23.5.14

Dirgelwch Plac Bryn Llywelyn

Darnau allan o rifyn Mai 2014. 



Daeth y plac haearn hwn i olau dydd yn ddiweddar yn ystod y gwaith ar hen blasty Bryn Llywelyn yn Llan Ffestiniog wrth i’r cwmni lleol SEREN addasu’r lle yn westy arbenigol ar gyfer rhai sydd ag anableddau corfforol neu anawsterau meddyliol.

Mae’r plac yn mesur 3¾ troedfedd ar ei hyd a 2¾ troedfedd o uchder, a gan ei fod yn ddarn mor drwchus o haearn bwrw, yna mae angen pedwar dyn cryf i’w godi oddi ar y ddaear.

Yr hyn sydd fwyaf diddorol yn ei gylch yw’r geiriau sydd arno. Yn ôl a ddeallaf, rhaid ystyried y broses a ddefnyddid yn y cyfnod hwnnw er mwyn egluro’r camgymeriad bod ambell lythyren a rhif wedi ymddangos o chwith.

Ond y sialens fwyaf yw ceisio rhoi ystyr i’r geiriau sydd ar y plac. Fe rof gychwyn arni, yn y gobaith y bydd hynny’n ysgogiad i’r haneswyr yn eich plith gynnig eglurhâd amgenach:-
 O gysylltu’r enw THOMAS efo’r dyddiad 1782, yna dwi’n credu mai cyfeiriad sydd yma at Syr Thomas Wynn (1736 – 1807), sef y Barwn Newborough cyntaf. Mae’n bosib mai cyfeiriad at y cyfenw Wynn ydi’r VNSTE ar yr ochor dde. ‘Wynstay’ efallai, wedi ei sillafu gan ofaint oedd yn Gymro uniaith ac yn dibynnu’n llwyr ar ei glust? Hyd y gwn i, fodd bynnag, does dim cysylltiad rhwng teulu Newborough, stad Glynllifon, a theulu Williams-Wynn, perchnogion stad Wynstay yng ngogledd-ddwyrain a chanolbarth Cymru.

Ond pwy oedd yr ALIS FILD (Field?) HIS WIF (sillafiad Saesneg cynnar iawn am ‘wife’, mae’n debyg) sy’n fater arall oherwydd fe wyddom fod 1782 yn ddyddiad arwyddocaol yn hanes teulu Newborough am mai dyma’r flwyddyn y bu farw gwraig gyntaf y barwn, sef  Catherine.
Ac mae’r geiriau AND DINIS hefyd yn llawn cymaint o ddirgelwch imi.
Y sialens felly yw ceisio cysylltu’r enwau a’r geiriau hyn i gyd a gneud rhyw fath o synnwyr o’r cyfan.

Anodd deud beth yw’r cerfiadau eraill ar y plac. Draig a llew, o bosib, a rhyngddynt belen (‘orb’) efo coron arni? Dim byd sy’n debyg i arfbais y teulu Newborough presennol, beth bynnag.
-GVJ

Ymateb yr awdures a’r hanesydd Gwen Pritchard Jones
Rhaid cyfaddef na wn i’n iawn beth i’w wneud o’r geiriau ar y plac – oes tystiolaeth bendant yn ei gysylltu â Thomas, Arglwydd Newborough?   Erbyn 1782, wrth gwrs, roedd helyntion ariannol yn poeni Thomas druan, a dyna pam iddo fwy neu lai ‘ffoi’ i’r Eidal gyda’i fab John, yn yr un flwyddyn. 

Mae’n fy nhrawo i y dylid cwestiynu os mai 1782 yw’r dyddiad mewn gwirionedd?  Allasai ddim darllen fel 1582?  Fy nheimlad i – er nad oes gen i unrhyw arbenigedd yn y maes – yw fod y gwaith braidd yn gyntefig i ddyddio o 1782, ond yn gweddu fwy i gyfnod cynharach o lawer.

Oes hanes i Fryn Llywelyn fyddai’n dyddio’n ôl cyn belled â hynny?  Oedd tŷ ar y safle cyn y plasty presennol?  Wn i ddim lle i ddechrau ymchwilio i’r enw Thomas (Unste/Unster/ neu rywbeth cyffelyb?)  Ac a fyddai’n bosib iddo fod wedi priodi ddwywaith – Alis a Dinis?  Mae angen rhywun sydd â llawer mwy o wybodaeth na mi i ddatrys yr ysgrifen, mae arna i ofn!

Cymerais yr hyfrdra i anfon copi o'r llun i ffrind i mi, David Bennett-Williams, postfeistr Penygroes.  Mae o'n ymddiddori mewn hanes lleol, ac yn mynd i fanylder mawr efo'i ymchwiliadau.  Beth bynnag, mae o'n cytuno efo mi mai 1582 yw'r dyddiad, ac yn amau mai ffurf ar Wynstay yw'r Unste.  Mae'n awgrymu mai merch oedd Alys, y Fild yn ffurf llygredig ar 'Filia' [h.y. Lladin am ‘merch], a'r wraig fyddai Dinis - er nad yw'r enw yna'n gyfarwydd iddo.  Mae David yn awgrymu chwilota'r arfbais a fyddai'n fwy tebygol o gynnig trywydd teuluol i'w ddilyn.

-------------------------------
O ddarllen llythyr Gwen Pritchard Jones, y cwestiwn sydd rŵan yn codi yw hwn – Pryd ddaeth y teulu Newborough yn berchnogion ar Bryn Llywelyn? Plasty Glynllifon oedd eu cartref parhaol, wrth gwrs, felly ai prynu tŷ a thir yn yr ardal hon yng nghyfnod twf y diwydiant llechi a wnaethon nhw?

Os felly, yna mae’n eithaf posib, fel yr awgrymir yn y llythyr uchod, nad cyfeiriad at unrhyw un o’r Newboroughs sydd yma! Dryswch i aelodau’r Gymdeithas Hanes ei ddatrys gobeithio!


Gobeithio y bydd rhai o ddarllenwyr Llafar Bro yn barod i roi cynnig ar ddehongli’r cyfan.



Lolfa’r gwesty newydd a’r lle tân lle darganfuwyd y plac haearn
[Lluniau: Gareth T. Jones]



19.5.14

Stolpia -Rhiw

Steffan ab Owain yn parhau ar ei siwrna o amgylch Rhiw y 1950au.

Gallwch ddarllen yr erthygl yn llawn yn rhifyn Mai.

Un o’r pethau a fyddem yn ei wneud oedd cerdded i lawr tros y twnnel bach at Gelliwïog i ddwyn gellyg, neu i Roslyn ger gorsaf Y Dduallt i hel eirin, neu dro arall, i chwilio am ddeunydd i wneud  bwa a saeth o’r coed uwchlaw fferm Dolymoch a Glanyrafon.

Rhoslyn, a rhai o'r coed eirin ar y dde.

 Gyda’r nos yn yr haf, gan fwyaf, byddem yn chwarae pêl droed ar y tir a fyddai  islaw tomen fawr chwarel Oakeley. Roedd hi’n rhy beryglus i wneud hynny yn ystod y dydd gan fod y dynion yn tipio rwbel i lawr y domen ac ambell garreg fawr gron yn powlio i lawr i’r cae. Eto i gyd, mi welais rai o’r hogiau mawr yn chwarae yno yn ystod y dydd ar adegau a phan oeddem ar wyliau’r ysgol. Onid yw hi’n braf ar y to presennol gyda dewis da o gaeau pêl droed yn yr ardal iddynt chwarae arnynt ? Sôn am dro ar fyd.


10.5.14

Ysgol y Moelwyn yn rhagori eto

Ymddiheuriadau. Tydi cof y gwefeistr ddim cystal ag y bu, a rhoddwyd ail gopi o'r erthygl yn fan hyn.

Dyma lun deniadol rhag i chi feddwl eich bod wedi cael siwrna wag!


Cofiwch ddod yn ol eto!
Diolch
PW

4.5.14

Dros y Top

Cafwyd noson gofiadwy iawn yn Ysgol y Moelwyn ddiwedd Ebrill, pan ddaeth Theatr Bara Caws i'n diddanu efo 'rifiw yn nodi dechrau'r rhyfel byd cyntaf'.

Mae Bara Caws wastad yn llwyddo i ddenu cefnogaeth dda, ac roedd y neuadd yn llawn eto'r tro hwn i weld sioe oedd yn ddwys a digri' bob-yn-ail.




“Sut ddaeth hi i hyn hogia’?” gofynodd un o'r milwyr oedd ar fin dringo dros ymyl y ffos i wynebu cawod o fwledi...

Mae'r ddrama'n egluro trwy ga^n ddoniol iawn be oedd amgylchiadau cymleth iawn dechrau'r rhyfel, ac yn awgrymu'n ysgafn bod gyrrwr car Franz Ferdinand wedi mynd ar goll pan gafodd ei feistr ei ladd.     

"Ma’ ‘na fai ar bawb yn rwla’n y gyflafan erchyll hon
 Am bo’ Leopold ‘di mynd.....FFOR RONG!"

Y cast fu wrthi yn llunio sgript newydd dan arweiniad y llenor Aled Jones Williams.  Medden' nhw:

"Wrth bori drwy’r pentyrrau o lyfrau, erthyglau, casgliadau o lythyrau, a’r cyfrolau o gerddi ddaeth i law buom yn dewis a dethol y deunydd tybiwyd oedd fwyaf addas ar gyfer llunio DROS Y TOP.

"Mae gan bawb ei safbwynt a’i stori, ac mewn rifíw, sy’n gymharol ysgafn o ran natur, ac sy’n para ychydig dros awr, mae’n annatod mai braslun yn unig fydd yn y sioe o’r cymhlethdodau gwleidyddol dyrys oedd yn bodoli yn Ewrop ar y pryd. Yn pendilio rhwng y llon a’r lleddf, y melys a’r chwerw dyma gipolwg sydyn ar y pam, y sut, y pwy, a’r ble a ysgogodd y gyflafan waethaf a welodd Cymru ac Ewrop erioed.

"Fel cwmni cymunedol ‘roedd Bara Caws hefyd yn awyddus i bob cymuned gael cyfle i gyfrannu i’r sioe.  Cafwyd ymateb ardderchog gan unigolion, ysgolion a sefydliadau, ac roedd y syniadau ddaeth i law, a’r brwdfrydedd yn ysgubol."

Vivian Parry Williams, ysgrifennydd Llafar Bro, oedd yn cyfrannu yn Stiniog, ac roedd y neuadd yn gwbl ddistaw wrth iddo gyflwyno hanes y swyddog recriwtio lleol, Lewis Davies, a'r drwg-deimlad gododd gan ei weithgareddau o, pan oedd yn ennill 15 swllt y dydd er mwyn gyrru hogiau lleol i'r fyddin.

Cofeb Mametz. llun- Wicipedia

Diolch Bara Caws a VP am ein hatgoffa o amgylchiadau dychrynllyd y rhyfel mawr. Roedd y weithred syml gan un o'r cast, o sgwennu'r niferoedd a laddwyd yn rhai o'r brwydrau ar fwrdd du ar ochr y set -er enghraifft 5000 o Gymry mewn pum niwrnod yng Nghoed Mametz yn y Somme- yn effeithiol iawn.




Roedd yr olygfa olaf, er yn benthyg llawer o olygfa olaf enwog Blackadder, serch hynny yn effeithiol iawn, ac roedd nifer yn y gynulleidfa dan deimlad o sylweddoli mor ddi-hid oedd cadfridogion o dynged y rhai dan eu gofal.

Cafwyd cymeradwyaeth brwd iawn, a bu cryn drafod y perfformiad ar y ffordd adref y noson honno.







Yr un cast oedd wrthi ag a welwyd yn rifiw 2013 Bara Caws, sef 'Hwyliau'n Codi', ac fe gafwyd yr un gymysgedd o actio arbennig (pob actor yn cymryd sawl ro^l) a chaneuon hwyliog. Melys moes mwy.

Er ei bod yn anodd weithiau llusgo'ch hun o'r ty gyda'r nos ar ol diwrnod o waith, mae'n werth codi bob tro er mwyn gwylio Bara Caws. Gallwch fod yn saff o sioe sy'n well o lawer na phydru o flaen y teledu! Os na welsoch chi hon, bydd yn rhaid i chi aros tan yr hydref am ddrama nesa Theatr Bara Caws, sef  'Garw' gan Sion Eirian.  Rhywbeth i edrych ymlaen ato eto.
PW

Cast: Gwion Aled, Rhian Blythe, Mirain Haf, Carwyn Jones, Rhodri Sion
Cyfansoddwr a Chyfarwyddwr Cerdd:  Osian Gwynedd
Cyfarwyddwyr:  Betsan Llwyd