Roedd y tŷ crwn a ddarganfuwyd yn rhagflaenu Llys Dorfil. Nid yw'r gwir oedran wedi'i sefydlu hyd yma, ond mae casgliad o samplau wedi’u cadw at y diben hwn.
Wrth i'r gwaith archaeoleg fynd rhagddo daethom o hyd i dŷ crwn arall sydd ynghlwm â’r gwreiddiol. Cyfeirir at y rhain fel tai crwn cyswllt (conjoined) neu dŷ crwn ffigwr wyth. Nid yw'r math yma’n unigryw i'r rhan yma o Gymru. Cloddiwyd un ohonynt oedd yn perthyn i’r Oes Haearn ac a elwir yn Bryn Eryr, ger Llansadwrn, Ynys Môn, a symudwyd hwn y rholl ffordd i amgueddfa Sain Ffagan yn a'i ailadeiladu yno.
Maint lloc Llys Dorfil yw oddeutu 142m o hyd o’r dwyrain i’r gorllewin, a 110m o led o’r gogledd i’r de, mewn siâp eliptig.
Mae gan Lys Dorfil ddyled enfawr i Dr H.A.Daynes, Fferm Tan y Bryn, gan iddo wrthwynebu’n 1969, gosod y bibell garthffosiaeth arfaethedig o Danygrisiau a fyddai, yn ôl y cynllun, wedi mynd trwy ganol Llys Dorfil. Byddai'r bibell wedi dinistrio safle hanesyddol pwysig iawn!
Carreg ac arysgrif arni.
Cafwyd hyd i hon wedi'i gosod ar lawr clai y tŷ crwn cyswllt.
Ni wyddom beth yw ystyr y motiff, ond mae'r haenan y daethpwyd o hyd iddi’n awgrymu'n gryf ei bod wedi'i gwneud gan ddyn, ac o oedran cynnar iawn.
Pennau saeth.
Yn y tŷ crwn hynaf, daethpwyd o hyd i bennau saeth. Fe’i gwnaed o lechan yn hytrach na fflint.
Gellir cynhyrchu pennau saeth llechi yn llawer cynt na'r rhai fflint, ond maent yr un mor effeithiol.
Modrwy Llys Dorfil
Darganfuwyd y fodrwy hon gan ddyn lleol yn y 1970'au wrth adeiladu'r safle carthffosiaeth yng Nghwmbowydd SH 69804450. Fe'i darganfuwyd mewn pentwr o gerrig ar waelod ffôs a oedd yn cysylltu Blaenau Ffestiniog â'r gwaith carthffosiaeth newydd.
Mae'r archaeoleg sydd wedi’i gynnal (yn wirfoddol) yn Llys Dorfil dros y ddwy flynedd ddiwethaf, yn awgrymu bod hwn yn safle hynafol iawn, ac mae hyn, ynddo'i hun, yn rhoi pwysigrwydd mawr i'r safle a'r gymdogaeth.
---------------------------------------
Ymddangosodd yr uchod yn wreiddiol yn rhifyn Rhagfyr 2019.
Rhan 1 yr hanes
Deallwn y bydd Bill, Mary a gweddill criw Cymdeithas Archaeoleg Bro Ffestiniog yn dychwelyd i'r safle i gloddio eto yn 2020. Edrychwn ymlaen am fwy o newyddion.
Llys Dorfil 'ta Llys Darfil?
Mae G.J.Williams yn 'Hanes Plwyf Ffestiniog' 1882 yn defnyddio'r enw Llys Darfil, ond hefyd yn cyfeirio at Dorfal. Er yn di-ystyru'r cysylltiad efo Derfel Gadarn, mae'n awgrymu bod rhai wedi defnyddio Llys Derfel yn y gorffennol hefyd. Mae'r enw Dorfil dal mewn defydd heddiw ar ddwy stryd yn y Blaenau.
Archaeoleg a roc-a-rôl!
Cân o 1991 am Llys Darfil gan y grŵp lleol Twm Cetyn.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon