30.1.20

200 Tymor Capel Rhiw

Ar achlysur dathlu hanner can mlynedd yn byw a gweithio yng Nghapel Rhiw, cafodd yr artist David Nash fri haeddiannol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd arddangosfa fawr o’i waith oedd yn cynnwys amrediad cyflawn, o’r dyddiau cynnar pan adawodd Goleg Celf Chelsea yn Llundain ac ymgartrefu yn y Blaenau, i’r darnau mwyaf diweddar.

Tŵr Corc, 2012. Llun- Paul W
Roedd yr arddangosfa’n ymestyn drwy gyfres o orielau, yn amlygu rhai o’r gwahanol wledydd y bu David yn gweithio ynddynt megis Japan, UDA, Ffrainc ac Iwerddon, yn ogystal â gweithiau sydd wedi deillio a’u hysbrydoli’n benodol gan ei filltir sgwâr. Roedd y cyfoeth siapiau ac arliwiau gwahanol yn wledd i’r llygad gyda hanes a phwysigrwydd y capel yn galon i’r cyfan ac yn rhoi allwedd i archwilio datblygiad y gwaith dros yr hanner canrif.


Natur i Natur, 1997-98. Llun- Paul W
Law yn llaw â’r cerfluniau mae lluniadu wedi bod yn bwysig i David ers y dyddiau cynnar ac un o’i weithiau pwysicaf yw’r Goeden Deulu, lluniad sy’n bum panel enfawr lle mae wedi darlunio esblygiad ei waith o ddyddiau coleg. Cwblhaodd y pumed panel yn arbennig i’r arddangosfa ac mae’n cynnwys detholiad o ddelweddau o’i gerfluniau diweddaraf gan gynnwys y Trawiad Mellten welir wrth gylchfan y Blaenau.

Ymysg y creiriau archif yno roedd cyfres o ddarluniau o’i arddangosfa yn Neuadd y Farchnad i ddathlu’r Mileniwm, yn ogystal â nifer o hen luniau o’r capel a chatalogau o’i arddangosfeydd blaengar, yn cynnwys ei sioe gyntaf un lwyfanwyd yng Nghaerefrog a Bangor ym 1973.

Mae gyrfa hir a disglair fel un David yn haeddu cydnabyddiaeth ac ochr yn ochr â’r arddangosfa mae Llyfrau Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi llyfr swmpus, David Nash, 200 Tymor Capel Rhiw, sy’n cofnodi David a’i waith dros hanner canrif.  Mae’n drysor o gyfrol - un o’r llyfrau celf harddaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn ddi-os - yn llawn lluniau ac hanesion personol, gan gynnwys gair o werthfawrogiad arbennig i Dafydd Roberts, Cae Clyd am ei holl gymorth dros y blynyddoedd, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol i bymtheg o’i ddarnau allweddol ac ysgrifau sy’n gosod gwaith David mewn cyd-destun celf byd eang. 





Mae’r llyfr ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw lle mae’r ffilm am y glogfaen bren y bu David yn dilyn ei hynt a’i helynt dros ddeugain mlynedd wrth iddi deithio o nant Bronturnor i foryd y Ddwyryd i’w gweld yn barhaol.


Ffilm fer Cerflun Drwy'r Tymhorau gan Peter Telfer, Ceinws.
---------------------------------

Erthygl gan Nia Roberts a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.


26.1.20

Codi'r To

CANTORION YN COFIO CANMLWYDDIANT GENI MERÊD
Daeth tyrfa luosog ynghyd i Gapel Carmel, Tanygrisiau i Gymanfa ‘Codi’r To’.

Er mai yn Ne Meirionnydd, ym mhentref Llanegryn, y ganwyd y canwr, casglwr a hanesydd cerddoriaeth werin Gymreig, Meredydd Evans, ym Mryn Mair, Tanygrisiau y magwyd ef. Roedd hi’n addas iawn felly ein bod ni wedi cynnal y weithgaredd nepell o’i gartref, a llwyddo i godi swm sylweddol o arian [£650] i Gronfa Genedlaethol William Salesbury.


Llywiwyd y noson yn hwyliog gan John Eifion – arweinydd Côr y Brythoniaid. Y cyfeilyddion oedd Alwena Morgan [piano], Gerallt Rhun [gitâr] a Hefin Jones [mandola a phibgyrn]. Ymunodd y cerddor, y cyfansoddwr a’r canwr Gai Toms gyda nhw, a chafwyd eitemau gwych ganddo. Pan addasodd Gai festri hen gapel Bethel y Presbyteriaid, a fu’n fagwrfa grefyddol i Merêd, a chreu stiwdio recordio yno, gwahoddwyd yr arwr 92 oed yno i ymuno ag o i ganu deuawd ‘Cân y Dewis’ – sydd i’w chlywed ar albwm ‘Bethel’ Gai.

Wrth groesawu pawb i’r Gymanfa, diolchodd Iwan Morgan, y cydlynydd, i swyddogion ac aelodau Carmel am ganiatáu cynnal y weithgaredd yno ac am eu hynawsedd. Diolchodd hefyd i’r holl gantorion a charwyr y pethe am droi i mewn. Derbyniwyd nifer o negeseuon ar lafar ac yn ysgrifenedig i ganmol y fenter.

Do, cafwyd noson o ganu gwerin hwyliog a hapus – un deilwng i sicrhau y byddai cwpan Merêd yn llawn.


Cafodd nosweithiau tebyg eu trefnu hefyd ym Mhwllheli, y Bala, Dinbych, Llanegryn, Caernarfon, Llanerfyl, Aberystwyth, Crymych, Pontypridd a Chasnewydd. Ymddiriedolaeth William Salesbury oedd yn gyfrifol am drefnu'r gyfres. Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sefydlodd Merêd yr ymddiriedolaeth yma i gynnig ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn eu cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r Coleg. Mae’r Gronfa’n cynnig cefnogaeth hael i nifer o fyfyrwyr yn flynyddol, ac mae angen ymdrech gyson i sicrhau bod arian ar gael yn y gronfa.

Mae’n addas iawn felly, wrth gofio am ben-blwydd arbennig un o’n pobl ni a wnaeth gymaint dros ganu gwerin ein bod yn cynnal y weithgaredd yn Nhanygrisiau.

Dyma ddywed y Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd y Gronfa :

Pa well ffordd i anrhydeddu’r cof am Merêd na morio canu alawon gwerin er mwyn codi pres i achos mor agos at ei galon?"
---------------------------------

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2019.


18.1.20

Rhod y Rhigymwr -Bethel fach y Llan

Ar Ddydd Nadolig 2019, roedd Capel Bethel, Llan Ffestiniog yn dathlu canrif a hanner ei sefydlu.

Er mai ‘1868’ a nodir ar y garreg a dynnwyd oddi ar yr hen adeilad a’i gosod uwchben drws y ‘Festri’ y bu inni ei haddasu a’i chysegru’n addoldy ar y 3 Mawrth 2002.


Yn y cyfarfod hwnnw, cyflwynwyd y penillion canlynol gan blant a phobl ifanc yr Ysgol Sul:

Yr oedd capel hardd ei olwg
Yma unwaith yn y Llan,
Lle y deuai ein cyndadau
Ar y Sul i gymryd rhan;
Nid yw’r capel hwnnw bellach
Ond yn atgof yn ein byd,
Rhoed i ninnau gapel newydd
Llai o faint, ond hynod glyd.

Iddo deuwn ar y Suliau
I glodfori Crist, mab Duw;
Mae pob gwers a gawn ni ynddo’n
Help i’n dysgu sut i fyw;
Diolch wnawn am y bendithion
Ddaw i’n rhan bob dydd o’n hoes,
Diolch wnawn am gariad Iesu
A fu farw ar y groes.

Mawr yw braint pob un ohonom
Sy’n cael dod bob Sul fel hyn
I addoli rhwng ei furiau,
Onid yw ein byd yn wyn?
Boed i gyfoeth y profiadau
Gawn ym Methel fach y Llan
Fod yn gymorth drwy daith bywyd,
Dros yr Iesu gwnawn ein rhan.


Ar Ddydd Nadolig 1867, ordeiniwyd Sachareia Maher yn weinidog yn Saron. Daeth awydd mawr ar yr aelodau i gael adeilad newydd, hardd. Dechreuwyd ei adeiladu ar gost o fil a hanner o bunnoedd – oedd yn swm mawr iawn o arian yr adeg honno!

Dyma fel yr adroddodd rhywun hanes yr Achos yn symud o Saron i Fethel:
“Cofiaf yn dda y mudo o Saron i Fethel. Nid oedd lampau’r capel newydd wedi eu gosod i fyny. Yr oedd yr aelodau wedi rhoi benthyg eu lampau o’u cartrefi am y noson. Canhwyllau a ddefnyddid yn Saron. Cychwynnwyd yr orymdaith daclus o Saron – Mr. Maher a’r diaconiaid ar y blaen; Cadwaladr Jones y codwr canu a’r côr wedyn; Jane Humphreys y Cwm oedd y brif soprano; Siân Roberts, gwraig William Stephen, ac Ann Joseff yn canu yn ei hochor hi, ac yn ‘repeatio’ bob amser.”
Ar gyfer dathlu’r penblwydd yn 150, cyfansoddais gywydd i’w gyflwyno’n yr oedfa arbennig a drefnwyd ar gyfer prynhawn dydd Sadwrn, 30 Tachwedd, a hynny ar gainc  Gwennant Pyrs – ‘Seiriol’.

Mae’n cyfeirio at ein cyn-deidiau selog yn mudo i Fethel – ‘Tŷ Duw’ – a hynny o hen adeilad bychan, tywyll a llaith Saron. Sonnir am y profiadau a gafwyd rhwng muriau enfawr a hardd y capel newydd. Bellach, mae’r adeilad presennol a addaswyd gennym yn ddigonol i’n pwrpas. Ynghanol y trai mawr a welir ar achos Crist yn ein gwlad, mae criw bychan ohonom yn parhau i gadw’r drws yn agored ar gyfer addoli:

Daw i gof y tadau gynt –
rhai ffyddiog a chraff oeddynt
welai’r angen i’r enaid
greu allor i’r Iôr o raid,
a rhoi i dyrfa ddi-ri’
lys i’w ddilys addoli.

Yn llawn afiaith ymdeithiodd
y rhai hyn, a’u camre drodd
i le rhwydd i foli’r Iôn,
o sawrau llwydni Saron;
baner eu hannibyniaeth
i Fethel yn ddiogel ddaeth.

Y gân yn seinio’n gynnes
yno, a grym coeth y gwres
yn cynnau neges cennad
y Tŷ hwn – Tŷ Cwrdd y Tad;
a’r dwys weddïo a’r dôn
yn adfywio’r oedfaon.

Heddiw’n ein hoes ddifeddwl
aeth crefydd a ffydd i’r ffŵl!
Ond yn sêl y Fethel fach
agorir drws rhagorach
i’r Tŷ hwn! – Daliwn, o Dad
i ddilyn ffyrdd addoliad.

Yr emyn-dôn Tanymarian [Edward Stephen] ddewiswyd ar gyfer emyn y dathlu. Yn Rhyd-sarn y ganwyd Edward Jones, ac fe’i bedyddiwyd yn Eglwys San Mihangel y Llan ym mis Rhagfyr 1822.

Pan aeth i’r coleg, gwelodd fod un ‘Edward Jones’ arall yno, a chymerodd enw bedydd ei daid, ‘STEPHEN’ – yn gyfenw iddo’i hun. Roedd tad Edward yn canu gyda’r tannau, ac roedd ei fam hefyd yn gantores dda. Symudodd y teulu i fyw o Ryd-sarn i Penmount Bach, ac yna, i Dy’n y Maes. Cafodd Edward ei addysg yn Ysgol Penralltgoch. Ar ôl ymadael, prentisiwyd ef yn ddilledydd. Ym 1840, dechreuodd bregethu yn Saron ac aeth i Goleg Annibynwyr y Bala ym 1843. Bu’n weinidog ym Mhenmaenmawr o 1847 hyd 1857, cyn symud i Lanllechid. Cyfansoddodd nifer o ddarnau cerddorol cysegredig. Bu farw ym mis Mai, 1885.

Cofiwn ymdaith ein cyndadau’n
Cludo’r newydd da i’w hynt,
Seiniau moliant yn yr awel
A gweddïau yn y gwynt;
Dod â baner Annibyniaeth
Ar ddydd geni Mebyn Mair,
A’r credinwyr oll yn teimlo
Effaith grym cyhoeddi’r Gair.

Cofiwn y gwroniaid hynny
Yng nghaledi’r dyddiau fu,
Rhai osododd goed a meini’n
Seiliau praff i furiau’r Tŷ;
A’r rhai brofodd rhwng y rheiny
Wyntoedd teg yr adfywhad,
A gweld llaw yr Hollalluog
Yn teyrnasu dros eu gwlad.

Cofiwn heddiw am arddeliad
Ein hynafiaid brwd, mewn oes
Lle gosodir Duw dan gwmwl,
Lle gwrthodir Crist y Groes;
Yn uffernau’n t’wyllwch eithaf,
Ar ein Tad ymbiliwn ni
Gael ymdeithio â’n cyndadau
I oleuni Calfari.

----------------------------------
Addasiad o golofn Iwan Morgan, a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.

Lluniau- Paul W 





11.1.20

Llys Dorfil -cerrig a saethau a roc-a-rôl

Ail ran crynodeb Bill a Mary Jones o'r chwilio a chloddio yng Nghwmbowydd.

Roedd y tŷ crwn a ddarganfuwyd yn rhagflaenu Llys Dorfil. Nid yw'r gwir oedran wedi'i sefydlu hyd yma, ond mae casgliad o samplau wedi’u cadw at y diben hwn.

Wrth i'r gwaith archaeoleg fynd rhagddo daethom o hyd i dŷ crwn arall sydd ynghlwm â’r gwreiddiol. Cyfeirir at y rhain fel tai crwn cyswllt (conjoined) neu dŷ crwn ffigwr wyth. Nid yw'r math yma’n unigryw i'r rhan yma o Gymru. Cloddiwyd un ohonynt oedd yn  perthyn i’r Oes Haearn ac a elwir yn Bryn Eryr, ger Llansadwrn, Ynys Môn, a symudwyd hwn y rholl ffordd i amgueddfa Sain Ffagan yn a'i ailadeiladu yno.

Maint lloc Llys Dorfil yw oddeutu 142m o hyd o’r dwyrain i’r gorllewin, a 110m o led o’r gogledd i’r de, mewn siâp eliptig.


Mae gan Lys Dorfil ddyled enfawr i Dr H.A.Daynes, Fferm Tan y Bryn, gan iddo wrthwynebu’n 1969, gosod y bibell garthffosiaeth arfaethedig o Danygrisiau a fyddai, yn ôl y cynllun, wedi mynd trwy ganol Llys Dorfil. Byddai'r bibell wedi dinistrio safle hanesyddol pwysig iawn!

Carreg ac arysgrif arni.


Cafwyd hyd i hon wedi'i gosod ar lawr clai y tŷ crwn cyswllt.

Ni wyddom beth yw ystyr y motiff, ond mae'r haenan y daethpwyd o hyd iddi’n awgrymu'n gryf ei bod wedi'i gwneud gan ddyn, ac o oedran cynnar iawn.







Pennau saeth.
                      
Yn y tŷ crwn hynaf, daethpwyd o hyd i bennau saeth. Fe’i gwnaed o lechan yn hytrach na fflint.

Gellir cynhyrchu pennau saeth llechi yn llawer cynt na'r rhai fflint, ond maent yr un mor effeithiol.
                        



Modrwy Llys Dorfil
                        
Darganfuwyd y fodrwy hon gan ddyn lleol yn y 1970'au wrth adeiladu'r safle carthffosiaeth yng Nghwmbowydd SH 69804450. Fe'i darganfuwyd mewn pentwr o gerrig ar waelod ffôs a oedd yn cysylltu Blaenau Ffestiniog â'r gwaith carthffosiaeth newydd.


Mae'r archaeoleg  sydd wedi’i gynnal (yn wirfoddol) yn Llys Dorfil dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn awgrymu bod hwn yn safle hynafol iawn, ac mae hyn, ynddo'i hun, yn rhoi pwysigrwydd mawr i'r safle a'r gymdogaeth.
---------------------------------------

Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.

Rhan 1 yr hanes

Deallwn y bydd Bill, Mary a gweddill criw Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog yn dychwelyd i'r safle i gloddio eto yn 2020. Edrychwn ymlaen am fwy o newyddion.

Llys Dorfil 'ta Llys Darfil? 
Mae G.J.Williams yn  'Hanes Plwyf Ffestiniog' 1882 yn defnyddio'r enw Llys Darfil, ond hefyd yn cyfeirio at Dorfal. Er yn di-ystyru'r cysylltiad efo Derfel Gadarn, mae'n awgrymu bod rhai wedi defnyddio Llys Derfel yn y gorffennol hefyd. Mae'r enw Dorfil dal mewn defydd heddiw ar ddwy stryd yn y Blaenau.

Archaeoleg a roc-a-rôl!

Cân o 1991 am Llys Darfil gan y grŵp lleol Twm Cetyn.



7.1.20

Deunydd darllen yn y flwyddyn newydd

RHAMANT BRO  -Rhifyn 38.

Os nad ydych wedi cael eich copi diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog y mae rhai ar werth rŵan yn ein siopau lleol, a chan aelodau’r gymdeithas.


Ceir 48 tudalen ynddo gyda hanesion ar bynciau amrywiol, megis rhai o enwogion y fro, Maen Bwlch Gorddinan, Beddau Gwŷr Ardudwy, Atgofion Dafydd Hughes, Tŷ Newydd Ffynnon, Llyn Manod, a’r Sbïwr o Fuches Wen yn ogystal â llawer o luniau diddorol.


Heb os, dyma gylchgrawn rhagorol i unrhyw un sy’n hoff o hanes ‘Stiniog.


Cyhoeddiad arbennig arall ar gyfer y rhai sy’n hoff o hanes yr ardal yw cyfrol ddiweddaraf Steffan ab Owain, sef:


'Hanes y Twnnel Mawr a Rheilffordd London and North Western 1872-1881 '. 


Cynnwys y gyfrol yw hanes un o anturiaethau mwyaf cyffrous cwmni Rheilffordd London and North Western yng ngogledd Cymru yn ystod ail hanner y bedwaredd ganrif ar bymtheg.

Yn ystod y cyfnod hwn estynnwyd ei linell gan gannoedd o weithwyr, o Fetws y Coed trwy Ddyffryn Lledr i dref chwarelyddol Blaenau Ffestiniog gyda’r bwriad i ennill cyfran o’r fasnach lechi ffyniannus a fodolai yn y gymdogaeth y pryd hwnnw.

Dyma’r adeg hefyd y bu’n rhaid gyrru twnnel oddeutu dwy filltir a chwarter o hyd a thair siafft ddofn ar gost ariannol aruthrol, a bywydau dynion er mwyn cyrraedd eu nod.

Ar werth gan yr awdur. Mynnwch gopi rhag blaen. Nid oes llawer ar ôl .
---------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.


3.1.20

Stolpia- hel calennig

Pennod arall o gyfres Hynt a Helynt Hogia’r Rhiw yn y 50au, gan Steffan ab Owain.

Erbyn hyn mae diwrnod cyntaf y flwyddyn wedi bod, a hynny am byth bythol. Wrth gwrs, y mae sawl Dydd Calan wedi mynd heibio ers yr 1950au, ac mae’r byd wedi gweld newidiadau mawr ers y dyddiau hynny. Un o’r pethau hynny yw’r hen draddodiad o ‘hel Calennig’, sef galw o gylch cartrefi cyfagos i geisio am rodd gan y preswylwyr. Ar ôl rhoi cnoc ar y drws, byddid yn cyfarch y perchennog a geiriau tebyg i’r canlynol:
‘Calennig a Chalennig
A Blwyddyn Newydd dda i chi
Ac i bawb sydd yn y tŷ
Blwyddyn Newydd dda i chi’.
Ychydig iawn o anrhegion a ddeuai Siôn Corn i amryw ohonom yn dechrau’r pumdegau a chofio hefyd mai cyflogau bychain a enillai’r rhan fwyaf o weithwyr ein chwareli'r adeg honno.  Pa fodd bynnag, roedd hi’n amser cyffrous arnom ni’r plant yr un fath, ac edrychem ymlaen yn eiddgar at y Nadolig yn ogystal â Dydd Calan.

Y Fari Lwyd yn aros am rhywun i alw... (Llun- Paul W)
Gan amlaf anelai rhyw dri, neu bedwar ohonom, am y cartrefi gyda thipyn o gyfoeth ynddynt, megis tai swyddogion y chwarel, tai athrawon ac ambell dŷ siop efallai.  Ond, os nad oeddem wedi codi’n fore, byddai dim llawer o groeso i’w gael gan breswylwyr y tai oherwydd byddai rhai o’r plant eraill wedi galw yno o’n blaenau. Ambell dro, byddai rhai a atebai’r gnoc ar y drws yn ddigon cwta gyda ni ar ôl inni eu cyfarch gyda’n geiriau ‘Calennig a Ch'lennig’, ac os digwyddent wrthod rhoi dim inni byddid yn brasgamu oddi yno a bloeddio:
‘Calennig a Chalennig a Blwyddyn Newydd Ddrwg...
A llond eich tŷ o fwg!’
Cofiaf fynd adre’ ambell Ddydd Calan gyda’m pocedi yn llawn cnau, ac ambell oren fach, neu afal yn fy llaw.  Yn aml iawn, wedi derbyn y rheiny gan bobl nad oedd mor gefnog yn ein cymdeithas. 

Cofiaf hefyd inni gael cyflaith (cyflath ar lafar) gan un neu ddau, er nad ‘cyflaith’ go iawn mohono chwaith, ond slapiau o daffi triog du, a blas ychwaneg arno!  Weithiau byddem yn cael siocled bach tenau a minciag fel dolly mixtures, neu daffi melyn rhad. Oedd, roedd Dydd Calan Ionawr fel diwrnod Nadolig arall inni. Gyda llaw, bu bron imi anghofio dweud, roedd hel calennig yn dod i ben am hanner dydd, ac ni fyddai neb yn ateb y drws inni, na rhoi dim ar ôl yr amser penodedig.

Diddorol oedd darllen y pwt canlynol am ardal Tanygrisiau yn y Rhedegydd am y flwyddyn 1907 ynglŷn â hel calennig:
“Un ffordd boblogaidd ymhlith y plant i dreulio rhan o’r diwrnod ydyw ‘Hel calennig’.Beth bynnag am ddechreuad yr arferiad hwn, y mae’n amlwg ei fod erbyn hyn yn dreth drom ar lawer yn ein hardaloedd, yn gymaint felly nes peri bod masnachdai, &c yn gauad hyd hanner dydd, er mwyn gael heddwch. Os felly, onid gwell fyddai rhoddi yr arferiad i lawr trwy gadw y plant gartref ? Yn sicr roedd y plant yn wrthrychau tosturi a chydymdeimlad dydd Mawrth diwethaf, pan yn gwibio yn ôl a blaen trwy yr eira toddedig i geisio calennig, a hynny yn ofer mewn llu o enghreifftiau”.
Y mae hi’n amlwg ei bod yn anodd hel calennig hyd yn oed tros gan mlynedd yn ôl, heb sôn am yr 1950au. Os cofiaf yn iawn, y tro olaf imi weld un yn hel calennig o ddrws i ddrws oedd tua 12 mlynedd yn ôl, a dim ond un bachgen bach ar ben ei hun oedd hwnnw.  Y mae’r arferiad bellach wedi ei ddwyn gan noswaith Calan Gaeaf gyda’i 'thric neu drȋt' a gwisgo fel gwrachod a bwganod o bob math, onid yw?

Wel, os na gawsoch chi galennig eleni, gobeithio y cewch chi Flwyddyn Newydd Dda.
Steffan ab Owain.
----------------------------------

Addasiad o erthygla a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ionawr 2019 (heb y llun).