30.8.13

Rhamant Bro ar ddisg

Eisiau chwilio trwy hen gopiau o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog?

Wedi colli un rhifyn arbennig?

Erbyn hyn gall bawb chwilio a phori trwy'r casgliad cyfa' o
RHAMANT BRO gan fod y gymdeithas wedi cynhyrchu disg efo pob rhifyn wedi'i sganio arno.Pob un erthygl, o bob un rhifyn, o 1983 hyd at 2012, mewn fformat hawdd i'w chyrraedd, a hawdd i'w gweld.

Credwch neu beidio, dim ond £5 yr un ydyn nhw! Maen nhw ar gael yn nosweithiau'r Gymdeithas (nesa: nos Fercher 18fed Medi, "O fewn cyrraedd" gan Dafydd Jones. Yn neuadd y WI am 7.15yh), neu gan Robin Davies y llywydd, Steffan a Vivian y golygyddion, Gareth yr ysgrifennydd -a chynhyrchydd y disgiau- ac aelodau eraill y pwyllgor.

Dyma flas o'r cynnwys:




 Diolch i'r Gymdeithas Hanes a'i gwirfoddolwyr brwd am gymwynas arall.
Cofiwch y bydd rhifyn 2013 o Rhamant Bro allan ym mis Tachwedd.

20.8.13

Peldroedio

Efo'r tymor peldroed ar fin ail-ddechrau y penwythnos hwn -yng Nghymru o leia' (mae nhw wedi dechrau yn Lloegr medda' rhywun, rhyfedd na fysa mwy o son am hynny ar y teledu 'de....!)
- dyma ddarn o erthygl a ymddangosodd yn rhifyn Gorffennaf 2013 o Llafar Bro, am di^m dan 16 llwyddianus y Blaenau:



Peldroed dan 16
Pennawd bras rhifyn Mai 2007 Llafar Bro oedd ‘Llwyddiant Ysgubol i Dîm Pel-droed Dan 11 Blaenau Ffestiniog’ a’r erthygl yn manylu ar berfformiad syfrdanol yr hogia dros y tymor hwnnw – curo 13 o gemau yn olynol, sgorio 69 o goliau ac ildio dim ond 10 [a dim un o’r rheiny gartref !].
Mae’r hyn ddilynodd y tymor llwyddiannus hwnnw 6 mlynedd yn ôl yn fwy syfrdanol fyth! 


Ni fu bron unrhyw newid yng nghynnwys y garfan – mae’r hogia wedi aros yn driw i Stiniog.


Ers y cyfnod hwnnw, mae’r tîm wedi curo’r gynghrair 5 gwaith; wedi dod yn ail ddwy waith; ac heb fod
yn is na’r ail safle trwy'r holl gyfnod!


Llwyddwyd i gipio cwpan y gynghrair bump o weithiau.



Llongyfarchiadau felly am y llwyddiant ysgubol, a diolch yn ddiffuant iddyn nhw, eu hyfforddwyr, a’u rhieni am eu cyfraniad euraid i roi Blaenau a’r cylch yn ôl ar y map pel-droed !   -EJ.
Llun gan Medwen Williams



Rhes ôl : Urien Elfyn, Aron Hughes, Gethin Edwards, Tyler French, Jack Diamond, Ynyr Griffiths, Andrew Jones, Jack Hughes, Julian Jeffrey (Hyfforddwr)
Rhes flaen: Gethin Williams, Alun Hughes, Meilir Williams (Capten), Sion Bradley, Sion Jones