7.10.16

Pant Llwyd

Pennod un o atgofion Laura Davies,  am gymuned unigryw a ffordd o fyw ar gyrion ein bro.

Yn y flwyddyn 2041, os aiff rhywun i’r archifdy i chwilota am hanes trigolion Pant Llwyd ganrif ynghynt, ni chaiff siw na miw o gwbl yno. Y rheswm oedd na chymerwyd ddim cyfrifiad o’r boblogaeth yn 1941, oherwydd y rhyfel byd. O fy nghof felly dyma fi yn ceisio llenwi dipyn bach o’r bwlch am yr amser melys o’r tridegau o Bant Llwyd, gan obeithio fel y canodd T.H.Parry Williams:
Ac os bydd peth o’m defnydd yn y byd
Ar ôl yn rhywle heb ddiflannu’n llwyr
A’i gael gan gyfaill o gyffelyb fryd
Ar siawns wrth odre’r (Moelwyn), mrig yr hwyr
Ni welir arno lun na chynllun chwaith
Dim ond amlinell (lon o’r felys waith). 
Rhyw hanner milltir allan ar gyrion Llan Ffestiniog gwelwn y pentrefyn unigryw yma, ar ochr y ffordd i’r Bala ac Ysbyty Ifan. Tebyg i’r mwyafrif o dai chwarelwyr o gyfnod Fictoria.

Nid twll o le mohono, Pant Llwyd, ond nyth a chrud diwylliant ar lechwedd yn wynebu’r gogledd a holl ogoniant panoramig agored y Moelwyn a’r Manod o’i flaen. Mae yna tua 30 o dai annedd i gyd a’r cwbl bron mewn un rhes. Ar draws y ffordd i’r rhes o dai safai y Capel Bach Methodistaidd a adeiladwyd yn 1905, ond cauwyd o fel capel yn y 1960au. Mae’n dŷ annedd heddiw.

Dechreua Pant Llwyd ar yr allt, gyda Phen Rhiw ar y dde a Llys Owain ar y chwith – nid oedd y tai ar y chwith wrth fyned i fyny y rhiw ddim yn bod hyd yn ddiweddar (1980). Diwedda’r pentre yn Nhan y Bryn yn ymyl Llety Fadog.

Dyma fy amlinelliad i o Bant Llwyd a’i drigolion:

Cyn mynd i’r ysgol cychwynwn o Dŷ’n y Ffridd tua chwarter i wyth y bore, ar ein ‘rownd’ o werthu llaeth-efrith ym Mhant Llwyd. Dafydd a finnau yn cario dau dun dau-alwyn o laeth-efrith a’r hen fesur bach brass hanner peint yn hongian ar ochr y tun.

Mynd heibio Penrhiw ar y dde (ail-adeiladwyd yn y tri degau). Cofiaf fynd yno unwaith, efo dosbarth ysgol, i wrando ar y brenin George y V yn darlledu ar y weiarles, a galw yn Llys Owain (a adeiladwyd tua 1930 gan Owain Williams, Llety Gwilym – tad John James – felly yr enw Llys Owain). Cartref Mr a Mrs Basil Jones (syfewr y sir) a’r teulu, Colin, Jean a’r diweddar Gareth. Gwraig garedig iawn, ac acen y De ganddi, oedd Mrs Jones, “Sid ichi heddi Lore fech” oedd ei chyfarchiad bob bore.

Galw wedyn yn rhif 1 Llain Wen, Cartref Robat Wmffras a’i howscipar Margiad Lewis y Cwm. Un o hen dras Cwm Cynfal oedd yr hen Robat Wmffras (a mwstash mawr ganddo), ac heb ei ail, yn godwr canu yn y Babell am flynyddoedd. Mae gennyf lun o Robat Wmffras wedi ei dynnu yn 1905.

Yn rhif 2 Llain Wen cartrefai Mr a Mrs Owain Edwards, rhieni y diweddar Bobby Lymley, Maggie a Trefor. Mae Trefor yn cadw gwesty moethus yn Tel Aviv. Mi roedd Owain Edwards yn frawd i Miss Fanny Edwards, Penrhyndeudraeth (awdures straeon plant).

Yn rhif 3 arferai fyw Lily (Wilnow, Bryn Llech) a’i gŵr, Evan Edwards (Tŷ’r Cefn – perthynas i mi), ond yn fy amser i, Mrs a Mrs Robert Jones, rhieni Phylis a Dennis a drigai yno. Wedyn yn 1 Bryn Tirion, tŷ Mr a Mrs Walter Davies, mam a thad Kitty Williams, Stryd Dorfil rwan, Defi Wyn a Wali. Collodd Defi Wyn (21 oed) ei fywyd yn yr India 31.1.45, newydd iddo ymuno â’r fyddin, a bu farw Wali yn Awstralia yn 1991. Mr a Mrs Richard Evans (Dic Syl), eu plant, John Francis, Beryl, Jennie a Megan bach (boddodd Megan yn blentyn bach ym Mhont Newydd ger Caernarfon.  Sonia Sera Evans yn fynych am Megan fach gan fod y drychineb ar ei chof drwy ei bywyd).

William Ephraim a Goronwy yn hel gwair
Mr a Mrs William Ephraim* a oedd drws nesa, ni werthais rioed beint o laeth-efrith yno. Cadwent fuwch mewn cae tu ôl i’r tŷ.

Rhywle tu ôl i Fryn Tirion safai lle o’r enw Hofel y Moch er ni chofiwn i am hynny. Rhieni i Gwilym Gruffydd John, Emlyn, Ior (Tyddyn Merched), Goronwy a Nel, oedd Kitty a William Ephraim.

Er nad oeddent yn gwsmeriad i ni andabuem yr hen deulu i gyd. Yn ôl Emrys Evans (Llafar Gwlad rhif 18 tud.20), yma ym Mryn Tirion y ganwyd y cymeriad hynod Jac Llan, yn y flwyddyn 1854.

Y galwad nesa oedd siop ben, Jane Edwards, mam Annie Rosina Lewis (a nain Daniel Lewis), Mrs Catherine Roberts, Manod, a’r diweddar Gruffydd, Elen Arwel a gollodd ei bywyd trwy ddamwain yn yr Unol Daleithiau yn 22 oed yn 1929. Gwraig nobl ag urddasol oedd Jane Edwards a dysgais lawer oddi wrthi’n anuniongyrchol.

Mi roedd hi’n giamstar ar wneud bara ceirch. Byddiai’n pobi yn ddyddiol a gwerthai hwy o gwmpas siopau’r Llan, Manod a’r Blaenau. Arferai gael hanner peint o laeth-efrith yn ddyddiol a chwart ar ddydd Sadwrn. Cyfanswm ei bil hi am yr wythnos oedd swllt a thair, h.y. chwe hanner peint am geiniog a dima, a chwe cheiniog am chwart. Ni thalai byth am y llaeth-efrith gan i minnau gael nwyddau yn gyfnewid – dau bwys o siwgwr gwyn am bump a dima, grôt a dima am chwarter o de, a sebon a phowdwr golchi am bum ceiniog – swllt a thair y cwbwl. Hoffwn y ‘ginger wine’ a werthai.

Yn nhu ôl y siop safai casgen o oel lamp (paraffin) a chasgen fach o finag. Byddai yn gofyn i mi, yn gyfrinachol - ‘gefaist i bres gan hwn a hwn heddiw?’ Prin oedd pres adeg honno – ac mi oeddem yn dwy yn d’allt ein gilydd yn iawn! Rhif chwech Oakley View yw enw’r tŷ heddiw.

Drws nesaf (rhif 7 heddiw) oedd tŷ Mr a Mrs Arthur Ellis a’r teulu. Gweithiai Arthur Elis gyda nhad yn Chwarel y Groes a chynorthwyant ni gyda’r gwaith yn Sofl y Mynydd. Triga Sali’r ferch yno o hyd. Wil yn byw yn Nhrawsfynydd, Edith yn Bolton Cafe, bu farw Meirion a drigai y y Blaenau yn ddiweddar iawn, ac Eurwen yn byw yn Nhalsarnau. Bu farw Lizzie Elin trwy ddamwain a bu farw Catherine a Trevor yn ifanc. Llyfaf fy ngwefusau bob tro y meddyliaf am y gacen gyrins gawn gan Mary Elis!

Mr a Mrs Robert Owen, rhieni Gwynfor, Mair (diweddar), Kitty, Gwilym, a Robert Owen a drigai yn y tŷ nesaf (rhif 8). Mr a Mrs Charles Williams a fudodd drws nesaf (rhif 9), wedi i Owen Alfred fudo yn uwch i fyny; rhai o’i teulu hwy oedd Magi Lisi (bu i’n forwyn fach hefo ni yn Nhyn y Ffridd), Dafydd, Catherine. Mr a Mrs John Davies (Tŷ Isa – Tŷ Maes yn ddiweddarach) oedd drws nesaf. Fel yr hen arferiad, mi roedd llond tŷ o blant yno – rhai ohonynt oedd Nel, Robat Ifor, Idris, Dilys Annie a Maldwyn sydd yn byw yn y Blaenau.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 1997. Pennod dau i ddilyn y mis nesaf.

* Atgofion Bore Oes Ellen Ephraim.

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon