Fel y gwyddoch, mae’r Dref Werdd wedi bod yn trefnu sesiynau ar gyfer plant yr ardal er mwyn eu dysgu am yr amgylchedd, gan gynnwys perthynas pobl a’u hanes. Fel rhan o raglen Cynefin a Chymuned eleni, aeth nifer drosodd i Ynys Enlli, er mwyn dysgu mwy am hanes y lle a’i phwysigrwydd -nid yn unig i ni fel Cymry, ond i’r byd Cristnogol yn gyfan.
Mae’r Ynys wedi bod yn safle crefyddol hynod o bwysig ers i Sant Cadfan adeiladu mynachlog yno ym 516. Roedd yn ganolfan hynod bwysig i bererinion yn yr oesoedd canol nes i’r adeiladau gael eu dinistrio gan orchymyn Harri VIII i ddinistrio mynachlogydd yn 1537.
Erbyn heddiw, mae’r Ynys yn enwog am ei bywyd gwyllt, gydag adar drycin Manaw a brain coesgoch yn nythu yno, ymysg llawer mwy.
Dyma rai o sylwadau'r criw am daith fythgofiadwy i Ynys Enlli:
Liam Williams, 11 oed, Blaenau
Rwyf wedi mwynhau'r profiad o gael mynd i Ynys Enlli. Fy hoff beth oedd mynd ar y cwch, cysgu mewn lle newydd a gwahanol, a hefyd helpu i lanhau sbwriel ar yr ynys.
Diolch i’r Dref Werdd am fynd â ni.
Math Roberts, 12 oed, Manod
Cefais benwythnos bythgofiadwy ar Ynys Enlli gyda chriw Cynefin a Chymuned y Dref Werdd. Mwynheais y trip drosodd ar y cwch - cyffrous iawn! Pan gyrhaeddon ni ar yr ynys, y peth cyntaf a welais oedd y morloi yn torheulo ar y lan. Aethom wedyn i godi sbwriel oddi ar y traeth ac roeddwn yn drist o weld faint o blastig oedd wedi cael ei olchi i’r lan. Cawsom sgwrs ddiddorol iawn gan Siân, y Warden am fywyd gwyllt Enlli. Diolch i griw'r Dref Werdd am fynd â ni yno ac am y profiad gwerthfawr.
[Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017]
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon