Yn rhifyn Gorffennaf, mae Arwel Gruffydd, yn son am ddod a'r Theatr Genedlaethol i'w filltir sgwar.
Pan gafodd Arwel ei benodi’n Gyfarwyddwr Artistig
Theatr Genedlaethol Cymru ddwy flynedd yn ôl, mi anfonais nodyn ato i’w
longyfarch, a’i holi’n ddireidus pryd oedd yn bwriadu dod a pherfformiadau i
Fro Ffestiniog? Atebodd fel hyn: “Os na ddaw'r Theatr Gen i Stiniog ryw ffordd neu'i gilydd o fewn y 5
mlynedd nesaf, mi fyta i'n het!
Dylai Stiniog gael theatr genedlaethol ei
hun... Mae yno ddigon o dalent!”
Meddai Arwel:
"Mae
dwy flynedd bellach ers i mi gychwyn yn fy swydd fel Cyfarwyddwr Artistig
Theatr Genedlaethol Cymru. Mae hi’n fraint aruthrol i mi gael gwneud y swydd
honno, ac wrth gwrs, rwyf yn ymwybodol iawn o’r disgwyliadau uchel sydd ynghlwm
â hi. O’r dechrau cyntaf, roeddwn i am i’r cwmni fod yn gwmni theatr sy’n mynd
y tu hwnt i ddisgwyliadau arferol; yn tanio dychymyg, yn pryfocio, yn cyffroi
ei gynulleidfa, yn ogystal, wrth gwrs â’i diddanu. Roeddwn hefyd yn awyddus
iawn i ddod â’r cwmni cenedlaethol i fy mro enedigol."
Mae gan Gymru lot i
ddiolch i’r ardal hon, i’w hanes, i’w thraddodiad ac i’w phobl. Mewn ffordd,
roeddwn i am i’r ardal hon gael ei lle haeddiannol yn y ‘spotlight’ (a dwyn
metaffor o fyd y theatr).
![]() |
| Lleu Llaw Gyffes, Tomen y Mur. Gorffennaf 2013 |
Darllenwch y cyfan yn Llafar Bro.
Mwy am Blodeuwedd yn fan hyn.

.jpeg)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon