Cefais hanes diddorol o Galifornia, am ardal Pant Llwyd, dipyn bach yn gynharach na fy nghyfnod i, gan Esther Owen (nee Edwards a chwaer i Evan Edwards, Llain Wen). Ymfudodd Esther yno rai blynyddoedd yn ôl o Lŷn. Un o blant Laura a William Edwards (ddiweddarach Gyfynys).
Symudodd y teulu o’r Cefn, lle ganwyd Esther, i Rhif 1 Tan y Bryn, pan oedd yn ifanc iawn. Arferai brawd arall iddi, Willie (William Edwards, Mur Llwyd) fyw yn Islwyn (dau dŷ wedi ei wneud yn un). Sonia mor dwt oedd Pant Llwyd ac mi roedd y lle’n fywiog drwy’r flwyddyn gyda’r cyfarfodydd, dramau, partion a chwaraeon a gynhaliwyd yno. Ras traws gwlad i lawr Cae Swch ac i fyny drwy Llety Fadog ac yn ôl at y Capel Bach. Cofia hi a Mair Vaughan yn hel mafon gwyn ar y dde wrth fynd i fyny’r rhiw wrth Pen Rhiw Mawr a holai a oedd y planhigion yno o hyd.
Dipyn i fyny’r allt, ond ar y chwith, safai Penrhiw Bach a meddyliai i Lys Owain gael ei adeiladu ar ei sylfeini. Helai atgofion am deulu tawel a hoffus Jo: Jo malu metlin oedd hi yn ei alw, gan mai dyna a wnaeth. Cofia ei fam a’i dad a’r teulu oll. Mam Mam fyddai pawb yn Mhant Llwyd yn ei galw. Aethwn yno i’w thŷ, gyda Mair Vaughan, ei nith. Gwisgai Mam Mam sgert, het a ‘chep’ bob amser. Byddai Mair yn gofyn iddi “Ble dachi’n mynd”, a Mam Mam yn dweud o hyd “Mynd i godi mhenshwn, yldi.” Mi roedd Mrs Roberts, 2 Islwyn wedi symud yno o Ben Rhiw Bach ac mi roedd ganddi ferch Ann Jane a dau fab, Daniel (tad Ffestin) a gadwai siop ffrwytha’ yn y Blaenau – credaf mai enw’r mab arall ydi Robert Owen.
Llyn Dubach y Bont a ffordd Y Foelgron (llun Paul W) |
Soniai hefyd fel y cerddasai at Ben Ffridd a throi i’r dde ble roedd gwersyll sipsiwn yn arfer bod ac fel roedd hi a’i chwiorydd yn hoffi edrych i mewn i’r garafan. Honno’n lan a thwt a’r tegannau a’r canwyllbrenau pres yn sgleinio. Gwneud piseri a thuniau godro o bob math oedd y gŵr, Mr Fox.
Meddai ar arth ‘frown’ a hoffem ei gweled yn dawsio fel y canai ei ffidil. Tra’r oedd hyn yn mynd ymlaen gweithiai ddwylo medrus a diwyd ei wraig ar waith crosio. Cofiaf innau hefyd weled sipsiwn wrth giat Llety Gwilym, pan oeddwn yn cerdded adref hefo fy mrawd Dafydd i Sofl y Mynydd, yn y dau ddegau. I gychwyn mi roeddwn eu hofn ond yn araf daethom i’w hadnabod ac yn ffrindiau hefo nhw.
-------------------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Mawrth 1998.
Dilynwch y gyfres efo'r ddolen Atgofion Pant Llwyd isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde (os yn darllen ar ffôn, rhaid dewis 'web view')
Chwith mawr ar ôl rhai fel Laura a'i brawd, Dafydd Price, gyda'u hatgofion hynod ddifyr. Pobl fel hyn yn brin iawn y dyddia hyn.
ReplyDelete