5.8.23

Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad

Mae taith lwyddiannus arall Cwmni Opra Cymru -sydd â’i wreiddiau’n ein hardal ni- newydd ddod i ben. Trosiad cyfarwyddwr cerddorol y Cwmni, Iwan Teifion Davies o opera Mozart -‘Cosi Fan Tutte’ a gyflwynwyd y tro hwn. Rhoddodd Iwan Teifion y teitl Cymraeg ‘Ysgol Ddrud yw Ysgol Gariad’ iddi. Yn ogystal â bod yn gyfrifol am gyfieithu’r gwaith, ef hefyd oedd arweinydd y gerddorfa.

Canolbwyntiwyd ar leoli’r perfformiadau mewn theatrau ar draws Cymru, gan agor yn Pontio, Bangor ar 12 Mai. Dilynwyd hynny mewn saith canolfan arall - Taliesin, Abertawe, Y Lyric, Caerfyrddin, Hafren, Y Drenewydd, Brycheiniog, Aberhonddu, Neuadd Dwyfor, Pwllheli, Y Stiwt, Rhollannerchrugog, gan orffen yng Nghanolfan y Celfyddydau, Aberystwyth. 

Hwyrach nad ydy cerddoriaeth yr opera yn cyrraedd y tir uchel sydd i’w glywed yn arias cofiadwy operau Verdi a Donizetti yn fy marn fach i, ond llwyddodd Cyfarwyddwr Artistig y Cwmni, Patrick Young, i ddenu cast tu hwnt o ddawnus i gyflwyno’r gwaith. Y tenor o Rydymain, Huw Ynyr chwaraeodd ran Ferrando, a’r bariton ifanc, John Ieuan Jones ganodd ran Gugliemino. Dwy ‘Erin’ swynol dros ben ganodd rannau’r ddwy chwaer a chariadon y gwŷr ifanc, Fiodiligi a Dorabella, sef Erin Gwyn Rossington o gyffiniau Llanfair Talhaearn ac Erin Fflur, sy’n wreiddiol o’r Felinheli. Cafwyd canu cyfoethog gan Rhys Jenkins yn rhan Don Alfonso a chanu ac actio gwych gan Leah-Marian Jones fel y forwyn, Despina. 

Yn sicr, roedd y cynhyrchiad yn un bywiog ac yn llawn dychymyg a hiwmor. Roedd y gerddorfa ifanc o tua phymtheg o aelodau hefyd yn cyfeilio’n grefftus, a hynny, heb dynnu sylw’r gynulleidfa oddi ar y libretto. Rhaid dweud ei bod hi’n braf clywed geirio croyw. Cymry Cymraeg iaith gyntaf oedd y cast cyfan, ar wahân i Robert Jenkins. Mae’n amlwg fod eu profiadau eisteddfodol a’r llwyddiant a gawson nhw’n y maes hwnnw wedi profi’n fuddiol. Fel cerdd-dantiwr, gallwch ddychmygu pa mor bwysig ydy cyflwyno geiriau’n glir i mi.

Yn Theatr y Lyric, Caerfyrddin y cefais y fraint o wrando ar y perfformiad, a chael mwynhau diwrnod neu ddau’r un pryd yn nhre’r ‘hen dderwen’, lle treuliais dair blynedd hapus dros hanner canrif yn ôl. 

Dymunaf longyfarch fy nghymydog, Patrick Young a’i dîm ar gyrraedd uchafbwynt unwaith eto yn hanes Opra Cymru. Mawr fydd yr edrych ymlaen rwan at y prosiectau eraill sydd ar y gweill.

IM
- - - - - - - - 


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2023


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon