9.5.23

Stolpia- canhwyllau

Hen ddiwydiannau Rhiw a Glan-y-pwll

Fel y crybwyllwyd yn y golofn y mis diwethaf, ar wahân i'r chwareli llechi, bu amryw o ddiwydiannau bychain yn y ddwy ardal yn ystod y ddau can mlynedd diwethaf, gydag ambell un, o bosib, yn ddigon dieithr i amryw o’n darllenwyr. 

Ar un adeg ceid canhwyllty (chandlery), sef gweithdy gwneud canhwyllau, yn rhanbarth Glan-y-pwll Bach, sef y tu ôl i Dai’r Lein, Bryn Dinas a Chapel Rhiw. Gyda llaw, derbyniodd y rhan hon o’r Rhiw ei henw ar ôl y tyddyn oedd yno yn wreiddiol, sef cartref Mrs Margaret Roberts a’r teulu.  

Perchennog y gweithdy canhwyllau hwn oedd David Griffith Jones, Glasgow House, Rhiwbryfdir, sef tad J.D. Jones (Ioan Dwyryd) a thaid Eleanor Dwyryd, Gwenllian a Llew. 

Roedd David G. Jones, neu ‘Dafydd Jones y Blawd’ ar lafar, yn ŵr amryddawn ac nid gwneud canhwyllau gwêr oedd ei unig fusnes. Yn wir, bu ganddo sawl haearn yn y tân, gan y cadwai geffylau ar gyfer gweithio yn y chwarel, yn ogystal ag ychydig o wartheg godro. Roedd yn fasnachydd blawd gyda siop groser yn Glasgow House, a thŷ popty (becws) ymhen uchaf rhesdai Glanydon. Roedd hefyd ar gyngor Sir Meirionnydd a phenodwyd ef yn Gadeirydd y cyngor ychydig cyn ei farwolaeth disymwth yn 63 mlwydd oed.

Nid wyf yn sicr pa bryd y dechreuwyd gwneud canhwyllau yno, ond roedd y lle yno am ganrif. Aeth ar dân ym mis Ebrill,1882 a gwnaed difrod mawr iddo a chollwyd stoc o ganhwyllau - ond trwy rhyw drugaredd llwyddwyd i ddiffodd y tân gan nifer o ddynion ar ôl cludo dŵr o’r afon gerllaw cyn iddo losgi’n llwyr. Achubwyd pedwar o geffylau a dwy fuwch a oedd mewn rhan o’r adeilad. Y mae’n rhaid bod y busnes canhwyllau wedi bodoli ar ôl y dinistr gan y cyfeirir at D.G. Jones fel canhwyllwr hyd at tua 1903.
- - - - - - - -

Pennod o gyfres Stolpia gan Steffan ab Owain.

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon