22.8.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -priodi, boddi, a phoeni am y chwareli

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ynghanol yr holl bryderon am golledion ac effaith y rhyfel ar yr ardal, clustnodwyd tudalen gyfan o’r Rhedegydd ar hanes priodas y Cadben Carey Evans, Llys Meddyg, ac Olwen Lloyd George, merch y prif weinidog, yn rhifyn 23 Mehefin 1917 o’r papur. Priodwyd y pâr yn Llundain ychydig ddyddiau ynghynt, a chafwyd adroddiad o’r achlysur gan Elfed. Aeth y beirdd dros ben llestri gyda’u cyfarchion. Cerdd ugain pennill, ‘I Carey ac Olwen’, yn llenwi dwy golofn gyfan oedd gan R.R.Morris ar eu cyfer. ‘Doedd Caerwyson ddim am adael i’r achlysur fynd heibio’n ddi-sylw ychwaith, wrth anfon ei gerdd hirfaith yntau, 12 pennill i’r papur.

Dau englyn ‘Cyflwynedig i Dr Carey Evans a Miss Olwen Lloyd George' oedd gan Elfyn i’r cwpwl ifanc. Yn ychwanegol, roedd lluniau o’r ddau yn gynwysedig gyda’r holl gyfarchion.

Humphrey Price
Ond newyddion trist a gafwyd yng ngholofn newyddion Llan Ffestiniog yn yr un rhifyn. Hanes cwêst ar gorff y Preifat Humphrey Price, Bron Goronwy, a gollodd ei fywyd wrth ymdrochi yn Llyn Dubach y Bont oedd yna. Cafwyd ychydig fanylion yn ymwneud â’r drychineb honno. Llongyfarchwyd Thomas E.Jones, gorsaf-feistr, am nofio’r llyn, a dod o hyd i’r corff, gan R.Guthrie Jones, dirprwy-drengolydd y sir. Bu’n chwilio’r dyfroedd am awr, nes dod o hyd i’r corff, a’i gael i’r lan. Ond er ceisio adfer bywyd Humphrey, ofer fu ei ymdrechion. Adref ar ychydig dyddiau o seibiant o’r fyddin oedd Humphrey, pan aeth i drafferthion wrth nofio gyda chyfaill yn Llyn Dubach y Bont, nid nepell o’i gartref, a boddi.

Daeth rhifyn olaf Mehefin 1917 o’r Rhedegydd ar y 30ain o’r mis a mwy o newyddion drwg am golledigion a chlwyfedigion milwyr o ‘Stiniog a’r fro. Cafwyd lluniau o dri a gollwyd, Gunner Collwyn M.Roberts, Preifat William Henry Williams, a laddwyd yn Ffrainc, a Phreifat Humphrey Price, fel y nodir uchod.

Cafwyd syniad o’r teimladau ynglŷn â sefyllfa’r diwydiant llechi mewn llythyr gan y bardd a’r llenor, Glan Tecwyn yn yr un rhifyn. Dan bennawd ‘Chwarelwyr Gogledd Cymru’ roedd Glan yn apelio ar y darllenwyr weithredu i arbed y diwydiant chwarelyddol lleol. Roedd yn annog codi dirprwyaeth o’r gweithwyr a’r perchenogion i geisio cael achubiaeth. Awgrymodd hefyd i holl chwarelwyr gogledd Cymru, lle bynnag y byddent, i ddeisebu’r llywodraeth ar ran yr ardalaoedd oedd yn dioddef yn ddifrifol oherwydd arafwch yn y fasnach lechi. Gorffennodd ei lith gyda’r geirau ymddiheurol:
‘Maddeued Meistr a gweithiwr am fy hyfdra, ond mae gennyf ddyledus barch i fyd y chwarelwr fel mae’n anhawdd tewi.’
Poeni am newyddion a fyddai’n peryglu’r diwydiant chwarelyddol oedd Glan Tecwyn. Roedd gwybodaeth fod gwaith newydd yn sir Gaerhirfryn yn gwneud defnyddiau gwahanol ar gyfer toi catrefi wedi ei sefydlu yno, a hynny’n codi pryderon i ddyfodol y fasnach lechi.  
--------------------------------------------------
         
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

1 comment:

  1. Anonymous27/8/17 19:33

    Cofiwch y bydd cyfrol Vivian Parry Williams, 'Stiniog a'r Rhyfel Mawr' 297 tud. ar werth cyn diwedd y flwyddyn am £10. Anrheg Nadolig gwerth chweil!

    ReplyDelete

Diolch am eich negeseuon