29.5.23

Cymuned Gynaliadwy Bro Stiniog

Mae Y Dref Werdd wedi sicrhau 3 blynedd arall o gyllid diolch i gronfa Camau Cynaliadwy Cymru y Loteri Genedlaethol.  

Nod prosiect ‘Cymuned Gynaladwy Bro Ffestiniog’ yw mynd i’r afael ag anghenion pobl leol a gwella gwydnwch yn wyneb Newid Hinsawdd.

Gwirfoddolwyr plannu coed Tanygrisiau

Meddai Gwydion ap Wynne, y Rheolwr Prosiect: 

"Rydym yn hynod ddiolchgar yma yn y Dref Werdd am cael ein  ariannu gyda’r gronfa Camau Cynaliadwy Cymru. Bydd y gronfa yn golygu llawer iawn i gymuned Bro Ffestiniog gyda beth y byddwn yn gallu cyflawni dros y tair mlynedd. 

Byddwn yn datblygu tair safle er mwyn tyfu bwyd ar raddfa fawr ac yn gobeithio gallu cyflenwi busnesau ac ysgolion gyda bwydydd iach wedi eu tyfu ym Mro Ffestiniog. 

Byddwn hefyd yn plannu oddeutu 3000 o goed dros oes y prosiect, yn ogystal a sefydlu meithrinfa  coed ein hunain.  Bydd ein gofod creu a thrwsio, Ffiws, yn cynhyrchu 100 o feics trydan ar gael i’r gymuned, er mwyn lleihau yr ôl troed carbon yn lleol wrth i bobl gymydu o amgylch y gymuned.

Hefyd, mae’r grant yn golygu byddwn yn gallu cynnal rhaglen addysgol gydag ysgolion a grwpiau, yn amlygu materion gyda chynaladwyedd a newid hinsawdd a beth rydym yn gallu gwneud yn lleol i ymateb i’r argyfwng sydd yn wynebu ni gyd.  

Rydym yn hynod ddiolchgar am y cefnogaeth yma, ac yn edrych ymlaen i gychwyn y gwaith cyffrous yma”.  
- - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2023



25.5.23

Meistr y Miwsig

Erthygl gan Rhydian Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2023

Tua diwedd Ionawr, yn dilyn gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud un o gwisiau Cymru Fyw – mi wnes i wneud cais i fod yn rhan o gyfres ddiweddaraf cwis cerddorol Radio Cymru, Meistr Y Miwsig. Be oedd yn wahanol ar gyfer y gyfres newydd hon oedd ei bod hi bellach yn raglen gyfan ar ben ei hun, wedi i’r gyfres gyntaf gael ei darlledu fel un o nodweddion Y Sioe Sadwrn sy’n cael ei gyflwyno gan Shelley Rees-Owen a Rhydian Bowen-Phillips.

Y diwrnod canlynol, cefais wahoddiad i gael sgwrs gyda chynhyrchydd y rhaglen i weld os oedd fy niddordeb mewn cystadlu yn parhau: fel rhywun sy’n bach o ‘nerd’ cerddorol, doedd dim angen gofyn i mi ddwywaith! Felly, deuddydd yn unig wedi cyflwyno’r cais, roedd yr amser wedi dod i mi frwydro yn Rownd Gyntaf y gystadleuaeth. 

I godi cwr y llen ar ambell gyfrinach, roedd bob pennod yn cael ei recordio ymlaen llaw, yn bennaf gan mai rhaglen hanner awr oedd yn cael ei ddarlledu – felly mi o'ni yn gwybod am y canlyniad am dair wythnos cyn i’r rhaglen gyntaf gael ei darlledu! Elfen arall o ddirgelwch oedd y ffaith nad oeddech chi’n cael gwybod pwy oedd eich gwrthwynebwyr tan i chi gael eich cyflwyno ar ddechrau’r rhaglen. Pan glywais i’r cyflwyniad i fy ngwrthwynebydd efo’r enw "Elain o Drawsfynydd", roedd hi’n dipyn o sioc i mi a’r tîm cynhyrchu ein bod ni’n nabod ein gilydd.

Yn dilyn llwyddiant y rownd gyntaf, fe dderbyniais y neges gryptig yma gan gyfaill agos i mi. Ar ôl gwneud ychydig o dyrchu, daeth hi'n amlwg mai ef oedd y person dan sylw ac mi wnaeth fy nghalon i suddo rhyw fymryn, oherwydd yn dilyn dros 25 mlynedd o’i adnabod, dwi’n llwyr ymwybodol gystal oedd ei wybodaeth gerddorol o! 

Daeth yr awr i recordio y Rownd Gyn-Derfynol a darganfod ein bod ni’n dau wedi cael ein cadw ar wahân ac felly, roedd yna siawns y bydd hi’n ffeinal rhwng y ddau ohonom. Wedi i’r ddau ohonom lwyddo i guro ein rowndiau cyn-derfynol, daeth y cyhoeddiad mai brwydr rhwng dau o’r Llan fyddai’r Rownd Derfynol – unwaith eto, doedd gan y tîm cynhyrchu ddim clem fod y ddau gystadleuydd a fyddai’n brwydro am deitl ‘Meistr Y Miwsig 2023’ yn adnabod ei gilydd gystal!

Er fod sawl wythnos wedi pasio ers darlledu’r frwydr fawr bellach, roeddwn i am gymryd tudalen allan o lyfr y cyflwynydd, drwy adeiladau’r tensiwn ychydig a pheidio datgelu y canlyniad... 

Llongyfarchiadau felly i Sion Jones, Llys Dyfi (Caerdydd bellach) ar ennill y gystadleuaeth ar ôl gornest agos iawn rhwng dau ffrind.

Y gobaith sydd gen i ydi fod y ddau ohonom wedi llwyddo i roi Llan Ffestiniog ar y map yn genedlaethol, hyd yn oed os mai dim ond un person newydd sydd bellach yn ymwybodol o’r pentref arbennig hwn.

Dwi’n siŵr y gallaf siarad ar ran Sion a minnau, wrth ddiolch i Dai, Zowie a’r tîm am yr holl hwyl a gafwyd yn ystod y gyfres hon, gan obeithio y bydd yna gyfres arall yn cael ei gomisiynu yn y dyfodol.
Rhydian Morgan

21.5.23

Crwydro- Llyn Traws

Rory Francis gyfrannodd at ein colofn am grwydro llwybrau'r fro yn rhifyn Ebrill 2023, gan adrodd am daith o gwmpas Llyn Trawsfynydd ar feic trydan!

Pa ffordd well i ddod i brofi harddwch ac amrywiaeth Sir Feirionnydd na seiclo o gwmpas Llyn Trawsfynydd? Diolch i fenter Trawsnewid mae yna lwybr beics gwych yr holl ffordd o amgylch y llyn, ac mae’n werth ei ddefnyddio. 

Nes i seiclo o'i gwmpas yn ddiweddar ac roedd yn fendigedig. Yr oedd y tywydd yn oer ond yn heulog a chlir a mi wnaeth fy ngwraig a fi fwynhau golygfeydd ysblennydd dros y llyn ac o amgylch. 

Rhaid imi gyfaddef, gawson ni dipyn bach o help oddi wrth fateri a pheiriant trydan! Roedden ni’n ddigon ffodus i brynu beiciau trydan dim ond tri mis cyn y cyfnod clo, ac maen nhw wedi talu nôl ar ei ganfed. 

Os ydych chi’n seiclo o’r Blaenau, dim ots i ba gyfeiriad rydych chi’n mynd, mi fydd yn sialens seiclo nôl. 

A tydw i ddim mor ifanc a heini ag yr oeddwn ni. Ond ar gefn beic trydan, does yna’r un daith, o fewn 50 milltir o leiaf, yn ormod o her!

Mae’r llwybr o amgylch Llyn Trawsfynydd yn ddelfrydol. Mae’r rhan gyntaf ohono fo, o’r atomfa i’r argae ar ffordd un lôn. Mae’r darn nesaf, uwchben Coed Rhygen, ar lwybr beics pwrpasol. Wedyn, ewch chi ymlaen ar ffyrdd un lôn nes cyrraedd yr A470, lle mae yna lwybr beics wrth ochr y ffordd. Ymlaen trwy bentref Trawfynydd nesaf, gyda’i fythynnod cadarn wedi’u gwneud o gerrig anferth. Wedyn, fy hoff ddarn i o’r cylch, ar draciau cul trwy’r coed ar lan y Llyn. 

Newch chi gyrraedd Caffi Prysor, wedyn, gyda’r cyfle i ymlacio a mwynhau bwyd a diod. Pa ffordd well sy ‘na i fwynhau cefn gwlad Meirionnydd?

Mae’r daith o gwmpas y Llyn yn 9 milltir, gydag un darn serth, uwchben Coed Rhygen. 

Neu mi fedrwch chi seiclo’r holl ffordd o Flaenau Ffestiniog, ar y lôn gefn heibio Fferm Dol Moch, i Faentwrog ac i fyny ar y lôn gefn trwy Gellilydan i’r atomfa, o gwmpas y llyn o fan ‘na ac yn ôl. Mae hynny rhyw 25 milltir. 

Oes gennych chi feic trydan?

Peidiwch â phoeni os nag oes! Mae menter y Dref Werdd yn bwriadu prynu nifer o feiciau trydan yn y dyfodol, y gallan nhw eu hurio, i bobl leol yn bennaf. Beth am hurio un am ddiwrnod a gweld hwyl gewch chi?





17.5.23

Apêl Daeargryn

Roedd mis Chwefror yn fis ofnadwy i drigolion Twrci a Syria, gyda’r daeargryn a darodd y gwledydd hynny yn lladd mwy na hanner can mil ac yn gadael miliwn a hanner yn ddigartref. Hon oedd y ddaeargryn waethaf yn Nhwrci ers mil a hanner o flynyddoedd, a'r fwyaf yn Syria ers dwy ganrif. Amcangyfrifir fod cost y difrod yn fwy na chan biliwn o ddoleri. 

Mewn ymdrech i godi arian at yr ymgyrch fyd-eang i gynorthwyo’r dioddefwyr, cynhaliwyd bore coffi yn Nhŷ Coffi Antur Stiniog ar Ddydd Sul y 26ain o Fawrth. Dechreuwyd am 11 y bore ac aethpwyd ymlaen tan 3 y pnawn. Roedd pobl o bob oed yn bresennol, yn drigolion lleol ac yn ymwelwyr, gyda bwrlwm bywiocaol bro i’w deimlo, ac awyrgylch hyfryd lond y lle. Mae hi’n codi calon yn wir gweld pobl yn dod ynghyd i godi arian at achos da fel hyn, yn anrhydeddu hen draddodiad Cymreig o estyn dwylo dros y môr, ac yn dangos y dref mewn golau hynod gadarnhaol i ymwelwyr hefyd.

Dywedodd un o staff y Tŷ Coffi:

“Roedd hi’n ddiwrnod anhygoel ac yn werthfawr dros ben gweld pobl yn mwynhau eu hunain ac yn barod i gefnogi’r apêl. Roedden nhw’n hael iawn. Dw i’n synnu faint o arian a godwyd.”
Ar adeg mynd i’r wasg, roedd £3,200 wedi ei godi, a mwy o arian eto i gyrraedd. Cafwyd tombola, raffl a chacennau hyfryd. Roedd adloniant byw gan Hanna Seirian a’r Parchedig Wynne Roberts - Elvis Cymru. Bu Ken Parry yn paentio wynebau’r plantos – ac wynebau rhai oedolion hefyd! Ac at hyn, cafodd un o gynghorwyr y fro, Elfed Wyn ap Elwyn, ei noddi i gael ei goesau wedi eu cwyro (ond nid ei locsyn, afraid dweud!) 


Un o’r rhai a oedd yno ar y diwrnod oedd Andrew Cockerill o’r Manod, a ddywedodd: “Roedd y diwrnod yn ffantastig. Roedd o’n braf gweld cymaint o bobl leol yma i gefnogi’r achos.” 

Diolch yn neilltuol i’r canlynol:

- Wynne Roberts (Elvis)
- Y chwiorydd Hanna a Gwawr Evans – y naill am ganu a’r llall am helpu’n fedrus iawn efo’r tombola.
- David Williams, Llan.
- Ken Parry am ei fedrau arlunio
- Gai Toms, am drin y system sain.
- Gwenlli, am greu fideo i’w roi ar sianel ‘BROcast Ffestiniog’, i gadw cofnod o’r achlysur i’r oesoedd a ddêl.
- Tŷ Coffi Antur Stiniog, am gynnal y digwyddiad.
- Y Cynghorydd Elfed Wyn ap Elwyn am fynd drwy’r boen o gael ei gwyro
- Non Rowlands – am wneud y cwyro (gweler uchod).
- I bawb a gyfrannodd pethau at y raffl.

- - - - - - -

Ymdddangosodd yn wreiddiol ar dudalen flaen rhifyn Ebrill 2023


9.5.23

Stolpia- canhwyllau

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll

Fel y crybwyllwyd yn y golofn y mis diwethaf, ar wahân i'r chwareli llechi, bu amryw o ddiwydiannau bychain yn y ddwy ardal yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf, gydag ambell un, o bosib, yn ddigon dieithr i amryw o’n darllenwyr. 

Ar un adeg ceid canhwyllty (chandlery), sef gweithdy gwneud canhwyllau, yn rhanbarth Glan-y-pwll Bach, sef y tu ôl i Dai’r Lein, Bryn Dinas a Chapel Rhiw. Gyda llaw, derbyniodd y rhan hon o’r Rhiw ei henw ar ôl y tyddyn oedd yno yn wreiddiol, sef cartref Mrs Margaret Roberts a’r teulu.  

Perchennog y gweithdy canhwyllau hwn oedd David Griffith Jones, Glasgow House, Rhiwbryfdir, sef tad J.D. Jones (Ioan Dwyryd) a thaid Eleanor Dwyryd, Gwenllian a Llew. 

Roedd David G. Jones, neu ‘Dafydd Jones y Blawd’ ar lafar, yn ŵr amryddawn ac nid gwneud canhwyllau gwêr oedd ei unig fusnes. Yn wir, bu ganddo sawl haearn yn y tân, gan y cadwai geffylau ar gyfer gweithio yn y chwarel, yn ogystal ag ychydig o wartheg godro. Roedd yn fasnachydd blawd gyda siop groser yn Glasgow House, a thŷ popty (becws) ymhen uchaf rhesdai Glanydon. Roedd hefyd ar gyngor Sir Meirionnydd a phenodwyd ef yn Gadeirydd y cyngor ychydig cyn ei farwolaeth disymwth yn 63 mlwydd oed.

Nid wyf yn sicr pa bryd y dechreuwyd gwneud canhwyllau yno, ond roedd y lle yno am ganrif. Aeth ar dân ym mis Ebrill,1882 a gwnaed difrod mawr iddo a chollwyd stoc o ganhwyllau - ond trwy rhyw drugaredd llwyddwyd i ddiffodd y tân gan nifer o ddynion ar ôl cludo dŵr o’r afon gerllaw cyn iddo losgi’n llwyr. Achubwyd pedwar o geffylau a dwy fuwch a oedd mewn rhan o’r adeilad. Y mae’n rhaid bod y busnes canhwyllau wedi bodoli ar ôl y dinistr gan y cyfeirir at D.G. Jones fel canhwyllwr hyd at tua 1903.
- - - - - - - -

Pennod o gyfres Stolpia gan Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023

 

5.5.23

Hanes Rygbi- 1983-84

Ar 26 Ebrill 1983 chwaraewyd dêm derfynol Cwpan Gwynedd - Bethesda v Dolgellau- ar Y Ddôl.    
Ym mis Mai cafwyd ein taith tramor cyntaf –a hynny i’r Iseldiroedd. 

Chwaraewyd dwy gêm, gan ennill un a cholli’r ail:

Nijmegen Wasps 6 v 62 Bro
Lille 28 v 16 Bro

Ennillwyd Cynghrair Gwynedd tymor 1982 / 1983         

29 Mehefin 1983 Cyfarfod Blynyddol
Trysorydd: Elfed Roberts

Tîm 1af     chwarae 26     colli 6     ennill 20
2ail dîm    chwarae 23      colli 11   ennill 11        Cyfartal 1
Aelodaeth 146;  60 o chwaraewyr
Pwyllgor Merched wedi rhoi £452 i’r clwb
Chwaraewr y flwyddyn: Stewart Nutter
Chwaraewr mwyaf addawol: Richard James    
Chwaraewr mwyaf addawol 2: Kevin Jones (Rhiw)
Clwbddyn:  Dr Arthur Boyns

Ethol ar gyfer y tymor nesaf Llywydd: DE Thomas / Cadeirydd: Dr Boyns / Ysgrifennydd: Dylan / Trysorydd: Osian Jones / Aelodaeth: Gwynne / Gemau: Michael / Gwasg: Merfyn / Cae: Dafydd Jarrett / Hyfforddi/Capten 1af: Mike Smith. Eraill: Elfed Roberts / Glyn Crampton / John Evans / Alun Jones.

Ym mis Medi cafwyd Cyfarfod Arbennig (33 yn bresennol) i drafod llifoleuadau - cost £15,000. (Grantiau – Bwrdd Datblygu £6,000 / Cyngor Chwaraeon £1,500 / Dosbarth £375 / lleol £100
Benthyg – Cyngor dosbarth ar log £5,000
Ymdrechion – noson BBQ £185 / locsys yr hogia £509 / Taith i’r Iseldiroedd £728 /
Elw Debenturon £201 / rhoddion aelodaeth £356 / rhoddion cyfeillion £354
Cyfanswm £15,308)

Hydref
Chwarae dros Wynedd v Clwyd – Dafydd James, Alun Jones, Mike Smith
Eilyddion – Brian Davies, Eric Roberts a Gwilym James
Meirion v Caernarfon – Eric, Alun, Sprouts, Ken Roberts, Brian a Mike.

1984
Ionawr -Dydd Llun cyntaf y flwyddyn: Bro v Alltudion
Bro ennillodd – daeth y gêm i ben yn gynnar am fod y dyfarnwr -Dr Boyns- wedi’i gladdu dan gyrff mewn pwll o ddŵr! 

Gosod ceblau i’r llifoleuadau -gwnaed ffos rhwng y ddau gae
Yn cynrychioli’r Gogledd v Gwent (gêm ym Mhwllheli) Alun, Gwilym a Mike
Ardal Maesteg v Ardal Gogledd – Gwilym, Dafydd, Mike ac Alun
Tîm dan 23 – Dafydd Jones a Richard James

Chwefror -Pasio i wneud cais i fod yn aelodau llawn o Undeb Rygbi Cymru.

Mawrth – Alun, Gwilym, Dafydd a Mike(C) wedi chwarae i dîm y Gogledd v Ardal Morgannwg

Mai– Taith Iwerddon (25 wedi mentro) ar gost o £68  

Mehefin -Cyfarfod Blynyddol Trysorydd Osian Jones - £ 3.2K o elw

Bro yn 3ydd yng Nghynghrair Gwynedd, tymor 1983-84

Tîm  af    Ch 29        E 18        C 11        

2ail  dîm  Ch 21        E 6        C 15                                                    

Aelodaeth 144        Chwaraewyr 58    Ethol ar gyfer 1984/1985    Llywydd D E Thomas / Cad Dr Boyns / Ysg Dylan / Try Osian /   Wasg Merfyn / Cae Dafydd Jarrett / Gemau Michael / Gemau Gwynne  Hyff a Capt 1af Mike /    Capt 2ail Kevin Thomas; Eraill: Eric Roberts / Bryn Jones / Alun Jones / Glyn Crampton; Ardaloedd Cymru: Gwilym James ac Alun Jones;                                       Gogledd Cymru: Gwilym /Alun /Dei James /Mike Smith; Chwaraewr y Flwyddyn: Alun Jones         Chwaraewr Mwyaf Addawol: Keith Williams; Chwaraewr Mwyaf Addawol II: Elfed Roberts (Ed Butch );  Clwbddyn: John Evans; Aelodau Am Oes: Glyn Eden Jones a Dr Arthur Boyns.

- - - - - - - - -

Crynodeb o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Mawrth 2023

Rhan o gyfres Gwynne Williams



1.5.23

Y Pigwr- oes angen rhegi?

Ein colofnydd pigog yn gollwng stêm

Daw hwn yn dilyn y sylwadau parthed iaith/geirfa Roald Dahl yn ei gyhoeddiada’, ac ymateb ambell garfan i’r helynt. Onid oes lle i ymholi i’r defnydd a wneir mewn print o eiriau anweddus gan awduron, llenorion a beirdd Cymraeg eu hiaith y dyddiau hyn? 

Anodd credu bod gweithiau llenyddol yn cynnwys geiriau na fyddent yn cael eu defnyddio yng nghartrefi, na thai crefyddol Cymru yn llwyddo i gipio prif wobrau ein Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn.  Beth fyddai Cynan, Eifion Wyn, T.Llew Jones a’r gweddill yn ei ddeud wrth ddarllen geiriau a ystyrid yn regfeydd aflan yn eu dyddiau hwy?  

Tra bo’r criw wleidyddol-gywir heddiw’n poeni, yn gywir yn eu barn hwy, am eiriau nad ydynt yn dderbyniol ein cyfnod ni yng ngweithiau Dahl ac eraill, mae geiriau, Saesneg a Seisnig yn iawn i’w gweld ar dudalennau nofelau a cherddi llenorion. 

Ond y peth sy’n synnu’r Pigwr yw gweld y defnydd o’r geiriau hynny mewn print gan awduron a beirdd Cymraeg eu hiaith. 

Yr ateb a gaf gan y gwybodusion sy’n “cadw i fyny gyda ieithwedd gyfoes” ydi ei bod yn naturiol i ddefnyddio’r drefn honno, a “chadw’i fyny efo’r oes fodern” chwedl hwythau. 

Ond y cwestiwn ydi a yw’r nofelau a barddoniaeth ‘cyfoes’ yn cyfleu rhywbeth gwahanol i beth oedd gan T.Llew Jones, Saunders Lewis neu Kate Roberts i gynnig inni?  

Faint gwell yw’r cerddi ‘modern’ honedig, gyda rhegfeydd yn tywyllu’r llinellau, i gerddi Hedd Wyn, Dilys Cadwaladr ac R.Williams Parry a’u cyfoedion, lle na welir yr un gair anweddus yn eu cyfansoddiadau? Tybed beth a fyddai hynafiaid y rhai sy’n cyhoeddi gweithiau llawn geiria ystrydebol, afiach eu sain heddiw yn feddwl o’u disgynyddion. Mae’r math hwn o lenyddiaeth yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth ym mywyd llenyddol y Sais, gyda’u geiriau annerbyniol yn llethu’r llygaid.  

Ond y siomedigaeth fawr yw gweld llenorion Cymraeg yn ceisio ‘dal i fyny’ gyda’u cymydog anwaraidd o’r ochr arall i’r ffin. Pam yn y byd bod nifer fawr o’n beirdd a’n nofelwyr yn teimlo ryw orfod i ddilyn ffasiwn y Sais, a chynnwys geiriau a grëwyd gan y Sacsoniaid i dynnu sylw’r diffygion amlwg yn eu hiaith. Da chi, cofiwch mai Cymry ydym, gyda safonau arbennig yn perthyn i’n llenyddiaeth, heb orfod galw am eiriau sy’n ddolur i’r llygad a’r clyw.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023

(Heb y llun, gan PaulW)

Ydych chi'n cytuno efo'r Pigwr? Gadewch i ni wybod!