27.12.18

Stolpia -adar

Hynt a Helynt Hogiau’r Rhiw yn y 50au. Cyfres Steffan ab Owain

Yn ystod ein dyddiau mebyd dysgodd amryw ohonom ni hogiau’r Rhiw gryn dipyn am fyd natur, yn anifeiliaid, adar a physgod, a chreaduriaid eraill o ran hynny.

Oddeutu 1958 neu 1959, cofiaf i amryw ohonom ni hogiau brynu colomennod gan Mr Robert Hughes (Robin Mynydd), Salem Place. Credaf inni ddysgu llawer trwy gadw adar y pryd hynny, gan fod amryw o bobl yn cadw ac yn magu bwjis, hefyd. Yn ddiau, ar ôl inni brynu copïau o The Observer's Book of Birds ac The Observer's Book of Bird’s Eggs yn siop W.H.Smiths, Llandudno ar un o dripiau Ysgol Sul, daethom i adnabod y mwyafrif o adar yn y pen hwn o’r byd. Roeddem ni’n gallu cael hyd i nythod adar heb drafferth o gwbl, ac fel yr oedd hi yr adeg honno, bu amryw ohonom yn casglu wyau adar am ryw flwyddyn neu ddwy. Wrth gwrs, roedd rhai nythod a wyau allan o’n cyrraedd, megis rhai y wenoliaid duon a nythai yn uchel dan landeri Capel Rhiw a’r wenoliaid a nythai dan bondoeau Ysgol Glanypwll.

Tybed pwy sydd yn cofio un o’r gwenoliaid duon yn dod trwy ryw dwll yn rhan uchaf Capel Rhiw yn ystod yr oedfa un nos Sul ac yn hedfan uwchlaw’r pulpud a’r pregethwr yn ceisio ei orau i’r gynulleidfa ganolbwyntio ar ei bregeth, ond credaf mai aflwyddiannus y bu gan fod pawb yn edrych i fyny i’r entrychion ar yr hen wennol bob hyn a hyn.

Credaf bod llawer mwy o jacdoeau yn ardal y Rhiw a Glan-y-Pwll yn yr 1950au nag y sydd heddiw, ac efallai mai’r rheswm am hynny oedd y byddai lleoedd cyfleus iddynt nythu yng nghyrn simneiau y tai ac adeiladau eraill. Os cofiaf yn iawn, roedd gan Len (Roberts) Groesffordd, jac-do a fedrai ddweud ychydig eiriau - rhywbeth tebyg i ‘helo’ a ‘jaco’ac ambell air arall. Bu un neu ddau o’r hogiau yn cadw piod hefyd am ychydig, ond credaf mai trengi a wnaeth y trueiniaid ar ôl rhyw wythnos neu ddwy.

Pan fyddem yn cerdded i ymdrochi i fyny i’r pyllau yn afon Barlwyd clywid y gylfin hirion yn aml iawn yn y corsydd ac roedd gweld y pibyddion cyffredin (Wil mynydd) yn gwibio hyd lannau Llynnoedd Barlwyd yn beth cyffredin. Yng nghorsydd Tanygrisiau a gerllaw’r merddyrau byddai cornchwiglod ac amryw o siglennod melyn (sigl-i-gwt melyn) a chofiaf fel y byddai tylluan wen yn nythu yn un o hen adeiladau'r gwaith mein nid ymhell o’r hen dwnnel bach.

Gwelid ambell gudyll coch a bwncath o dro i dro, a chredaf bod gan Len gyw bwncath ar un adeg. Clywsom storïau am eryrod yn yr ardal hefyd, un wedi ei saethu gan Robin Mynydd i fyny ar Allt Fawr, ac un arall wedi ei saethu gan rywun ar ben Garreg Ddu. A oedd gwirionedd yn y storïau hyn, ni fedraf ddweud. Tybed a oes un o’r darllenwyr yn cofio storïau tebyg?

Er nad oedd cymaint o goed yn ardal Rhiwbryfdir yn y 50au byddai cryn dipyn o adar to, titŵod a jibincod i’w gweld yn ddyddiol yno. Yn y gaeaf roedd yn ofynnol i bawb ddod a’u poteli llefrith i mewn ar eu hunion ar ôl i’r dyn llefrith alw, neu mi fyddai titw tomos las yn ei brysurdeb ar ben eich potel yn torri trwy’r top papur gloyw ac yn yfed yr hufen.

Byddai amryw yn gwneud ffrindiau efo robin goch yn y gaeaf a deuai i fwydo oddi ar law ambell un, ac yn wir, deuai un i mewn i’n tŷ ni i fwydo ar y briwsion a fyddai ar y llawr cerrig wrth y drws cefn. Ar dir Plas Weunydd byddai cryn dipyn o goed, ac yno ceid ysguthanod, piod, mwyalchod, bronfreithod, drywod, ac amryw o adar bach eraill gydag ambell coch y berllan a dringwr bach, hefyd. Pa fodd bynnag roedd yn rhaid bod ar eich gwyliadwriaeth yno, neu gwae chi os digwyddai i un o weithwyr y plas eich gweld yn y coed - byddai hi’n ras am adref am eich bywyd! 
------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2018.
Dilynwch Stolpia efo'r ddolen isod, neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde. (Os yn darllen ar ffôn rhaid dewis 'web view').


(Llun- trwydded Comin CC BY-SA 2.5 gan Aka
o dudalen Wicipedia titw tomos las)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon