6.12.18

Rhiwgoch – Yr Eironi

Erthygl gan Keith T. O’Brien

Bu i hen blasty Rhiwgoch losgi’n ulw oriau mân y bore, dydd Sul 14eg Hydref 2018.  A dyna ddiwedd truenus i 900 mlynedd fel y safle hanesyddol pwysicaf ym mro Trawsfynydd.


Man geni’r sant a’r merthyr John Roberts a thân gwahanol yn Tyburn yn Rhagfyr 1610 fu’r diwedd iddo yntau pan daflwyd ei galon fawr i’r fflamau ar ôl iddo gael ei grogi, diberfeddu a’i chwarteru.  Yr hyn am iddo fod yn offeiriad Catholig yn y deyrnas. 

Bu teulu’r Llwydiaid yno am bron iawn 300 mlynedd. Robert Lloyd, cefnder y Sant oedd yr un mwyaf amlwg, trefnodd i greu estyniad i’r lle yn yr un flwyddyn a gafodd John Roberts ei ddienyddio.  Estyniad oedd hwn i groesawu’r tywysog Henri, (mab y brenin Iago), i aros yno yn ystod ei orymdaith yng Nghymru wedi iddo gael ei urddo’n dywysog Cymru. Yr oedd ystafell wely arbennig iddo, gyda lle tân ysblennydd a’i lythrennau wedi eu cerfio arno.  Bu Robert Lloyd yn AS dros Feirionnydd deirgwaith ac yn Uchel Sirydd pedair gwaith.

Trosglwyddwyd Rhiwgoch, drwy briodas, i deulu’r Wynniaid o Wynnstay, tirfeddianwyr enwog ac amlwg iawn yng ngogledd Cymru.  Yn ddiweddarach, gosodwyd y lle ganddynt i’r teulu Roberts (dim perthynas i’r Sant) ac wedyn, fel y fferm fwyaf yr ardal i deulu’r Pughiaid. 

Daeth newid ar fyd yn dilyn Rhyfeloedd y Böer yn Ne Affrica pan welwyd yr angen gan y Swyddfa Ryfel i gael tir cyffelyb i ymarfer magnelaeth yn y fro.  Felly, ym 1905, sefydlwyd gwersyll a maes tanio parhaol - y Camp a’r Rênjis ar lafar.  Roedd yn bwysig iawn i gael Officers’ Mess i bwrpas y swyddogion ac i’r perwyl, fe werthodd Syr Watkin Williams Wynn Rhiwgoch a thiroedd Cwm Dolgain i’r Adran Ryfel am £28,500.


Teimlai swyddogion peirianyddol y fyddin nad oedd Rhiwgoch yn adeilad delfrydol i’w pwrpas fel mess ac y byddai’n well ei ddymchwel a chodi adeilad sinc yn ei le – adeilad a gafodd ei restru’n ddiweddarach fel adeilad rhestredig gradd II!  Felly, er mwyn cloriannu’r opsiynau, bu i syrfëwr o’r enw Bradshaw, sifiliad oedd yn gyflogedig gan Adran y Peirianwyr Brenhinol, asesu’r adeilad.

Cymrodd tua chwe wythnos iddo baratoi ei adroddiad ac roedd ei ganfyddiad a’i argymhelliad yn derfynol - byddai trwsio a thrawsnewid yr adeilad yn costio £860 i gymharu efo £1,600 i’w ddymchwel a chodi adeilad haearn rhychiog yn ei le. Felly, arbedwyd Rhiwgoch rhag ffawd wahanol iawn - onid yw hi’n eironig fod yr hen blasty urddasol, oedd wedi bod ar y safle ers y 12fed ganrif ac wedi gwrthsefyll bwriadau swyddogion yr Ymerodraeth Brydeinig, bellach yn ddim mwy na muriau cerrig, y ffenestri’n deilchion ac ambell weddillion golosg pitch pine a derw.  Dim ond mwg ble bu mawredd…


Mae’n rhaid i ni ddiolch i Mr Bradshaw, pwy bynnag oedd o, a dywedod yr Uwchgapten R.P.Waller ym 1934:

“ P’run ai yw Mr Bradshaw yn fyw ai pheidio i dderbyn ein diolch, mae ar y Gatrawd ddyled o ddiolchgarwch iddo”.  
Heb ymyrraeth Mr Bradshaw ni fyddai’r lle wedi bod yn rhan o’n bywydau ni, nac wedi ein cyffwrdd mewn ffordd mor dyner ac annwyl gyda’r atgofion lu sydd gan bawb o’r hen le.  Gobeithio’n arw y codir adeilad arall o’r llwch, fel bod gwaddol y trysor yma o’r oes a fu yn bodoli unwaith eto i’r dyfodol - Sequere justitiam et invenias vitam, dilyner cyfiawnder i ddarganfod bywyd, hen arwyddair Llwydiaid Rhiwgoch. 
-----------------------------------------------

Ymddangosodd yn wreiddiol yn rhifyn Tachwedd 2018.
Ceir hanes cynhwysfawr gyda lluniau o’r hen blasty yng nghyfrol Maes y Magnelau a gyhoeddwyd eleni gan Wasg Carreg Gwalch.


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon