31.10.16

Symud Tŷ

Gohebydd Llafar Bro yn holi a gollwyd cyfle yn y nawdegau wrth symud tai Fron Haul i Lanbêr.

Mae rhywbeth rhyfedd yn digwydd i dai teras Fron Haul yn Nhanygrisiau.  Wrth gerdded heibio mi sylwch bod rhifau wedi ymddangos ar bob carreg, bob llechen bob ffenest a drws.  Y gwir yw, y bydd y gwaith yn dechrau yn fuan iawn, i symud pob darn o rifau 1-4 o’r teras o’u safle yn Nhanygrisiau a’u codi garreg wrth garreg yn eu cartref newydd yn Amgueddfa Lechi Cymru yn Llanberis.


Mae tai Fron Haul yn enghreifftiau gwych o dai chwarelwyr yng nghymunedau llechi Gwynedd ar anterth y diwydiant tua 1860.  Codwyd y tai tua’r adeg honno, ac mae llawer o nodweddion tai teras o’r fath yn dal i berthyn iddyn nhw.  Yr oedd rhifau 1-4 ar fin cael eu dymchwel gan Gyngor Gwynedd a symudwyd y trigolion olaf i gartrefi mwy clyd a chyfoes.  Bellach fe’u cyflwynwyd i Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru i’w sicrhau fel rhan o dreftadaeth y fro.

“Mae gan Amgueddfeydd ac Orielau Cenedlaethol Cymru gryn brofiad erbyn hyn o ddiogelu tai ac adeiladau hanesyddol yn arbennig yn Sain Ffagan,” meddai Gerallt Nash, Curadur Adeiladau Hanesyddol a Masnach (gw. llun), sydd yn gyfrifol am y gwaith o nodi pob elfen ar dai Fron Haul, ac unrhyw nodweddion arbennig.

Gwaith paratoi ar rif 2

“Rydym wedi darganfod dull anghyffredin lleol o doi yma, gan blastro oddi tan y llechi.  Pwy a wyr beth arall a ddaw i’r golwg wrth inni dynnu’r waliau a’r lloriau.”

Mae Mared Sutherland, Swyddog Ymchwil yn Sain Ffagan, wedi dod o hyd i enwau pob unigolyn a theulu a fu’n byw yn y tai ers eu codi y ganrif ddiwethaf, a’r bwriad yw eu haddasu yn Llanberis i gynrychioli cyfnodau pwysig yn hanes y diwydiant llechi.

“Bydd un o’r tai yn cael ei ddodrefnu fel y byddai tŷ chwarelwr a’i deulu ym 1860,” meddai Dr Dafydd Roberts, Curadur Amgueddfa Lechi Cymru, “Mi fydd yr ail yn union fel tŷ ym Methesda ar adeg y streic fawr ym 1901, ac fe fydd y trydydd fel tŷ ym 1969.  Mi fydd y pedwerydd yn llawn o weithgareddau i alluogi plant a’u rhieni i werthfawrogi’n well fywydau y chwarelwyr, eu gwragedd a’u plant.

Tydi o’n drueni na fyddai rhywun efo gweledigaeth wedi cynnig hyn yn brosiect treftadaeth yn y Blaenau (yn arbennig rwan fod y Gloddfa wedi cau fel atyniad, efo bythynod y chwarelwyr yno bron yn union yr un syniad a chynlluniau Fron Haul).  Oni fyddai safle’r Ring Newydd wedi bod yn ddelfrydo?

Beth am inni gyd ysgrifennu at yr amgueddfa i’w llongyfarch ar eu gwaith, ond erfyn arnynt i gadw elfen o Danygrisiau yn rhai 1 a 4; i gadw enw’r stryd; ac hefyd ei wneud yn amlwg o ble daeth y rhes ar eu hysbysfyrddau.
-------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mai 1998.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon