31.8.17

Stiniog a’r Rhyfel Mawr -Dyddiau Blin

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Roedd rhywbeth yn broffwydol yn adroddiad gohebydd newyddion Trawsfynydd yn ei golofn ar 14 Gorffennaf 1917 yn Y Rhedegydd. Oherwydd y newyddion drwg rheolaidd am golledion difrifol ymysg milwyr o’r ardal, roedd yr ysbryd rhyfelgar, Prydeinig gynt wedi oeri cryn dipyn erbyn hyn. Roedd realiti’r sefyllfa ar y ffrynt yn dod yn fyw i bobl Trawsfynydd, fel pob ardal arall, wrth i’r newyddion trist am y colledion amlhau. Ceisiodd y gohebydd gyfleu teimladau’r trigolion, eu pryderon, a’u gobeithion am ddiwedd buan i’r rhyfel.

Roedd yn gweld y cyfnod fel:
“Dyddiau Blin – Dyna ydyw hanes y dyddiau hyn yn yr ardal hon fel pob un arall, pawb megis a’i anadl yn ei ddwrn, yn ofni cael newydd drwg o faes y rhyfel, am ei bod yn wybyddus fod amryw o’n bechgyn anwyl yn yr ymladd ffyrnig sy’n mynd ymlaen yn Ffrainc. Gobeithiwn y goreu, ac os digwydd i’r wermod ddod i’r cwpan, gweddiwn am i Dduw roddi nerth yn y dydd blin i’w dal, ac i allu dweyd gyda Glanystwyth-
 

Mae calon Tad tu ôl i’r fraich
    Sy’n cynnal baich y byd.
Rhoddwn ein holl ymddiried ynddo ef, a’n holl ofal arno ef.”
Alun Mabon
Cyhoeddodd y papur fwy o luniau o’r bechgyn lleol a gollwyd yn y brwydro. Yn eu mysg roedd llun o Alun Mabon Jones, Dinas Road, yr hwn a laddwyd flwyddyn ynghynt, ar 12 o Orffennaf, 1916. Yn ychwanegol i’r llun, yr oedd pennill er cof an Alun, gan ei wraig a’i blant.

Roedd pedwar llun o’r milwyr colledig i’w weld yn y rhifyn hwnnw, a phob un wedi colli eu bywydau ym mrwydr Coedwig Mametz yng Ngorffennaf 1916. Cynhwyswyd lluniau eraill o filwyr lleol oedd yn gwasanaethu gyda’r fyddin dramor hefyd. Cyhoeddwyd llythyrau o gydymdeimlad gan swyddogion milwrol â theuluoedd rhai o’r milwyr a laddwyd hefyd, fel y gwelid yn rheolaidd ar dudalennau’r wasg.

Diddorol oedd darllen hanes aelodau Band of Hope Capel Bowydd yn y Blaenau yn cynnal eu picnic blynyddol ar ben Bwlch Gorddinan, neu’r ‘Crimea’ ar lafar. Cariwyd y plant ieuengaf i’r safle mewn moduron, rhywbeth digon prin y cyfnod hwnnw. Wedi mwynhau’r picnic, difyrrwyd y mynychwyr gan David Francis, y telynor dall, a chaneuon gan Dewi Mai a Miss Smith. Cafwyd adroddiadau gan y plant, ac anerchiad gan y Parchedig Enoch Jones, oedd wedi gorfod dringo i fyny i ben y bwlch, fel gweddill yr oedolion. Gorffennwyd y cyfarfod trwy ganu’r anthem genedlaethol, ond ni ddatgelir p’run ai anthem Cymru, ynteu un Prydain oedd honno.

Ar yr 21ain o Orffennaf 1917, cyhoeddodd Y Rhedegydd lythyr o Leeds gan un o ‘Stiniog a oedd yn un o’r rhai a symudodd o’r ardal i ddilyn gyrfa mewn gwaith clai yn y dref honno. Yn amlwg, yr oedd y fro fabwysiedig at ddant ambell un o’r hanner cant a mwy a ymfudodd yno ychydig wythnosau ynghynt. Meddai’r llythyrwr: ‘Sonnir gan rai mai aros yma wnaent, a chael eu teuluoedd i fyw yma…’ Felly, roedd pryderon llawer o ddinasyddion Blaenau Ffestiniog am ddyfodol y dref, yn dod yn fyw, ac ergyd arall i obeithion o weld adferiad yn yr hen ffordd o fyw wedi darfod ar frwydrau’r Rhyfel Mawr.

Yn ychwanegol i’r llythyr hwnnw, yr oedd erthygl am Gymry Swydd Durham, oedd yn trafod gweithwyr o ardal ‘Stiniog a gyflogid mewn chwarel galch yn Spennymoor. Dywedwyd eu bod yn fodlon iawn ei byd yn eu cynefin newydd. Yn ddiau, bu i sawl teulu o’r Blaenau, droi cefnau ar eu henfro, a phenderfynu ymsefydlu yn yr ardaloedd hyn o Loegr wedi’r rhyfel, er mawr golled i Gymru a’r iaith Gymraeg.
---------------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Gorffennaf 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
---------------------------------------------------

Cofiwch y bydd cyfrol Vivian Parry Williams, 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' ar werth cyn diwedd y flwyddyn am £10. Anrheg Nadolig gwerth chweil!




28.8.17

Y Dref Werdd ar Ynys Enlli

Fel y gwyddoch, mae’r Dref Werdd wedi bod yn trefnu sesiynau ar gyfer plant yr ardal er mwyn eu dysgu am yr amgylchedd, gan gynnwys perthynas pobl a’u hanes. Fel rhan o raglen Cynefin a Chymuned eleni, aeth nifer drosodd i Ynys Enlli, er mwyn dysgu mwy am hanes y lle a’i phwysigrwydd -nid yn unig i ni fel Cymry, ond i’r byd Cristnogol yn gyfan.

Mae’r Ynys wedi bod yn safle crefyddol hynod o bwysig ers i Sant Cadfan adeiladu mynachlog yno ym 516. Roedd yn ganolfan hynod bwysig i bererinion yn yr oesoedd canol nes  i’r adeiladau gael eu dinistrio gan orchymyn Harri VIII i ddinistrio mynachlogydd yn 1537.

Erbyn heddiw, mae’r Ynys yn enwog am ei bywyd gwyllt, gydag adar drycin Manaw a brain coesgoch yn nythu yno, ymysg llawer mwy.


Dyma rai o sylwadau'r criw am daith fythgofiadwy i Ynys Enlli:

Liam Williams, 11 oed, Blaenau
Rwyf wedi mwynhau'r profiad o gael mynd i Ynys Enlli. Fy hoff beth oedd mynd ar y cwch, cysgu mewn lle newydd a gwahanol, a hefyd helpu i lanhau sbwriel ar yr ynys.
Diolch i’r Dref Werdd am fynd â ni. 


Math Roberts, 12 oed, Manod
Cefais benwythnos bythgofiadwy ar Ynys Enlli gyda chriw Cynefin a Chymuned y Dref Werdd. Mwynheais y trip drosodd ar y cwch - cyffrous iawn! Pan gyrhaeddon ni ar yr ynys, y peth cyntaf a welais oedd y morloi yn torheulo ar y lan. Aethom wedyn i godi sbwriel oddi ar y traeth ac roeddwn yn drist o weld faint o blastig oedd wedi cael ei olchi i’r lan. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn gan Siân, y Warden am fywyd gwyllt Enlli. Diolch i griw'r Dref Werdd am fynd â ni yno ac am y profiad gwerthfawr.  


[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017]


25.8.17

Dewch yn llu!

Cyfle arall i ddangos be mae pobol Bro Ffestiniog yn feddwl am gau'r ysbyty...

Mae'r Pwyllgor Amddiffyn yn rhoi tystiolaeth i Bwyllgor Craffu Cyngor Gwynedd, ac maen nhw'n gobeithio cael cefnogaeth yno ar y diwrnod.

Mewn undeb mae nerth.


Defnyddiwch y ddolen isod i ddilyn yr hanes cywilyddus.

Cofio sylfaenydd yr 'Olwyn Fewnol'

Ddechrau'r haf, yng Ngardd Encil, Blaenau Ffestiniog dadorchuddiwyd plac i Margarette Golding, sefydlydd yr Olwyn Fewnol, a gafodd ei geni yn Stryd Fawr y Blaenau yn 1881.


Ar y diwrnod hanesyddol yma, Liz Saville-Roberts fu’n dadorchuddio. Roedd y plac wedi ei wneud o lechen leol gan gwmn Llechwedd. Ymhlith y rhai oedd yn bresennol  ‘roedd cadeirydd Cyngor Tref Ffestiniog, Anwen Daniels, cadeirydd Cyngor Tref Porthmadog, Simon Brooks, Enid Law, golygydd yn cynrychioli Cymdeithas Olwyn Fewnol Prydain Fawr ac Iwerddon,  Carol Tynan, llywydd Ardal 18, Molly Yould, llywodraethwraig Ardal 1180 o’r Rotari, a llawer mwy o aelodau’r Olwyn Fewnol -o bell ac agos.

Wedi’r seremoni, aeth pawb yn syth i Llechwedd i gael lluniaeth ysgafn a chael hanes diddorol Margarette Golding a chychwyniad Olwyn Fewnol. Diwrnod arbennig iawn.


[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017]
                                   

22.8.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -priodi, boddi, a phoeni am y chwareli

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ynghanol yr holl bryderon am golledion ac effaith y rhyfel ar yr ardal, clustnodwyd tudalen gyfan o’r Rhedegydd ar hanes priodas y Cadben Carey Evans, Llys Meddyg, ac Olwen Lloyd George, merch y prif weinidog, yn rhifyn 23 Mehefin 1917 o’r papur. Priodwyd y pâr yn Llundain ychydig ddyddiau ynghynt, a chafwyd adroddiad o’r achlysur gan Elfed. Aeth y beirdd dros ben llestri gyda’u cyfarchion. Cerdd ugain pennill, ‘I Carey ac Olwen’, yn llenwi dwy golofn gyfan oedd gan R.R.Morris ar eu cyfer. ‘Doedd Caerwyson ddim am adael i’r achlysur fynd heibio’n ddi-sylw ychwaith, wrth anfon ei gerdd hirfaith yntau, 12 pennill i’r papur.

Dau englyn ‘Cyflwynedig i Dr Carey Evans a Miss Olwen Lloyd George' oedd gan Elfyn i’r cwpwl ifanc. Yn ychwanegol, roedd lluniau o’r ddau yn gynwysedig gyda’r holl gyfarchion.

Humphrey Price
Ond newyddion trist a gafwyd yng ngholofn newyddion Llan Ffestiniog yn yr un rhifyn. Hanes cwêst ar gorff y Preifat Humphrey Price, Bron Goronwy, a gollodd ei fywyd wrth ymdrochi yn Llyn Dubach y Bont oedd yna. Cafwyd ychydig fanylion yn ymwneud â’r drychineb honno. Llongyfarchwyd Thomas E.Jones, gorsaf-feistr, am nofio’r llyn, a dod o hyd i’r corff, gan R.Guthrie Jones, dirprwy-drengolydd y sir. Bu’n chwilio’r dyfroedd am awr, nes dod o hyd i’r corff, a’i gael i’r lan. Ond er ceisio adfer bywyd Humphrey, ofer fu ei ymdrechion. Adref ar ychydig dyddiau o seibiant o’r fyddin oedd Humphrey, pan aeth i drafferthion wrth nofio gyda chyfaill yn Llyn Dubach y Bont, nid nepell o’i gartref, a boddi.

Daeth rhifyn olaf Mehefin 1917 o’r Rhedegydd ar y 30ain o’r mis a mwy o newyddion drwg am golledigion a chlwyfedigion milwyr o ‘Stiniog a’r fro. Cafwyd lluniau o dri a gollwyd, Gunner Collwyn M.Roberts, Preifat William Henry Williams, a laddwyd yn Ffrainc, a Phreifat Humphrey Price, fel y nodir uchod.

Cafwyd syniad o’r teimladau ynglŷn â sefyllfa’r diwydiant llechi mewn llythyr gan y bardd a’r llenor, Glan Tecwyn yn yr un rhifyn. Dan bennawd ‘Chwarelwyr Gogledd Cymru’ roedd Glan yn apelio ar y darllenwyr weithredu i arbed y diwydiant chwarelyddol lleol. Roedd yn annog codi dirprwyaeth o’r gweithwyr a’r perchenogion i geisio cael achubiaeth. Awgrymodd hefyd i holl chwarelwyr gogledd Cymru, lle bynnag y byddent, i ddeisebu’r llywodraeth ar ran yr ardalaoedd oedd yn dioddef yn ddifrifol oherwydd arafwch yn y fasnach lechi. Gorffennodd ei lith gyda’r geirau ymddiheurol:
‘Maddeued Meistr a gweithiwr am fy hyfdra, ond mae gennyf ddyledus barch i fyd y chwarelwr fel mae’n anhawdd tewi.’
Poeni am newyddion a fyddai’n peryglu’r diwydiant chwarelyddol oedd Glan Tecwyn. Roedd gwybodaeth fod gwaith newydd yn sir Gaerhirfryn yn gwneud defnyddiau gwahanol ar gyfer toi catrefi wedi ei sefydlu yno, a hynny’n codi pryderon i ddyfodol y fasnach lechi.  
--------------------------------------------------
         
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

19.8.17

Eisteddfod Lalalaaaaa!

Gallwch chi ddweud bod 'Steddfod Genedlaethol Boded wedi mwynhau ambell i ddiwrnod o dywydd Stiniog, ond cafwyd dyddiau braf yno hefyd a llawer o bobol y fro wedi mwynhau oriau difyr ar y maes, ac ambell i lwyddiant hefyd.


Roedd Pabell y Cymdeithasau'n llawn dop ar gyfer aduniad Cyfeillion Ysgol y Moelwyn, lle datgelwyd enillydd Gwobr Flynyddol y Cyfeillion, a choffau Gwyn Thomas, Iola Thomas ac Eifion Wyn Williams. Efallai y cawn adroddiad gan y trefnwyr yn rhifyn Medi.

Bu dau o heolion wyth Llafar Bro ar lwyfan y Babell Lên yn yr Eisteddfod.

Cafwyd orig ddifyr iawn yn gwrando ar Geraint Vaughan Jones yn trafod Peldroedwyr y Rhyfel Mawr, efo Gary Pritchard a'i ŵyr Owain Tudur Jones.




A llongyfarchiadau enfawr i Vivian Parry Williams, am ennill y gystadleuaeth cyfres o limrigau yn yr adran lenyddiaeth!



'Damweiniau' oedd y testun, ac yn ôl Arwel Pod Roberts y beirniad, gan Vivian, sy'n "limrigwr penigamp", oedd ffugenw gorau'r gystadleuaeth, sef Dai O'Reah!









Roedd pabell Tŷ Gwerin yn brysur iawn trwy'r wythnos, ac ambell i wyneb cyfarwydd, fel Hugh Jones, yn ymuno yn y sesiynau.


Ac wrth gwrs, mae maes yr Eisteddfod yn baradwys i blant a phobol ifanc, yn llawn gweithgareddau a hwyl. Bu tair o ferched blwyddyn 7>8 Ysgol y Moelwyn yn cynhyrchu ffilm fer ganol yr wythnos yn dilyn eu hynt yn ystod y dydd.



[Lluniau -ag eithrio'r clip YouTube- gan Paul W]