Hanes y fferm a'r gymuned gan Gretta Cartwright
Llwyncrwn oedd fy nghartref, ffermdy a adeiladwyd yn 1696 (mae’r dyddiad ar y tŷ) yng Nghwm Islyn ym mhlwyf Trawsfynydd. Magwyd fy nhad yn Llwyncrwn, mab ieuengaf Hugh a Jane Jones (genedigol o Bennant, Ysbyty Ifan), gyda Hugh, Jane Catherine, Robert a Margaret yn y teulu. Evan Williams oedd yn ffermio Llwyncrwn yn y rhan gyntaf o’r 1800au, ond daeth salwch i’r wlad ac i’r teulu, a rhaid oedd iddynt roi'r gorau i ffermio.
Fy hen daid Hugh Jones a roddodd gychwyn i’m taid yn Llwyncrwn. Deallaf mai ef adeiladodd y Cross Foxes yn y pentref. Gwerthodd dir i adeiladu Capel y Bedyddwyr, Salem (1873) ac i’r fynwent, gan gadw llain o dir ar gyfer mynwent teulu Llwyncrwn.
Yn Llwyncrwn bu fy nhad gydol ei oes. Priododd Mary Edwards o Gaecoch, Rhydymain yn 1912, a finnau yn chwaer fach i Hugh, Mari, Dafydd a Jean. Yna daeth Haf, a dychwelodd Mari o’r Blaenau wedi i John ei gŵr ymuno â’r fyddin ar ddechrau’r rhyfel, i fagu Ian a Mair yn Llwyncrwn nes y daeth John adref. Ddechrau’r rhyfel, daeth Les atom yn ‘evacuee’ o Lannau Mersey, a bu gyda ni, yn un o’r teulu am dros bum mlynedd. Gwasanaethodd John yng Ngogledd Affrica a thra yno cyfarfod y Parch Elwyn Hughes a oedd yn ‘Padre’ yno. Roedd yn fab i’r Parch Dafydd Hughes a fuodd yn weinidog ar Moriah, Traws am flynyddoedd cyn symud i’r Port at ei ferch Aledwen. Byddai yn dweud iddo gael newyddion am Traws 'via North Africa'! Mor bwysig oedd y ‘wireless’ yn y dyddiau hynny - cael gwybod am symudiadau'r rhyfel tua’r Eidal. Rhaid oedd gofalu fod y ‘wet battery’ wedi cael ei wefru yn rheolaidd gan Peter Williams yn y pentref.
Roedd trefn ar wythnos fy Mam. Golchi a chadw dillad dydd Sul ar ddydd Llun, sychu a smwddio dydd Mawrth. Cyn dyfodiad y ffatri laeth yn Rhydymain roedd y diwrnod corddi yn bwysig: y faedda fawr yn cael ei throi gan yr olwyn ddŵr. Rhaid oedd pobi digon o fara am yr wythnos, a hynny yn y popty brics tu allan, tynnu’r coediach allan pan fyddai yn ddigon poeth i’r bara fynd i mewn, ac ambell dorth o fara brith. Rhaid oedd coginio ar gyfer y gweision a'r teulu, glanhau a pharatoi ar gyfer y Sul.
Fferm gymysg oedd Llwyncrwn, yn rhan o stâd Tregaian, Ynys Môn, ac yn cynnwys tir Dolbelydr ac Islyn pan oeddent ar wahân. Roedd gwartheg stôr a godro dan ofal Owen Lloyd, ceffylau gyda Dic Brynre yn eu gofal, a defaid mynydd Cymreig yn pori ar eu cynefin tua Chraig Wen. Rhaid oedd bwydo’r lloi, y moch, yr ieir a’r gwyddau heb anghofio’r cathod a’r cŵn.
Yn ystod y flwyddyn, deuai Mr Harry Kimbell o Northampton i aros yn y ‘Ship’ yn Nolgellau, a fy nhad yn mynd ag ef o gwmpas i brynu gwartheg a’u cludo mewn tryc o orsaf Dolgellau i’w gartref. Roedd y ceffyl yn hanfodol ar bob fferm cyn dyfodiad y ‘Fergie bach’. Yn y gwanwyn rhaid oedd aredig y tir yn barod at ei hadu gyda’r ffidil, y ceffyl yn tynnu’r aradr i ni edmygu'r rhesi syth cyn y llyfnu. Prysurdeb y cynhaeaf ddoi wedyn, hogi'r cyllyll, ceffyl wrth y peiriant torri gwair, a gwneud hyn yn aml yn gynnar yn y bore cyn gwres y dydd. Rhaid oedd troi'r gwair i’w gyneua yn barod i’r gweithwyr ei dyrru ar ôl cael ei rhannwch gan y peiriant a’r ceffyl. Llwytho'r car llusg, a cheffyl yn ei dynnu, a’i ddadlwytho i’r sied yn ymborth i’r anifeiliaid dros y gaeaf.
Tua diwedd Medi i Hydref byddai’r ŷd yn barod i’w dorri a’i ollwng o’r peiriant yn ysgubau, a’r gweithwyr yn eu gosod gyda’i gilydd dros y cae i sychu, a’r ceffyl eto yn eu cludo i’r ysguboriau.
Tua Gŵyl Diolchgarwch fyddai adeg codi tatws, dilyn yr aradr a’r ceffyl i gael y tatws i’r wyneb, a gobeithio cael tywydd braf i’w casglu gyda help o’r pentref. Ymborth ar hyd y gaeaf nes daw tymor y tatws newydd.
Nid ceffylau gwedd oedd yr unig rai yn Llwyncrwn. Ar y ffridd roedd rhyw ddwsin o ferlod mynydd. Mor hardd oedd eu gweld yn carlamu dros y bryniau. Hefyd ar y ffridd roedd grows, ac ar adegau gwelwyd y byddigions yn dod i’w hela.
Roedd dyddiadau pwysig eraill ar galendr y fferm. Diwrnod dyrnu, a dyddiau cneifio pan fyddai’r cymdogion o’r ffermydd cyfagos yn dod i roi help – dyna oedd y drefn, sef helpu ei gilydd, a bwyd arbennig i bawb. Roedd Mrs Roberts, Bryngoleu, yn dod i helpu Mam i wneud digon o fara ceirch am y tymor, rhai brau a rhai ar gyfer briwas a siot.
(i’w barhau)
-----------------------------------
Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2018, fel rhan o gyfres 'Ffermydd Dalgylch Llafar Bro' Les Derbyshire.
(Heb y llun, gan Paul W)
No comments:
Post a Comment
Diolch am eich negeseuon