28.1.13

Troedio 'nol -Y Gadair Ddu Gyntaf

Darn o golofn reolaidd John Norman, o rifyn Ionawr 2013.




Mae sgil a dawn darllen yn amhrisiadwy ac mae bod yn berchen casgliad o lyfrau neu lyfrgell fechan yn drysor ynddo’i hun. Mae gennyf lyfrgell felly a phob llyfr ynddi â’i stori ei hun i’w dweud. Tybiaf fod llyfr newydd sbon â rhywbeth arbennig tu fewn i’w glawr, yn enwedig os yw’n glawr caled. Mae cyfrinachau’n ddiogel tu fewn iddo ac yn bwrw teimladau i’r llygaid sy’n hedfan dros y tudalennau a’r print byw. Yn wir, mae yna arogl arbennig iddo a’r teimlad fod angen cofleidio’r cynnwys bron cyn ei ddarllen.

Llun gan Y Lolfa
O fy mlaen mae gennyf lyfr o’r fath. Llyfr sy’n ddiddorol i fachgen o Drawsfynydd, ac efallai yn dipyn o sioc hefyd gan ei fod yn troedio’n ôl a dilyn hanes y Gadair Ddu gyntaf, a hynny dros ddeugain mlynedd cyn Cadair Ddu Hedd Wyn.

Dyma’r enw yn fras ar ei glawr , ‘TALIESIN O EIFION A’I OES : BARDD Y GADAIR DDU GYNTAF : EISTEDDFOD WRECSAM, 1876. Yr awdur ydyw ROBIN GWYNDAF, a hon yw ei bumthegfed gyfrol mewn cyfres o gyhoeddiadau ar ddiwylliant gwerin Cymru. Cefais y fraint gyda 54 eraill o noddi’r llyfr hwn a gyhoeddwyd ac a argraffwyd gan Wasg y Lolfa, Awst 2012.

Stori ydyw am fywyd  bardd a enillodd Gadair Eisteddfod Wrecsam yn 1876 . Ganwyd Thomas Jones, Taliesin o Eifion, ger Llanystumdwy yn 1820, ond bu’n byw yn Llangollen y rhan fwyaf o’i oes. Bu farw yn 56 oed  a hynny ychydig oriau wedi iddo anfon ei awdl fuddugol i Eisteddfod Wrecsam. Wedi cyhoeddi ei farwolaeth o’r llwyfan gorchuddwyd y gadair â lliain du.

Wrth ysgrifennu’r darn yma clywaf fod y ‘Loteri’ yn cynnig grant newydd at gynnal ‘Yr Ysgwrn’ yn Traws. Wrth gadw Cadair Ddu Hedd Wyn yno,  mae’n siwr y daw sylw eto i hanes y Gadair Ddu gyntaf . Mae hanes y ddwy yn mynd law yn llaw.

24.1.13

Stolpia- Tywydd Ionawr

Detholiad o gofnodion am y tywydd oedd gan Steffan ab Owain yn ei golofn reolaidd, Stolpia, yn rhifyn Ionawr 2013, wedi eu codi o ddyddiaduron cyn-drigolion y fro. Dyma rannu darn o'r erthygl; cewch weld y gweddill yn Llafar Bro.



Dyma ddechrau gyda phigion o ddyddiaduron Mrs Elen Lloyd, gwraig Lewis Lloyd, Tafarn Tanybwlch, ond o Blas Meini, Llan Ffestiniog, yn wreiddiol. Sylwer ar ei Chymraeg cyhyrog -

Llun- PW
Ionawr 2, 1851 – Ystorm aruthrol neithiwr [- ac am  Ion.3 ceir:  Cerdded i Faentwrog ac yn ôl. Diwrnod gogoneddus i syllu ar y greadigaeth, ac i fyfyrio am yr hwn a’i gwnaeth.]

Ionawr 4, 1854 – Ystormus. Yr eira yn ddyfnach nag y gwelwyd ef ers deugain mlynedd. Y tai wedi eu gorchuddio. Amserau difrifol i’r tlodion.

Ac am Ion.6ed  nodwyd - Mynd i gael golwg ar yr eira yn Blaenyddol wrth oleu’r lloer. Mor brydferth! Ni welais ddim erioed i’w gymharu â hyn mewn ardderchogrwydd. Y distawrwydd dwfn ! 

Daw y nesaf o ddyddiadur hen frodor o Lan Ffestiniog :
Ionawr 1, 1854 – am y tridiau dilynol ysgrifennwyd –‘Eira mawr, lluwch mawr, a’r lluwch mwyaf a welais yn fy oes’.

Y mae’n rhaid eu bod wedi cael cnwd iawn o eira yn ystod  wythnos gyntaf o fis Ionawr 1854 gan fod amryw o gyferiadau ato yn y newyddiaduron hefyd -
Ionawr 6, 1867  - Eira mawr a lluwch enbyd.
Ionawr 1, 1869 – Lladd dau ddyn o Fethesda wrth droed inclên Gloddfa Ganol.

Daw’r nodyn canlynol o hen ddyddiadur a berthynai i ŵr o Danygrisiau. Ysgrifennwyd hwn yn y Saesneg yn wreiddiol. Dyma gyfieithiad ohono:
Ionawr 11, 1870 - Eira mawr a rhew. Tywydd garw a rhoi’r gorau i weithio.
Ionawr 31 - Dechrau gweithio eto ar ôl tair wythnos o smit. (Gyda llaw, y mae’r gair ‘smit’ ynddo yn Gymraeg –SabO).

Daw’r  cofnodion nesaf  o ddyddiaduron difyr Daniel Williams, Bryn Tawel, Dolwyddelan a fu’n gweithio yn Chwarel Llechwedd am flynyddoedd:

 Ionawr 23,1891 – Glaw hen ffasiwn a’r mwyaf a welwyd ers llawer o fisoedd.

Ion.8, 1895 – Rhewi yn ffyrnig. Y llechi yn anodd i’w gweithio. Ac am y 26ain o’r un mis ceir –
Diwrnod oer ac eira mawr. Smit yn y chwarelau i gyd heddiw.Trwch yr eira deg modfedd.

Rwyf am orffen y strytyn hwn gydag enghraifft o ddyddiadur chwarelwr arall a breswyliai yn y Blaena': 

Ionawr 1, 1932 – Glaw mawr heddiw ac wedi clirio yr eira yn llwyr. Yn agos i 60 o weithwyr wedi cael eu stopio i weithio yn yr Oakeleys. Cwmorthin wedi stopio i gyd.

18.1.13

Rhag cywilydd

Yn dilyn penderfyniad anfoesol Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr i fwrw ymlaen efo'u cynlluniau cywilyddus heddiw, dyma atgynhyrchu prif erthygl rhifyn Ionawr 2013 Llafar Bro:




Dal i aros am atebion!

Llythyr Agored at: 
Yr Athro Merfyn Jones, Cadeirydd Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr
1af Ionawr 2013

Annwyl Merfyn Jones,
Fe gofiwch, rwy’n siŵr, i ddirprwyaeth ohonom o Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog a’r panel meddygon lleol ddod i gyfarfod â chi yn Ysbyty Gwynedd ar Hydref 24ain i gyfleu ein pryderon ynglŷn â’r bygythiad i gau ein Hysbyty Coffa. Fe gawsom wrandawiad teg, a bu’r Prif Weithredwr a Mr Geoff Lang yn brysur yn cofnodi ein dadleuon. 
Ar derfyn y cyfarfod, fe gaed addewid pendant  y byddai’r pwyntiau hynny yn derbyn ystyriaeth holl aelodau’r Bwrdd Iechyd cyn i unrhyw benderfyniad terfynol gael ei wneud ynglŷn â dyfodol yr ysbyty.
Fe gaed addewid tebyg gan Mr Lang chwe wythnos cyn hynny hefyd, ar Fedi’r 6ed. yn ystod y sesiynau ymgynghorol a gynhaliwyd yn y Ganolfan Gymdeithasol ym Mlaenau Ffestiniog. Fe ddywedodd ef ar goedd, bryd hynny, y byddai pob barn a phob pryder yn cael ei nodi ac yn derbyn ystyriaeth y Bwrdd.

A fedrwch yn awr gadarnhau bod holl aelodau’r Bwrdd Iechyd wedi cael cyfle i drafod y dadleuon hynny? Os do, yna pa ymateb a fu iddynt? 

A gafodd y syniad a gyflwynwyd gennym o ddatblygu Ysbyty Coffa Ffestiniog fel wythfed ‘ysbyty canolbwynt’ i wasanaethu ardal cefn gwlad gogledd Meirionnydd a de Conwy ei drafod o gwbwl? Os do, yna beth fu’r ymateb i’r awgrym hwnnw?

A yw’r dadleuon a leisiwyd yn y sesiynau cyhoeddus ym mis Medi, a gan y ddirprwyaeth ar Hydref 24ain, wedi arwain at unrhyw newid o gwbwl yng nghynlluniau BIPBC ar gyfer yr ardal hon?

Edrychwn ymlaen at dderbyn gair buan oddi wrthych.

Yn gywir iawn,
Geraint V. Jones (Cadeirydd Pwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog)
Dr Tom Parry (Meddyg Teulu)

 


















13.1.13

Ymweld a bedd Hedd Wyn

Clifford Jones, Bontnewydd, yn rhoi rhywfaint o hanes taith i Ypres:



Ymweld â bedd Hedd Wyn.

Bu Iona fy ngwraig, sef  merch Frank a Kit, Tanygrisiau a minnau am bum niwrnod gyda bws Caerlloi, Pwllheli yn Ypres yng ngwlad Belg.  Fel llawer o rai eraill cael gweld bedd Ellis Humphrey Evans sef fy arwr ac arwr i lawer un arall sef yr anfarwol Hedd Wyn.   Hwyrach cerdded yn ôl ei droed.
Ers amser roedd gennyf freuddwyd, a honno oedd ysgrifennu englyn a chael ei darllen wrth  ei fedd.   Cefais wireddu fy mreuddwyd ar ddydd Iau 30ain o Hydref  2012.   

Darllenais bedair englyn:

                            Hedd Wyn.

    O’i fodd nid aeth i’r fyddin – o’i aelwyd 
        I alaeth a’r cyfrin;
    I’r gwaethaf, un haf a’i hin
    Erys yng nghof y werin.

    Yn ddistaw yna’n dawel – a  hiraeth
        A erys am isel
    Un dan dir pell, a gwir gwêl
    Y rhifau wedi rhyfel.  

    Ei fedd mysg mil o feddau – a’r geiriau
        Ar garreg yn ddiau;
    O’i gryfder a’r her i hau
    Ei gariad i greu geiriau.

    Un o sêr mwyaf ein sir – a gorau
        O’n gwerin a gofir; 
    Cerflun o’r dyn ar darn dir
    A’i wialen yno welir.

Yn wyneb haul llygad goleuni, un freuddwyd wedi ei gwireddu.
Clifford Jones.

10.1.13

Rhifyn Ionawr

Mae rhifyn Ionawr 2013 allan rwan.

Erthyglau a cholofnau rheolaidd; newyddion bro; cyfarchion; lluniau; a llawer iawn mwy.
A'r cyfan am 40 ceiniog yn unig.
 
Ynddo hefyd y mis hwn, mae taflen gan Bwyllgor Amddiffyn Ysbyty Coffa Ffestiniog, efo lluniau o'r paneli coffa sy'n enwi'r hogiau a gollwyd yn y ddwy ryfel. Dyma ddarn o un dudalen (lluniau gan Gareth T Jones):


8.1.13

Pigwr -llanast ar y cledrau

Rhan o golofn reolaidd Y Pigwr, o rifyn Rhagfyr 2012:



Wedi canmol y datblygiadau gwych yng nghanol tref Blaenau y mis diwetha', rhaid i'r Pigwr ddychwelyd i'w hen ddull o dynnu sylw, (neu gwyno, yn ôl rhai!) at faterion llosg.   

Cyfeirio wyf at gyflwr rhan o hen lein reilffordd y G.W.R. gynt, sy'n arwain o Ddiffwys i gyfeiriad Manod. 

Tra bo miliyna' wedi'i gwario ar wella delwedd canol y dre', mae'r olygfa a geir ychydig lathenni i ffwrdd yn ddolur i'r llygaid. 


Er i'r ganolfan ailgylchu yn Rhiwbryfdir fod ar agor i'r cyhoedd ers tro, mae ambell fag chwain diog yn parhau i ddefnyddio'r lein fel safle dympio. Heblaw hynny, mae'r tyfiant o lwyni, coed a chwyn yn prysur dagu llwybr y ffordd haearn, a'r rheiliau yn prysur ddiflannu yn y jyngl blêr.  

 Tua chwe blynedd yn ôl, bu i rai dinasyddion, gan gynnwys y Pigwr, gysylltu â Network Rail i dynnu sylw'r cwmni at fandaliaeth debyg yr adeg hynny, ac fe gafwyd ymateb yn fuan, a chanlyniadau cadarnhaol, chwarae teg. Ond mae'r broblem wedi dychwelyd, yn anffodus. 

Pa argraff mae'r olygfa druenus hon yn ei roi i ymwelwyr yma? A fyddech chi am aros mewn ardal a'i phobl heb barch i'w hamgylchedd? A yw'r cynghorwyr lleol yn ymwybodol o'r sefyllfa, neu a ydynt yn hollol ddall i'r blerwch cywilyddus ar y lein, a'r bont? Dewch da chi, gynrychiolwyr y bobl, atgoffwch yr awdurdodau perthnasol o gyflwr digalon hen reilffordd y G.W.R. trwy'r dre', a'u cyfrifoldeb tuag at dacluso'r safle. 

Os ydym am fod yn wirioneddol ddiffuant yn ein hymdrechion i godi statws a delwedd Blaenau Ffestiniog, ac am greu tre' yr ydym yn falch o fod yn rhan ohoni, rhaid ceisio datrys problemau fel yr uchod. 

Mae chwe mis i fynd nes dyfodiad tymor ymwelwyr eto. Chwe mis i'r sawl a llygaid i atgoffa Network Rail o'u cyfrifoldeb i gadw'i heiddo mewn cyflwr taclus, a hynny ar fyrder.   


Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Llafar Bro, gyda llaw; hynny yw, heblaw'r diawliaid di-egwyddor sy'n lluchio sbwriel dros bont Glynllifon.