia cyn symud ymlaen i gymdogaethau Utica, ac nid rhyw daith fechan oedd honno y pryd hynny.  Roedd yr ychydig ffyrdd a oedd ar agor yn anodd iawn eu tramwyo, yn enwedig ar gychwyn a diwedd blwyddyn.  Teithient am wyth i ddeng niwrnod o Albany i Utica a phe dewisiai rhai o’r Cymry fynd i fryniau Steuben, byddai’n rhaid iddynt gysgu noson neu ddwy dan y coed cyn cyrraedd pen eu taith.  Yna, byddai’n rhaid dilyn y ffyrdd culion ac anwastad drwy’r coedwigoedd a’r anialwch, tra bo eraill yn dewis mynd gyda’r badau ar hyd Afon Mohawk. 

Roedd y wlad yn y cyfnod cynnar hwnnw yn newydd a gwyllt.  Ceid llawer o gorsydd gwlyb a dŵr llonydd mewn mannau yn nyffryn Mohawk, a dioddefai’r teithwyr dieithr yn aml o glefydau a gwahanol fathau o afiechydon.  Ymddengys mai gwlad iachus i fyw ynddi oedd yn bennaf mewn golwg gan yr hen sefydlwyr, yn hytrach na gwlad fras, ac un felly a gawsont.

Ymsefydlodd y Cymry cyntaf yno yn 1800 ac ambell un cyn hynny.  Yn Mawrth, 1795, hwyliodd deuddeng o deuluoedd o Gymru a chyrhaeddont Efrog Newydd ar ôl mordaith o bedair wythnos ar ddeg.  Wedi ychydig o seibiant yn Efrog Newydd gadawodd pump o’r teuluoedd hynny y ddinas ar eu taith i Utica.  Tŷ ffrâm ac wyth neu ddeg o dai cyffion oedd yn Utica bryd hynny.  Ar ôl teithio y fath bellter, a mynd trwy lawer o rwystrau ar eu taith ac yna cyrraedd Utica, byddai’r ychydig feddiant oedd ganddynt erbyn hynny wedi diflannu.  Y canlyniad oedd bod y meibion yn aml yn gorfod gadael eu gwragedd a’u plant i ofalu am y cabanau, tra’r aent hwy ymaith am dymor i weithio, er mwyn ennill i gynnal y teulu.  Pris y tiroedd yn 1860 oedd £20 i £25 yr erw.

Y llyfr Cymraeg cyntaf a gyhoeddwyd yn Utica oedd ‘Pigion o Emynau, Perthynol i Addoliad Eglwysig a Theuluaidd’ (Mai, 1808) dan olygiaeth y Parch Daniel Morris.  O 1841 ymlaen hyd ddechrau yr ugeinfed ganrif daeth Utica yn brif canolfan cyhoeddi llyfrau a chylchgronau Cymraeg yn yr Unol Daleithiau. 

Llun o gasgliad yr awdur
Adeiladodd y Cymry bedwar capel yno:  Capel y Bedyddwyr (1801-99), Bethesda (A) (1802-1963), Moreia (M.C.) (1830-1988) a Capel Wesla (1850-1918).  Roedd Utica yn nodedig am ei heisteddfodau, beirdd, cerddorion a’i llenorion.

Ymysg rhai o sefydlwyr cynnar Utica oedd y rhai canlynol:

CHARLES, Robert (1820-1849) o Ffestiniog.  Ymfudodd yn 1849.

GRIFFITHS, Mrs. Laura (1814-1887) o Faentwrog.  Priod Daniel Griffiths ers 1838.

HUGHES, Mrs. Ann (1788-1862) o Drawsfynydd.  Merch Evan Griffiths a Margaret Williams; priod Robert Hughes, Llanuwchllyn.  Priodont yn 1810, ac ymfudont yn 1852.

JONES, Mrs. Ellen (1814-1897), o Buarthbrwynog, Trawsfynydd.  Merch i Evan a Gwen Roberts, a priod i David Lewis.  Ymfudont yn 1843.

OWENS, Miss Elizabeth (m) Gorffennaf 14, 1857.  Merch William a Margaret Owens, Tŷ Nant, Maentwrog.  Roedd yn 19 mlwydd oed.  Ymfudodd gyda’i brawd ym mis Ebrill 1857.

OWENS, Mrs Laura (1812 - Ionawr 4, 1872), merch i Lewis a Mary Cadwaladr, Brynteg, Trawsfynydd, a priod John Owens.  Ymfudodd o Ffestiniog tua 1860, ac ymsefydlodd yn Fairhaven, Vermont, ac ar ôl hynny yn Trenton, Bridgewater (lle bu ei phriod farw),  Symudodd ar ôl hynny i Utica, (lle bu ei mab, Owen J. Owens farw).

PARRY John  (1851-1864) o Ffestiniog, mab Robert a Laura Parry.

WILLIAMS, Mrs Margaret (1788-1866).  Priod Roland Williams, Treuliodd ei hoes boreuol yn Nhrawsfynydd, ac yna bu yn Llanuwchllyn am bedair blynedd, a 48 o flynyddoedd yn Utica.  Roedd yn fam i bump o blant.  Bu dau ohonynt farw o’i blaen.  Bu’n aelod yn Penystryd, Trawsfynydd.

WILLIAMS, William (1788-1867) gynt o Pandy Dwyryd, Maentwrog.  Mab i Rowland ac Anne.  Ymfudodd yn 1824.
------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016.
Dilynwch gyfres Bwrw Golwg efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon