28.2.20

Gwerth bob dima...


Cynnydd ym mhris Llafar Bro

Diolch i lawer iawn o’n darllenwyr am y geiriau caredig ynglŷn â Llafar Bro ar ei wedd newydd, llawn lliw. Mae’r lluniau a’r cysodi newydd yn rhoi diwyg arbennig o ddeniadol i bob rhifyn. Yr anfantais o foderneiddio wrth gwrs ydi’r gost ychwanegol  am argraffu. Mae’n costio cannoedd yn fwy bob mis i gynhyrchu ein papur bro erbyn hyn, ac oherwydd bod y gwerthiant wedi disgyn yn sylweddol ers cychwyn y fenter ym 1975, mae’n rhaid i ni osgoi gwneud colled o fis i fis, neu byr iawn fyddai dyfodol  Llafar Bro.

Yn anffodus felly, bu’n rhaid i ni godi’r pris i 80 ceiniog o rifyn Chwefror.

Gobeithio, serch hynny, y cytunwch ei fod yn werth bob dima’, ac y byddwch yn parhau i’w brynu ac annog eich cymdogion a’ch ffrindiau i brynu eu copi eu hunain bob mis.  Mae llawer iawn o’r papurau bro eraill trwy Gymru, wedi cynyddu eu prisiau hwy i bunt neu fwy.  

Diolch o galon i holl ddarllenwyr Llafar Bro, am eich cefnogaeth werthfawr. Trwy ymdrech wirfoddol mae eich papur bro yn cael ei gynhyrchu, ac mae croeso mawr i gefnogwyr newydd ymuno â’r tîm.

Llyn Conglog efo'r Moelwynion. Llun- Dewi Prysor

Derbyn Llafar Bro ym mhen draw’r byd!

Er bod dau rifyn wedi ymddangos eisoes yn 2020, tydi hi byth yn rhy hwyr i chi danysgrifio i dderbyn Llafar Bro bob mis, ble bynnag ydych yn byw.

Gallwch dderbyn y papur trwy’r post am £20 y flwyddyn yng Nghymru a gweddill Prydain;  am £43 yng ngweddill Ewrop;  neu am £50 yng ngweddill y byd!

Yr hyn sy’n newydd ac yn gyffrous eleni am y tro cyntaf erioed, ydi y gallwch dderbyn rhifyn digidol trwy e-bost bob mis, i unrhyw ran o’r byd am £20 yn unig!

Beth am brynu tanysgrifiad i aelod o’r teulu, neu ffrind sy’n byw dramor? Neu os gwyddwch am bobl Bro Stiniog sy’n byw dramor, be’ am dynnu eu sylw nhw at y tanysgrifiad digidol newydd?
Ewch i'r dudalen danysgrifio i weld y manylion.


Diolch am gefnogi eich papur bro.


23.2.20

Stolpia- castiau

Pennod arall o gyfres Hogiau’r Rhiw 1956-63, gan Steffan ab Owain

Y mae hi’n gofyn imi gamu’n ôl ychydig ymhellach na’r flwyddyn 1958 er mwyn adrodd yr atgofion nesaf gan mai yn Ysgol Glan-y-pwll y digwyddodd rhai o’r pethau hyn a groesodd fy meddwl yn ddiweddar. Os cofiaf yn iawn, gadewais yr ysgol gynradd tua 1957. Un o’r pethau hyn a ddaeth i’m cof wrth fynd am dro yn ddiweddar oedd gweld llwyni rhosod gwyllt a’r aeron coch arnynt, sef egroes, neu ‘mwcog’, fel y’i gelwir gan rai ohonom. Gelwid hwy  hefyd wrth yr enw ‘cig y brain’ mewn ambell ardal, gynt.

Llun- Paul W
Yn ddiau, bydd rhai ohonoch yn pendroni pam yr wyf yn sôn am y rhain mewn cysylltiad â’r ysgol. Wel, byddai amryw o’r plant yn hel mwcog ac yn eu hagor er mwyn cael yr hadau ohonynt, ac yna eu defnyddio fel powdwr cosi. Cofiaf i amryw o’r plant gael rhai i lawr eu cefnau gan yr hogiau mawr heb feddwl dim amdanynt nes iddynt ddechrau gwneud eu gwaith! Digwyddai hynny yn ystod y gwersi yn aml a’r athro yn methu a deall pam yr oeddynt i gyd yn gwingo, ac yn ceisio crafu eu cefnau. Do, mi gefais innau rai i lawr fy nghefn, hefyd.

Byddai ambell hogyn drwg yn rhoi pin bawd ar sedd ambell eneth a byddid yn clywed coblyn o sgrech dros y ‘stafell ddosbarth, ond gwae hwnnw os cai yr athro wybod pwy ydoedd.  Cofiaf un hogyn yn dod â bom ddrewi (stink bomb) i gowt yr ysgol un tro, ond ar ôl i’r prifathro John Ellis Williams glywed am y peth, a chael llond ffroen o’r oglau, ni fu yr un yno wedyn. Ymhlith rhai o gastiau drwg, neu driciau budur gan rai o’r hogiau, oedd rhai yn  rhedeg ar eich ôl a rhoi ‘coes fach’ ichi, sef cic pen-glin yn eich clun. Roedd hon yn gic boenus iawn i rai o’r hogiau llai. Hen dric sâl hefyd oedd dweud wrth un am afael yn ei botel lefrith a oedd yn dadmer ar y stof yn y gaeaf pan oedd gwaelod honno yn boeth. Yn ddiau, ceid llawer mwy o gastiau drwg ymhlith yr hogiau a’r merched y pryd hwnnw.

Pethau eraill y byddai rhai plant drwg yn ei wneud oedd chwarae triwant, a gwn am un achlysur lle gallasai hynny wedi bod yn dyngedfennol i dri o hogiau. Cofiwch, rwyf yn neidio’r blynyddoedd yn y rhan hon, ac i aeaf 1963. Roeddwn yn gweithio yn Ffatri Metcalfe y pryd hynny a phan glywais hanes y tri, ni fedrwn gredu’r stori. Fel eu bod o olwg pawb, anelodd y tri, sef TC a’r ddau gyfaill, BO a CT i fyny i Gwm Orthin a hithau yn rhew ac yn eira mawr. Wedi cyrraedd yno a threulio amser yn rhyfeddu at yr ysblander eiraog yn gorchuddio yr holl gwm, penderfynodd y tri gerdded ar draws hyd y llyn rhewedig o un pen i’r llall, ac nid hynny yn unig, bu’r tri yn neidio ar y rhew ynghanol y llyn.

Llun- Edward W. Roberts

Diolch i ragluniaeth fawr y nef na ddarfu’r rhew dorri oddi tanynt neu mi fyddai wedi bod yn amen ar y tri ac ni fyddai neb ag amcan daear ymhle i chwilio amdanynt. Y mae dau o’r hogiau hyn yn dal i fyw yn yr ardal ond y mae’r olaf wedi gadael y fuchedd hon ers sawl blwyddyn bellach. Chwithdod mawr ar ôl yr hen gyfaill. Ceisiwch ddyfalu pwy oedd y tri ?
-------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.


19.2.20

Hwyl y Dathlu ym Methel

Daeth cynulleidfa niferus ynghyd i ddathlu canrif a hanner ers agor Capel Bethel yn Llan Ffestiniog. Cafwyd cyfarfod arbennig a chofiadwy iawn o aelodau, cyn-aelodau, cyn blant yr eglwys a chyfeillion eraill o bell ac agos.


Llywyddwyd y cyfarfod gan Myfanwy Williams, un o’r blaenoriaid ac, yn dilyn braslun gan Gwenda Ll. Jones o hanes sefydlu achos Annibyniaeth yn y pentre, caed clywed wedyn rai o gyn blant Bethel – Owi Rowlands (Rhosgadfan), Jennifer Thomas (Bangor), John Arthur Thomas (Caerdydd) a Rhian Haf Parry (Yr Wyddgrug) – yn hel atgofion melys am y cymeriadau a fu, am ddiwylliant y ‘band of hope’ a’r Gymdeithas, am orymdeithio yn y Gymanfa flynyddol yn Blaenau, ac fel roedd capel Jeriwsalem wedyn o dan ei sang a’r canu yn fanno yn codi’r to.

Clywyd atgofion difyr hefyd am y tripiau Ysgol Sul, slawer dydd, i Landudno neu Rhyl neu Butlins ym Mhwllheli; rhain yn brofiadau y gallai eraill oedd yno, o bob enwad, uniaethu â nhw.

Roedd Iwan Morgan wedi cyfansoddi cywydd rhagorol i ddathlu’r achlysur a chaed datganiad ohono ganddo ar gerdd dant. Bu i Iwan hefyd gyfansoddi emyn pwrpasol ac ymunodd y gynulleidfa i’w ganu gydag arddeliad.

Yn dilyn y cyfarfod gwahoddwyd pawb wedyn i ffreutur yr ysgol gynradd, lle’r oedd lluniaeth helaeth wedi cael ei pharatoi, a merched a gwragedd ifanc yr eglwys yn gweinyddu wrth y byrddau.

Fel y gellid disgwyl, bu eto yn fanno fwy o hel atgofion yn gymysg â hyrddiau o chwerthin iach. Yna, i goroni’r dathlu, ar y Sul drannoeth daeth criw lluosog eto ynghyd i giniawa yng Ngwesty Seren.
-------------------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2020.
Erthygl Bethel Fach y Llan



14.2.20

Crwydro'r Fro

Mae Cymdeithas Edward Llwyd yn rhoi cyfleoedd i’r aelodau -trwy deithiau cerdded wythnosol- i werthfawrogi, mwynhau a dysgu am y byd o’u cwmpas, drwy gyfrwng yr iaith Gymraeg.

Bu’r Gymdeithas yng Nghwm Prysor yr haf diwethaf, dan arweiniad Iona Price, Tanygrisiau. Dyma grynodeb, gan drefnydd y gogledd orllewin, John Griffith.


Castell Prysor. Llun- John Griffith
Tua milltir a hanner o ben Cwm Prysor mae cnap amlwg o graig y safai Castell Prysor arno ar un tro.  Y tebyg yw mai castell o’r 12fed ganrif oedd hwn, ac fe wyddwn fod Edward 1af wedi ysgrifennu llythyr yma yn 1284.

Gerllaw’r castell mae Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig: wyth acer ar hugain genedlaethol bwysig. Mae yma laswelltir corsiog a glaswelltir asidaidd llawn blodau; dyma un o’r darnau gorau o laswelltir llawn blodau ar ôl yng Ngwynedd.

Mae bodolaeth y castell yn dystiolaeth i bwysigrwydd y cwm yn yr oesoedd canol fel llwybr i gadarnleoedd Gwynedd. Cwm gweddol anghysbell ydyw, a gellir dychmygu’r tro ar fyd efo dyfodiad y rheilffordd, y GWR, rhwng y Bala a Ffestiniog yn 1882. Cawsom y fraint o gerdded rhai milltiroedd ar hen lwybr y rheilffordd hon a gaewyd yn y 60au.

O holl reilffyrdd Cymru, y gangen hon oedd un o’r drytaf i’w hadeiladu ac un o’r rhai ddenodd y lleiaf o elw. Cludwyd llechi o’r Blaenau ar y rheilffordd hon yn ogystal â nwyddau a theithwyr wrth gwrs. Dychmygwch y Gadair Ddu ar y trên ar ei ffordd i’r Ysgwrn, dros gan mlynedd yn ôl, yn oedi ymhob gorsaf rhwng Corwen a Thrawsfynydd er mwyn i’r werin gael ei gweld hi...
Diolch i Dylan a Mair Huws, Bryn Celynog, am gytuno i ni droedio eu tir i weld y Castell.

---

Mae Clwb Mynydda Cymru yn hyrwyddo dringo a cherdded mynydd yn y Gymraeg.

‘Nôl ym mis Hydref, bu’r clwb yn crwydro’r Moelwynion. Daw’r detholiad yma o adroddiad Myfyr Tomos, Llawrplwy’ ar wefan y clwb.


Aeth yr aelodau i fyny i Gwmorthin cyn gwahanu yn ddwy garfan. Un criw yn mynd ymlaen i Chwarel Rhosydd. Y criw arall yn cael sgrambl ddifyr iawn o lan y llyn i gopa Moel yr Hydd.


Yna i ben y Garn Lwyd sef y copa bach ar grib ogleddol y Moelwyn Mawr. I fyny'n serth wedyn am y Mawr. Y cymylau yn cau a'r gwynt yn cryfhau, felly lawr a ni a chael cinio cysgodol ar Graig Ysgafn.

Y Moelwyn Mawr a'r Garnedd Lwyd. Llun- Paul W
Lawr i Fwlch Stwlan yna'n serth i ben y Moelwyn Bach, cyn troi'n ôl am y bwlch ac i lawr i Stwlan! Cawod go iawn yma ond ddim am hir wrth rhyw lwc. Lawr heibio i Chwarel Twm Ffeltiwr a Chlogwyn yr Oen a phanad haeddiannol yng Nghaffi'r Llyn yn Tangrish.
------------------------------


Addasiad o erthygl a gyhoeddwyd yn rhifyn Ionawr 2020

Hir Oes i'r Moelwyn Mawr


4.2.20

Stolpia -cawod o adar

Bu cryn son yn ddiweddar am ddrudwennod a farwodd mewn amgylchiadau dirgel ym Môn; dyma ddarn difyr gan Steffan ab Owain, a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2012:

Tybed faint ohonoch sy’n cofio gweld neu ddarllen am y gawod o adar a syrthiodd yn farw i lawr o’r wybren yn y Blaenau ym mis Mawrth 2006 a’r gwahanol esboniadau a gafwyd am y digwyddiad anghyffredin? Y mae hi’n wir nad yw digwyddiad o’r fath yn gyffredin iawn, ond eto i gyd, sylwais wrth ddarllen adroddiad o bapur  newydd ‘Y Gloch’ am Fehefin 12, 1928 nad hwn oedd y tro cyntaf iddo ddigwydd yn y cyffiniau hyn:
"Ymweliad y Gylfinhir- Ysgrifenna Mr Arthur M. Williams, Station Road (Llan) hanes yr adar yma yn ymweld â’n hardaloedd nos Sadwrn, Mawrth 24ain. Yr oedd ei ysgrif  yn y Cage Bird, papur sydd yn ymwneud ag adar, a rhydd gyfri’ manwl o’r digwyddiad a cheisia roddi cyfrif am yr arwyddion a berthyn i’w hymweliad, a’r galanas ymysg yr adar eraill y bore Saboth dilynol. Dywedir fod yna adar wedi eu lladd yn y Blaenau a’r Traws, ond cafwyd  amryw byd o adar ar hyd heolydd y Llan, a’r mwyafrif mawr yn adar y drudwy (starlings), a rhai eraill yn eu mysg. Hoffa y cyfaill gael chwaneg o fanylion a pha beth oedd yn cyfrif am yr helynt ymhlith yr adar. Ceisia roddi rhesymau dros y digwyddiad trwy ddweud mai brwydr fu rhyngddynt, tra y tybir gan eraill mai drysu ddarfu’r adar eraill gan sŵn anarferol y gylfinirod. Y mae’n amlwg fod yna rywbeth o’i le yn eu plith, achos ar ôl i’r goleu fynd allan bu tawelwch mawr. Pwy sydd a barn ar y digwyddiad, neu’n cofio peth tebyg yn ‘Stiniog?
Drudwen. Llun CC BY-SA 3-0
Os cofiaf yn iawn, bronfreithod neu dresglod a gwympodd ym Mawrth  2006, a chredid yr adeg honno mai wedi gwanhau yn gorfforol o eisiau bwyd oeddynt, neu eu bod wedi cael eu taro a gwahanol eithafion tywydd oer a chynnes.


Ysgwn i a oes hanesion am ddigwyddiadau tebyg o’n bro nad ydynt wedi ymddangos mewn print ?
--------------------------


Ôl-Nodyn o 2020: credir bellach mae wedi ceisio dianc oddi wrth aderyn ysglyfaethus fel y gwalch glas, oedd adar Ynys Môn, a tharo'r ddaear wrth droi ar frys...

Drudwen ar Wicipedia Cymraeg