7.8.13

Stolpia -lobsgows

Fel dipyn o 'gawl cymysg' ddisgrifiodd Steffan ei golofn yn rhifyn Gorffennaf. Pontydd a siopau a chystadlaethau eisteddfodol oedd ganddo dan sylw.



Cystadlaethau Eisteddfodau.
Roedd rhai o gystadlaethau'r eisteddfodau lleol yn rhai digon diddorol ers talwm. Os cofiwch, soniais rywdro o’r blaen am gystadlaethau gwneud ffyn cerdded ynddynt, a hollti llechi yn amryw o rai eraill. 

o gasgliad Comin Wikimedia
Dyma ddwy arall y sylwais arnynt tra’n chwilota yn yr Herald Cymraeg am Hydref 1884. Cynhaliwyd y rhain yn Eisteddfod Chwarel Llechwedd, sef un o eisteddfodau chwarelyddol mwyaf poblogaidd y cylch. 

Cynigid gwobrau i’r gorau am wau hosanau ar lwyfan, ac am yr un cyflymaf a thaclusaf am lwytho llechi i wagen. 

Tybed pwy oedd yn fuddugol yn y ddwy ornest?



No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon