26.1.20

Codi'r To

CANTORION YN COFIO CANMLWYDDIANT GENI MERÊD
Daeth tyrfa luosog ynghyd i Gapel Carmel, Tanygrisiau i Gymanfa ‘Codi’r To’.

Er mai yn Ne Meirionnydd, ym mhentref Llanegryn, y ganwyd y canwr, casglwr a hanesydd cerddoriaeth werin Gymreig, Meredydd Evans, ym Mryn Mair, Tanygrisiau y magwyd ef. Roedd hi’n addas iawn felly ein bod ni wedi cynnal y weithgaredd nepell o’i gartref, a llwyddo i godi swm sylweddol o arian [£650] i Gronfa Genedlaethol William Salesbury.


Llywiwyd y noson yn hwyliog gan John Eifion – arweinydd Côr y Brythoniaid. Y cyfeilyddion oedd Alwena Morgan [piano], Gerallt Rhun [gitâr] a Hefin Jones [mandola a phibgyrn]. Ymunodd y cerddor, y cyfansoddwr a’r canwr Gai Toms gyda nhw, a chafwyd eitemau gwych ganddo. Pan addasodd Gai festri hen gapel Bethel y Presbyteriaid, a fu’n fagwrfa grefyddol i Merêd, a chreu stiwdio recordio yno, gwahoddwyd yr arwr 92 oed yno i ymuno ag o i ganu deuawd ‘Cân y Dewis’ – sydd i’w chlywed ar albwm ‘Bethel’ Gai.

Wrth groesawu pawb i’r Gymanfa, diolchodd Iwan Morgan, y cydlynydd, i swyddogion ac aelodau Carmel am ganiatáu cynnal y weithgaredd yno ac am eu hynawsedd. Diolchodd hefyd i’r holl gantorion a charwyr y pethe am droi i mewn. Derbyniwyd nifer o negeseuon ar lafar ac yn ysgrifenedig i ganmol y fenter.

Do, cafwyd noson o ganu gwerin hwyliog a hapus – un deilwng i sicrhau y byddai cwpan Merêd yn llawn.


Cafodd nosweithiau tebyg eu trefnu hefyd ym Mhwllheli, y Bala, Dinbych, Llanegryn, Caernarfon, Llanerfyl, Aberystwyth, Crymych, Pontypridd a Chasnewydd. Ymddiriedolaeth William Salesbury oedd yn gyfrifol am drefnu'r gyfres. Yn dilyn sefydlu’r Coleg Cymraeg Cenedlaethol, sefydlodd Merêd yr ymddiriedolaeth yma i gynnig ysgoloriaethau i gefnogi myfyrwyr sy’n dilyn eu cyrsiau gradd trwy gyfrwng y Gymraeg gyda’r Coleg. Mae’r Gronfa’n cynnig cefnogaeth hael i nifer o fyfyrwyr yn flynyddol, ac mae angen ymdrech gyson i sicrhau bod arian ar gael yn y gronfa.

Mae’n addas iawn felly, wrth gofio am ben-blwydd arbennig un o’n pobl ni a wnaeth gymaint dros ganu gwerin ein bod yn cynnal y weithgaredd yn Nhanygrisiau.

Dyma ddywed y Dr Gwenllian Lansdown Davies, Cadeirydd y Gronfa :

Pa well ffordd i anrhydeddu’r cof am Merêd na morio canu alawon gwerin er mwyn codi pres i achos mor agos at ei galon?"
---------------------------------

Addasiad o ddarnau a ymddangosodd yn rhifynnau Tachwedd a Rhagfyr 2019.


1 comment:

Diolch am eich negeseuon