Y mae’r rhifyn diweddaraf o gylchgrawn Cymdeithas Hanes Bro Ffestiniog, sef Rhamant Bro yn y siopau yn barod ar eich cyfer.
Dyma gylchgrawn delfrydol i bob un ohonoch sydd â diddordeb yn hanes ein bro a’r cyffiniau. Ac unrhyw un sy'n ymddiddori yn y tywydd hefyd!
Yn y rhifyn hwn cawn hanesion am Fastiau Clogwyn Bwlch y Gwynt gan Gareth T Jones, â Phen Uchaf Cwm Cynfal gan Vivian Parry Williams. Yn ogystal, cawn stori rhai o enwogion yr ardal - Harri, Parri a Kate, gan Aled Ellis, Richard Henry Wood gan Keith O’Brien a’r bardd Ioan Grych.
Hanes Glaw Stiniog sydd gan Marian Roberts y tro hwn, a chofnodion y Tywydd sydd gan Dorothy Williams.
Gweld y Pell yn Agos a gawn gan Dafydd Jones, ac ail hanes Hen Ffotograffwyr Stiniog gan Steffan ab Owain. Ceir hefyd gipdrem ar hanes Tanygrisiau, Llyn Bowydd, Y Felin ar Dân a sawl hanesyn difyr arall.
Mynnwch eich copi cyn iddynt ddiflannu o’n siopau!
--------
Cofiwch hefyd am y ddisg sydd ar gael gan y Gymdeithas efo pob rhifyn o Rhamant Bro rhwng 1983 a 2012.
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon