Showing posts with label Llyn Dubach y Bont. Show all posts
Showing posts with label Llyn Dubach y Bont. Show all posts

1.1.19

Atgofion Pant Llwyd

Pennod 4 o gyfres Laura Davies.
Cefais hanes diddorol o Galifornia, am ardal Pant Llwyd, dipyn bach yn gynharach na fy nghyfnod i, gan Esther Owen (nee Edwards a chwaer i Evan Edwards, Llain Wen). Ymfudodd Esther yno rai blynyddoedd yn ôl o Lŷn. Un o blant Laura a William Edwards (ddiweddarach Gyfynys).

Symudodd y teulu o’r Cefn, lle ganwyd Esther, i Rhif 1 Tan y Bryn, pan oedd yn ifanc iawn. Arferai brawd arall iddi, Willie (William Edwards, Mur Llwyd) fyw yn Islwyn (dau dŷ wedi ei wneud yn un). Sonia mor dwt oedd Pant Llwyd ac mi roedd y lle’n fywiog drwy’r flwyddyn gyda’r cyfarfodydd, dramau, partion a chwaraeon a gynhaliwyd yno. Ras traws gwlad i lawr Cae Swch ac i fyny drwy Llety Fadog ac yn ôl at y Capel Bach. Cofia hi a Mair Vaughan yn hel mafon gwyn ar y dde wrth fynd i fyny’r rhiw wrth Pen Rhiw Mawr a holai a oedd y planhigion yno o hyd.

Dipyn i fyny’r allt, ond ar  y chwith, safai Penrhiw Bach a meddyliai i Lys Owain gael ei adeiladu ar ei sylfeini. Helai atgofion am deulu tawel a hoffus Jo:  Jo malu metlin oedd hi yn ei alw, gan mai dyna a wnaeth. Cofia ei fam a’i dad a’r teulu oll. Mam Mam fyddai pawb yn Mhant Llwyd yn ei galw. Aethwn yno i’w thŷ, gyda Mair Vaughan, ei nith. Gwisgai Mam Mam sgert, het a ‘chep’ bob amser. Byddai Mair yn gofyn iddi “Ble dachi’n mynd”, a Mam Mam yn dweud o hyd “Mynd i godi mhenshwn, yldi.” Mi roedd Mrs Roberts, 2 Islwyn wedi symud yno o Ben Rhiw Bach ac mi roedd ganddi ferch Ann Jane a dau fab, Daniel (tad Ffestin) a gadwai siop ffrwytha’ yn y Blaenau – credaf mai enw’r mab arall ydi Robert Owen.

Llyn Dubach y Bont a ffordd Y Foelgron (llun Paul W)
Roedd cysylltiad teuluol uniongyrchol cydrhwng mam Esther a mam Syr Ifan – hannant o Drawsfynydd ac o’r un hil a theulu yr Archddiacon Hugh Aron Evans. Symudodd ei theulu i Bont yr Afon Gam pan oedd Esther tua 12 oed ac wedyn yn ddiweddarach i Sofl y Mynydd. Helai atgofion am hi a’i brawd Ifan yn trin mawn wrth Ffynnon Eidda ac yn cael dŵr o’r ffynnon. Nid oedd ganddi gof o ddim adeilad wrth y ffynnon ond cofia’n dda am y tŷ mawr a safai ar lan Llyn Dubach y Bont – Y Foelgron. Ni hoffai Esther fyw ym Mhont yr Afon Gam gan fod y lle mor anghysbell ac y bell o Bant Llwyd.

Soniai hefyd fel y cerddasai at Ben Ffridd a throi i’r dde ble roedd gwersyll sipsiwn yn arfer bod ac fel roedd hi a’i chwiorydd yn hoffi edrych i mewn i’r garafan. Honno’n lan a thwt a’r tegannau a’r canwyllbrenau pres yn sgleinio. Gwneud piseri a thuniau godro o bob math oedd y gŵr, Mr Fox.

Meddai ar arth ‘frown’ a hoffem ei gweled yn dawsio fel y canai ei ffidil. Tra’r oedd hyn yn mynd ymlaen gweithiai ddwylo medrus a diwyd ei wraig ar waith crosio. Cofiaf innau hefyd weled sipsiwn wrth giat Llety Gwilym, pan oeddwn yn cerdded adref hefo fy mrawd Dafydd i Sofl y Mynydd, yn y dau ddegau. I gychwyn mi roeddwn eu hofn ond yn araf daethom i’w hadnabod ac yn ffrindiau hefo nhw.
-------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Atgofion Pant Llwyd isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')


22.8.17

Stiniog a'r Rhyfel Mawr -priodi, boddi, a phoeni am y chwareli

Parhau â chyfres Vivian Parry Williams, yn nodi canrif ers y rhyfel byd cyntaf.

Ynghanol yr holl bryderon am golledion ac effaith y rhyfel ar yr ardal, clustnodwyd tudalen gyfan o’r Rhedegydd ar hanes priodas y Cadben Carey Evans, Llys Meddyg, ac Olwen Lloyd George, merch y prif weinidog, yn rhifyn 23 Mehefin 1917 o’r papur. Priodwyd y pâr yn Llundain ychydig ddyddiau ynghynt, a chafwyd adroddiad o’r achlysur gan Elfed. Aeth y beirdd dros ben llestri gyda’u cyfarchion. Cerdd ugain pennill, ‘I Carey ac Olwen’, yn llenwi dwy golofn gyfan oedd gan R.R.Morris ar eu cyfer. ‘Doedd Caerwyson ddim am adael i’r achlysur fynd heibio’n ddi-sylw ychwaith, wrth anfon ei gerdd hirfaith yntau, 12 pennill i’r papur.

Dau englyn ‘Cyflwynedig i Dr Carey Evans a Miss Olwen Lloyd George' oedd gan Elfyn i’r cwpwl ifanc. Yn ychwanegol, roedd lluniau o’r ddau yn gynwysedig gyda’r holl gyfarchion.

Humphrey Price
Ond newyddion trist a gafwyd yng ngholofn newyddion Llan Ffestiniog yn yr un rhifyn. Hanes cwêst ar gorff y Preifat Humphrey Price, Bron Goronwy, a gollodd ei fywyd wrth ymdrochi yn Llyn Dubach y Bont oedd yna. Cafwyd ychydig fanylion yn ymwneud â’r drychineb honno. Llongyfarchwyd Thomas E.Jones, gorsaf-feistr, am nofio’r llyn, a dod o hyd i’r corff, gan R.Guthrie Jones, dirprwy-drengolydd y sir. Bu’n chwilio’r dyfroedd am awr, nes dod o hyd i’r corff, a’i gael i’r lan. Ond er ceisio adfer bywyd Humphrey, ofer fu ei ymdrechion. Adref ar ychydig dyddiau o seibiant o’r fyddin oedd Humphrey, pan aeth i drafferthion wrth nofio gyda chyfaill yn Llyn Dubach y Bont, nid nepell o’i gartref, a boddi.

Daeth rhifyn olaf Mehefin 1917 o’r Rhedegydd ar y 30ain o’r mis a mwy o newyddion drwg am golledigion a chlwyfedigion milwyr o ‘Stiniog a’r fro. Cafwyd lluniau o dri a gollwyd, Gunner Collwyn M.Roberts, Preifat William Henry Williams, a laddwyd yn Ffrainc, a Phreifat Humphrey Price, fel y nodir uchod.

Cafwyd syniad o’r teimladau ynglŷn â sefyllfa’r diwydiant llechi mewn llythyr gan y bardd a’r llenor, Glan Tecwyn yn yr un rhifyn. Dan bennawd ‘Chwarelwyr Gogledd Cymru’ roedd Glan yn apelio ar y darllenwyr weithredu i arbed y diwydiant chwarelyddol lleol. Roedd yn annog codi dirprwyaeth o’r gweithwyr a’r perchenogion i geisio cael achubiaeth. Awgrymodd hefyd i holl chwarelwyr gogledd Cymru, lle bynnag y byddent, i ddeisebu’r llywodraeth ar ran yr ardalaoedd oedd yn dioddef yn ddifrifol oherwydd arafwch yn y fasnach lechi. Gorffennodd ei lith gyda’r geirau ymddiheurol:
‘Maddeued Meistr a gweithiwr am fy hyfdra, ond mae gennyf ddyledus barch i fyd y chwarelwr fel mae’n anhawdd tewi.’
Poeni am newyddion a fyddai’n peryglu’r diwydiant chwarelyddol oedd Glan Tecwyn. Roedd gwybodaeth fod gwaith newydd yn sir Gaerhirfryn yn gwneud defnyddiau gwahanol ar gyfer toi catrefi wedi ei sefydlu yno, a hynny’n codi pryderon i ddyfodol y fasnach lechi.  
--------------------------------------------------
         
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mehefin 2017. Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.

5.10.15

Pobl Stiniog ym Mhatagonia

Pennod 3 yng nghyfres Steffan ab Owain ar hanes pobl Blaenau Ffestiniog yn y Wladfa.

Er nad oedd Griffith Griffiths (Gutyn Ebrill) yn enedigol o ‘Stiniog bu’n byw yn ein cymdogaeth am nifer o flynyddoedd cyn ymfudo i’r Wladfa Gymreig ym Mhatagonia. Un o gyffiniau Dolgellau ydoedd yn wreiddiol a chredaf iddo gael ei eni yn nhafarn Cross Foxes, nid nepell o’r Brithdir, yn y flwyddyn 1828.

Pan yn ddyn ifanc prentiswyd ef yn asiedydd coed a daeth yn grefftwr medrus yn y gwaith hwn. Roedd hefyd yn fardd pur dda ac yn llythyrwr cyson yn y newyddiaduron Cymreig. Credaf mai yn 1862 y symudodd ef a’r teulu i fyw i Bant yr Ynn yn ‘Stiniog yma. Cyn hynny, buont yn preswylio’n Brithdir, Lerpwl a Threffynnon. Oddeutu 1865 penodwyd Gutyn Ebrill yn oruchwyliwr ar Chwarel y Foelgron ar y Migneint a symudasont fel teulu i fyw i dŷ o’r enw Glan Dubach a safai gynt wrth lan deheuol Llyn Dubach y Bont.

Yn ystod y cyfnod y bu’n byw yno dechreuodd gadw Ysgol Sul yn ei gartref yng Nglan Dubach. Traddodwyd y bregeth gyntaf yno gan y Parchedig Michael D. Jones, y Bala, a’r adeg honno byddai’r naill a’r llall yn ymweld â’i gilydd i drafod a sgwrsio am y Wladfa. A serch fod y bardd yn gefnogwr eiddgar i’r Mudiad Gwladfaol o’r cychwyn cyntaf, yn 1881 y penderfynodd ymfudo i Batagonia. Yn dilyn y newyddion am ei fwriad, gwnaed tysteb iddo gan ei gyfeillion ac ar ddiwedd y flwyddyn hwyliodd ef a’i deulu drosodd i’r Wladfa er chwithdod mawr i’r ardal ar eu holau.

Pan laniwyd yr ochr arall i’r byd, cafodd brofiad chwerw ym marwolaeth ei ferch ieuengaf, Nest, yn chwech oed, ar ôl wythnosau o gystudd blin. Roeddynt eisoes wedi colli Elen eu merch tra yn byw yn y Foelgron. Dyma sut y canodd ar ei hôl hi.

   Ein gweld gyda’n dilydd – mewn iach hwyl
     Ni cheir ym mhen mynydd,
   Byth eto’n rhodio’n rhydd
   Ar ran o hen Feirionnydd.’


Wedi ymsefydlu yn y Wladfa, buan y daeth yr ymsefydlwyr i wybod amdano drwy ei gymwynasau a’i weithgareddau. Ychydig cyn iddo fynd drosodd i Batagonia cafodd femrwn seliedig gan Gwilym Cowlyd yn rhoi hawl iddo gynnal Gorsedd y Beirdd yno. Gwnaed hynny ganddo, ac o’r diwrnod hwnnw hyd ei farw, ef oedd Archdderwydd y Wladfa. Yn wir bu’n eisteddfodwr selog ar hyd ei oes, a bu’n arwain nifer o eisteddfodau yng Nghymru yn ogystal a rhai drosodd yn y Wladfa.

Llun- Paul W


Fel y dywedwyd eisoes, roedd yn saer celfydd iawn a phan oedd y Cymry’n sefydlu tref newydd yn Sance Corto adeiladodd lawer o dai iddynt yno, a chododd bont gadarn o goed dros y Gamwy. 

 

Dywedir fod amryw o’r adeiladau a gododd yn y Wladfa yn aros yn addurn iddo hyd heddiw. Pan yn hen ŵr cafodd flasu’r melys a’r chwerw mewn bywyd oherwydd daeth ei fab, y bonwr H. Griffith, yn ŵr blaenllaw iawn yn y Wladfa ond agorwyd y graith yn ei galon y trydydd tro pan fu farw ei ferch Gwladus Gruffydd Edwards.


Bu Gutyn yntau farw yn ei gartref, Llwyn Ebrill, ar Fedi 9, 1909 yn 81 mlwydd oed. Claddwyd ef ym Mynwent y Gaiman, ac yn ôl pob son, cafodd un o’r angladdau mwyaf a welwyd yn y Wladfa Gymreig.

Dyma’r englyn -gan Bryfdir- sydd ar ei garreg fedd:

   O’i Walia hoff ar wely hedd - obry
        Gutyn Ebrill orwedd;
  Â briw gân myn bro Gwynedd
  A’i Wladfa wylied ei fedd.

 
------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Chwefror 1995, yn y golofn Stolpia.
Dilynwch y gyfres gyda'r ddolen 'Patagonia' isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.