30.1.20

200 Tymor Capel Rhiw

Ar achlysur dathlu hanner can mlynedd yn byw a gweithio yng Nghapel Rhiw, cafodd yr artist David Nash fri haeddiannol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd arddangosfa fawr o’i waith oedd yn cynnwys amrediad cyflawn, o’r dyddiau cynnar pan adawodd Goleg Celf Chelsea yn Llundain ac ymgartrefu yn y Blaenau, i’r darnau mwyaf diweddar.

Tŵr Corc, 2012. Llun- Paul W
Roedd yr arddangosfa’n ymestyn drwy gyfres o orielau, yn amlygu rhai o’r gwahanol wledydd y bu David yn gweithio ynddynt megis Japan, UDA, Ffrainc ac Iwerddon, yn ogystal â gweithiau sydd wedi deillio a’u hysbrydoli’n benodol gan ei filltir sgwâr. Roedd y cyfoeth siapiau ac arliwiau gwahanol yn wledd i’r llygad gyda hanes a phwysigrwydd y capel yn galon i’r cyfan ac yn rhoi allwedd i archwilio datblygiad y gwaith dros yr hanner canrif.


Natur i Natur, 1997-98. Llun- Paul W
Law yn llaw â’r cerfluniau mae lluniadu wedi bod yn bwysig i David ers y dyddiau cynnar ac un o’i weithiau pwysicaf yw’r Goeden Deulu, lluniad sy’n bum panel enfawr lle mae wedi darlunio esblygiad ei waith o ddyddiau coleg. Cwblhaodd y pumed panel yn arbennig i’r arddangosfa ac mae’n cynnwys detholiad o ddelweddau o’i gerfluniau diweddaraf gan gynnwys y Trawiad Mellten welir wrth gylchfan y Blaenau.

Ymysg y creiriau archif yno roedd cyfres o ddarluniau o’i arddangosfa yn Neuadd y Farchnad i ddathlu’r Mileniwm, yn ogystal â nifer o hen luniau o’r capel a chatalogau o’i arddangosfeydd blaengar, yn cynnwys ei sioe gyntaf un lwyfanwyd yng Nghaerefrog a Bangor ym 1973.

Mae gyrfa hir a disglair fel un David yn haeddu cydnabyddiaeth ac ochr yn ochr â’r arddangosfa mae Llyfrau Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi llyfr swmpus, David Nash, 200 Tymor Capel Rhiw, sy’n cofnodi David a’i waith dros hanner canrif.  Mae’n drysor o gyfrol - un o’r llyfrau celf harddaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn ddi-os - yn llawn lluniau ac hanesion personol, gan gynnwys gair o werthfawrogiad arbennig i Dafydd Roberts, Cae Clyd am ei holl gymorth dros y blynyddoedd, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol i bymtheg o’i ddarnau allweddol ac ysgrifau sy’n gosod gwaith David mewn cyd-destun celf byd eang. 





Mae’r llyfr ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw lle mae’r ffilm am y glogfaen bren y bu David yn dilyn ei hynt a’i helynt dros ddeugain mlynedd wrth iddi deithio o nant Bronturnor i foryd y Ddwyryd i’w gweld yn barhaol.


Ffilm fer Cerflun Drwy'r Tymhorau gan Peter Telfer, Ceinws.
---------------------------------

Erthygl gan Nia Roberts a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon