Erthygl arall yn y gyfres Ewropeaidd.
Llongyfarchiadau mawr i Arwel Gruffydd, Tanygrisiau gynt, ar ei benodiad yn Gyfarwyddwr Artistig Theatr Genedlaethol Cymru am y pum mlynedd nesaf. Mae Arwel eisoes wedi dal y swydd am bum mlynedd, gan arwain y cwmni trwy gyfnod o newidiadau pellgyrhaeddol o ran gweledigaeth artistig. Yma mae o’n rhannu ychydig o fanylion ei raglen am yr hydref a’r gaeaf.
Cymru a Llydaw
Fis Hydref eleni, roedd y Theatr Genedlaethol yn dychwelyd i’r llwyfan gyda chynhyrchiad amlieithog, Merch yr Eog / Merc’h an Eog. Mae’n gyd-gynhyrchiad efo Teatr Piba, Llydaw, mewn partneriaeth â Chanolfan y Celfyddydau Aberystwyth.
Lleuwen Steffan sydd yn chwarae’r brif ran, ac yn ymuno â hi mae Rhian Morgan a Dyfan Roberts, a thri actor o Lydaw yn cwblhau’r cast.
Mae'r ddrama, sy’n seiliedig ar waith gwreiddiol gan Owen Martell ac Aziliz Bourges, yn cael ei gyflwyno yn Gymraeg, Llydaweg a Ffrangeg. Dyma’r tro cyntaf i Theatr Genedlaethol Cymru gydweithio â chwmni o dramor ar gynhyrchiad gwirioneddol ryngwladol ac a fydd yn teithio tair gwlad.
Pan gaiff Mair ei galw adref i angladd yng Nghymru, mae’n dioddef pwl anghyfarwydd o hiraeth, ac mae’r sôn am werthu’r fferm deuluol yn corddi teimladau o gyfrifoldeb a dyletswydd ynddi. Mae hi bellach yn cwestiynu dedwyddwch ei bywyd dinesig yn Llydaw, a’i pherthynas gyda’i chariad, Loeiza. ’Dyw ei bywyd yno erioed wedi teimlo mor bell o gefn gwlad Cymru. A hithau’n gorfod wynebu’r penderfyniad mwyaf anodd iddi erioed, daw cymydog caredig ag anrheg anghyffredin iddi. Ai dyma’r arwydd y mae hi wedi bod yn ei geisio?
Wrth gyhoeddi hyn ar y we, dau gyfle sydd ar ôl i weld y ddrama o fewn cyrraedd i Fro ‘Stiniog:
> yn Neuadd Dwyfor, Pwllheli Nos Wener yma (14eg Hydref),
> ac yn y
Galeri, Caernarfon ar Nos Lun y 17eg (y ddwy noson am 7.30)
-ond mae pob croeso i chi ddod i
Lydaw i’n gweld: yn Brieg, Guengamp, Brest, neu Montroulez!
Brenin yr Alban
Hefyd ar y gweill gan y Theatr Genedlaethol, mae cyfieithiad newydd gan y diweddar Gwyn Thomas o glasur Shakespeare, Macbeth, wedi’i gyfarwyddo gan Arwel yng Nghastell Caerffili ym mis Chwefror.
Bydd hyn hefyd yn golygu menter newydd i’r Theatr Genedlaethol, sef darlledu’r ddrama yn fyw ledled Cymru am y tro cynta’.
Byddai’n braf meddwl y gallwn wylio yn Sinema’r Cell…
Gobeithio cawn fwy o wybodaeth a hanesion gan Arwel yn y dyfodol agos.
-------------------------------------
Addasiad o erthygl a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2016. (PW)
Dilynwch gyfres Ewrop efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon