23.8.23

Hen lwybrau a ffyrdd ein bro

Rhan o gyfres Stolpia, Steffan ab Owain, o ugain mlynedd yn ôl.

Mi wn fod llawer ohonoch yn mwynhau mynd am dro ar rai o lwybrau'r fro pan fydd y tywydd yn caniatâu. Ers talwm a chyn dyddiau'r car a gwyliau tramor, nid peth dieithr oedd gweld lliaws o bobol y cylch yn rhodianna ar 'Lwybr Cwm Bywydd', a sawl llwybr arall ar ddyddiau braf yn yr haf.

Yn y dyddiau gynt ceid enw ar bob llwybr troed yn ein hardal, ond daeth tro ar fyd, a bellach adnabyddir y rhan fwyaf ohonynt wrth rif swyddogol. Efallai nad anniddorol a fyddai crybwyll rhai o hen lwybrau'r fro cyn iddynt fynd i ebargofiant a'u colli am byth.

FFORDD Y MEIRW

Dyma enw a glywais lawer blwyddyn yn ôl am yr hen ffordd a red heibio Plas Pengwern tuag at hen bont yr Ysgol Newydd a chodi i fyny gynt heibio Cae'r Blaidd a draw am Blas Blaen-y-ddôl. Y tebyglorwydd yw iddi gael yr hen enw hwn oherwydd mai ar hyd y ffordd hon y byddid yn cludo'r meirw o gyffiniau Tanygrisiau, Glan-y-pwll, a Rhiwbryfdir i fynwent eglwys y Llan yn y blynyddoedd maith a fu cyn datblygiad ein chwareli, y ffyrdd trol a'r ffyrdd tyrpeg diweddarach.

Ffordd y Meirw ger safle'r hen bont (tu ôl i'r ffotograffydd, Paul W)

Yn ôl cofnodion festri Ffestiniog am y flwyddyn 1879 methodd y bwrdd lleol a chau yr hen ffordd hon yn gyfangwbl er fod tirfeddianwr stad Pengwern, Fletcher-Wynne wedi mynd ati i agor ffordd newydd heibio fferm Brunrhug ar gyfer y drafnidiaeth gynyddol. Credaf mai un o'r rhesymau, os nad y rheswm pennaf y tu ôl i hyn, oedd am fod yr hen ffordd wedi bod yn 'llwybr elor' ac yn ôl coel gwlad, os cludid corff mewn arch ar hyd unrhyw ffordd, neu hyd yn oed trwy gae agored, roedd 'hawl' wedyn gan y werin ei dramwyo hyd ddydd y farn. 

Cofier, methais a gweld dim byd, hyd yn hyn beth bynnag, yng nghofnodion y festri na'r Bwrdd Lleol i gadarnhau'r gosodiad uchod. Eto'i gyd, y mae'r enw a roddwyd ar ran o'r hen ffordd hon, sef 'Ffordd y Meirw' yn awgrymu'n gryf fod rhyw sail iddo, onid yw?

Mi fyddai'n braf cael clywed un o ddarllenwyr Llafar Bro yn ategu hyn. Gyda llaw, diwedd y stori yn ôl y son oedd i ryw walch neu genau chwalu'r bont a groesai afon Teigl islaw'r Pandy yn chwilfriw. Saethwyd hi'n fwriadol gyda ffrwydron a rhoi atalfa ar rodio gweddill y ffordd am byth. Ai Pont yr Ysgol Newydd oedd enw hon? Byddai'n dda cael cadarnhad.

 

SARN HELEN neu FFORDD ELEN

Yn ddiau mae hi'n anodd credu heddiw fod rhai o'n llwybrau yn drybeilig o hen a bod ambell un yn dyddio mor bell yn ôl a'r cyfnod neolithig. Wrth gwrs, un o hen ffyrdd enwocaf dalgylch Llafar Bro yw'r ffordd Rufeinig a elwir Sarn Helen gan amlaf, neu Ffordd Elen gan rai haneswyr lleol. Cofier y mae 'sarn' yn gallu golygu hen ffordd neu le i groesi afon, megis cerrig llam neu math o gob.

Mae'n bur debyg fod Sarn Helen hyd yn oed wedi ei phalmantu ar hen 'ffordd' gyntefig a ddefnyddid yn flaenorol gan bobol yr Oes Efydd a'r Oes Haearn.

Rwan, ag ystyried am funud olion yr hen gladdfeydd cynhanesyddol a geir ar ochr yr hen ffordd hon, onid ydynt yn awgrymu'n gryf fod canrifoedd o dramwyo wedi digwydd arni cyn i'r un o filwyr Cesar droedio daear ein gwlad? 

Gyda llaw, weithiau byddaf yn rhyw feddwl mai llygriad yw Helen yn enw'r ffordd, ac mai 'Sarn Halen' oedd yr enw gwreiddiol arni... a gyda llaw, nid y fi yw'r cyntaf i awgrymu hyn chwaith. Yn wir, ceir sawl cyfeiriad at 'salt roads' yn hanes Lloegr hefyd. [Mae gennym 'Rhyd yr Halen' ar lwybr y sarn yn ardal Afon Gamallt onid oes? Gol. 2023]

Dywedir mai ar ôl i chwedl Helen Luyddog a Macsen Wledig gael ei phoblogeiddio y llygrwyd peth mwdral o enwau lleoedd er mwyn cynnwys enw Elen neu Helen ynddynt, e.e Dolyddelen am Dolwyddelan, ac mae sawl lle yn dal i ddioddef yr effaith hyd heddiw!

 

FFORDD LAS

Anodd iawn yw dweud pa mor hen yw'r llwybr glaswelltog hwn sy'n cychwyn wrth Benycefn ac yn rhedeg i lawr de-orllewin Cefn Trwsgwl am Dynycefn. Credaf fod yr hen lwybr, neu'r 'ffordd las' hon yn uno â sawl llwybr arall ar un adeg -Llwybr Cwmbowydd yn un ohonynt wrth gwrs. Yn ddiau, ceid llwybr arall yn mynd am ffermdy Dolwen ar un cyfnod; un arall yn codi tua Henblas a throsto i gyfeiriad Plas Pengwern... yn un arall yn cyfeirio at y Cymerau Uchaf ayyb.

Heb os nac onibai, y llwybr hwn oedd priffordd pobl Tanygrisiau pan aent i'r eglwys, y pandy a'r felin flawd, ac i'r ffeiriau yn Llan Ffestiniog erstalwm.

Ceir sawl lle o'r enw 'Ffordd Las' yng Nghymru a cheir nifer o leoedd a elwir 'Green Road' yn Lloegr hefyd.

- - - - - - - - - 

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2003

Rhan 2

Erthygl Llwybrau Sgotwrs


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon