8.1.13

Pigwr -llanast ar y cledrau

Rhan o golofn reolaidd Y Pigwr, o rifyn Rhagfyr 2012:



Wedi canmol y datblygiadau gwych yng nghanol tref Blaenau y mis diwetha', rhaid i'r Pigwr ddychwelyd i'w hen ddull o dynnu sylw, (neu gwyno, yn ôl rhai!) at faterion llosg.   

Cyfeirio wyf at gyflwr rhan o hen lein reilffordd y G.W.R. gynt, sy'n arwain o Ddiffwys i gyfeiriad Manod. 

Tra bo miliyna' wedi'i gwario ar wella delwedd canol y dre', mae'r olygfa a geir ychydig lathenni i ffwrdd yn ddolur i'r llygaid. 


Er i'r ganolfan ailgylchu yn Rhiwbryfdir fod ar agor i'r cyhoedd ers tro, mae ambell fag chwain diog yn parhau i ddefnyddio'r lein fel safle dympio. Heblaw hynny, mae'r tyfiant o lwyni, coed a chwyn yn prysur dagu llwybr y ffordd haearn, a'r rheiliau yn prysur ddiflannu yn y jyngl blêr.  

 Tua chwe blynedd yn ôl, bu i rai dinasyddion, gan gynnwys y Pigwr, gysylltu â Network Rail i dynnu sylw'r cwmni at fandaliaeth debyg yr adeg hynny, ac fe gafwyd ymateb yn fuan, a chanlyniadau cadarnhaol, chwarae teg. Ond mae'r broblem wedi dychwelyd, yn anffodus. 

Pa argraff mae'r olygfa druenus hon yn ei roi i ymwelwyr yma? A fyddech chi am aros mewn ardal a'i phobl heb barch i'w hamgylchedd? A yw'r cynghorwyr lleol yn ymwybodol o'r sefyllfa, neu a ydynt yn hollol ddall i'r blerwch cywilyddus ar y lein, a'r bont? Dewch da chi, gynrychiolwyr y bobl, atgoffwch yr awdurdodau perthnasol o gyflwr digalon hen reilffordd y G.W.R. trwy'r dre', a'u cyfrifoldeb tuag at dacluso'r safle. 

Os ydym am fod yn wirioneddol ddiffuant yn ein hymdrechion i godi statws a delwedd Blaenau Ffestiniog, ac am greu tre' yr ydym yn falch o fod yn rhan ohoni, rhaid ceisio datrys problemau fel yr uchod. 

Mae chwe mis i fynd nes dyfodiad tymor ymwelwyr eto. Chwe mis i'r sawl a llygaid i atgoffa Network Rail o'u cyfrifoldeb i gadw'i heiddo mewn cyflwr taclus, a hynny ar fyrder.   


Blwyddyn newydd dda i holl ddarllenwyr Llafar Bro, gyda llaw; hynny yw, heblaw'r diawliaid di-egwyddor sy'n lluchio sbwriel dros bont Glynllifon.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon