10.11.18

DŴR: O Begwn y De

Mae dŵr yn bodoli mewn tri ffurf: hylif, nwy, a rhew; ac mae Elgan Lewis ynghanol llawer iawn o’r olaf, wrth dreulio blwyddyn yn oerfel yr Antarctig. Mae’n amlwg fod yn well ganddo’r rhew na’r moroedd tymhestlog o’i amgylch; dyma’i hanes hyd yma.
-------------------

Mae hi’n anodd credu eich bod wedi mwynhau tywydd mor braf yn ardal Blaenau eleni. Rwy’n clywed eich bod wedi cael gweld tymheredd bron yn 30°C acw a finnau yma yn yr Antarctig yn fferru a hithau bron 30°C dan bwynt rhewi! Mae'r tymheredd yn gostwng yn is fyth pan fydd y gwynt yn chwythu. Er gwaetha’r tywydd, mae'r misoedd ers imi gyrraedd yma yn rhai y byddaf yn eu trysori am byth.



Roedd y siwrne yma fis Tachwedd 2017 yn un eithaf anodd a heriol. Penderfynais dreulio dros flwyddyn yn gweithio gyda thîm ymchwil y British Antarctic Survey. Nid gwyddonydd ydwyf, ond saer coed. Yn dilyn hyfforddiant yng Ngholeg Meirion Dwyfor bûm yn gweithio efo Ieuan Rowlands o Ffestiniog. Rhyw noson, yn dilyn gwylio rhaglen deledu am waith y BAS, a gweld eu bod yn cynnig cyfle i saer ymuno gyda'u tîm, penderfynais fentro arni.

Cyrhaeddais yma ar ddiwrnod Nadolig wedi 5 wythnos o daith anodd iawn. Roedd y siwrne ar y môr o’r Malfinas (Falklands) yn un bythgofiadwy. Nid yn unig anodd ffarwelio â theulu a ffrindiau ond mordaith annisgwyl imi. Roedd y môr yn dymhestlog iawn. Un munud yn gweld yr awyr ac wedyn ddyfnderoedd y môr, a hyn am bythefnos! Y rhan olaf o’r siwrne yn ceisio ymlwybro trwy haenau o rew ac eira trwchus. Symud yn araf iawn gan orfod dychwelyd yn gyson yn ôl i’r môr mawr gan nad oedd modd symud ymlaen. Ar ddiwedd pum wythnos, gorfod mynd yn ôl i Chile a chael ein hedfan i Antartica.


Braf oedd y croeso wedi inni gyrraedd pen ein taith. Roedd y criw oedd wedi cyrraedd o’n blaenau wedi disgwyl amdanom er mwyn inni ymuno â hwy am ginio Nadolig bychan. Roedd fy nheulu adref yn falch o glywed fod fy nhraed, o’r diwedd, ar y tir.

Ar y cychwyn, roedd dros gant ohonom yn gweithio yma, yn amrywio o wyddonwyr, staff technegol, adeiladwyr a seiri, cogyddion, meddygon, peirianwyr, i enwi dim ond rhai swyddogaethau. Mae’r rhan fwyaf o'r tîm yma am gyfnod yr haf, sef cytundeb chwe mis. Ond mae 26 ohonom wedi aros yma am y flwyddyn gron gan weld yr holl dymhorau ac wrth gwrs y golygfeydd sydd yn mynd gyda hyn.

Mae fy niwrnod gwaith yn debyg i gartref heblaw mai yng nghyfnod haf yn unig mae modd gweithio tu allan a gwneud gwaith tu mewn i'r adeiladau yn y gaeaf. Mae'r tymheredd o gwmpas 6-10°C yn yr haf. Fy ngwaith yn y gaeaf yw ail wneud ystafelloedd gwely, rhyw 45 ohonynt. Adeiladu dodrefn; plymio a phaentio; ac adeiladu a thrwsio siediau.

Rwyf yn cael dau gyfnod o wyliau, a hynny yn rhoi cyfle i wersylla allan, cerdded mynyddoedd a dringo ychydig. Mae peth perygl wrth gerdded o gwmpas ardal nad yw yn gyfarwydd gan fod haenau yn yr eira yn golygu y gallai rhywun syrthio i ddyfnderoedd môr.



Wythnos diwethaf roedd y môr wedi rhewi’n gorn. Cawsom gyfle i gerdded arno.
Prin iawn ydi’r golau dydd yn y gaeaf, ac ychydig iawn o dywyllwch yn yr haf ac felly mae angen gwneud gwaith yn ôl y tymhorau a’r tywydd.

Mae'r mynyddoedd eira a lliwiau'r awyr yn rhywbeth bythgofiadwy. Purdeb yr eira a’r ffasiwn dawelwch o’r cwmpas yn rhywbeth arbennig. Lliwiau'r awyr wrth iddi wawrio a machlud a gweld y sêr mewn awyr mor glir yn syfrdanol. Ychydig iawn o anifeiliaid yr ydym yn ei weld. Yn bennaf ychydig o bengwynion a morloi. Rydym wedi bod yn lwcus hefyd eleni o weld ychydig o forfilod.

Er hynny mae'r tîm ymchwil gwyddonol yn gweld rhyfeddodau yn nyfnderoedd y môr. Maent hefyd yn gallu gweld be sy’n byw yn y môr ac os ydi diffyg golau haul y gaeaf yn eu heffeithio o gwbl. Mae yna astudiaeth fanwl o'r dŵr er mwyn gweld os ydi o’n newid o gwbl oherwydd newid hinsawdd, neu ydi’r cynhesu byd eang ddim ond yn toddi’r rhew yn y capiau rhew. Drwy'r haf maent yn gallu mynd allan ar gwch a deifio oddi arno; yn y gaeaf rhaid cerdded allan ar y rhew a thorri twll efo llif gadwyn i gael cyrraedd y dŵr.

Gan fod yr ardal rydym yn cael mynd i grwydro yno yn reit fach, pan mae’r môr yn rhewi, mae’r ardal yna yn tyfu yn un llawer mwy a hynny ynddo ei hunan yn ddiddorol.

Mae’r elfen gymdeithasol yma yn bwysig iawn. Rydym fel criw bach, dros y gaeaf yn treulio oriau yn cymdeithasu a chael llawer o sbort. Nid ydym yn cael ein hannog i aros yn ein hystafelloedd ond cyd-drefnu digwyddiadau i’n diddori. Mae'r bwyd yn dda, gyda 5 pryd y dydd yn plesio yn fawr!
Mae hi bron yn 9 mis* ers imi gyrraedd yma ac mae'n debyg mae Ionawr 2019 y byddaf yn dychwelyd adref wedi treulio dau Nadolig yma.


Bydd hi’n braf dod adra a gweld golygfeydd ardal y Moelwyn nad oes o'i debyg, gyda'r mynyddoedd a'r gwyrddni. Bydd hi’n braf hefyd cael bod adra gyda theulu a ffrindiau a chael holi hynt a helynt pawb, ac wrth gwrs mynd i weld ambell rali ceir!

Er ei bod wedi bod yn gam mawr imi i fentro yma, nid wyf yn difaru, a pwy wyr na fyddaf yn dychwelyd yma eto. Dau beth sydd wedi gwneud y profiad yma yn un gwerthfawr- golygfeydd anhygoel; a dibyniaeth ar bobl eraill sydd yn gwneud imi werthfawrogi pwysigrwydd cwmnïaeth dda.
Efallai mai hedfan adra y bydd hi ac osgoi hwylio tro yma.


Gobeithio y caf gyfle i rannu mwy o fy hanes wedi imi ddychwelyd, ond tan hynny dyma anfon rhyw ychydig o luniau atoch ddarllenwyr Llafar Bro.
-------------------------------


Ymddangosodd yn wreiddiol (efo dau lun) yn rhan o gyfres arbennig o erthyglau yn rhifyn Medi 2018, ar y thema dŵr.


 


Celf: Lleucu Gwenllian

 


Dilynwch y gyfres efo'r ddolen isod neu yn y Cwmwl Geiriau ar y dde.
Rhaid dewis 'web view' os yn darllen ar ffôn)


No comments:

Post a Comment

Diolch am eich negeseuon