Showing posts with label cerfluniau. Show all posts
Showing posts with label cerfluniau. Show all posts

13.3.25

Manion o'r Manod

Faint ohonoch chi sydd wedi mynd o’r Blaenau i gyfeiriad Manod yn ddiweddar, ac wedi sylwi ar y tyfiant coed pinwydd ar y Manod Bach? Roedden nhw’n amlwg iawn pan oedd ychydig o eira wedi disgyn ar y mynydd.

Mae yna ddwsinau ohonynt, a’r cwestiwn sydd gen i ydi beth neu pwy sydd yn gyfrifol amdanynt? Dwi wedi cael fy synnu’n fawr beth sy’n digwydd ar y mynydd, ac yn edrych ymlaen at glywed eich barn neu atebion gan rywun.

Ychydig wythnosau’n ôl, mi es am dro ar ddiwrnod braf i fyny i gyfeiriad Hafod Ruffydd. Y bwriad oedd mynd i ben tomen Diffwys, ond oherwydd bod rhew ar y llwybr roedd yn rhy beryg i fwrw ymlaen, felly mi benderfynais droi am y llwybr heibio Fuches Wen.

 

Yno ‘roedd cerflun pren, anhygoel o dylluan, ac mi wirionais yn lân efo’r gwaith naddu manwl, yn creu rhywbeth gwych o fonyn coeden oedd wedi ei thorri. Llongyfarchiadau mawr i’r artist sy’n gyfrifol am y gwaith trawiadol yma!

Da Gweld cymaint o ddefnydd ar gae pêl-droed Cae Clyd yn ddiweddar. Nid yn unig gan Glwb Pêl-droed Amaturiaid y Blaenau, ond hefyd blant ifanc yn ymarfer ar benwythnosau; y genod a’r hogia yn cael hwyl fawr arni. Mae’n edrych yn dda ar ddyfodol y clwb.    

DR

- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 2025



 

30.1.20

200 Tymor Capel Rhiw

Ar achlysur dathlu hanner can mlynedd yn byw a gweithio yng Nghapel Rhiw, cafodd yr artist David Nash fri haeddiannol gan Amgueddfa Genedlaethol Cymru yng Nghaerdydd yn ddiweddar.

Cynhaliwyd arddangosfa fawr o’i waith oedd yn cynnwys amrediad cyflawn, o’r dyddiau cynnar pan adawodd Goleg Celf Chelsea yn Llundain ac ymgartrefu yn y Blaenau, i’r darnau mwyaf diweddar.

Tŵr Corc, 2012. Llun- Paul W
Roedd yr arddangosfa’n ymestyn drwy gyfres o orielau, yn amlygu rhai o’r gwahanol wledydd y bu David yn gweithio ynddynt megis Japan, UDA, Ffrainc ac Iwerddon, yn ogystal â gweithiau sydd wedi deillio a’u hysbrydoli’n benodol gan ei filltir sgwâr. Roedd y cyfoeth siapiau ac arliwiau gwahanol yn wledd i’r llygad gyda hanes a phwysigrwydd y capel yn galon i’r cyfan ac yn rhoi allwedd i archwilio datblygiad y gwaith dros yr hanner canrif.


Natur i Natur, 1997-98. Llun- Paul W
Law yn llaw â’r cerfluniau mae lluniadu wedi bod yn bwysig i David ers y dyddiau cynnar ac un o’i weithiau pwysicaf yw’r Goeden Deulu, lluniad sy’n bum panel enfawr lle mae wedi darlunio esblygiad ei waith o ddyddiau coleg. Cwblhaodd y pumed panel yn arbennig i’r arddangosfa ac mae’n cynnwys detholiad o ddelweddau o’i gerfluniau diweddaraf gan gynnwys y Trawiad Mellten welir wrth gylchfan y Blaenau.

Ymysg y creiriau archif yno roedd cyfres o ddarluniau o’i arddangosfa yn Neuadd y Farchnad i ddathlu’r Mileniwm, yn ogystal â nifer o hen luniau o’r capel a chatalogau o’i arddangosfeydd blaengar, yn cynnwys ei sioe gyntaf un lwyfanwyd yng Nghaerefrog a Bangor ym 1973.

Mae gyrfa hir a disglair fel un David yn haeddu cydnabyddiaeth ac ochr yn ochr â’r arddangosfa mae Llyfrau Amgueddfa Cymru wedi cyhoeddi llyfr swmpus, David Nash, 200 Tymor Capel Rhiw, sy’n cofnodi David a’i waith dros hanner canrif.  Mae’n drysor o gyfrol - un o’r llyfrau celf harddaf i’w gyhoeddi yn Gymraeg yn ddi-os - yn llawn lluniau ac hanesion personol, gan gynnwys gair o werthfawrogiad arbennig i Dafydd Roberts, Cae Clyd am ei holl gymorth dros y blynyddoedd, yn ogystal â gwybodaeth gefndirol i bymtheg o’i ddarnau allweddol ac ysgrifau sy’n gosod gwaith David mewn cyd-destun celf byd eang. 





Mae’r llyfr ar gael mewn siopau llyfrau lleol ac yn Oriel Plas Glyn-y-Weddw lle mae’r ffilm am y glogfaen bren y bu David yn dilyn ei hynt a’i helynt dros ddeugain mlynedd wrth iddi deithio o nant Bronturnor i foryd y Ddwyryd i’w gweld yn barhaol.


Ffilm fer Cerflun Drwy'r Tymhorau gan Peter Telfer, Ceinws.
---------------------------------

Erthygl gan Nia Roberts a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2019.


8.7.13

Melltan igam-ogam

Rhan o erthygl yn rhifyn Mehefin 2013 gan Tecwyn Vaughan Jones.


Mae gan Lundain ei Gherkin rhyfedd ond mae gennym ni yn Stiniog ein Cynion a’r Fellten. 


Mae’r cerflun hwn gan David Nash yn addurno’r ffordd i mewn i Flaenau Ffestiniog o gyfeiriad Rhiw ac ar ochr y ffordd mae’n destun cryn ddadlau. 

Fe wnaeth David Nash y cerflun gwreiddiol allan o bren … ac ef bellach yw prif gerflunydd sy'n gweithio gyda phren ym Mhrydain os nad y byd. Ond mae’r cerflun hwn o fellten yn taro wedi ei wneud o ddur a dros amser bydd yn ymddangos fel ei fod yn rhydu ac yn troi’n goch. 

Mae rhai hefyd yn gweld siâp y llwybr igam ogam sy'n esgyn i ben tomen yr Oakeley yn y cerflun ac mae’n hawdd cymharu gan fod y llwybr yn union du ôl i’r cerflun.

Dyma’r unig gerflun o eiddo Nash sydd yn cael ei arddangos yng Nghymru ar hyn o bryd a theilwng iawn ei fod wedi cytuno i roi y cerflun hwn i sefyll yn y dref sydd wedi bod yn gartref iddo ers bron i hanner can mlynedd. Mae’r cerflun yn un trawiadol ac mae amryw wedi teithio i Stiniog yn un swydd i gael ei weld … byddai’n wych petai mwy o’i gerfluniau yn cael lle anrhydeddus yn nhirlun Stiniog. 



Mae cymaint yn y dref hon sy’n tynnu sylw … yn wir mae llawer o olygfeydd unigryw yma. Dywedodd Falcon Hildred yn ei lyfr diweddaraf: ‘Rwy’n credu mai tref Blaenau Ffestiniog a’r dirwedd leol yw’r enghraifft gorau a mwyaf cyflawn o dirwedd ddiwydiannol  ym Mhrydain. Nid yw hwn wedi ei stwffio i ryw amgueddfa ond mae o’n cwmpas i’w weld bob dydd ‘… rhaid felly i’r ymwelydd brofi Stiniog yn hytrach na jyst gweld y dref.

Lluniau gan TVJ.