17.10.16

Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt

Llyfr Newydd Steffan ab Owain

Pwy well na Steffan i wneud y gymwynas o gyhoeddi cyfrol ar dermau, idiomau a dywediadau ein gwlad? Gyda’i brofiad helaeth o chwilio, a darganfod y cyfoeth o ymadroddion sy’n rhan ohonom fel cenedl, roedd yn hen bryd iddo osod y cyfan i lawr ar ddu a gwyn.

Canlyniad blynyddoedd o wrando, sylwi, a phori trwy dudalennau lu o hen gyhoeddiadau o’r dyddiau fu yw’r gyfrol. Mae nifer fawr o’r dyfyniadau yn hollol ddieithr i mi, ac yn agoriad llygaid. Chlywais i erioed am y geiriau tymogau, sgols cilciau, cŷn cena, nac am fath o fwyd o’r enw siencyn esmwyth.

Wyddoch chi beth yw ystyr oen llathen, bustach milltir, neu haldiwario? Beth am y dywediadau fel het a llewys arni, neu ffwl-ffala? Ymhle yn eu cartref fyddai’r hen Gymry’n gosod dic y daliwr a Siôn segur? Be ydi, neu oedd twca bach Trawsfynydd a timpan foresg?

Wedi ei osod ar ffurf penodau yn trafod o ‘Rhwydo geiriau’; ‘Amaeth, diwydiant a chrefft’; ‘Hen bethau anghofiedig’; i ‘Enwau lleoedd’, ymysg nifer o destunau difyr eraill, mae’r gwaith yn destament i ddyfalbarhad Steff dros y blynyddoedd.

Wrth drafod ystyron y geiriau ‘car gwyllt’ a ‘Heth Bob Roberts’ aiff yr awdur i fanylu’n ddifyr amdanynt. Yn ei ddull dihafal ei hun, aiff ati i esbonio i’r darllenwyr pam y dewisiwyd y geiriau disgrifiadol hynny. A hynny, yn ei dro, yn sicrhau bod ychydig mwy o hanesion ac ymadroddion ein bro wedi eu cofnodi am byth.

Wedi gafael yn y gyfrol, anodd oedd ei roi i lawr, mor ddiddorol ei gynnwys. Mae’n llyfr i gyfeirio ato’n aml, wrth geisio chwilio am air neu ddyfyniad anarferol; prawf eto o gyfraniad gwerthfawr Steffan i lên-gwerin ein cenedl.

Diolch am lyfr hynod ddifyr, Steff. Gyda llaw, ydych chi’n gwybod be’ mae pobl Penmachno’n galw moch coed (pine cones)?  Prynwch y gyfrol, a chwi a gewch yr ateb!

Adolygiad gan Vivian Parry Williams.

Pen-Blwydd Mwnci, Gogyrogo a Char Gwyllt.
Geiriau a Dywediadau Diddorol. Cyfres Llyfrau Llafar Gwlad.
Gwasg Carreg Gwalch. £6.50.
Steffan ab Owain

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon