25.10.16

Rhod y Rhigymwr -Pwy sydd isio papur newydd?

Rhan o erthygl Iwan Morgan, o rifyn Medi 2016
 

Yng ngholofn Gorffennaf, nodais i Eisteddfod Genedlaethol y Fenni (1913) fod yn un ‘gartrefol’. Profwyd gwres croeso trigolion Sir Fynwy a’r Cyffiniau eto yn 2016, a do, fe gafwyd Eisteddfod gartrefol arall yn y fangre ddymunol hon.

Ar y Sadwrn cynta’, daeth llwyddiant am y trydydd tro o’r bron i Seindorf yr Oakeley dan arweiniad meistrolgar John Glyn. Yna, ar y Sadwrn olaf, profodd Côr y Brythoniaid y wefr o gipio’r wobr gyntaf yng nghystadleuaeth y Corau Meibion. Llongyfarchiadau iddyn’ hwythau hefyd a’u harweinydd gweithgar, John Eifion. Ar y dydd Llun, cafodd Elain Rhys Iorwerth, Tyddyn Sais, Trawsfynydd y drydedd wobr ar yr unawd cerdd dant i blant dan 12 oed – da iawn ti, Elain! Ac yn y maes llenyddol, cawsom glywed un arall o ardal ‘Llafar Bro’ yn traddodi’n huawdl ar gerddi cystadleuaeth y goron.  Llongyfarchiadau gwresog i Siân Northey.

Dwi'n mynd o steddfod i steddfod... Llun- Paul W

Tafoli cystadleuthau’r Adran Alawon Gwerin oedd fy nhasg i y tro hwn. Er i mi gael y fraint o feirniadu’n yr Adran Cerdd Dant deirgwaith o’r blaen yn yr Eisteddfod Genedlaethol, dyma’r tro cyntaf i mi gael gwahoddiad i’r adran werin, a rhaid cyfaddef i mi gael yr un pleser yn gwrando ar y cyflwyniadau yma.

Yr un a roes y wefr fwyaf i mi oedd Emyr Lloyd Jones o’r Bontnewydd, enillydd y wobr i unawdwyr gwerin o 16 i 21 oed. Daeth dros ugain o fechgyn a merched ifanc i’r rhagbrawf ar y pnawn Llun. Y dasg i’r merched oedd cyflwyno’r gân hyfryd ‘Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn,’ ac i’r bechgyn, ‘Ym Mhontypridd mae nghariad.’

Mae’n debyg mai o ardal Llansannan y tarddodd y gân ‘Mil Harddach’, ac a gofnodwyd gan Jennie Williams o ganu Thomas Jones, Llannor, ger Pwllheli. Mae’r pennill cynta’n draddodiadol, ond un o wŷr y Blaenau piau’r tri phennill sy’n dilyn, sef, y diweddar Brifardd ac Archdderwydd R. Bryn Williams.

‘Mam’ a  geir yn y gân yn ‘canu i’w baban bach’, ac i’m cyd-feirniad, Jennifer Clarke a minnau, disgwyliem weld y datgeinwyr yn canu ‘i’r babi’ yn hytrach nag ‘am y babi’:

Mil harddach wyt na’r rhosyn gwyn,
Na’r rhosyn coch ar ael y bryn,
Na’r alarch balch yn nofio’r llyn,
Fy maban bach.


Mor swynol yw dy chwerthin mwyn
Na chân y fronfraith yn y llwyn,
Na murmur môr o ben y twyn,
Fy maban bach.


Mwy annwyl wyt na’r oenig gwyn,
Na’r blodau tlws ar ochrau’r bryn,
Na dawnsio heulwen ar y llyn,
Fy maban bach.


Mil gwell gen i nag aur y byd
Yw gweld dy wenau yn dy grud,
Fy ffortiwn wyt, a gwyn fy myd,
Fy maban bach.


Gofynnwyd i’r datgeiniaid gyflwyno ‘cân gyferbyniol’ i’r rhai a osodwyd. ‘Pwy sydd Isio Papur Newydd?’ oedd dewis Emyr, ac yn wir, fe dynnodd y lle i lawr efo’i gyflwyniad. Gwelir y gân yng nghyfrol deyrnged y traddodiad gwerin i Merêd a Phyllis – ‘Ffylantin-tw!’ (golygydd Robin Huw Bowen ... Gorffennaf 2012):

Pwy sydd isio papur newydd?
Dim ond ceiniog ydyw’r gost!
Y ‘Morning Mail’ a’r ‘Daily Courier’,
Y ‘London Times’ a’r ‘Daily Post!’
Papur heddiw, bore heddiw,
Sôn am ryfel wrth y ddôr!
A’r newyddion o’r Cyfandir
Gyda mellten dan y môr.
Newyddion gwlad, newyddion tre’ –
O Benmaenmawr i dir y De.


Y ‘Liverpool’, ‘Manchester’,
‘Birmingham’, ‘London’ Pepars!


Pwy sydd isio ‘Baner Cymru’,
O Gaergybi i Gaerdydd?
‘Llais y Wlad’ sydd yn cyhoeddi
Hedd a rhyddid Cymru fydd.
Yn ‘Yr Herald’ borau heddiw
Mae ‘na hanes ryfedd sôn
Am ryw helynt eisteddfodol,
O Sir Fynwy i Sir Fôn.
Y ‘Western Mail!’ Lle ceir eu gwell?
Newyddion da o Tseina bell.


Dyma’r ‘Courier’ olaf heddiw;
Gwerthaf hwnnw, doed a ddêl.
Mae’r newyddion diweddara’
Heddiw yn y ‘Morning Mail’.
Y ‘Morning Mail!’ Y ‘Morning Mail!’
Papur heddiw, bore heddiw
Cyn yr elo’r trên i ffwrdd,
A’r newyddion o’r Cyfandir
Cyn bod brecwast ar y bwrdd!
Newyddion gwlad, newyddion tre’ –
O Benmaenmawr i dir y De.


Y ‘Liverpool’, ‘Manchester’,
‘Birmingham’, ‘London’ Pepars!


Os ydych am glywed y gân anfarwol yma, mynnwch gopi fory nesa’ o ‘Ffylantin-tw!’ Cewch gryno-ddisg o’r holl ganeuon – llyfr cynhwysfawr a disg am ddim ond £20 namyn ceiniog – bargen! [Cyhoeddiadau SAIN, Llandwrog]

Pob hwyl!    -IM
--------------------------------

Gallwch ddilyn y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon