26.9.23

Y Dref Werdd- byd natur a chymdeithasu

Cynefin a Chymuned
Wedi i flwyddyn brysur wibio heibio unwaith eto, bu i blant cynllun Cynefin a Chymuned i Blant Bro Ffestiniog ymuno gyda chriw ardal Penrhyn am ddiwrnod o weithgareddau yng Ngwarchodfa Natur Gwaith Powdwr.


Dyma ddiwrnod olaf y cynllun ar gyfer y criw yma, ac fe gafodd bawb lawer iawn o hwyl yn trochi’r pyllau am drychfilod, coginio cinio ar y tân, gwneud gwaith celf, a chael tro ar saethyddiaeth gyda phawb wedi creu ei fwa ei hunain.

 

Mae hi wedi bod yn flwyddyn addysgol, llawn hwyl a hoffem gymryd y cyfle i ddiolch i’r holl arweinwyr wnaeth rannu straeon a sgiliau gyda’r plant dros y flwyddyn.

 

Llongyfarchiadau iddynt ar lwyddo i gwblhau eu Gwobrau John Muir – dyma rai ohonyn nhw’n derbyn eu tystysgrifau. (Chwith i dde) Summer, Ela, Leo, Eva, Catrin, Ania, Conor, Enlli, Alaw a Sophie. 

 

Grŵp newydd i bobl hŷn
Yn dilyn gaeaf caled, yn economaidd a’n gymdeithasol, rydym yn falch a diolchgar o fod wedi derbyn grant bychan gan Mantell Gwynedd i gyfrannu at y ddarpariaeth leol sydd ar gael ar gyfer pobl hŷn ardal Bro Ffestiniog.

Byddwn yn cychwyn grŵp misol ar Ddydd Mawrth cyntaf bob mis, o fis Medi tan mis Mawrth yn y Ganolfan ym Mlaenau, o 1:30-3:30. Ein gobaith yw y bydd y sesiynau’n boblogaidd, ac yn gallu ei barhau ymhell heibio’r cyfnod yma. Roedd y sesiwn cyntaf ar Fedi’r 5ed, a bydd croeso mawr i bawb sydd dros 60 oed i ymuno.

Bydd hyn yn gyfle da i bobl gymdeithasu dros baned, a chael cymryd rhan mewn gweithgareddau amrywiol. Rhannwch y newyddion gyda eich ffrindiau a’ch teulu os gwelwch yn dda!

Gallwn ddarparu trafnidiaeth yn lleol i’r Ganolfan os oes angen.
Cysylltwch gyda Non am fwy o wybodaeth ar 07385 783340 neu dros ebost non@drefwerdd.cymru
Non Roberts, Cydlynydd.
- - - - - - - - -

Addaswyd o ddarn a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2023


22.9.23

Hen Lwybrau, rhan 3

Pennod arall o gyfres Hen lwybrau a ffyrdd ein bro, gan golofnydd Stolpia, Steffan ab Owain.
 

Y tro hwn rwyf am bicio i rai o’n chwareli llechi a chrybwyll am un neu ddau o’r enwau sydd, neu a fu’n, gysylltiedig â nhw. Dechreuaf gyda’r ‘Llwybr Cam’ a berthynai i hen Chwarel Holland gynt.

Y LLWYBR CAM

Efallai y dylwn ddweud yn gyntaf fod yr hen ‘Lwybr Cam’ gwreiddiol wedi ei gladdu o dan Domen Fawr yr Oakeley ers blynyddoedd lawer. Bellach, dim ond hen luniau ac atgofion amdano sy’n aros. 

Yn ei gerdd ‘Penygroes a’r Dinas’ hiraetha Bryfdir am ei chwaer fach a laddwyd yn nhroed Inclên Fawr Holland ac am ei gyfeillion a drigai gerllaw yr hen Lwybr Cam:

Collasom hwythau yn eu tro
O dan gysgodau’r hwyr,
A chyda hwy aeth swyn y fro
I ryw anghofrwydd llwyr;
Mae plant y Dinas heb un fam
I ysgafnhau eu croes,
A chwyno wrth y Llwybr Cam
Mae meibion Pen y Groes.
Credaf mai oddeutu 1903-4 y gwnaed y Llwybr Cam presennol, sef yr un igam-ogam sydd a’i droed ger y Dinas a’i ben uchaf ar Bonc y Gloddfa Ganol. Ar un adeg ceid llwybr bach arall gyferbyn a phen y Llwybr Cam yn codi i fyny i Bonc yr Injian Uchaf yn Chwarel Holland, ond nid yw yno mwyach.

Llun- Paul W

LLWYBR Y CEFFYLAU

Ar dir hen Chwarel yr Oakeley y ceir yr hen lwybr hwn hefyd, a rhed o ymyl canol Allt Talywaenydd dros geg y Twnnel Mawr i gyfeiriad yr hen Lefel Galed a phen gogledd-orllewin yr hen Bont Fawr. Gelwir ef wrth yr enw hwn oherwydd dyma’r ffordd neu’r llwybr a ddefnyddid ar gyfer mynd a’r ceffylau at eu gwaith o dan y ddaear, neu’n wir, i weithio ar rai o bonciau’r chwarel, hefyd. 

Byddid yn tywys y ceffylau a weithiai o dan y ddaear draw am y Lefel Galed a thrwodd at y ‘Trwnc Mawr’ ar Bonc DE a fodd bynnag, pan ganai’r corn ddiwedd dydd nid oedd raid i neb ddangos y ffordd adref iddynt byddent fel llanciau ifainc y chwarel yn ei sgrialu adref am eu te i’r stablau a fyddai y tu ôl i Gapel y Rhiw.

Gyda llaw, nid ymhell o’r fan lle byddai ceg y Lefel Galed ceir llwybr neu risiau llydan o llechfaen, neu gerrig glas, fel y dywedwn i, a elwir yn ‘Llwybr John Jones Williams’ ac a wnaed gan un o swyddogion Chwarel Oakeley rai blynyddoedd yn ôl. Dywedir iddo fynd ati hi i wneud y llwybr hwn er mwyn ei gynorthwyo i golli ychydig o bwysau. ‘Beryg iawn, y bydd yn rhai i minnau fynd ati i wneud llwybr yn rhywle hefyd!

LLWYBR Y GASEG WEN

Dyma lwybr arall sydd wedi ei enwi ar ôl un o gesyg y chwarel. 

Yn ôl yr hanes, cafodd yr hen lwybr hwn sy’n rhedeg o ymyl hen Chwarel y Moelwyn ac uwchlaw Llyn Stwlan a thraw am Fwlch Cerrig Gleision a Chwarel y Rhosydd ei enw ar ôl i ryw gaseg a weithiai yn y Rhosydd gael ei dychryn un tro a rhusio cymaint fel y carlamodd nerth ei charnau ar hyd y llwybr hwn yr holl ffordd adref. Mae eraill o’r farn mai hwn oedd llwybr arferol y gaseg wen i fynd a dod at ei gwaith bob dydd yn y chwarel.

FFORDD YR IDDEW MAWR

Wrth gerdded ar hyd Llwybr y Gaseg Wen i Fwlch Stwlan deuwn at hen ffordd laswelltog a wnaed yn wreiddiol yn 1825 pan bu Nathan Meyer Rothschild yn treio ei law ar agor chwael lechi yn ngesail y Moelwynion. Gwnaed y ffordd hon iddo gan gontractwyr o’r enw Benjamin a Richard Smith, sef dau frawd, Joseph Tyson yn oruchwyliwr, ac un John Rogers. 

Priododd Benjamin Smith ag un o ferched y Cassons ac rwyf yn rhyw dybio fod Robert Rogers a briododd Catherine, chwaer Tanymarian yn perthyn i’r John yma. Dywedir iddynt ail-wneud yr hen ffordd tua 1840, ond i amryw o’r hen bobl ‘Ffordd yr Iddew Mawr’ yw ei henw hyd heddiw, h.y. ar ôl yr hen Nathan Rothschild. 

Dywedodd y cyfaill Edgar Parry Williams, Croesor wrthyf y byddai rhai o’r hen do yn galw’r hen ffordd yn ‘Llwybr Roth’, hefyd, ar ôl Rothschild, yn ddiau. Wel, pwy fuasai’n meddwl bod yr enwau lleoedd hyn wedi parhau cyhyd, ynte?

O.N.
Diolch i amryw o’r darllenwyr am gymryd diddordeb yn yr hen lwybrau a rhannu eu hanesion gyda mi. Efallai y cawn ddarllen am rai ohonynt cyn bo hir. Tan y tro nesaf, mwynhewch y cymowta a’r rhodianna.
- - - - - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Medi 2003

Pennod 1 y gyfres

Rhan 4

18.9.23

Llygad Dieithryn

Erthygl gan Simon Chandler

Mae dechrau fy mherthynas â Blaenau Ffestiniog yn dyddio’n ôl i flwyddyn gyntaf y ganrif hon. Ddydd Llun Gŵyl y Banc, 28ain Mai 2001, a ninnau ar wyliau teuluol yn ardal Porthmadog, roedd hi’n tywallt y glaw. Er mwyn diddanu’n mab ni, a oedd yn 8 oed ar y pryd, fe benderfynodd fy ngwraig i mai ymweld â cheudyllau Llechwedd am y prynhawn fyddai orau i ni. Wel, am benderfyniad tyngedfennol! 

Ni fyddaf byth yn anghofio cael fy nghyfareddu gan y recordiadau sain a gafodd eu chwarae yn yr hen weithfeydd er budd y twristiaid: recordiadau oedd yn llawn straeon am y chwarelwyr, eu bywydau, eu diwylliant a’u hiaith. 

Gwyddwn yn syth fy mod i wedi dod o hyd i fy mhobl i.  Sais amharod oeddwn i erioed. 

Yn wir, cefais fy ysbrydoli’n syth i ysgrifennu nofel (yn Saesneg) am hynt a helynt chwarelwr ifanc o’r dref a deithiodd i Berlin yn y 1920au hwyr. Ar ôl i ni ddychwelyd i Fanceinion, rhois alwad ffôn i Lyfrgell Blaenau Ffestiniog a gofyn i ddynes glên am lyfrau ynghylch hanes y dref y gallwn eu darllen er mwyn fy addysgu fy hun, ond dywedodd hi fod y fath lyfrau i gyd yn Gymraeg. Roedd hynny’n siom aruthrol i mi oherwydd, yn anffodus, roeddwn i newydd gwrdd â dyn ar y ffordd adref o’n gwyliau ni, sef mewn gorsaf betrol ar yr A55, a oedd wedi 'egluro' wrthaf na fyddai gen i obaith mul o ddysgu’r iaith yn oedolyn. “If you haven’t learnt it as a child, you’ve got no chance, mate,” meddai. 

Er mawr gywilydd i mi, er i mi fod yn siaradwr Almaeneg ers peth amser erbyn hynny, ac er y dylwn fod wedi gwybod yn well, roeddwn i mor ffôl â chymryd y dyn hwnnw at ei air. Felly, doedd dysgu Cymraeg ddim yn opsiwn. Ar y llaw arall, roedd gan y llyfrgellydd syniad gwych: awgrymodd hi i mi gysylltu â’r hanesydd lleol, Steffan ab Owain (y mae ei golofn ddifyr, Stolpia, yn ffefryn i mi bellach). Gyda chryn dipyn o amynedd, Steffan a wnaeth fy nghyflwyno i hanes Blaenau Ffestiniog yn 2001, a Steffan sydd (22 o flynyddoedd yn ddiweddarach) wedi darparu llun o Bont y Queens (wedi’i dynnu ym 1933) ar gyfer clawr fy nofel Gymraeg gyntaf, sef “Llygad Dieithryn”, sydd wedi’i chyhoeddi gan Wasg Carreg Gwalch ar 7fed Gorffennaf. 

Ond beth ddigwyddodd yn y cyfamser? Wel, ar ôl i mi wastraffu pymtheng mlynedd, diolch i un sylw esgeulus, fe ddywedodd Cymraes Gymraeg o Ben Llŷn wrthaf yn 2016 (ym Manceinion) y byddai modd i mi ddysgu’r iaith wedi’r cwbl, hyd yn oed yn 52 oed. Ar ôl y sgwrs hollbwysig honno, es i ati i ddysgu’n eithaf buan, ac roeddwn i mor lwcus â dod o hyd i diwtor Cymraeg heb ei hail, sef Llinos Griffin o Lanfrothen. Cyn bo hir, a minnau’n benderfynol o wneud iawn am yr holl amser coll, trodd fy meddwl at ysgrifennu’r nofel roeddwn i wedi bod yn awyddus i’w hysgrifennu yn y lle cyntaf, ond yn Gymraeg. 

Trwy Grŵp Facebook Blaenau Ffestiniog, des i i adnabod hanesydd lleol ardderchog arall, sef Vivian Parry Williams, a gytunodd i werthu copi o’i lyfr campus, “Stiniog a’r Rhyfel Mawr”, i mi.  Roedd honno’n foment dyngedfennol arall am ddau reswm. Yn gyntaf, fe ddaeth Vivian a minnau’n gyfeillion da wedyn, ac (yn ei dro) fe wnaeth Vivian fy nghyflwyno i Iwan Morgan, sydd hefyd yn gyfaill da i mi bellach, ac sydd wedi bod mor garedig â chyhoeddi sawl cerdd gaeth o’m heiddo yn ei golofn arbennig, “Rhod y Rhigymwr”. Ac yn ail, darganfyddais fod llyfr Vivian yn cynnwys (ymysg llawer o bethau cyfareddol eraill) wybodaeth amhrisiadwy ac ysbrydoledig ynglŷn â hen waith wisgi Y Frongoch (ger y Bala) a gafodd ei addasu’n wersyll-garchar ar gyfer swyddogion o Fyddin yr Almaen ym 1915. Dyna oedd y wreichionen a gynnodd dân y nofel newydd, a oedd yn lled wahanol i’r un roeddwn i wedi bod yn bwriadu’i hysgrifennu yn 2001.

A bod yn fanwl gywir, mae yna ddau 'ddieithryn' yn y nofel: sef Friedrich, swyddog ym Myddin yr Almaen, a oedd wrthi’n nychu yng ngwersyll-garchar y Frongoch ym 1915, a’i or-orwyres, Katja, sy’n athrawes ieithoedd yn Mannheim (yr Almaen) yn 2019. Wrth iddi hi fynd trwy bapurau ei mam, mae Katja’n taro ar draws llythyr hynod (yn Gymraeg) a anfonwyd at ei hen, hen daid (sef Friedrich) gan ddyn o Flaenau Ffestiniog (o’r enw Alun). Mewn ymgais i ddatrys y pos, mae Katja’n dod i aros yn y dref adeg Eisteddfod Genedlaethol Dyffryn Conwy. Wedyn, gan ddwyn hen gyfrinachau’r ddau deulu i’r golwg, mae hi’n mynd i berygl tynnu nyth cacwn am ei phen…

Simon a Vivian yn Rali Annibyniaeth Wrecsam, Gorffennaf 2022
Yn y bôn, mae’r nofel yn cyfuno hanes a diwylliant y ddwy wlad, sef Cymru a’r Almaen, fel yr adlewyrchir ar y clawr gyda’i luniau o Gofgolofn y Fuddugoliaeth yn Berlin ac (fel y nodwyd uchod) o Bont y Queens ym Mlaenau Ffestiniog. Mae’n nofel ddirgelwch, ond mae hi hefyd yn llythyr cariad at y Gymraeg, at yr Eisteddfod Genedlaethol ac at Flaenau Ffestiniog ei hun. Gobeithio y bydd y nofel yn eich galluogi chi i weld eich iaith a’ch diwylliant trwy lygad dieithryn sy’n eu caru.

Fawr o syndod mai ym Mlaenau Ffestiniog ei hun y lansiwyd Llygad Dieithryn felly, a’r dref yn un o brif gymeriadau’r nofel: sef yn Siop Lyfrau’r Hen Bost ar nos Lun, 17eg Gorffennaf .

O ran diddordeb, mae llyfr llafar yn cael ei gyhoeddi hefyd (i gyd-fynd â’r nofel), wedi’i leisio gan neb llai na’r Prifardd, y Prif Lenor a’r darpar Archdderwydd, Mererid Hopwood! Mae’n anodd credu.  
Blaenau Ffestiniog yw fy nghartref ysbrydol i bellach, er fy mod i’n dal i fyw ym Manceinion (gwaetha’r modd), a’r dref sydd wedi rhoi croeso dihafal i mi, yn union fel y mae hi wedi croesawu sawl dieithryn arall a oedd yn fodlon gwneud yr ymdrech i ddysgu Cymraeg ac i gofleidio ysbryd cymunedol ei phobl arbennig.  

Ydy, mae’n dueddol o lawio ym Mlaenau Ffestiniog, ond byddaf yn ddiolchgar i’r glaw am byth.
Simon Chandler
- - - - - - - - - - 

Addaswyd o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf-Awst 2023


13.9.23

Amen yw’r hydref mwynaf

Colofn Olygyddol Rhifyn Medi 2023

Aeth y plant yn ôl i’r ysgol a daeth yr haul yn ôl allan; croeso i rifyn Medi!

Daw’r bennawd o englyn Gwilym Cadle i dymor yr hydref, ond ail hanner y gwpled ydi ‘Ar ddiwedd aur ddyddiau haf’. Chawsom ni ddim llawer o ddyddiau aur yng Ngorffennaf ac Awst eleni naddo! Felly ar ôl haf digon bethma mae’n dda cael ychydig o ddyddiau braf ym mis Medi eto... er fod yr haul wedi cyrraedd pan oeddwn yn sownd wrth y cyfrifiadur trwy’r penwythnos yn golygu Llafar Bro! Er gwaethaf hynny, bu’n fraint dod a’r rhifyn hwn at ei gilydd, a dwi’n mawr obeithio y cewch chi fwynhad o’i ddarllen.

Mi welwch o’r Calendr Bro bod llawer iawn o weithgareddau ar y gweill yn ein hardal yr hydref yma eto. Os na welwch chi rywbeth gwerth chweil i’w wneud yn lleol dros yr wythnosau nesa’, mae’n rhaid eich bod yn eitha’ anodd eich plesio! Mae rhai yn ddilornus o Fro Stiniog, ond argian, mae’n cymuned ni dal yn fwrlwm o weithgaredd a diwylliant. ‘Da ni yma o hyd! 

Dwi wedi camarwain braidd am fod yn ‘sownd’ yn y tŷ; mi ges i ddianc am ddwyawr i Gae Dolawel i wylio gêm gyntaf Bro Ffestiniog ar ôl ennill dyrchafiad i’r ail adran. Er fod y canlyniad yn siomedig, roedd yn hyfryd cael gwerthfawrogi’r ymroddiad gan griw y clwb rygbi: ar y cae a thu ôl i’r llenni hefyd. Llongyfarchiadau gyda llaw i Glyn Daniels, cynghorydd gweithgar, swyddog hysbysebion Llafar Bro, a chyn-gapten, ar gael ei ethol yn Gadeirydd y clwb. 

Braf iawn oedd cael rhoi’r byd yn ei le efo cyfeillion yn yr haul tra’n pwyso a mesur symudiadau’r gêm, a mwynhau peint wedyn. 

 

Cae Clyd. Llun- Paul W

Wrth wylio’r rygbi, roeddwn yn dilyn hynt y tîm pêl-droed ar Gae Clyd, ben arall y dre’ -a hynny trwy’r Ap gwych ‘Cymru Football’.  Mae CPD Amaturiaid y Blaenau yn griw brwdfrydig iawn hefyd, ac yn haeddu ein cefnogaeth. Wrth gerdded adra, braf oedd gweld bod criw da wedi ymgynull yn y Parc i fwynhau’r bowlio cystadleuol a’r hwyl yn fanno. Gyda’r nos mi ges i wledd Mecsicanaidd a noson hwyliog yn Cell. Peidiwch gadael i neb ddweud nad oes dim byd yn digwydd yma!

Cofiwch am fy apêl yn rhifyn yr haf, mae wir angen lleisiau newydd i sgwennu am bethau sy’n mynd ymlaen yn ein bro. Peidiwch a phoeni am ramadeg a sillafu: bydd ein golygyddion hawddgar yn hapus iawn i dwtio erthyglau lle mae angen; ac i gynghori os hoffech sgwrs cyn danfon. Byddai denu pobl newydd i sgwennu yn rhoi mwy o sicrwydd i ni bod dyfodol i Llafar Bro

Cofiwch ddod i’n cyfarfod blynyddol ar nos Iau Medi 21ain yn Y Pengwern lle byddwn yn trafod y dyfodol... felly os ydi Llafar Bro yn bwysig i chi, galwch i mewn!

Dyna ddiwedd fy stem fel golygydd am eleni, Tecwyn fydd wrth y llyw ar gyfer y ddau rifyn nesa’. Diolch i bawb am hwyluso’r gwaith. Dwi’n dod i ddiwedd pum mlynedd yn y gadair hefyd, fy ail gyfnod fel cadeirydd papur bro gorau’r byd! Er gwaethaf heriau amlwg fel covid, y cynnydd mewn pris argraffu a’r gostyngiad yn faint sy’n prynu papurau o unrhyw fath, credaf iddo fod yn gyfnod digon llwyddianus. 

Mae Llafar Bro yn ymddangos mewn lliw llawn bellach; wedi croesi’r trothwy o 500 rhifyn; a’n presenoldeb yn y byd digidol yn gadarn. Llwyddwyd i gyhoeddi ar-lein trwy’r cyfnodau clo, ac mewn ymdrech ryfeddol efo partneriaid cymunedol a llu o wirfoddolwyr, rhoddwyd copi o’r pum-canfed rhifyn am ddim i bob cartref yn y dalgylch! Byddwn yn dathlu penblwydd yn hanner cant oed mewn dwy flynedd; dyma obeithio y bydd Llafar Bro yma o hyd.
Hwyl am y tro, a daliwch i gredu.        Paul

9.9.23

Cyfres Caban

Ar nos Wener ola’r mis bach, cafwyd noson lwyddianus arall yn y gyfres Adloniant; Diwylliant; Chwyldro. Nosweithiau sgwrs a chân yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog, wedi'u trefnu gan gangen Bro Stiniog o Yes Cymru. 

Mewn awyrgylch braf a gwrandawiad arbennig, bu Gwilym Bowen Rhys yn diddanu’r gynulleidfa yn ei ddull unigryw, efo’i stôr anhygoel o ganeuol gwerin a thraddodiadol.

Llun Gai Toms

Cafwyd sgwrs arbennig iawn hefyd gan yr ymgyrchydd a’r awdur Angharad Tomos am ei phrofiad hi o ddysgu am hanes Cymru, ac mi roddodd y cyflwyniad cyntaf i’w nofel newydd sbon am Silyn a Mary Roberts fu’n byw yn Nhanygrisiau am 8 mlynedd.

Llun Paul W

 Diolch i Radio Yes Cymru am gyhoeddi recordiad o ran o sgwrs Angharad ar eu podlediad:

 

 

Fis yn ddiweddarach, ar nos Wener ola’ mis Mawrth, cafwyd noson arbennig eto. 

Y gantores werin, chwedleuwraig, ac ymgyrchydd cymunedol Catrin O’Neill oedd yn canu y tro hwn, ac mi swynodd y gynulleidfa efo amrywiaeth hyfryd o alawon traddodiadol a chaneuon gwreiddiol, yn cyfeilio iddi’i hun efo’r gitâr a’r bodhran a chael pawb i gyfrannu at yr hwyl trwy ganu a churo coesau a tharo byrddau!

Llun Gai Toms


Wedyn, dan lywyddiaeth Geraint Thomas -sy’n cynrychioli ein rhanbarth ni ar fwrdd rheoli Yes Cymru- cafwyd sgwrs ddifyr iawn a sesiwn holi efo Gwern Gwynfil, prif weithredwr y corff sy’n ymgyrchu dros annibyniaeth i Gymru, a gellid fod wedi sgwrsio a thrafod yn frwd am awr neu ddwy arall.

'Mae Bro Stiniog ar flaen y gad wrth dynnu sylw at yr ymgyrch annibyniaeth efo nosweithiau fel hon...'

Rhai o uchafbwyntiau'r noson, gan BroCast Ffestiniog:


Mae recordiad ar gael o rannau o'r noson yma hefyd fel podlediad gan Radio Yes Cymru:

 

Hon oedd yr olaf o nosweithiau agos-atoch y gyfres yng nghaffi clyd Antur Stiniog, a hoffai pwyllgor Yes Cymru Bro Ffestiniog ddiolch yn fawr i Antur Stiniog, ac yn arbennig Helen, Ronwen a Sandie am eu cymorth hwyliog; i Glyn Lasarus Jones am gyfieithu ar y pryd; ac i Gai Toms am drefnu’r PA.

Gig yn Y Pengwern
Daeth criw da ynghyd ar Nos Wener y 5ed o Fai, i fwynhau noson o ganu yn Y Pengwern, efo Tom a Mared Jeffery a Gai Toms a’r band. Roedd hon yn noson i godi arian i'r gangen leol o Yes Cymru, ac yn fwy o gyngerdd na'r nosweithiau yn y caffi.


 Gobeithiwn weld Cyfres Caban yn nodwedd flynyddol dros y gaeaf. Gwyliwch y gofod!

Posteri'r gyfres. Gwaith graffeg gan Gai Toms

- - - - - - - -

Mae'r uchod yn addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn rhifynnau Mawrth, Ebrill, a Mai 2023

Nosweithiau Cyfres Caban, hydref 2023


6.9.23

Hen Lwybrau, rhan 2

 Ail ran Hen Lwybrau a Ffyrdd ein Bro, o gyfres Stolpia, Steffan ab Owain, o ugain mlynedd yn ôl.

Ceir sawl enw am lwybr troed neu ffordd gul hwnt ac yma yn Nghymru. Er enghraifft, disgrifir rhai fel 'ffordd drol' gennym ni yn y parthau hyn o Feirion, tra defnyddir 'lôn gert' am yr un peth gan ambell un yn Eifionydd.

Enw diddorol arall ar lwybr llydan neu ffordd fach gul yw 'hwylfa' ac fe'i ddefnyddir hyd heddiw mewn rhannau o Ardudwy a de Meirionnydd. Deallaf mai Hwylfa Gwyddau y gelwir un ohonynt yng Nghwm Nantcol. Ceid tŷ o'r enw Hwylfa Groes yn y cyffiniau gynt hefyd, ac onid oes lle o'r enw Hwylfa'r Nant yn Harlech? Ceir enghreifftiau eraill yn hen sir Gaernarfon a sir Ddinbych hefyd, megis Hwylfa'r Ceirw yn Llandudno a Pen yr Hwylfa yn Llansannan.

TŶ COCH YR HWYLFA

Ar un adeg ceid tŷ o'r enw yma nid ymhell o Bont y Wynnes a hen welyau carthffosiaeth y Manod. Dyma oedd ei enw'n llawn yn ôl cofrestrau'r plwyn am yr 1820au er mai Tŷ Coch y gelwid ef ar lafar gwlad diweddar. Erys ei adfeilion yno heddiw ond ychydig iawn o bobl yr ardal sy'n gydnabyddus â'r lle bellach. Bum yn meddwl tybed pa ffordd fach a gyfeirid ati yn yr hen enw a fyddai arno? O edrych o'n cwmpas yn y rhan yma gwelwn fod 'Hen Ffordd y Plwy' yn rhedeg nid nepell o'r fangre, sef yr hef ffordd a ddefnyddid gan ein teidiau gynt i gludo llechi gleision eion chwareli o Gongl-y-wal ac i lawr i'r ceiau ar y Ddwyryd yng ngwaelod gwlad.

Ffordd drol arall a ddylid ei hystyried hefyd yw'r un a red i lawr o'r neuadd Ddu a heibio adfeilion tyddyn Llennyrch y Moch, i'r gorllewin o'r Tŷ Coch. Tybed ai cyfeirio at un o'r rhain y mae'r 'hwylfa' yn yr enw hwn neu ai ryw ffordd fach arall sydd wedi hen ddiflannu erbyn hyn oedd dan sylw ganddynt? [*Gweler drafodaeth pellach isod. Gol]

 

LLWYBR YR ESGOB

Yr enw a ddefnyddid ar un o lwybrau hynafol ucheldir Abergwyngregyn gynt oedd Llwybr yr Offeiriad, a cheir sawl cyfeiriad at Lwybr y Pererinion yn Llŷn.

Pa fodd bynnag, yma yn y Blaenau bu gennym ninnau hen lwybr troed neu lwybr march o'r enw Llwybr yr Esgob. Yn ôl beth ddywedodd fy niweddar gyfaill Bob Roberts, Tanygrisiau wrthyf, rhedai'r hen lwybr hwn drwy'r tir a fyddai rhwng Maesyneuadd a Dolau Las ac yna draw i gyfeiriad fferm Tŷ'n Ddôl a fferm Cefn Bychan, ac ymlaen at dai Bryn Bowydd Newydd.

Llwybr esgob, yn edrych i lawr tuag at Gefn Bychan. Llun- Paul W
 

Yn ôl traddodiad lleol, ar hyd y llwybr hwn y marchogai esgobion Bangor pan oeddynt yn ymweld â'r rhannau hyn o'u hesgobaeth.


LLWYBR Y MEIRW

Ar ôl imi ysgrifennu'r pwt am Ffordd y Meirw yn rhifyn Mehefin cefais ymweliad gan Mrs Rhiannon Jones, Caeffridd. Roedd hithau hefyd wedi clywed am hen lwybr tebyg gan ei mam, ond nid yr un a fu dan sylw gennyf fi.

Roedd Llwybr y Meirw yn mynd rhwng hen siop Bryn Gwyn ac Angorfa a thros Pen Banc ffatri a draw am Blaen Dyffryn ayyb. Diolch yn fawr am yr wybodaeth yma. Yn wir nid oeddwn wedi clywed dim son amdano o'r blaen. Tybed os mai ar hyd y llwybr hwn y byddai hen bopl Glan-y-pwll a Rhiwbryfdir yn cludo'u meirw ar elor i lawr i eglwys y Llan cyn bod son am yr un capel na mynwent arall yn y plwyf? 

Anfonwch air atom os ydych â gwybodaeth neu'n cofio rhyw hanesyn am lwybrau'r fro.

- - - - - - - - 

Ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2003

- - - - - - - - 

*Tŷ Coch yr Hwylfa: Y mae wrth gwrs ffordd drol dda yn mynd o'r ffordd fawr (ac hefyd o bont lein Tyddyn Gwyn) a heibio'r graig i Dŷ Coch, sy'n llwybr cyhoeddus hyd heddiw; be am honno fel yr 'hwylfa'?

Ond mae un posibilrwydd arall: enw'r graig ydi CLOGWYN YR WYLFA. (Ystyr Gwylfa ydi 'lle i wylio ohono/man uchel lle gellid cadw golwg ar yr ardal' ayb). Felly onid enwi'r tŷ ar ôl y graig wnaethon nhw yn hytrach nag ar ôl llwybr... Hynny ydi, Tŷ Coch yr Wylfa sydd yma yn hytrach na Thŷ Coch yr Hwylfa? PW, Awst 2023.

Neu a ddylai'r graig fod yn Glogwyn yr Hwylfa, wedi'i henwi ar ôl y llwybr?! Efallai na chawn fyth wybod yn iawn...

- - - - - - - - -

Pennod 1 y gyfres

Rhan 3