13.10.26

Rheilffordd Rhan Amser

Prif erthygl rhifyn Medi 2026

Mae Llafar Bro wedi holi Trafnidiaeth Cymru, o dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, am y gwasanaeth trên chwit-chwat ar Reilffordd Dyffryn Conwy, ac anfodlonrwydd a rhwystredigaeth y teithwyr am na wyddwn o un wythnos i’r nesa’ os bydd trên o gwbl, a’r shambls llwyr efo’r bysus sydd i fod i gymryd lle y trenau colledig.

Hanner ateb gawsom ni mewn gwirionedd, a doedd hwnnw ddim yn hawdd iawn i’w ddehongli. Ond y prif bethau wnaethom ni ddysgu o holi’r cwmni sy’n rhedeg trenau yng Nghymru oedd eu bod wedi canslo 340 o drenau rhwng y Blaenau a Llandudno yn ystod 2025, a 149 arall wedi methu gwneud y daith gyfan. 

Hyn yn gyfanswm o 589 trên heb redeg o gwbl, neu heb gyrraedd pen y daith y llynedd*.

Eleni, hyd at ddiwedd Gorffennaf -ac mae mwy wedi bod ers hynny cofiwch- y cyfanswm oedd 288 trên wedi’i ganslo’n llwyr, a 36 trên heb wneud y daith yn llawn!

Llun gan Foulger Rail Photos, dan drwydded CC BY-SA 2.0

Dyma be' ofynwyd i Trafnidiaeth Cymru, dan y Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth, ar ddiwedd Gorffennaf:

•    Sawl gwaith yn ystod 2025 ac hyd yma yn ystod 2026 mae Trafnidiaeth Cymru wedi canslo gwasanaethau trên Rheilffordd Dyffryn Conwy rhwng Llandudno a Blaenau Ffestiniog?

•    Beth oedd y rheswm ym mhob achos?

•    Sawl gwaith mae Trafnidiaeth Cymru wedi canlso trenau i Flaenau Ffestiniog er mwyn symud y cerbydau i wasanaethu ardal yr oeddech yn tybio oedd yn flaenoriaeth pwysicach i gynnal gwasanaeth?

Efo ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth rhaid i’r corff dan sylw ymateb o fewn 20 diwrnod gwaith, ac mi wnaeth Trafnidiaeth Cymru (TrC) lwyddo yn hynny, o drwch blewyn ar y 24ain o Orffennaf, ond efo fersiwn Cymraeg anghyflawn “oherwydd yr iaith dechnegol, bydd ymateb wedi'i gyfieithu'n llawn yn dilyn."   Tydi’r ateb cyflawn hwnnw dal heb ddod.

Mi welsoch gyfanswm y trenau a ganslwyd uchod, ond dyma’r manylion:

Hynny ydi canslo di-rybudd ydi’r rhai melyn. Canslo wedi ei drefnu o flaen llaw sydd mewn glas

Nid yw’n amlwg o’u hymateb nhw os ydi trên o Landudno i’r Blaenau ac yn ôl yn cyfrif fel UN cansliad yn y tabl, yntau DAU..?  Mae 6 gwasanaeth nôl-a-mlaen ar yr amserlen bob dydd (12 ‘trên’ yn eu hystadegau nhw efallai) Llun i Sadwrn, a 4 ar y Sul (8 ‘trên’). 

Os ydi hynny’n 80 ‘trên’ yr wythnos, neu 4160 y flwyddyn (heb gyfri’ gostyngiadau ‘Dolig aballu) mae 589 cansliad yn 2025 yn 14% o’r amserlen heb ei chyflawni*. Efallai fod hynny o fewn yr hyn sy’n dderbyniol i Trafnidiaeth Cymru, ond nid yw’n dderbyniol o gwbl gan eu cwsmeriaid!

Wrth ateb yr ail gwestiwn, Mae TrC yn rhestru 59 gwahanol reswm dros ganslo’n ddi-rybudd, gan gynnwys problemau mecanyddol ar y trenau, ond hefyd rhai rhyfedd fel rhywun yn gwrthod talu am docyn neu ‘overcrowding due to planned events e.g concerts’, ‘National grid power supply failure’ ac ati. Canslwyd 4 gwaith oherwydd eira, ac 8 arall oherwydd ‘points failure caused by snow or frost’; 8 a 14 (dau wahanol ddisgrifiad) oherwydd llystyfiant/canghennau, a 21 oherwydd gwynt.

Y prif reswm am ganslo oedd ‘Other technical failures below the solebar’ beth bynnag ydi hwnnw: 66 cansliad llawn a 9 rhannol. ‘Driver’ ddaw wedyn. Dim mwy o fanylion, dim ond ‘driver’: 35 cansliad llawn, a 2 rannol. 

Mae llifogydd wedi bod yn broblem cynyddol, a llawer yn gofyn sut ar y ddaear fod Network Rail, sy’n cynnal a chadw’r cledrau, dal heb ddatrys hyn yn barhaol? P’run bynnag, mae llifogydd yn ymddangos yn rhif tri a rhif 5 yn rhestr hir TrC sef  ‘Flooding NOT due to exceptional weather’ -34 achos; yn ogystal a ‘Severe flooding’ -27. Ar ben y cansliadau di-rybudd yna, roedden nhw wedi canslo-o-flaen-llaw 264 trên arall yn llawn neu’n rhannol oherwydd ‘severe weather’ a ‘weather’. 

Y 4ydd rheswm mwyaf cyffredin am ganslo sy’n ateb cwestiwn 3:
“Cafodd 18 eu canslo’n llawn a 6 yn rhannol oherwydd ffurfio byr o drenau (‘short formation of trains yn y fersiwn Saesneg) yn 2025. Cafodd 9 eu canslo’n llawn a 0 eu canslo’n rhannol oherwydd ffurfio byr o drenau yn 2026.”  Prinder trenau mewn geiriau eraill.

Y ffordd mae’r rhan fwyaf o’r teithwyr yn cael gwybod nad oes trên ydi trwy gyrraedd yr orsaf i ganfod nad yw’n dod… Mae rhai yn clywed mewn da bryd ar y newyddion, ac eraill yn gweld ar y cyfryngau cymdeithasol ac yn fanno down yn nes at wir resymau rhai o’r cansliadau: Mae rhywun -sy’n ymddangos fel ei fod yn gweithio ar y rheilffyrdd yn y gogledd ‘ma- yn rhoi rhybuddion ar dudalennau facebook lleol, yn datgelu mwy am y rhesymau yn aml iawn, nag ymateb swyddogol Trafnidiaeth Cymru.

Am y ‘short formation’ uchod, dywed fod gwasanaethau mewn ardaloedd eraill heb air-conditioning, ac oherwydd fod trenau Dyffryn Conwy yn gerbydau newydd sbon -efo air-con- roedd eu hangen nhw i wasanaethu teithwyr ardaloedd eraill yn ystod y gwres mawr a gafwyd yr haf hwn. Datgelodd hefyd ar o leiaf un achlysur fod prinder o yrrwyr trên yn depot Caergybi, ac felly bod gwasanaeth Dyffryn Conwy yn cael ei chanslo i symud y gyrrwr i rywle arall! Tydi TrC ddim yn cynnig sylw ar yr elfen yn y cwestiwn sy’n awgrymu eu bod yn trin Rheilffordd Dyffryn Conwy fel gwasanaeth llai pwysig nag ardaloedd eraill.

Am y ‘gwasanaeth bws’ a drefnir i gymryd lle y trenau, clywodd Llafar Bro straeon di-ri am y trefniadau yn draed moch llwyr, er enghraifft bysiau wedi gadael gorsaf y Blaenau ugain munud cyn amseroedd arferol y trên; rhai wedi aros am ddwy awr am fws i ddod adref o Fetws y Coed; a bysiau ddim yn ymddangos o gwbl mewn achosion eraill.

Rydym yn ymwybodol yn yr ardal hon fod yr awdurdodau wedi diddymu’r gwasanaeth bws T19 poblogaidd oedd yn arfer rhedeg yn rheolaidd rhwng y Blaenau a Llandudno. Felly nid oes unrhyw fodd i deithwyr Bro Ffestiniog gysylltu â gweddill y rhwydwaith trafnidiaeth gyhoeddus i’r gogledd a’r dwyrain. Dim rhyfedd pam bod cymaint ohonom yn dewis teithio mewn ceir.

Fel ôl-nodyn am y rhwydwaith, mae’n siom i nodi fod y gwasanaeth bws crand a chyflym newydd sbon gan Lywodraeth Cymru rhwng Caerfyrddin a Bangor DDIM yn stopio ym Maentwrog, sy’n gyffordd pwysig yn y rhwydwaith i’r gwasanaethau trwy Stiniog ac ymlaen! Colli cyfle go iawn.

I’n ymholiad os bu unrhyw drafodaethau i gau Rheilffordd Dyffryn Conwy yn barhaol, cafwyd hyn:
"Gall Trafnidiaeth Cymru gadarnhau nad oes unrhyw gynlluniau i gau rheilffordd Dyffryn Conwy"

Ar ôl derbyn, a phendroni dros ymateb TrC, mi yrrodd Llafar Bro neges at y Dirprwy Weinidog dros Drafnidiaeth, yn Llywodraeth Cymru sef Mark Hooper, yn gofyn fedr o ddarparu datganiad ar gyfer y rhifyn hwn efo’i ymateb i'r cwynion yn lleol, a sut fedr o ddylanwadu ar TrC i wella'r gwasanaeth allweddol yma. Er i ni dderbyn cydnabyddiaeth o’r ymholiad, nid oedd ei swyddfa’n medru sicrhau ymateb tan ar ôl cyhoeddi rhifyn Medi. 

PW

* Ymddiheuriadau am gyhoeddi'r ffigyrau anghywir o 489 a 12% yn wreiddiol yn rhifyn Medi.

- - - - - -

Mae darn am ymateb Gweinidog Trafnidiaeth Cymru yn rhifyn Hydref, sydd ar gael rwan yn y siopau lleol!

 

No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon