1.5.23

Y Pigwr- oes angen rhegi?

Ein colofnydd pigog yn gollwng stêm

Daw hwn yn dilyn y sylwadau parthed iaith/geirfa Roald Dahl yn ei gyhoeddiada’, ac ymateb ambell garfan i’r helynt. Onid oes lle i ymholi i’r defnydd a wneir mewn print o eiriau anweddus gan awduron, llenorion a beirdd Cymraeg eu hiaith y dyddiau hyn? 

Anodd credu bod gweithiau llenyddol yn cynnwys geiriau na fyddent yn cael eu defnyddio yng nghartrefi, na thai crefyddol Cymru yn llwyddo i gipio prif wobrau ein Eisteddfod Genedlaethol erbyn hyn.  Beth fyddai Cynan, Eifion Wyn, T.Llew Jones a’r gweddill yn ei ddeud wrth ddarllen geiriau a ystyrid yn regfeydd aflan yn eu dyddiau hwy?  

Tra bo’r criw wleidyddol-gywir heddiw’n poeni, yn gywir yn eu barn hwy, am eiriau nad ydynt yn dderbyniol ein cyfnod ni yng ngweithiau Dahl ac eraill, mae geiriau, Saesneg a Seisnig yn iawn i’w gweld ar dudalennau nofelau a cherddi llenorion. 

Ond y peth sy’n synnu’r Pigwr yw gweld y defnydd o’r geiriau hynny mewn print gan awduron a beirdd Cymraeg eu hiaith. 

Yr ateb a gaf gan y gwybodusion sy’n “cadw i fyny gyda ieithwedd gyfoes” ydi ei bod yn naturiol i ddefnyddio’r drefn honno, a “chadw’i fyny efo’r oes fodern” chwedl hwythau. 

Ond y cwestiwn ydi a yw’r nofelau a barddoniaeth ‘cyfoes’ yn cyfleu rhywbeth gwahanol i beth oedd gan T.Llew Jones, Saunders Lewis neu Kate Roberts i gynnig inni?  

Faint gwell yw’r cerddi ‘modern’ honedig, gyda rhegfeydd yn tywyllu’r llinellau, i gerddi Hedd Wyn, Dilys Cadwaladr ac R.Williams Parry a’u cyfoedion, lle na welir yr un gair anweddus yn eu cyfansoddiadau? Tybed beth a fyddai hynafiaid y rhai sy’n cyhoeddi gweithiau llawn geiria ystrydebol, afiach eu sain heddiw yn feddwl o’u disgynyddion. Mae’r math hwn o lenyddiaeth yn mynd yn ôl sawl cenhedlaeth ym mywyd llenyddol y Sais, gyda’u geiriau annerbyniol yn llethu’r llygaid.  

Ond y siomedigaeth fawr yw gweld llenorion Cymraeg yn ceisio ‘dal i fyny’ gyda’u cymydog anwaraidd o’r ochr arall i’r ffin. Pam yn y byd bod nifer fawr o’n beirdd a’n nofelwyr yn teimlo ryw orfod i ddilyn ffasiwn y Sais, a chynnwys geiriau a grëwyd gan y Sacsoniaid i dynnu sylw’r diffygion amlwg yn eu hiaith. Da chi, cofiwch mai Cymry ydym, gyda safonau arbennig yn perthyn i’n llenyddiaeth, heb orfod galw am eiriau sy’n ddolur i’r llygad a’r clyw.
- - - - - - - - - - -

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 2023

(Heb y llun, gan PaulW)

Ydych chi'n cytuno efo'r Pigwr? Gadewch i ni wybod!


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon