25.5.23

Meistr y Miwsig

Erthygl gan Rhydian Morgan a ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Ebrill 2023

Tua diwedd Ionawr, yn dilyn gweld hysbyseb ar y cyfryngau cymdeithasol a gwneud un o gwisiau Cymru Fyw – mi wnes i wneud cais i fod yn rhan o gyfres ddiweddaraf cwis cerddorol Radio Cymru, Meistr Y Miwsig. Be oedd yn wahanol ar gyfer y gyfres newydd hon oedd ei bod hi bellach yn raglen gyfan ar ben ei hun, wedi i’r gyfres gyntaf gael ei darlledu fel un o nodweddion Y Sioe Sadwrn sy’n cael ei gyflwyno gan Shelley Rees-Owen a Rhydian Bowen-Phillips.

Y diwrnod canlynol, cefais wahoddiad i gael sgwrs gyda chynhyrchydd y rhaglen i weld os oedd fy niddordeb mewn cystadlu yn parhau: fel rhywun sy’n bach o ‘nerd’ cerddorol, doedd dim angen gofyn i mi ddwywaith! Felly, deuddydd yn unig wedi cyflwyno’r cais, roedd yr amser wedi dod i mi frwydro yn Rownd Gyntaf y gystadleuaeth. 

I godi cwr y llen ar ambell gyfrinach, roedd bob pennod yn cael ei recordio ymlaen llaw, yn bennaf gan mai rhaglen hanner awr oedd yn cael ei ddarlledu – felly mi o'ni yn gwybod am y canlyniad am dair wythnos cyn i’r rhaglen gyntaf gael ei darlledu! Elfen arall o ddirgelwch oedd y ffaith nad oeddech chi’n cael gwybod pwy oedd eich gwrthwynebwyr tan i chi gael eich cyflwyno ar ddechrau’r rhaglen. Pan glywais i’r cyflwyniad i fy ngwrthwynebydd efo’r enw "Elain o Drawsfynydd", roedd hi’n dipyn o sioc i mi a’r tîm cynhyrchu ein bod ni’n nabod ein gilydd.

Yn dilyn llwyddiant y rownd gyntaf, fe dderbyniais y neges gryptig yma gan gyfaill agos i mi. Ar ôl gwneud ychydig o dyrchu, daeth hi'n amlwg mai ef oedd y person dan sylw ac mi wnaeth fy nghalon i suddo rhyw fymryn, oherwydd yn dilyn dros 25 mlynedd o’i adnabod, dwi’n llwyr ymwybodol gystal oedd ei wybodaeth gerddorol o! 

Daeth yr awr i recordio y Rownd Gyn-Derfynol a darganfod ein bod ni’n dau wedi cael ein cadw ar wahân ac felly, roedd yna siawns y bydd hi’n ffeinal rhwng y ddau ohonom. Wedi i’r ddau ohonom lwyddo i guro ein rowndiau cyn-derfynol, daeth y cyhoeddiad mai brwydr rhwng dau o’r Llan fyddai’r Rownd Derfynol – unwaith eto, doedd gan y tîm cynhyrchu ddim clem fod y ddau gystadleuydd a fyddai’n brwydro am deitl ‘Meistr Y Miwsig 2023’ yn adnabod ei gilydd gystal!

Er fod sawl wythnos wedi pasio ers darlledu’r frwydr fawr bellach, roeddwn i am gymryd tudalen allan o lyfr y cyflwynydd, drwy adeiladau’r tensiwn ychydig a pheidio datgelu y canlyniad... 

Llongyfarchiadau felly i Sion Jones, Llys Dyfi (Caerdydd bellach) ar ennill y gystadleuaeth ar ôl gornest agos iawn rhwng dau ffrind.

Y gobaith sydd gen i ydi fod y ddau ohonom wedi llwyddo i roi Llan Ffestiniog ar y map yn genedlaethol, hyd yn oed os mai dim ond un person newydd sydd bellach yn ymwybodol o’r pentref arbennig hwn.

Dwi’n siŵr y gallaf siarad ar ran Sion a minnau, wrth ddiolch i Dai, Zowie a’r tîm am yr holl hwyl a gafwyd yn ystod y gyfres hon, gan obeithio y bydd yna gyfres arall yn cael ei gomisiynu yn y dyfodol.
Rhydian Morgan

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon